Eitem Rhaglen

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd neu’r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Cyfeiriodd Cadeirydd y Cyngor at farwolaeth ddisymwth a thrasig Mr. John Rees Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Hamdden a Diwylliant ar ddydd Gwener 7 Mehefin.  Roedd Y Cadeirydd wedi bod yn aelod o’r Panel Penodi a benododd John yn ôl yn 1996 pan ddaeth i weithio i Ynys Môn o Gyngor Sir Clwyd.  Roedd John yn ddyn cadarn iawn ei farn ac roedd wedi cynorthwyo sawl cymuned ar yr Ynys dros y blynyddoedd. Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi bod mewn seremoni ym Miwmares wythnos i ddydd Sadwrn diwethaf a bod pawb yno wedi eu syfrdanu o glywed am ei farwolaeth.  Byddai chwith mawr ar ei ôl.  Roedd y nifer fawr a ddaeth i’r amlosgfa ym Mangor ddydd Sadwrn diwethaf yn siarad cyfrolau am ei boblogrwydd a’r parch mawr oedd iddo.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai achlysur trist iawn oedd gorfod talu teyrnged o’r fath i gydweithiwr, yn arbennig felly pan fo’r cydweithiwr hwnnw wedi ein gadael mor sydyn ac mor ifanc.  Byddai colli John o wasanaeth y Cyngor yn ergyd fawr i’r Awdurdod a dinasyddion Ynys Môn.  Ymunodd John â’r Cyngor yn ôl yn 1996 ac roedd wedi gwasanaethu’n ffyddlon iawn am 17 mlynedd ac wedi gwneud ei farc a chyflawni llawer iawn.

 

Roedd yn ymwybodol fod iechyd John wedi bod yn fregus  am beth amser.  Y tro diwethaf iddo weld John oedd ar y nos Iau, wythnos cyn ei farwolaeth, pan ddaeth i’w weld yn benodol i ddweud bod ganddo rai problemau iechyd a’i fod yn rhagweld y byddai angen triniaeth.  Roedd yn dymuno rhoi sicrwydd ei fod wedi gwneud trefniadau pendant ar gyfer y gwasanaeth yn ystod ei absenoldeb.  Y Gwasanaeth oedd yn dod yn gyntaf i John a’i iechyd oedd yn dod yn ail.

 

Pan fethodd â dod i gyfarfod ar ddydd Gwener ei farwolaeth, roedd y Prif Weithredwr yn gwybod ar unwaith bod rhywbeth yn bod.  Penderfynwyd anfon dau o’i gydweithwyr agosaf i’w gartref i weld beth oedd y sefyllfa a bu’r hyn a ddarganfuwyd ganddynt yn sioc ac yn ofid mawr iddynt.

 

Roedd John yn ddyn preifat iawn, ond dan y preifatrwydd hynny, roedd yna wydnwch a chryfder cymeriad yn ogystal â hiwmor - hiwmor o fath arbennig iawn.  Byddwn yn gweld ei golli fel cydweithiwr am ei hiwmor dychanol a oedd yn aml iawn yn ysgafnhau’r awyrgylch mewn cyfarfodydd ac yng nghoridorau’r Cyngor.

 

Nid oedd wedi medru gyrru am 3 blynedd oherwydd ei iechyd, ond ni chollodd ddiwrnod o’i waith ac ni fu erioed  yn hwyr.  Am fisoedd a misoedd roedd yn gadael ei gartref am 7:00am i ddal bws ym mhob tywydd i gyrraedd Parc Mownt erbyn 8:30am.  Roedd hyn yn arwydd o’i deyrngarwch a’r flaenoriaeth yr oedd yn ei rhoi i’w waith.

 

Byddwn yn cofio John am ei lwyddiannau a’r hyn yr oedd wedi ei gyflawni.  Roedd yn allweddol yn y gwaith o estyn Oriel Môn, sefydlu Oriel Kyffin a rhoi Oriel Ynys Môn ymysg yr amgueddfeydd gorau yng Nghymru a’r tu hwnt.  Roedd yn allweddol hefyd o ran sicrhau ein bod yn cael Archifdy newydd.  Roedd yn bryder mawr i’r Awdurdod ar y pryd bod risg wirioneddol y byddai trysorau treftadaeth ein hynys yn gorfod gadael Ynys Môn oherwydd cyflwr yr adeilad ar y pryd, a’r ffordd yr oedd dogfennau’n cael eu storio.

 

Bu John yn allweddol hefyd o ran perswadio’r Cyngor, mewn cyfnod ariannol anodd iawn, i fuddsoddi cyfalaf i sefydlu’r Archifdy newydd.  Yr un modd gyda’r Gwasanaeth Hamdden.  A dweud y gwir, llusgwyd John gerfydd ei glust i fod yn gyfrifol am y Gwasanaeth Hamdden! Nid oedd John yn ddyn chwaraeon mewn gwirionedd ond fe wnaeth y gwaith gydag ynni ac ymrwymiad.  Roedd yr hyn y llwyddodd i’w wneud gyda Chyfeillion Biwmares, o ran trosglwyddo’r Ganolfan i ymddiriedolaeth leol, yn wir arloesol.  Y rheini oedd ei lwyddiannau mawr ond, ar hyd a lled yr Ynys gyfan, roedd pobl a oedd yn weithgar yn eu cymunedau yn hynod o ddiolchgar i John am ei holl gymorth a sicrhaodd bod ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hiaith oll yn cael sylw mewn gweithgareddau cymunedol.  Fe wnaeth John droi pob carreg i ddarparu grantiau a chymhorthdal i’r gweithgareddau hanfodol hynny fedru digwydd.

 

Bydd chwith mawr ar ei ôl ond bydd gennym lu o atgofion hapus iawn o John yn ein calonnau a’n meddyliau a’r ffordd ddistaw yr oedd yn gwneud ei waith.  Byddwn yn cofio ei feddwl treiddgar a’i synnwyr digrifwch a oedd yn rhan o’i gymeriad a’i bersonoliaeth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cynghorwyr Derlwyn Hughes ac Aled Morris Jones dalu eu teyrngedau eu hunain ac i sôn am eu hatgofion melys o John.

 

Roedd y Cynghorydd R. Meirion Jones wedi cynllunio’r englyn isod i John:-

 

John Rees

 

Ei golli ŷm o’i lyfrgell o, - y ffrind

            Oedd mor ffraeth a chryno;

John a’n meddwl ohono

            Yw’n cais i archif y co’.

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion fel teyrnged dawel fel arwydd o’u parch.