Eitem Rhaglen

Defnydd o Arian Premiwm Ail Gartrefi

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai ar y defnydd arfaethedig o arian Premiwm Ail Gartrefi ar gyfer 2023/24 i’w ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynlluniau a fyddai’n elwa o’r £1.502m o gyllid sydd a’r gael a’r swm a ddyrannwyd ar gyfer pob cynllun.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai a ddywedodd bod y Cyngor eisoes wedi cymeradwyo cynyddu’r Premiwm Ail Gartrefi o 50% i 75%. Dywedodd bod y blaid sydd mewn grym wedi addo yn eu maniffesto wrth ymgyrchu yn ystod yr etholiadau’r llynedd y byddant yn sicrhau bod gan bawb rywle i’w alw’n gartref ac fel rhan o’r weledigaeth honno mae’r Weinyddiaeth yn bwriadu defnyddio arian y Premiwm Ail Gartrefi i helpu pobl leol gyda’u hanghenion tai yn cynnwys darparu grantiau i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd a darparu benthyciadau rhannu ecwiti i brynwyr tro cyntaf fel y gallant brynu eiddo ar y farchnad agored.  Yn 2023/24 bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno cynllun cymhorthdal i helpu pobl leol fforddio rhenti marchnad agored. Dywedodd y Cynghorydd Pritchard bod y strategaeth hon yn hanfodol er mwyn sicrhau tai ar gyfer pobl Ynys Môn a’i bod yn galluogi’r rheiny sydd â digon o fodd i brynu ail gartref helpu’r rheiny sydd methu fforddio unrhyw gartref o gwbl.

 

Amlygodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai bod £170k o gyllid ar gael pan gyflwynwyd y Premiwm Ail Gartrefi yn 2017 tra bo’r Gwasanaeth wedi gwario £696k yn y flwyddyn a aeth heibio. Roedd y ffyddiog y byddai’r cynlluniau a oedd wedi’u rhestru yn yr adroddiad yn dwyn ffrwyth gyda’r cyllid ychwanegol sydd ar gael.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid at y £300k sydd wedi’i ddyrannu ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio ac roedd yn dymuno cael eglurder ynglŷn â sut y byddai’r arian yn cael ei wario.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Gary Pritchard bod yr arian ar gyfer gwaith angenrheidiol yn gysylltiedig â chyfarwyddiadau Erthygl 4 a dywedodd ei fod wedi ymgynghori â Swyddogion Cynllunio a’r Aelod Portffolio Cynllunio i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y £300k yn cael ei wario.

 

Felly cynigodd y Cadeirydd, ac roedd pawb yn gytûn, bod y cynlluniau sydd wedi’u rhestru yn adran 10 yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo ac eithrio’r £300k a ddyrannwyd i’r Gwasanaeth Cynllunio a bod yr Aelodau Portffolio perthnasol yn cytuno i’r dyraniad ar ôl derbyn dadansoddiad manwl.

 

Penderfynwyd -

 

·         Cymeradwyo defnyddio arian Premiwm Ail Gartrefi ar gyfer y cynlluniau a amlygir ym mharagraff 10 yr adroddiad ar gyfer 2023/24 heblaw am y dyraniad o £300k ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio.

·         Bod uchafswm y grant sydd ar gael i ddod â thai gwag yn ôli ddefnydd yn cael ei gynyddu i £25,000.

·         Bod y dyraniad ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio yn cael ei gytuno ar y cyd gan y Deilydd Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai a’r Deilydd Portffolio Cyllid unwaith y ceir dadansoddiad o’r £300k.

 

Dogfennau ategol: