Eitem Rhaglen

Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg - Dogfen Ymgynghori

Cyflwyno adroddiad y Cyfawyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn nodi canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y “Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg” i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno. Roedd yr adroddiad ymgynghori a chrynodeb o’r ymatebion o bob ffynhonnell wedi’u cynnwys yn Atodiad 1.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, a dywedodd ei fod yn adlewyrchu’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus. Gofynnir am farn y Pwyllgor Sgriwtini, yn cynnwys unrhyw argymhellion a/neu newidiadau y mae’n dymuno eu gwneud mewn perthynas â’r Strategaeth ar ôl ystyried yr ymatebion a chyn i’r Pwyllgor Gwaith eu hystyried.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal rhwng 31 Mawrth ac 18 Mai 2023. Derbyniwyd cyfanswm o 298 ymateb trwy’r arolwg ar-lein ac mewn llythyrau a negeseuon e-bost ac roedd y mwyafrif (55%) yn cytuno â’r rhesymau dros newid, y weledigaeth a’r egwyddorion arweiniol (58%) a’r gyrwyr newid ac amcanion strategol (53%) yn y strategaeth ddrafft. Cyfeiriodd at drefniadau’r ymgynghoriad sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad ymgynghori a chadarnhaodd fod y prosesau’n rhai cynhwysfawr a chadarn ac ymgysylltwyd ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Er bod crynodeb o’r sawl a ymatebodd yn cael ei ddarparu yn Atodiad 1 yn yr adroddiad, mae atodiadau 2 i 8 yn cynnwys dadansoddiad mwy manwl, gan gynnwys yr ymgynghoriad gyda phlant a phobl ifanc a gynhaliwyd trwy gyfrwng cyfarfodydd gyda phlant oedran ysgol gynradd ac ysgol uwchradd, gyda 150 o 28 ysgol yn cymryd rhan. O ran cynnwys yr ymatebion, gellir eu rhannu o dan 4 prif thema yn ymwneud â nifer a digonolrwydd ysgolion ac adeiladau ysgol, Y Gymraeg, eglurder a manylion, a’r Agenda Sero Net. Mae cysylltiad clir rhwng y themâu hyn a nodau strategol Cynllun y Cyngor. Codwyd nifer o bwyntiau dilys o dan bob thema a byddant yn cael eu hystyried ymhellach wrth ddatblygu cynigion penodol yn y dyfodol. Mewn ymateb i’r adborth a dderbyniwyd, mae’r adroddiad yn argymell gwneud y tri newid a nodir i’r strategaeth ddrafft, yn ymwneud â’r amserlen weithredu, ffynonellau gwybodaeth a model llywodraethiant. Nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio ar weledigaeth y strategaeth. Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn ogystal, a chaiff ei gynnwys yn y dogfennau, o dan Atodiad 9.

 

Ystyriwyd y dogfennau gan y Pwyllgor a chodwyd nifer o faterion yn ymwneud â’r strategaeth a’r ymgynghoriad, gan gynnwys cadernid yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ac, yn benodol, a oedd y broses wedi casglu barn plant a phobl ifanc yn ddigonol ac a fyddai’n bosib gwella’r drefn yn y dyfodol, ym mha ffordd y dylanwadodd yr ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft, sut fydd y strategaeth yn cynorthwyo i ddarparu darpariaeth addysg ac amgylchedd ddysgu o’r safon uchaf ar gyfer plant a phobl ifanc Ynys Môn, y risgiau a’r heriau wrth wireddu gweledigaeth y strategaeth, cysylltiadau â Chynllun y Cyngor a’r trefniadau ar gyfer monitro ei weithrediad. Trafodwyd hefyd briodoldeb y weledigaeth o ran ei hymagwedd at ysgolion bach a gofynnwyd o ble daeth y diffiniad o ysgol fach fel un sydd â llai na 91 disgybl, a sut oedd cyfiawnhau hynny. Roedd lleiafrif o’r Aelodau’n gweld y strategaeth fel ail-ddatganiad o’r cynllun blaenorol a’i bod yn “paratoi’r ffordd” ar gyfer y posibilrwydd o gau ysgolion - yn enwedig ysgolion mewn cymunedau gwledig - a bod yr agenda Sero Net, er ei fod yn fater difrifol ynddo’i hun, yn cael ei ychwanegu at y strategaeth er mwyn darparu atebion ar gyfer y broses yn y dyfodol. Roedd yr Aelodau hynny o’r farn fod angen mwy o ystyriaeth i ddulliau gwahanol a chyfeiriwyd at ymateb Cymdeithas yr Iaith i’r ymgynghoriad lle mae’n cefnogi’r cynllun a gyflwynwyd gan Gomisiynydd Addysg Ynys Môn yn 2013 fel strategaeth ragorach i foderneiddio cymunedau dysgu, gydlynu darpariaeth addysg a sicrhau arbedion cyllidol a oedd yn golygu arbed arian ar drefniadau gweinyddol yn hytrach nag ar ddarpariaeth addysg mewn cymunedau.

Mewn ymateb i’r materion a godwyd uchod, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fel a ganlyn –

 

·                Er bod y broses ymgynghori ar agor am saith wythnos, roedd rhanddeiliaid – penaethiaid, llywodraethwyr ysgol, cynghorau tref a chymuned, Estyn, GwE, Llywodraeth Cymru, Menter Môn, undebau ac Aelodau Seneddol lleol a rhanbarthol -  wedi cael gwybod ymlaen llaw am yr ymgynghoriad. Gofynnwyd hefyd i benaethiaid rannu gwybodaeth gyda rhieni. Roedd yr ymgynghoriad yn hawdd mynd ato ar wefan y Cyngor a rhannwyd negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol trwy gydol y cyfnod ymgynghori. Cynhaliwyd sesiynau briffio ar gyfer penaethiaid ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal ag aelodau etholedig a chynhaliwyd pum cyfarfod ymgynghori llawn gyda disgyblion o’r sector cynradd, un cyfarfod ymgynghori llawn gyda disgyblion o’r sector cynradd ac un cyfarfod gyda disgyblion Canolfan Addysg Y Bont a threfnwyd sesiwn ychwanegol ar gyfer y rheiny nad oeddent yn gallu bob yn bresennol yn y sesiynau a drefnwyd ar eu cyfer. Mae gwybodaeth ychwanegol am y trefniadau a’r adborth gan ysgolion i’w gweld yn Atodiad 5 yn yr adroddiad ac mae’n cynnwys y cwestiynau a ofynnwyd i ddisgyblion ym mhob un o’r sesiynau. Roedd 150 disgybl wedi cymryd rhan o 23 ysgol gynradd, 4 ysgol uwchradd a Chanolfan Addysg Y Bont, ac, o gymharu â’r ymgynghoriad ar Strategaeth Addysg Ynys Môn 2018, roedd y broses yn canolbwyntio mwy ar ymgynghori â phlant a phobl ifanc a llwyddwyd i ennyn mwy o ymateb ganddynt. O ran gwella ymgynghoriadau yn y dyfodol, byddai modd ymestyn y cyfnod ymgynghori, cynnal mwy o sesiynau briffio a chynnal sesiwn benodol ar gyfer disgyblion ôl-16. Fodd bynnag, mae Swyddogion yn fodlon fod yr ymgynghoriad wedi derbyn sylwadau gan ystod o ddisgyblion, o ddisgyblion 5 mlwydd oed i ddisgyblion chweched dosbarth a darpariaeth ôl-16.

·                O safbwynt dylanwadu ar y strategaeth, mewn ymateb i’r adborth a dderbyniwyd o’r broses ymgynghori, mae Swyddogion yn argymell gwneud newidiadau i’r Amserlen Weithredu ar gyfer Cam 3 2025 ymlaen, fod ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwyd i ddarparu data yn y strategaeth yn cael eu cynnwys mewn adran newydd yn y strategaeth, a bod y model llywodraethiant yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn llywodraethiant, yn benodol mewn perthynas â chryfhau atebolrwydd a threfniadau monitro. Codwyd nifer o bwyntiau dilys yn ystod yr ymgynghoriad a chyflwynwyd sylwadau a syniadau buddiol a diddorol gan ddisgyblion ysgol, ac er nad ydynt wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar y strategaeth ddiwygiedig byddant yn cael eu hystyried ymhellach wrth lunio unrhyw gynigion penodol. Er y gellir gwella nifer a maint yr ymatebion bob amser, ystyrir bod y safbwyntiau a gasglwyd yn ddigonol ac yn briodol at ddibenion yr ymgynghoriad hwn.

·                Pwrpas cyffredinol y strategaeth yw sicrhau darpariaeth addysg ac amgylchedd dysgu o’r safon uchaf gyda sawl gyrrwr newid - gan sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer dysgwyr, datblygu arweinyddiaeth gref ar bob lefel, sicrhau adeiladau ac amgylcheddau dysgu o safon uchel ac addas i bwrpas, gwella mynediad i sicrhau llesiant, gofal ac iechyd mewn ysgolion, sicrhau fod ysgolion yn meddu ar yr adnoddau a’r capasiti i yrru’r Cwricwlwm i Gymru yn ei flaen yn llwyddiannus, sicrhau fod ysgolion yn gynaliadwy a’u bod yn gallu gweithredu’n effeithiol o fewn y gyllideb sydd ar gael - a’r cyfan yn anelu at ddarparu darpariaeth addysg o’r safon uchaf mewn adeiladau sy’n addas i bwrpas.

·                Bod cyflawni Sero Net yn un o ymrwymiadau allweddol y Cyngor ac mae’n un o amcanion strategol Cynllun y Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Bydd y Cyngor yn adolygu ei asedau fel rhan o’r ymrwymiad hwn a chan fod cymaint o ystâd adeiladu’r Cyngor yn ysgolion, rhai nad ydynt yn y cyflwr gorau, mae’n rhaid i’r ymgyrch i gyflawni Sero Net a datgarboneiddio fod yn elfen annatod o’r strategaeth moderneiddio cymunedau dysgu.

·                Bod yr Awdurdod yn ystyried ysgol fechan fel un sydd â llai na 91 o ddisgyblion yng nghyd-destun yr heriau a wynebir ganddynt, fel y mae’r adroddiad yn ei nodi. Mae hyn yn cyd-fynd â diffiniad Llywodraeth Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Ysgolion) (Cymru) 2014 sydd yn diffinio ysgolion bach fel ysgolion sydd â llai na 91 disgybl. Tra bod yr Awdurdod yn nodi ac yn parchu safbwyntiau Cymdeithas yr Iaith, pwrpas y strategaeth yw nodi, ar lefel uchel, yr heriau sy’n wynebu’r Cyngor a’r egwyddorion ar gyfer gyrru newid. Cyflwynir gwybodaeth fanylach fel rhan o gynigion penodol a gyflwynir yn y dyfodol.

·                Bod yr angen am fuddsoddiad cyfalaf yn un o’r prif heriau o ran cyflawni nodau ac amcanion y strategaeth. Mae cost adeiladu ysgolion newydd wedi codi ac mae’n ddrud, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu 50% o gost prosiectau o dan Band A a 65% o gost prosiectau o dan Band B, bu’n rhaid i’r cyngor ariannu gweddill y costau. Mae denu grantiau allanol i wella cyflwr yr ystâd o adeiladau ysgol yn heriol hefyd. Yn ogystal, mae rhoi’r strategaeth ar waith yn debygol o olygu y bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd wrth ystyried dyfodol trefniadaeth ysgolion, a bydd unrhyw gynigion o’r natur hwnnw yn cynnwys ymgynghori a thrafodaethau agored a thryloyw.

·                Bod y Strategaeth yn cyd-fynd â nifer o amcanion strategol Cynllun y Cyngor, yn cynnwys Sero Net, gofal cymdeithasol a llesiant yng nghyd-destun ysgolion cymunedol a datblygu’r Gymraeg. Mae’n rhagweld darparu’r addysg orau ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau ysgolion effeithiol o’r maint cywir yn y llefydd cywir. Mae’r Strategaeth yn cyd-fynd hefyd â nifer o egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o ran cydweithio, cyfathrebu, cynaliadwyedd, moderneiddio ac ymgynghori.

·                Bod trefniadau monitro, rheoli a llywodraethiant yn cael eu nodi yn Atodiad 10 yn y Strategaeth ac mae cydymffurfiaeth agos â Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn un o’r gofynion allweddol. Caiff y trefniadau hynny eu diwygio i adlewyrchu’r argymhelliad i gryfhau agweddau atebolrwydd a monitro. Mae atebolrwydd yn bodoli ar dair lefel, gyda’r Bwrdd Rhaglen, sy’n cael ei gadeirio gan y Prif Weithredwr, yn gyfrifol am drosolwg cyffredinol, Grŵp Llywio sy’n gyfrifol am osod cyfeiriad ar gyfer y rhaglen a grŵp Gweithredol sy’n gyfrifol am benderfyniadau gweithredol a datrys problemau o ddydd i ddydd. Bydd y Bwrdd Rhaglen yn darparu diweddariadau rheolaidd.

·                Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol am ystyried digonolrwydd ac argaeledd ardaloedd chwarae mewn ysgolion fel ffactor ar draws y sir, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod enghreifftiau o gyfleusterau o’r fath mewn ysgolion cymunedol sydd ar gael i’w defnyddio’n ehangach tu allan i oriau ysgol. Y meddylfryd tu ôl i ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned yw bod adeiladau a chyfleusterau ysgol ar gael i’r gymuned ehangach eu defnyddio ac, o ran y strategaeth, gellir ystyried bod hyrwyddo chwarae yn agwedd bwysig o lesiant a dysgu disgyblion, yn ogystal â hyrwyddo eu rhyngweithio cymdeithasol.

Ar ddiwedd y drafodaeth, cafodd cynnig ei wneud a’i eilio, sef bod y Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a’r Gymraeg, ynghyd â’r newidiadau a nodir, yn cael ei hargymell i’r Pwyllgor Gwaith. Cafodd cynnig arall ei wneud a’i eilio, sef bod y Strategaeth yn cael ei gwrthod oherwydd pryder am ddyfodol ysgolion bach a bod angen ystyried dulliau gwahanol, megis y rheiny a gefnogwyd gan y Comisiynydd Addysg, Gareth Jones, ac a  amlygwyd yn ymateb Cymdeithas yr Iaith. Yn y bleidlais a ddilynodd, cariwyd y cynnig i argymell y Strategaeth i’r Pwyllgor Gwaith.

Ar ôl craffu ar y Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg ac ar ôl nodi’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus a’r wybodaeth ychwanegol a’r cyngor a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn ymateb i’r materion a godwyd yn y cyfarfod, penderfynwyd argymell y Strategaeth â’r newidiadau arfaethedig i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dogfennau ategol: