Eitem Rhaglen

Cynllun Rheoli'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Drafft i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno.

Cyflwynodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio ar gyfer Hamdden, Twristiaeth a Morwrol, ychydig o wybodaeth gefndirol a dywedodd fod y Cynllun Rheoli AHNE yn ddogfen statudol y mae’n rhaid ei adolygu bob pum mlynedd, yn unol â’r canllawiau a bennwyd. Er bod y Cynllun yn canolbwyntio ar rinweddau arbennig ac arwyddocâd yr AHNE ac yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer ei dyfodol, mae’n gynllun trawsadrannol gan fod iddo arwyddocâd cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, ieithyddol ac addysgiadol ac, fel y cyfryw, mae’n alinio â’r amcanion a’r blaenoriaethau perthnasol a nodir yng Nghynllun y Cyngor. Roedd y Cynllun Rheoli AHNE drafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos o hyd, a gynhaliwyd rhwng 28 Ebrill a 9 Mehefin 2023, ac fe’i ddiweddarwyd i adlewyrchu’r sylwadau a dderbyniwyd. Derbyniwyd cyfanswm o 73 ymateb a cheir dadansoddiad ohonynt yn yr adroddiad ar yr ymateb i’r ymgynghoriad ac mae nifer o’r sylwadau’n cyfeirio at ddatblygiad Penrhos a oedd dan ystyriaeth ar y pryd. Bydd fersiwn hawdd ei ddefnyddio o’r Cynllun yn cael ei lunio ar ôl cwblhau’r cyfnod ymgynghori ac ar ôl gwneud y newidiadau, yn ogystal â Chynllun Gweithredu fydd yn cael ei fonitro i sicrhau fod y weledigaeth ar gyfer yr AHNE yn cael ei rhoi ar waith a bod cymunedau a rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys yn y broses.

Ystyriwyd nifer o faterion yn y drafodaeth a ddilynodd ar y Strategaeth ac ymateb y cyhoedd iddi, yn cynnwys y rheswm dros baratoi Cynllun Rheoli AHNE a’r cysylltiad rhyngddo a Chynllun y Cyngor, cadernid yr ymgynghoriad cyhoeddus o ystyried mai dim ond 73 o ymatebion a dderbyniwyd, ac ym mha ffyrdd y dylanwadodd y broses honno ar y ddogfen derfynol, y berthynas rhwng y Cynllun Rheoli AHNE a’r broses rheoli cynllunio, yr angen am gynllun cyfathrebu, y berthynas gyda gwasanaethau mewnol o fewn y Cyngor, yn enwedig addysg a’r gwasanaeth ieuenctid, a gwella ymgysylltu a chydweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr. Codwyd materion penodol yn ymwneud â’r sefyllfa yn Llanddwyn a Niwbwrch hefyd, mewn perthynas â gwarchod a chadwraeth.

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio a Swyddogion a oedd yn bresennol wybodaeth ychwanegol fel a ganlyn –

·                Bod gofyn cyfreithiol ar awdurdodau lleol sy’n gweinyddu AHNEau i baratoi a chyhoeddi cynlluniau rheoli ar gyfer eu hardal ac i adolygu’r cynlluniau hynny bob pum mlynedd. Er bod yr adolygiad o’r Cynllun Rheoli dair blynedd yn hwyr oherwydd y pandemig Covid, mae’r amser ychwanegol a’r profiadau a gafwyd wrth ymateb i’r pandemig wedi caniatáu i’r Gwasanaeth sicrhau fod cynnwys a blaenoriaethau’r Cynllun yn briodol ac yn gadarn ac y gallant gwrdd â’r heriau a wynebir gan yr Ynys. Mae’r AHNE yn dirwedd lle mae pobl yn byw a gweithio ac, fel y cyfryw, mae anghenion cymunedau a gallu pobl i wneud bywoliaeth yn yr ardaloedd lle maent yn byw yn bwysig. Er bod y dynodiad AHNE yn ymwneud â’r dirwedd, mae sicrhau buddion cymunedol ac economaidd yn bwysig ac mae hynny’n cael ei gydnabod, ac mae natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd yn cael eu cydnabod hefyd. Mae’r Gymraeg yn cael ei chydnabod fel rhinwedd arbennig yn y dynodiad. Wrth roi sylw i’r holl themâu hyn, mae’r Cynllun yn alinio’n agos â blaenoriaethau ac amcanion strategol Cynllun y Cyngor.

·                Bod methodoleg ar-lein wedi’i mabwysiadu ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus, fel arfer orau ac i roi gwell mynediad i’r cyhoedd. Er bod y cwestiynau a osodwyd fel rhan o’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar feysydd allweddol yn y Cynllun, cawsant eu llunio yn y fath fodd eu bod yn taflu goleuni ar flaenoriaethau pobl ar gyfer y dyfodol, a thrwy hynny lywio gwaith yn y dyfodol. Cafodd y 73 ymateb, gyda’r mwyafrif ohonynt yn sylwadau, eu hasesu ac ystyriwyd eu bod yn llawn gwybodaeth ac yn adeiladol o ran darparu cipolwg ar feddyliau pobl am yr AHNE, yn ogystal â meysydd y gellir eu gwella. Mae’r sylwadau mwyaf perthnasol wedi’u hymgorffori yn yr adroddiad ar yr ymgynghoriad. O ran nifer yr ymatebion, ystyrir bod yr ymateb yn rhesymol ac mae wedi rhoi darlun da o’r hyn y mae pobl yn ei feddwl ac mae’n cymharu’n ffafriol â nifer o ymgynghoriadau blaenorol. Yn y gorffennol trefnwyd diwrnodau agored i ymgynghori ar fersiynau cynharach o’r Cynllun, ond cymysglyd oedd yr ymatebion. Y tro hwn, y gred oedd y byddai cyhoeddi negeseuon rheolaidd ar y wefan a/neu’r cyfryngau cymdeithasol trwy gydol y cyfnod ymgynghori chwe wythnos o hyd yn ennyn ymateb da. Mae lle bob amser i wella agweddau, ac edrychir ar hynny yn ystod y pum mlynedd nesaf, ond, serch hynny, mae’r Gwasanaeth yn hyderus fod y broses ymgynghori’n un gynhwysfawr.

·                Bod y Cynllun Rheoli AHNE yn ystyriaeth berthnasol yn y broses datblygu cynllunio ac, fel y cyfryw, ymgynghorir â Swyddogion AHNE ar geisiadau cynllunio. Fel tirwedd lle mae pobl yn byw a gweithio, mae datblygu’n digwydd yn yr AHNE gan fod cymunedau angen parhau i fod yn hyfyw o fewn y dynodiad. Bydd yr AHNE yn derbyn sylw penodol fel rhan o’r gwaith o lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd yn ystod y misoedd nesaf.

·                Bod y broses ymgynghori wedi amlygu’r angen i wella ac ehangu cyfleoedd cyfathrebu mewn perthynas ag arwyddocâd yr AHNE a phwysigrwydd natur ym mywydau pobl, yn ogystal â gwaith y Cyngor wrth reoli’r AHNE. Roedd y sylwadau’n dangos fod gan bobl deimladau cryf ynghylch gwarchod natur ar gyfer y dyfodol ond nad oes cystal dealltwriaeth o’i rôl o safbwynt iechyd pobl a’r gymuned. Mae’r Uned AHNE yn gweithio gyda gwasanaethau eraill yn y Cyngor ac yn ddiweddar cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Gwasanaeth Dysgu ynglŷn â sut y gellir cyplysu gwaith yr uned gyda’r cwricwlwm a sut all yr uned gydweithio’n agosach ag ysgolion.

·                Bod trafodaethau ar y gweill gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, fel yr asiantaeth gyfrifol, mewn perthynas â datrys problemau yn Llanddwyn a Niwbwrch ac mae’r Cyngor yn rhan o’r grŵp a sefydlwyd i ystyried y dyfodol. Ystyrir mai gweithio mewn partneriaeth â CNC, cymunedau, y diwydiant ffermio ac eraill yw’r ffordd ymlaen o ran ceisio mynd i’r afael â materion cymhleth megis yr argyfwng ym myd natur a newid hinsawdd. Mae’r Cyngor wedi bod yn ceisio dylanwadu ar CNC ers nifer o flynyddoedd mewn perthynas â Llanddwyn ac mae hynny wedi bod yn heriol. Barn y Cyngor yw bod cynllun yn hanfodol ar gyfer rheoli’r warchodfa fel un o’r safleoedd amgylcheddol pwysicaf yng Nghymru, ac ar gyfer rheoli effeithiau pobl a’r gymuned leol yn fwy cyffredinol. Bwriedir cynnal rhagor o drafodaethau gyda Phrif Weithredwr CNC ym mis Awst.

·                Bod partneriaeth hefyd yn cael ei gydnabod fel elfen bwysig o’r berthynas gyda pherchnogion tir a ffermwyr a bod gwella cyfathrebu ynglŷn â gwaith yr AHNE hefyd yn cynnwys tynnu sylw at gyfleoedd i gydweithio gyda rhanddeiliaid. Mae Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar y Cyd yr AHNE yn fforwm sy’n dod â’r partneriaid a’r rhanddeiliaid hynny at ei gilydd i drafod rheoli’r AHNE. Yn ogystal, bydd y Cynllun Gweithredu a fydd yn deillio o’r Cynllun Rheoli’n nodi cyfleoedd i ymgysylltu a chydweithio wrth warchod a rheoli tirwedd yr AHNE yn ogystal ag ystyried buddiannau busnesau, cymunedau, ffermwyr a pherchnogion tir, a phobl leol.

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Hamdden, Twristiaeth a Morwrol sylwadau clo ar yr ymgynghoriad a dywedodd er bod nifer yr ymatebion, sef 73, yn ymddangos yn isel, mae’n ganlyniad da o gymharu â nifer o ymgynghoriadau eraill ac roedd yn cynnwys partneriaethau allweddol. Dywedodd fod y Cynllun Rheoli’n cyrraedd ymhell tu hwnt i natur a’r dirwedd yn unig a chyfeiriodd at ei gysylltiad agos â’r Cynllun Rheoli Cyrchfan. Nododd y pwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth a natur gymhleth rhai o’r materion hynny a chytunodd fod angen gwella cyfathrebu ynglŷn â’r AHNE, o ran ei arwyddocâd a’r hyn y mae’n ei olygu ar lefel ymarferol.

Ar ôl adolygu sgôp a chynnwys y Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol drafft, penderfynwyd argymell fod y Pwyllgor Gwaith yn ei gymeradwyo a’i fabwysiadu.

 

Dogfennau ategol: