Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  FPL/2023/108  - Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

 

FPL/2023/108

 

12.2  FPL/2023/66 – Hen Blas, Bethel, Bodorgan

 

FPL/2023/66

 

Cofnodion:

12.1 FPL/2023/108 – Cais llawn i osod amryw o ffensys 2.2 medr, 2.9 medr, a 3.2 medr o uchder, gyda giatiau i gyd-fynd â nhw, yn Ysgol Syr Thomas Jones, Pentrefelin, Amlwch.

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y tir yn eiddo i’r Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr - Rheoli Datblygu mai cais i osod amrywiol ffensys a giatiau 2.2m, 2.9m a 3.2m mewn sawl lleoliad o amgylch yr ysgol oedd hwn. Byddai’r ffensys yn ffensys diogelwch galfanedig o ansawdd uchel gyda gorchudd polyester gwyrdd Fortex. Roedd angen y ffensys a'r giatiau i ddiogelu'r safle; byddent wedi eu lleoli ar dir yr ysgol ac ni fyddent yn rhwystro gwelededd o'r mynedfeydd cerbydau presennol. Roedd y bwriad yn cydymffurfio â'r holl bolisïau perthnasol ac ni ystyrid y byddai'n cael effaith negyddol ar yr ardal, ar osodiad adeilad rhestredig Gradd II yr ysgol nac ar unrhyw eiddo cyfagos. Yr argymhelliad, felly, oedd caniatáu’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb ganiatáu’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Geraint Bebb,.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 FPL/2023/66 – Cais llawn i leoli 120 o baneli Solar 35.4KW ar dir yn Hen Blas, Bethel, Bodorgan

 

Adroddwyd bod y cais wedi’i alw i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan Aelod Lleol oherwydd y byddai pryder yn lleol.

Adroddodd y Rheolwr - Rheoli Datblygu fod y bwriad yn ymwneud â gosod 120 o baneli solar a gâi eu trefnu mewn dau fanc yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin ac yn cynhyrchu 35kw o drydan ar gyfer tŷ preswyl yr ymgeisydd. Byddai’r paneli ar lefel y ddaear ac yn cael eu gosod ar ffrâm ddur yn gorchuddio arwynebedd cyfan, yn ymestyn i 194m2. Er ei fod mewn cefn gwlad agored, roedd y safle wedi'i guddio'n dda o'r briffordd gan wrychoedd a choed aeddfed, ac eithrio rhan fechan lle'r oedd bwlch yn y gwrych er mwyn gwneud lle i weld y fynedfa i'r safle. Roedd y golygfeydd o'r bwlch hwn yn fyr ac ni fyddent yn cael effaith aruthrol ar gymeriad yr ardal. Cynigid cryn dipyn o dirlunio yn rhan o'r cais fyddai’n sgrinio'r olygfa yma dros amser. Roedd y cefn gwlad y lleolid y bwriad ynddo wedi ei ddatblygu'n wasgaredig gyda'r eiddo cyfagos agosaf 100m i'r gogledd orllewin a'r eiddo agosaf yn wynebu blaen y paneli dros 330m i ffwrdd. Byddai oes o 20 i 25 mlynedd i’r paneli ac, ar ôl hynny, gellid eu hadnewyddu, os ceid caniatâd cynllunio, neu eu tynnu, yn unol â'r cynllun adfer ac ôl-ofal a gyflwynid fel rhan o'r cais. Ychydig iawn o effaith y bydd y ffordd y câi’r paneli eu gosod ar y ddaear yn ei chael a byddai’n fodd i'r tir ddychwelyd i'w gyflwr blaenorol ar ddiwedd oes weithredol y paneli. Roedd y Swyddogion yn fodlon bod y cynllun yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac na fyddai’n cael unrhyw effaith ar fwynderau preswyl yn yr ardal. Yr argymhelliad, felly, oedd caniatáu’r cais.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Nicola Roberts oedd, fel Aelod Lleol, wedi galw’r cais i mewn oherwydd pryder ynghylch y posibilrwydd o golli tir amaethyddol o safon ac effaith y cynnig ar adeiladau rhestredig cyfagos, nad oedd yn gwrthwynebu'r cais ar ôl deall mai at ddefnydd preswyl yn unig y byddai’r cynnig ac nad oedd wedi derbyn unrhyw wrthwynebiadau yn lleol.

Wrth ymateb i ymholiad gan y Pwyllgor ynghylch maint y cynnig ar gyfer defnydd preswyl ac a ellid gwneud unrhyw gyfraniad i'r gymuned, dywedodd y Rheolwr - Rheoli Datblygu fod lefel y trydan a gynhyrchid gan y paneli yn gymharol isel, yn gymesur â'r hyn a ddefnyddiai annedd ddomestig mewn diwrnod ac, felly, nad oedd yn ddigon i allu bod o fudd i'r gymuned. Roedd y cynnig yn ddatblygiad ar raddfa feicro yn unol â Pholisi ADN 2. Ychwanegodd y Swyddog, ynghylch parhau i ddefnyddio'r tir at ddibenion pori, fod yr ymgeisydd wedi cadarnhau y byddai dull gosod y paneli ar y llawr yn fodd i anifeiliaid barhau i bori o gwmpas y paneli a rhyngddynt ac yn golygu na cheid effaith tymor hir ar y tir fel tir pori amaethyddol.

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb ganiatáu’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Neville Evans.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: