Eitem Rhaglen

Diweddariad Newid Hinsawdd

Derbyn cyflwyniad gan y Rheolwr Newid Hinsawdd.

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Newid Hinsawdd a'r Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad ddiweddariad ar gynnydd y Cyngor tuag at gyflawni ei darged sero net yn dilyn cyflwyno dogfennau gan Archwilio Cymru a Zurich Municipal ar yr ymateb i'r newid yn yr hinsawdd i gyfarfod Rhagfyr 2022 y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Adroddwyd bryd hynny mai un o flaenoriaethau'r Cyngor oedd creu gwaelodlin allyriadau carbon i ddeall sefyllfa bresennol y Cyngor ynghyd â dangosfwrdd i roi darlun gweledol o'r cynnydd sy'n cael ei wneud y gellir ei ddiweddaru a'i fonitro yn unol â hynny.

 

Dangoswyd copi gweledol i'r Pwyllgor o'r dangosfwrdd allyriadau carbon sy'n seiliedig ar ddata y mae'r Cyngor yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn fel rhan o ofynion adrodd y sector cyhoeddus. Rhannwyd yr adroddiad yn dri chwmpas gyda Chwmpas 1 yn cynnwys allyriadau y mae'r sefydliad adrodd yn eu gwneud yn uniongyrchol, Cwmpas 2 - yr allyriadau sy'n cael eu gwneud yn anuniongyrchol a Chwmpas 3 - yr holl allyriadau anuniongyrchol nad ydynt wedi'u cynnwys yng Nghwmpas 2. Ar gyfer rhan gyntaf y prosiect mae'r Cyngor wedi edrych ar Gwmpas 1 a 2. Crëwyd dangosfwrdd sy'n cysylltu'n uniongyrchol â'r data, yna caiff y data ei brosesu gan Power BI i roi crynodeb yn seiliedig ar y meini prawf adrodd a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn rhoi darlun gweledol o'r sefyllfa fewnol bresennol er mwyn dadansoddi ymhellach, gofyn cwestiynau a sicrhau camau gweithredu ystyrlon. Mae'r dangosfwrdd yn canolbwyntio ar yr allyriadau carbon a gynhyrchir gan y tanwydd a losgwyd yng nghyfleusterau'r Cyngor o safbwynt trydan, nwy, LPG ac olew am y tair blynedd rhwng 2019/20 a 2021/22. Mae'r data'n dangos mai ysgolion cynradd y Cyngor yw'r defnyddwyr ynni mwyaf, ac yna ysgolion uwchradd, canolfannau hamdden a phrif swyddfeydd y Cyngor. Mae hefyd wedi bod yn bosibl dangos gostyngiad mewn allyriadau carbon yn sgil y defnydd o gerbydau yn ystod y blynyddoedd hynny ynghyd ag effaith y pandemig. Hefyd, gellir dadansoddi'r data i edrych ar ddadansoddiad o’r allyriadau yn sgil y defnydd o ynni mewn sefydliadau unigol. Mae angen datblygu'r broses hon ymhellach i ddiweddaru'r set ddata yn rheolaidd, a'r nod yw paratoi diweddariadau chwarterol i'r Tîm Arweinyddiaeth a chynnal astudiaethau achos. Mae hefyd yn fwriad yn y flwyddyn nesaf i integreiddio Cwmpas 3 i'r dangosfwrdd sy'n cynnwys ffynonellau allyriadau anuniongyrchol gan gynnwys cadwyni cyflenwi, teithiau gan staff i’r gwaith a theithiau busnes yn ogystal ag archwilio ffynonellau data gyda'r bwriad o awtomeiddio'r broses casglu data a thrwy hynny ei gwneud yn dasg llai beichus.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r Swyddogion am y diweddariad a chododd y pwyntiau canlynol yn sgil y wybodaeth a gyflwynwyd –

 

·      Sut y gellir defnyddio'r data allyriadau carbon yn ystyrlon mewn perthynas ag adeiladau unigol. Cyfeiriwyd at y stoc bresennol o adeiladau ysgolion sy'n cynnwys ysgolion newydd sy'n defnyddio ynni’n effeithlon, yn ogystal ag ysgolion a adeiladwyd yn y ganrif ddiwethaf sy’n perfformio’n waeth o ran effeithlonrwydd ynni ac sy'n gostus i’w cynnal sy'n golygu ei bod yn anodd cymharu.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod allyriadau o bob adeilad, boed yn ysgolion, cartrefi neu swyddfeydd yn dibynnu ar faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio a rhoddwyd amlinelliad byr i'r aelodau o'r fethodoleg a ddefnyddir i gyfrifo allyriadau yn seiliedig ar y defnydd o ynni. Y nod yw gallu dangos tystiolaeth o'r gwahaniaeth y mae adeiladau ynni-effeithlon fel yr estyniad newydd i Ysgol y Graig (sy'n golygu mai hon yw'r ysgol garbon sero-net weithredol gyntaf ar Ynys Môn), yn ei wneud i leihau a/neu ddileu allyriadau carbon. Mae’r ffaith bod data da ar gael yn golygu y gellir gofyn cwestiynau a gwneud cymariaethau mewn ffordd nad oedd yn bosibl o'r blaen ac mae'n adnodd hanfodol i’n galluogi i fesur y cynnydd a wneir i leihau allyriadau carbon.

 

 

·      Effaith mesurau effeithlonrwydd ynni, megis gosod paneli solar, ar y defnydd o ynni ac yna ar y data allyriadau.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bydd ynni a gynhyrchir gan baneli solar yn cael ei adlewyrchu yn y data ond bydd angen mireinio'r system er mwyn gallu dangos faint yn union o ynni a gynhyrchir gan y ffynhonnell hon er mwyn dangos effaith paneli solar ar ddefnydd yr adeilad o ynni. Wrth i adroddiadau chwarterol ddod yn drefn arferol, rhagwelir y bydd modd cael y dystiolaeth i ddangos manteision ynni solar a mesurau eraill o'r fath i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon.

 

·      P'un a yw adeiladau newydd y Cyngor yn sero-net ac os felly, sut mae eu heffeithiolrwydd yn cael ei fesur.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y bydd estyniad newydd Ysgol y Graig yn adeilad sero-net gweithredol ac felly ni fydd yn cynhyrchu unrhyw allyriadau carbon pan fydd yn cael ei ddefnyddio. Bydd hyn yn cael ei ddangos drwy fesur y defnydd o ynni a faint o allyriadau carbon sy'n cael eu tynnu o'r atmosffer o ganlyniad i'r adeilad. Mae’r dechnoleg sy’n rhan o’r adeilad yn sicrhau'r defnydd ynni isaf posibl o'r grid. Mae datblygiadau tai newydd gan y Gwasanaeth Tai yn cael eu hadeiladu i safonau EPCA a/neu Passive House ac asesir eu heffeithiolrwydd gan ddarlleniadau mesurydd ar sail y defnydd gan yr adeiladau.

 

·      Cadarnhawyd y byddai'r Pwyllgor yn cael diweddariadau blynyddol ar y cynnydd tuag at sero net fel y gellir dangos i'r Aelodau effeithiau cadarnhaol y buddsoddiadau a wnaed a'r datblygiadau sydd wedi digwydd yn y cyfnod hwnnw.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd.