Eitem Rhaglen

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 4, 2022/23

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Porffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid sy'n cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Mae'r adroddiad cerdyn sgorio yn portreadu sefyllfa diwedd blwyddyn y Cyngor yn erbyn materion yn ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid, pobl a rheolaeth ariannol a rheoli perfformiad.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a roddodd grynodeb o'r cynnwys gan gadarnhau bod 91% o'r dangosyddion yn perfformio’n unol â’r targed, neu o fewn 5% iddo. Yn yr adroddiad tynnwyd sylw at nifer o straeon cadarnhaol am berfformiad mewn perthynas ag atal digartrefedd, Gwasanaethau Oedolion, gwneud penderfyniadau cynllunio’n brydlon, gwelliannau i gyflwr ffyrdd, glendid strydoedd, nifer y tai gwag sy’n cael eu defnyddio eto a chodi nifer yr ymwelwyr i ganolfannau hamdden yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig. Mae'r cyfraniad a wnaed gan staff y Cyngor i'r perfformiad cadarnhaol hwn dros y flwyddyn yn cael ei gydnabod a'i ganmol. Yn achos unrhyw faes sydd heb gyrraedd y targed o ran perfformiad, ymchwilir i’r meysydd hynny, yn benodol canran y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yr ymdrinnir â nhw o fewn yr amserlen, nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerir i gyflwyno Grant Cyfleusterau i'r Anabl a chanran yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd a chânt eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol. Wrth symud ymlaen i flwyddyn newydd y Cyngor, mae’r un mor bwysig monitro tueddiadau a chynnydd perfformiad yn erbyn dangosyddion boed yn wyrdd neu'n felyn yn enwedig o ystyried yr heriau parhaus sy'n ymwneud â chyllid a gwariant, recriwtio staff a chapasiti. Bydd cadw llygad ar dueddiadau'n helpu i gynnal y lefel bresennol o berfformiad da ac yn cyfrannu at welliant parhaus dros amser. I orffen dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones ei fod yn gobeithio bod yr adroddiad yn rhoi sicrwydd bod perfformiad yn bwysig i'r Cyngor, ei fod yn cael ei reoli'n gadarn a'i fod yn cael sylw dyledus yn wleidyddol ac yn weithredol.

Oherwydd problemau cysylltu gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y pwynt hwn, camodd y Pennaeth Democratiaeth i'r adwy i adrodd am gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 20 Mehefin lle cafodd Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2022/23 ei ystyried a'i drafod yn fanwl. Codwyd a thrafodwyd nifer o faterion gan gynnwys y trefniadau ar gyfer codi ymwybyddiaeth o'r perfformiad cadarnhaol, gwasanaeth cwsmeriaid mewn perthynas â monitro galwadau ffôn ac ansawdd yr ymatebion, darparu grantiau ac addasiadau Cyfleusterau i’r Anabl, rheoli plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant  - perfformiad yn benodol yn erbyn Dangosydd 23 a sut y gellir adrodd ar hyn i roi cyfrif mwy ystyrlon o berfformiad gan gytuno bod y dangosydd yn cael ei archwilio gan Banel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol. Ystyriwyd y tanwariant a ragwelir ar gyllideb 2022/23 o ran sut y gallai helpu'r Cyngor i fynd i'r afael â phwysau gwasanaeth ychwanegol disgwyliedig yn 2023/24. Codwyd cwestiynau hefyd ynghylch sut y caiff camau i fynd i'r afael â meysydd/dangosyddion sy'n tanberfformio eu monitro i sicrhau eu bod yn bodloni nodau ac amcanion perfformiad. Ar ôl ystyried y materion hyn a'r ymateb iddynt, penderfynodd y Pwyllgor argymell adroddiad Cerdyn sgorio Chwarter 4 a’r mesurau lliniaru ynddo, i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Croesawodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr adroddiad fel tystiolaeth o waith caled a chydymdrech y staff ar draws y Cyngor i gynnal a gwella perfformiad yn wyneb heriau parhaus mewn blwyddyn anodd ar adegau. Cyfeiriwyd at yr ychydig feysydd lle na chyrhaeddwyd targedau a nododd yr Aelodau nad yw'r sgôr CAG bob amser yn rhoi darlun llawn o berfformiad yn enwedig lle mae yna gymhlethdodau ac fe nodwyd Dangosydd Perfformiad 23  (Yr amser cyfartalog a dreuliodd pob plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant yn ystod y flwyddyn, ac a gafodd eu dadgofrestru yn ystod y flwyddyn) lle'r oedd y perfformiad yn dangos fel coch, fel enghraifft o hynny.  Eglurwyd bod plant ar y gofrestr amddiffyn plant ond yn cael eu dadgofrestru pan fydd yn ddiogel gwneud hynny ac nad oes risg o niwed yn berthnasol ac y byddai'n anghywir gwneud hynny yn rhy fuan er mwyn cyrraedd targed. Felly, mae angen edrych yn ochelgar ar y dangosydd oherwydd heb gyd-destun a naratif eglurhaol nid yw'n rhoi darlun cyflawn o'r holl ffactorau dan sylw. Yn yr un modd o ran nifer y diwrnodau a gymerwyd i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl lle na chyflawnwyd amserlenni yn rhannol oherwydd prinder contractwyr sy'n fater sector cyfan.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod wedi ei galonogi yn sgil y dealltwriaeth o natur gymhleth Dangosydd 23 a dywedodd y gallai plant ar y gofrestr amddiffyn plant am fwy o amser hefyd fod yn destun proses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus lle mae'r Awdurdod Lleol yn cael trafodaeth gyda'r teulu a'u cynrychiolydd cyfreithiol ynghylch cadw plentyn yn ddiogel a thrwy hynny ddarparu amddiffyniad ychwanegol. Mae gan y Gwasanaeth brosesau mewnol hefyd lle mae achosion unigol yn cael eu trafod a'u hadolygu. Felly nid yw'r DPA yn adlewyrchu'r sefyllfa yn llawn a bydd opsiwn arall mwy ystyrlon ar gyfer adrodd yn cael ei ystyried ar gyfer y cerdyn sgorio newydd eleni.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod 2022/23 wedi bod yn flwyddyn anodd ar sawl ystyr, yn enwedig Chwarter 4 gydag effeithiau'r argyfwng costau byw, caledi tanwydd a phwysau'r gaeaf yn golygu bod mwy o alw am sawl gwasanaeth gan y Cyngor. Mae'r heriau hyn yn gwneud perfformiad cyffredinol y flwyddyn yn fwy clodwiw. Mae’r cyd-weithio, yr arweinyddiaeth a'r cyfeiriad a roddwyd gan reolwyr ac ymrwymiad staff rheng flaen oll wedi bod yn ffactorau allweddol wrth sicrhau canlyniad mor gadarnhaol ar adeg o ansicrwydd.

 

Wrth gloi, cyfeiriodd y Cadeirydd at feysydd lle mae perfformiad wedi gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl e.e. canran yr aelwydydd a gafodd eu hatal rhag dod yn ddigartref, nifer y tai gwag sy’n cael eu defnyddio eto, glendid strydoedd, y cynnydd yn nifer yr ymweliadau â chanolfannau hamdden sydd â buddion corfforol ac iechyd meddwl, dyma rai enghreifftiau o sut mae'r data perfformiad yn cael ei ddefnyddio i lywio camau gweithredu a sbarduno gwelliannau. Mae'r gweithlu y tu ôl i'r gweithgareddau hyn a gweithgareddau eraill yn ogystal â phartneriaid y Cyngor a'r holl ofalwyr di-dâl yn haeddu diolch a gwerthfawrogiad y Pwyllgor Gwaith am ganlyniadau Chwarter 4 a’r perfformiad ar hyd y flwyddyn.

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2022/23 a nodi’r meysydd mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol fel yr amlinellwyd.

 

Dogfennau ategol: