Eitem Rhaglen

Monitro Cyllideb Refeniw - Alldro 2022/23

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 4, 31 Mawrth 2023 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad a rhoddodd rywfaint o gyd-destun gan ddweud bod y Cyngor wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2022/23 gyda gwariant net ar sail gwasanaeth o £158.365m i'w ariannu o incwm Treth y Cyngor, NDR a grantiau cyffredinol. Roedd hyn yn cynnwys cyfanswm ar gyfer argyfyngau cyffredinol ac eraill oedd yn dod i gyfanswm o £3.110m. Cafodd y gyllideb ar gyfer y Premiwm Treth Cyngor ei chynyddu £0.436m i £1.950m. Gosodwyd cyllideb gytbwys gyda chynnydd y cytunwyd arno yn Nhreth y Cyngor o 2%. O ran y flwyddyn flaenorol, nid oedd yn ofynnol i wasanaethau wneud arbedion. Roedd y cynnydd o 9.2% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn gynnydd i'w groesawu ond roedd yn ofynnol i'r Cyngor ymrwymo i gynnydd yn y gyllideb mewn nifer o feysydd gan gynnwys gofal cymdeithasol a digartrefedd. Daeth cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant cysylltiedig â Covid i ben hefyd. Mae'r sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2022/23 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa Treth y Cyngor yn danwariant o £1.212m a ragwelir sef 0.76% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2022/23.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, er bod y canlyniad ar ddiwedd y flwyddyn yn gadarnhaol ac yn gwella sefyllfa ariannol y Cyngor, mae nifer o eitemau untro sydd wedi cyfrannu at y tanwariant wedi helpu hynny. Mae'r rhain yn cynnwys grantiau anghylchol gan Lywodraeth Cymru, gwell lefelau incwm nag y cyfrifwyd ar eu cyfer, defnyddio cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a lefel uchel o swyddi gwag staff - byddai'r sefyllfa wedi bod yn wahanol iawn hebddynt gyda gorwariant o £2.867m yn cael ei adrodd a fyddai wedi creu bwlch sylweddol yn y gyllideb wrth wynebu 2023/24. Ni fydd y rhan fwyaf o'r manteision ariannol sydd wedi cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor ar ddiwedd 2022/23 yn digwydd eto i'r un graddau yn 2023/24 sy'n golygu y bydd y Cyngor yn dal i wynebu pwysau ariannol yn 2023/24 a thu hwnt. Ailadroddodd y Cynghorydd Williams, fel Aelod Portffolio Cyllid ei fod bob amser wedi cymryd agwedd ddarbodus tuag at y gyllideb gan edrych ar y sefyllfa yn y tymor hir, cynnal cronfeydd wrth gefn, a pheidio â rhuthro i wneud penderfyniadau yn wyneb galwadau i beidio â chodi Treth y Cyngor. Pwysleisiodd fod Ynys Môn yn parhau i fod yn un o'r awdurdodau sy’n codi’r tâl isaf yng Nghymru ar gyfer Treth y Cyngor ac Ynys Môn yw’r isaf yng Ngogledd Cymru. Pwrpas y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yw cydbwyso'r gyllideb o’r naill flwyddyn i'r llall ac nid ei gynyddu heb fod angen.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at ansicrwydd parhaus mewn perthynas â blynyddoedd ariannol 2023/24 a 2024/25. Er bod y tanwariant yn golygu bod sefyllfa balansau'r Cyngor ar £10.2m wrth symud ymlaen, £1.4m yn uwch na'r isafswm gwerth a argymhellir sef 5% o'r gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 ar ôl ystyried hefyd y £3.8m a ymrwymwyd fel cyllid ar gyfer cyllideb 2023/24, mae materion heb eu datrys o hyd ynghylch codiadau cyflog staff gydag undebau nad ydynt yn athrawon wedi gwrthod y cynnig tâl ar gyfer 2023/24 ac mae tâl athrawon wedi'i setlo tan fis Awst 2023 yn unig heb ddim sicrwydd ynghylch yr hyn y cytunir arno wedi hynny neu a fydd Llywodraeth Cymru yn ariannu unrhyw gynnydd ychwanegol. Bydd chwyddiant os yw'n parhau'n uchel, yn effeithio ar gostau'r Cyngor yn 2023/24 ac ymlaen i 2024/25 a gallai hefyd arwain at alwadau am godiadau cyflog uwch a fyddai'n creu pwysau ychwanegol yn y cyfnod cyn gosod cyllideb 2024/25. Mae'r sefyllfa ar gyfer 2024/25 yn ymddangos yn heriol ac er nad oes ffigurau dangosol wedi'u darparu eto, yr awgrym yw na fydd cyllid ychwanegol ar gyfer lefel 2023/24 yn cael ei ddarparu er bod y Cyngor yn dal i wynebu costau cynyddol a galw cynyddol am wasanaethau. Bydd balansau'r Cyngor yn caniatáu rhywfaint o liniaru yn erbyn y pwysau hwn ond ar ôl eu defnyddio, ni fyddant ar gael i’w defnyddio drachefn gan adael y posibilrwydd y gallai fod angen toriadau mewn gwariant i gydbwyso'r gyllideb yn 2024/25. Er nad yw'r sefyllfa ariannol cystal ag y mae'n edrych, mae'r Cyngor mewn sefyllfa well na llawer o awdurdodau i reoli'r heriau sydd o'n blaenau a bydd y prosesau sydd ganddo ar waith i fonitro'r sefyllfa ariannol yn barhaus yn gymorth i'r Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniadau.

 

Cydnabu aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr heriau sy'n wynebu'r Cyngor yn ystod y blynyddoedd nesaf a diolchodd i'r Swyddog Adran 151 am ei werthusiad gonest o'r sefyllfa. Nododd yr Aelodau fod trafodaethau ynglŷn â chyllidebau, balansau a Threth y Cyngor yn ymwneud â'r gwasanaethau y gall y Cyngor eu darparu mewn gwirionedd ar adeg pan fo'r galw ar y gwasanaethau hynny, yn enwedig atal digartrefedd, gofal cymdeithasol plant a gofal pobl hŷn yn cynyddu. Dyma'r gwasanaethau hanfodol sy'n darparu cymorth i rai o'r unigolion mwyaf agored i niwed o fewn cymunedau y mae'r Cyngor wedi ceisio eu diogelu wrth ystyried y data ariannol a gosod y gyllideb. Cyfeiriwyd hefyd at sefyllfa ysgolion gan nodi nad oes gan unrhyw ysgol ar yr Ynys ddiffyg ariannol ar hyn o bryd. O ystyried y prognosis ariannol, gofynnwyd cwestiynau am y tebygolrwydd y bydd y sefyllfa honno'n newid yn 2023/24 a thu hwnt.

 

 Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y cyllid ychwanegol a ddarparwyd i ysgolion gan Lywodraeth Cymru fel cymorth Covid ynghyd â chau ysgolion a gwariant llai yn ystod y cyfnod hwnnw wedi helpu i gryfhau cyllid rhai ysgolion a allai fod wedi wynebu diffyg ariannol fel arall. Mae ysgolion hefyd wedi defnyddio'r cyllid ychwanegol i helpu disgyblion i ddal i fyny â'u dysgu. Er bod balansau cronfeydd wrth gefn ysgolion bellach yn £6.7m, mae cyfran sylweddol o'r swm hwnnw wedi'i glustnodi gan ysgolion yn 2023/24 i gydbwyso eu cyllidebau ac osgoi gorfod gwneud toriadau; mae'n debygol y bydd y sefyllfa hon yn cael ei hailadrodd yn 2024/25 wrth i gyllidebau dynhau gan olygu y bydd y £6.7m o falansau yn lleihau cyn bo hir. Dim ond balansau bychain sydd gan rai ysgolion a bydd ambell ysgol gynradd yn arbennig yn ei chael hi'n anodd cydbwyso eu cyllidebau. I rai ysgolion, mae'r fformiwla ariannu yn gweithio i'w hanfantais, gan na roddir  dyraniad digonol i dalu am lefel y staffio sydd ei angen arnynt ar gyfer eu cymysgedd o grwpiau oedran a'r ffordd y mae'n rhaid trefnu'r rheini. Mae'r Awdurdod yn gweithio gyda'r ysgolion hynny sydd mewn perygl o ddiffyg ariannol i ddatblygu a chynllunio eu defnydd o falansau yn 2023/24 ond mae'n rhagweld y bydd yn rhaid iddynt wneud gostyngiadau yn y gyllideb yn 2024/25 ac y bydd mwy o ysgolion mewn sefyllfa debyg wrth i'r sefyllfa ariannol ddod yn fwy heriol.

 

Dywedodd y Cadeirydd, er na fu angen i wasanaethau wneud arbedion am y ddwy flynedd flaenorol, fod y Cyngor wedi gorfod dod o hyd i ostyngiadau yn y gyllideb dros y blynyddoedd o lymder sy'n golygu nad yw wedi gallu buddsoddi mewn gwasanaethau yn y cyfnod hwnnw yn y ffordd y byddai wedi hoffi. Er bod addysg ac ysgolion wedi cael eu diogelu cyn belled ag y bo modd, maent bellach yn dod o dan bwysau cynyddol. Felly, mae'n bwysig bod yna ymwybyddiaeth o'r aberthion sydd wedi eu gwneud a dealltwriaeth bod pwysau costau a'r galw ar wasanaethau bellach yn fwy ac ar gynnydd. Dywedodd fod achos dros lobïo Llywodraeth Cymru am gyllid gwell ac, o ystyried bod cynghorau'n allweddol wrth ymateb i'r pandemig a’u bod wedi eu canmol fel y pedwerydd gwasanaeth brys bryd hynny, roedd hi'n gobeithio y bydden nhw'n cael eu hystyried yn werth ymladd drostynt ac y dylid eu hariannu'n deg ac i lefel sy'n eu galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau a chynnal gwasanaethau.

 

Penderfynwyd nodi'r canlynol –

 

·    Y sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas ag alldro ariannol yr Awdurdod ar gyfer 2022/23;

·    Y crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2022/23 y manylir arnynt yn Atodiad C;

·    Y modd y caiff costau asiantaethau ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2022/23 yn Atodiadau CH, D a DD.

 

Dogfennau ategol: