Eitem Rhaglen

Alldro Cyfalaf, 2022/23

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 (yn amodol ar archwiliad) i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid drosolwg o'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2022/23 a gwariant fel y'i crynhoir yn y tabl ym mharagraff 1.2 o'r adroddiad. Ar ôl ystyried y llithriad o 2021/22, cynlluniau ychwanegol ers gosod y gyllideb ac addasiadau i'r Gyllideb Cyfrif Refeniw Tai, cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 oedd £54.564m. Cyfanswm y gwariant ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2023 oedd £40.690m gan adael tanwariant o £13.874m. Mae'r rhan fwyaf o'r tanwariant yn ymwneud â phrosiectau mawr (Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, seilwaith a phrosiectau cynllun llifogydd yn ogystal â gwariant CRT) y gall nifer o ffactorau ddylanwadu arnynt. Ym mhob achos, mae'r cyllid ar gyfer y prosiectau wedi'i sicrhau a bydd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2023/24 heb golli adnoddau i'r Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at bwysigrwydd cyllid grant yn rhaglen gyfalaf y Cyngor gyda 40% o'r gyllideb a 56% o'r gwariant gwirioneddol yn cael ei ariannu drwy grantiau cyfalaf. O'r £11.110m o gynlluniau ychwanegol a ychwanegwyd at y rhaglen gyfalaf ers gosod y gyllideb wreiddiol, mae £9.9m yn cael ei ariannu drwy gyllid grant, (mae Atodiad C yn cyfeirio atynt). Er bod y Cyngor yn derbyn rhai grantiau fel rhan o ddyraniad Cymru gyfan, dim ond ar ôl proses gystadleuol y mae llawer yn eu dyfarnu, gyda staff y Cyngor yn gorfod gwneud cais am grantiau. Er bod y pwysau ar wariant refeniw y Cyngor wedi'i danlinellu, mae'r gyllideb gyfalaf hefyd yn dod yn fwyfwy tynn gyda'r cyllid cyfalaf y mae'r Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar ffurf y Grant Cyfalaf Cyffredinol a benthyca â chymorth wedi aros yr un fath i raddau helaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bellach prin yn talu costau cynnal asedau presennol. Felly, mae prosiectau buddsoddi newydd yn dibynnu fwyfwy ar gyllid grant i'w cyflawni.

 

Er bod Aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod pwysigrwydd cyllid grant ar gyfer cyflwyno rhaglen gyfalaf y Cyngor, a oedd i’w groesawu, tynnwyd sylw at yr anawsterau sy’n codi pan na chadarnheir dyfarniadau grant mewn pryd i gynllunio ar eu cyfer a'u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf flynyddol ar ddechrau'r flwyddyn gyda rhai grantiau yn cael eu dyfarnu'n hwyr yn y flwyddyn ariannol ar gyfer cynlluniau nad ydynt efallai'n flaenoriaeth leol i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor hanes da o ddenu cyllid grant a chyflwyno cynlluniau o fewn y gyllideb a'r amserlen. Fodd bynnag, mae’r gwaith o amcangyfrif costau cyfalaf wedi dod yn fwyfwy heriol ac felly’n creu mwy o risg i'r Cyngor ac er ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn parhau i gystadlu am gyllid grant, mae angen iddo wneud hynny heb ddod yn rhy agored i risgiau ychwanegol. Y broblem gyda grantiau sy'n cael eu cyhoeddi yn ystod neu'n hwyr yn y flwyddyn yw eu bod yn creu gwaith ychwanegol ac yn dargyfeirio adnoddau i ffwrdd o waith a gynlluniwyd er mwyn ymateb i'r cyfle i sicrhau grant. Yna caiff prosiectau y mae'r Cyngor wedi'u cynllunio ac wedi ymrwymo iddynt eu neilltuo tra bod adnoddau staffio prin yn mynd ati i wneud ceisiadau am grantiau. Mae hyn yn golygu bod y dasg o reoli perfformiad yn fwy heriol ond mae'n angenrheidiol os yw'r Cyngor yn dymuno cyflawni mwy o ran y rhaglen gyfalaf  na dim ond cynnal yr asedau sydd ganddo. Mae lle i wella'r broses o adrodd ar wariant cyfalaf er mwyn i’r cyhoedd ddeall yr hyn y gall y Cyngor ei gyflawni gyda'i gyllid cyfalaf craidd a'r hyn y mae'n ei gyflawni oherwydd bod ganddo'r hyder i gystadlu yn erbyn eraill am grantiau ychwanegol gan gydnabod hefyd y bydd hyn yn cael effaith ar weithgareddau o ddydd i ddydd. 

 

Penderfynwyd –

 

·                Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2022/23 fydd yn destun archwiliad, a

·                Cymeradwyo i ddwyn ymlaen £13.477m i 2023/24 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2023/24 yn unol â pharagraff 4.3, Atodiad A. Y gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 yw £51.439m.

 

 

Dogfennau ategol: