Eitem Rhaglen

Dogfen Gyflawni Blynyddol 2023/24

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, yn ymgorffori’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2023/24, i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno.

Cyflwynwyd y Ddogfen Gyflawni Flynyddol gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, ac mae’n amlinellu rhaglenni gwaith blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24 a gynlluniwyd i gyflawni disgwyliadau Cynllun y Cyngor. Cyfeiriodd at chwe amcan strategol Cynllun y Cyngor ac mae ffrydiau gwaith penodol a fyddai’n cael sylw yn ystod 2023/24 yn cael eu rhestru oddi tanynt er mwyn cynorthwyo i gyflawni’r amcanion hynny. Datblygwyd y Ddogfen Gyflawni ar y cyd â gwasanaethau ar draws y Cyngor a bydd yn cael ei rhoi ar waith o fewn yr adnoddau a benderfynwyd fel rhan o’r gyllideb a osodwyd ar gyfer 2023/24, ochr yn ochr â gweithgareddau dydd i ddydd y Cyngor. Bydd pob aelod o staff rheng flaen a staff cymorth yn hanfodol i gyflawni’r ddogfen yn llwyddiannus.

Wrth drafod y ddogfen, gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau am yr heriau a’r risgiau wrth geisio gwireddu’r blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer 2023/24, y trefniadau sydd ar waith i fonitro cynnydd wrth gyflawni’r ffrydiau gwaith a amlinellwyd, i ba raddau y mae’r Cynllun yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal â sicrhau fod staff yn cyfrannu’n llawn at y gwaith o’i gyflawni.

Ymatebodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad i’r materion a godwyd fel a ganlyn –

·                Er mwyn cyflawni’r gwaith yn llwyddiannus, mae’n bwysig nad yw’r un o’r amcanion strategol neu’r ffrydiau gwaith yn cael eu hystyried ar eu pen eu hunain, ond o fewn y cyd-destun lleol. Un o’r prif heriau a risgiau yw’r pwysau ychwanegol sylweddol sydd ar rai gwasanaethau, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn wasanaethau statudol y mae’n rhaid eu darparu o ddydd i ddydd gan olygu fod cynllunio ar gyfer y dyfodol o safbwynt ailfodelu yn fwy heriol. Mae’r cyd-destun ariannol yn achosi pryder hefyd ac mae’n risg gan fod pwysau’n cynyddu ar wasanaethau ar yr un llaw, ond mae angen moderneiddio, i greu adeiladau mwy gwyrdd, i fuddsoddi a chreu swyddi wrth warchod yr amgylchedd ar y llaw arall, ac mae hynny’n golygu fod sicrhau cydbwysedd rhwng y galwadau hyn sy’n cystadlu â’i gilydd yn hynod o heriol. Capasiti a chadw staff yw’r prif flaenoriaethau i sicrhau fod dyheadau Cynllun y Cyngor, ac amcanion penodol y Ddogfen Gyflawni ar gyfer 2023/24, yn cael eu cyflawni. Mae’r Cyngor yn hyderus fod yr amcanion yn realistig ac y gellir eu cyflawni a bydd yn rhoi trefniadau rheoli perfformiad ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yn ogystal â nodi a mynd i’r afael ag unrhyw risgiau a allai godi, gan gofio y gallai rhai o’r risgiau hynny ddeillio o ffynonellau allanol a bydd angen eu lliniaru. 

·                Mae diweddariadau rheolaidd ar gynnydd y gwaith cyflawni yn cael eu darparu i’r Byrddau Rhaglen Corfforaethol a bydd y cerdyn sgorio corfforaethol newydd ar gyfer 2023/24 yn cael ei alinio â Chynllun y Cyngor. Yn ogystal, mae’r Ddogfen Gyflawni’n alinio’n agos â Chynllun y Cyngor gan ei bod yn darparu manylion am y gweithgareddau holl bwysig fydd yn cael eu blaenoriaethu yn 2023/24 i gynorthwyo i gyflawni amcanion y Cynllun. Bydd adroddiadau ar weithredoedd o ddydd i ddydd yn cael eu cyflwyno i’r Byrddau Rhaglen tra bydd adroddiadau ar welliannau, yr effaith ar bobl a pherfformiad yn erbyn dangosyddion yn cael eu darparu trwy gyfrwng y cerdyn sgorio corfforaethol.

·                Bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gosod saith nod llesiant ar gyfer Cymru y mae disgwyl i bob corff cyhoeddus yng Nghymru weithio tuag atynt. Maent yn canolbwyntio ar Gymru fwy llewyrchus, cydnerth, iachach, mwy cyfartal, Cymru o gymunedau mwy cydlynus, Cymru sydd â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Y gobaith yw y bydd y Cyngor yn gallu dangos, trwy chwe amcan strategol Cynllun y Cyngor, ei fod yn gweithio tuag at gyflawni’r nodau hynny. Mae’r Ddeddf hefyd yn disgwyl i gyrff cyhoeddus roi’r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith yn eu holl weithgareddau ac mae hynny’n golygu edrych ar yr hirdymor wrth wneud penderfyniadau, mabwysiadu ymagwedd ataliol ac integredig, gweithio ar y cyd a chynnwys pobl ym mhopeth a wnânt. Mae’r Cyngor yn hyderus y gall ddangos ei fod yn cwrdd â disgwyliadau’r Ddeddf.

·                Mae’n hanfodol fod staff yn ymwybodol o flaenoriaethau’r Ddogfen Gyflawni a’r hyn a ddisgwylir ganddynt i gynorthwyo i gyflawni’r blaenoriaethau hynny, a thrwy hynny gyfrannu at gyflawni amcanion Cynllun y Cyngor. Mae Rheolwyr Gwasanaeth a Rheolwyr Llinell yn gyfrifol am sicrhau fod y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i’w staff mewn cyfarfodydd timau ac ar lefel un i un, a bod gweithgareddau’n cael eu cyflawni’n effeithiol.

Ar ôl ystyried y dogfennau a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Swyddogion, penderfynwyd argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn mabwysiadu’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2023/24.

 

Dogfennau ategol: