Eitem Rhaglen

Protocol Datrysiad Lleol ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar ddatblygiad Protocol Datrysiad Lleol at ddefnydd Cynghorau Tref a Chymuned. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar gyflwyno Protocol Datrysiad Lleol ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned. 

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod y Pwyllgor Safonau wedi trafod p’un ai a oedd yn dymuno mabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned, yn debyg i’r Protocol a gafodd ei ddrafftio gan y Pwyllgor a’i fabwysiadu gan aelodau’r Cyngor Cymuned.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod Un Llais Cymru wedi cyhoeddi Protocol i’w ddefnyddio gan y Cynghorau Tref a Chymuned i’w helpu i ddatrys materion lefel isel yn fewnol. Dywedodd bod y Pwyllgor Safonau’n annog y Cynghorau Tref a Chymuned i fabwysiadu a, lle bo angen, defnyddio’r Protocol hwnnw, serch hynny nid yw pob un Cyngor wedi’i fabwysiadu. Nid yw bob amser yn ymarferol chwaith, gan fod y broses yn dibynnu’n drwm ar gynnwys Cadeirydd a Chlerc y Cyngor perthnasol, rhywbeth sydd ddim bob amser yn bosibl os ydynt ynghlwm â’r anghydfod. 

 

Nodwyd bod y Pwyllgor Safonau wedi cynorthwyo’r Cynghorau Tref a Chymuned gyda phrosesau datrys anffurfiol yn y gorffennol. Nodwyd hefyd nad yw’n orfodol cymryd rhan mewn proses o’r fath a bod hynny’n digwydd yn ôl disgresiwn Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.   

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un ai y dylai’r Pwyllgor ddatblygu ei Brotocol ei hun i ddelio â materion yn ymwneud ag ymddygiad, i gyd-fynd â Phrotocol Un Llais Cymru. Yn dilyn trafodaeth, cafodd y cynnig drafft yn Atodiad 1 ei dderbyn gan y Pwyllgor, yn amodol ar fân newidiadau h.y. egluro pryd y dylid defnyddio Protocol Un Llais Cymru, a defnyddio iaith lai technegol yn y ddogfen.

 

Gofynnwyd am eglurder ynglŷn â p’un ai a fyddai modd i Un Llais Cymru addasu ei Brotocol a darparu hyfforddiant i Gynghorau Tref a Chymuned. Ymatebodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod y Protocol sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Un Llais Cymru yn nodi y  dylai swyddogion/aelodau o “Gynghorau Tref a Chymuned dderbyn hyfforddiant er mwyn eu galluogi i weithredu’r Protocol”.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn ysgrifennu at Un Llais Cymru i weld a yw’n cynnig hyfforddiant ar ei Brotocol Datrysiad Lleol, gyda’r bwriad o rannu’r wybodaeth hon â’r Cynghorau Tref a Chymuned.

  Derbyn Protocol Datrysiad Lleol drafft y Pwyllgor Safonau ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned sydd ar gael yn Atodiad 1, yn amodol ar y mân newidiadau sydd wedi’u rhestru yn yr adroddiad.

  Bod y Pwyllgor Safonau’n anfon copi o’i Brotocol Datrysiad Lleol ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned i’r Cynghorau Tref a Chymuned drwy’r Newyddlen a bod Cadeirydd y Pwyllgor yn ei gyflwyno yn ystod cyfarfod o’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned.

  Bod y Pwyllgor Safonau’n cynnal trafodaethau pellach ar sut i hyrwyddo Protocol y Pwyllgor Safonau ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned.  

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod.

Dogfennau ategol: