Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2022/2023

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Safonau Blynyddol y Gymraeg i'w ystyried gan y Pwyllgor ac i roi sylwadau arno cyn ei gyflwyno i'r Aelod Portffolio ei gymeradwyo drwy drefn ddirprwyedig i'w gyhoeddi.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, yn absenoldeb Arweinydd y Cyngor, fod yr adroddiad yn gwerthuso cydymffurfiaeth y Cyngor â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg ac yn nodi'r ffyrdd y mae'r Cyngor yn hyrwyddo ac yn hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod y flwyddyn. Dywedodd fod nifer o uchafbwyntiau wedi bod o fewn y flwyddyn yn bennaf: gwneud y Gymraeg yn flaenoriaeth strategol o fewn y Cyngor; Arolygiaeth Gofal Cymru yn nodi'r gwaith da o ran y Gymraeg gyda thrigolion bregus; Estyn yn tynnu sylw at y gwaith da a wnaed o fewn y Gwasanaeth Addysg o ran y Gymraeg o fewn addysg; amlygrwydd technegol ar gyfer defnyddwyr ar-lein; staff yn canmol y gefnogaeth a roddir i wella eu sgiliau iaith Gymraeg. 

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth fod yr Adroddiad Blynyddol wedi'i strwythuro yn unol â gofynion Comisiynydd y Gymraeg ac i gydymffurfio â'r penawdau Safonau y mae'n ofynnol adrodd amdanynt.  Dywedodd fod safbwynt Ynys Môn hefyd wedi'i ymgorffori o fewn yr adroddiad er mwyn tynnu sylw at y llwyddiannau ehangach a gafwyd o fewn yr Awdurdod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Cyfeiriodd ymhellach at bolisi iaith y Cyngor sy'n esbonio sut y cyflawnir Safonau'r Gymraeg yn ogystal â nod y Cyngor i wneud y Gymraeg yn brif iaith weinyddol yr Awdurdod hwn.  Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth ymhellach fod gwaith manwl wedi ei wneud gydag adrannau penodol o fewn yr Awdurdod i roi hyfforddiant a chefnogaeth i staff ddefnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y materion canlynol:-

 

·     Codwyd cwestiynau ynghylch a oes risgiau penodol sy'n codi pryder ynghylch cydymffurfiaeth y Cyngor â safonau'r Gymraeg?  Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Democratiaeth y byddai diffyg cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn risg benodol a fyddai'n arwain at ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg.  Nododd fod y cwynion a dderbyniwyd am ddiffyg cydymffurfio yn isel gyda dim ond 6 chwyn y llynedd a'r gobaith yw y bydd y system CRM newydd o fewn y Cyngor yn helpu i fynd i'r afael â phryderon gan y cyhoedd mewn modd adeiladol. Nododd ymhellach fod risg uwch wrth weithio gyda sefydliadau trydydd parti y mae angen i staff fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn cydymffurfio â safonau'r Gymraeg.  Gall cydymffurfio â'r broses asesu effaith ar bolisïau fod yn risg uwch oherwydd ei natur gymhleth ar brydiau a cheisir cyngor arbenigol drwy Gomisiynydd y Gymraeg. Dywedodd hefyd yn ystod cyfarfod diweddar gyda Chomisiynydd Cymru fod sylwadau cadarnhaol wedi eu derbyn ynglŷn â sut mae'r Cyngor yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.

·     Cyfeiriwyd at y cyrsiau Cymraeg a roddwyd i staff y Cyngor fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Gofynnwyd ai’r un aelodau o staff yw’r rhain â’r rhai a fu ar y cyrsiau hyn y llynedd?  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg ei fod yn gyfuniad o staff sydd o bosibl wedi datblygu eu sgiliau Cymraeg ac sy’n mynd ymlaen i gyrsiau lefel uwch.  Pwysleisiodd fod yna lwyfan dysgu ehangach i staff  yn enwedig pan ddywedodd rhai dysgwyr Cymraeg eu bod wedi colli allan ar y gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod y pandemig.  Nododd ymhellach mai'r ffordd orau o hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yw drwy greu amodau lle gall unigolion, beth bynnag fo lefel eu sgiliau Cymraeg, ymarfer defnyddio'r iaith mewn amgylchedd cynhwysol, croesawgar ac anfeirniadol.  Mae gwaith wedi'i wneud gydag Adran Hyfforddi'r Cyngor i ddarparu cyfleusterau i staff allu mynychu cyrsiau mewnol;

·     Codwyd cwestiynau ynghylch sut mae'r Cyngor yn annog staff i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg?  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod rhyddhau staff i fynychu cyrsiau yn her barhaus, fodd bynnag mae'n bwysig bod rheolwyr o fewn adrannau'r Cyngor yn cefnogi ac yn annog staff i fynychu cyrsiau Cymraeg a'u bod yn gallu gweld y gwerth mewn rhyddhau swyddogion i gael cymorth a chyfleoedd hyfforddi.  Cyfeiriodd ymhellach y gellir cynnig sgiliau ysgrifennu Cymraeg i staff sy'n siarad Cymraeg er mwyn gwella eu gallu a'u hyder;

·     Holwyd a oes gwybodaeth ychwanegol a fyddai'n ychwanegu gwerth at yr Adroddiad Blynyddol? Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod trafodaethau mewnol wedi'u cynnal ynghylch sut y gellir gwella'r Adroddiad Blynyddol yn y dyfodol ac yn enwedig y defnydd o ddata o ran defnyddio'r Gymraeg o fewn y gwasanaethau a gynigir gan y Cyngor a dewis iaith y cwsmeriaid.  Roedd cynnwys mwy o astudiaethau achos yn faes arall a allai wella'r Adroddiad Blynyddol;

·     Codwyd cwestiynau ynghylch y risg o ran recriwtio pobl ddi-Gymraeg?  Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Democratiaeth ei bod yn gallu bod yn anodd recriwtio siaradwyr Cymraeg mewn rhai sectorau penodol ond mae'r data'n dangos bod canran y Swyddogion sy’n siarad Cymraeg yn y Cyngor yn uchel ac nad yw’n risg uniongyrchol ar hyn o bryd;

·     Cyfeiriwyd at fod Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn feirniadol o gynnydd y Cyngor heb gydnabod y gwaith da sydd wedi digwydd o ran Strategaeth y Gymraeg.  Holwyd a oes datblygiadau i gynnwys Cymdeithas yr Iaith o fewn y Fforwm?  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod Cymdeithas yr Iaith yn cael ei hystyried yn aelod o Fforwm yr Iaith Gymraeg a’i bod wedi’i chynnwys o fewn Cylch Gorchwyl y Pwyllgor ers sefydlu'r Fforwm.  Mynegodd fod croeso i gyrff perthnasol ymuno neu ail-ymuno â'r Fforwm i gryfhau'r Gymraeg ar yr Ynys;

·     Codwyd cwestiynau ynghylch yr heriau a wynebir o ran cynyddu'r defnydd o'r gwasanaethau Cymraeg i drigolion Ynys Môn?  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod angen ystyried y defnydd o ddata yn ofalus gan fod hyder wrth siarad ac ysgrifennu'r Gymraeg yn gallu amrywio ac mae dyletswydd i sicrhau bod lefel y Gymraeg yn mynd i'r afael ag anghenion y trigolion wrth ofyn am wasanaethau'r Cyngor.  Nododd fod angen i wybodaeth ddigidol fod yn hygyrch i bobl â nam ar eu golwg.  At hyn, dywedodd fod Is-grŵp y Gymraeg y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi codi’r mater fod angen gwella'r defnydd o'r Gymraeg o fewn derbynfeydd ar safleoedd sy'n eiddo i'r Cyngor;

·     Cyfeiriwyd at y ffaith y byddai cynrychiolwyr o wahanol adrannau’n mynychu'r cyfarfod hwn i adrodd ar lefel y siaradwyr Cymraeg yn eu hadran a'r cynnydd a wnaed i gefnogi a darparu hyfforddiant iddynt wella eu sgiliau llafar ac ysgrifenedig.  Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth ei fod yn cytuno bod angen cydnabod llwyddiannau unigolion sydd wedi gallu gwella eu sgiliau Cymraeg. Gellir defnyddio’r Grŵp Hybu'r Gymraeg mewnol i drafod sut i hyrwyddo llwyddiannau staff;

·     Codwyd cwestiynau ynghylch sut y gellir gwella’r modd y caiff defnydd o'r Gymraeg ei hyrwyddo mewn caffis a safleoedd lletygarwch gydag arwyddion Cymraeg ac ati.  Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Democratiaeth y gellir trafod y mater o fewn Fforwm yr Iaith Gymraeg lle mae'r holl sefydliadau partner lleol yn bresennol ac yn gallu trafod materion perthnasol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·          Derbyn Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2022/23;

·         Nodi ei gynnwys ac anfon sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini at yr Aelod Portffolio fel rhan o bendefryniad wedi’i ddirprwyo ac yna ei gyhoeddi.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: