Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn mai dyma flwyddyn olaf y Byrddau Llesiant ar gyfer 2018 – 2023. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu'r hyn a gyflawnwyd fel Bwrdd i wella llesiant cymunedau yn ystod 2022/2023. Nododd fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Sefydlodd y Ddeddf hefyd y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gyda chynrychiolaeth gan gyrff cyhoeddus a'r trydydd sector. Bob pum mlynedd, rhaid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd a defnyddio hyn fel sail ar gyfer y Cynllun Llesiant ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Dywedodd ymhellach fod y Bwrdd wedi dechrau paratoi ar gyfer Cynllun Llesiant 2023 – 2028 ac ym mis Mai 2022, cyhoeddwyd Asesiadau Llesiant Lleol ar gyfer Gwynedd a Môn. Yn unol â gofynion y Ddeddf, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun drafft am gyfnod o 12 wythnos rhwng 12 Rhagfyr 2022 a 6 Mawrth 2023 ac roedd cyfleoedd priodol i unigolion, grwpiau â diddordeb a sefydliadau gymryd rhan yn y broses ymgynghori trwy weithdai a sesiynau gwybodaeth. Nododd ei bod yn fwriad ail-ymweld â'r cymunedau lleol fel y gallant helpu i gyflawni’r Cynllun Llesiant newydd. Cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen fod Is-grŵp Newid Hinsawdd wedi'i sefydlu, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, i annog cydweithio ymysg sefydliadau cyhoeddus i liniaru effaith newid hinsawdd. Dywedodd hefyd bod gwaith wedi ei wneud gan y Bwrdd o ran y Gymraeg gan ei bod yn bwysig i gymunedau lleol allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg a chael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau yn Gymraeg. Mae'r Bwrdd wedi cydweithio â phartneriaethau a chyrff cenedlaethol eraill i osgoi unrhyw ddyblygu ac i rannu syniadau i nodi bylchau ac mae asesiad risg ar lefel strategol wedi ei gynnal yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Wrth ystyried yr adroddiad, cododd y Pwyllgor y materion canlynol:-
· Cyfeiriwyd atg y ffaith fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gwneud gwaith o ran y Gymraeg yn ystod 2018-2023. Holwyd a fyddai'n fuddiol i adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn am yr hyn y mae'r Bwrdd wedi'i gyflawni trwy’r nodau hyn o ran y Gymraeg. Mewn ymatebodd, dywedodd Rheolwr y Rhaglen nad yw'r Gymraeg yn un o nodau penodol y Bwrdd, sydd wedi'i herio, gan fod y Gymraeg yn rhan o'r holl waith a gyflawnir gan y Bwrdd. Cyfeiriodd ymhellach fod y Bwrdd wedi nodi tri nod fel meysydd blaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf a bydd y Gymraeg yn rhan flaenllaw o bob nod a nodwyd;
· Cyfeiriwyd at y ffaith nad yw Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus gofynnol o ran ceisiadau cynllunio. Gofynnwyd a yw'r Bwrdd Iechyd yn ymgysylltu ac yn cyflawni eu rôl o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus? Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod y Bwrdd Iechyd wedi cydweithio’n dda â'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac wedi cyflawni ei ofynion strategol fel rhan o'r Bwrdd. Cyfeiriwyd at y ffaith bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ôl mewn mesurau arbennig a gofynnwyd a yw hyn yn her ac yn risg i'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gyflawni ei nodau? Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen y bydd Prif Weithredwr Dros Dro newydd y Bwrdd Iechyd yn mynychu cyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd trafodaethau'n cael eu cynnal i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi;
· Codwyd cwestiynau ynghylch pa gyfleoedd, heriau a risgiau y mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn eu hwynebu wrth symud ymlaen? Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen mai cryfder y Bwrdd yw gweithio mewn partneriaeth i herio a darparu cyfleoedd o fewn cymunedau. Rhoddodd esiampl - bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn cefnogi'r cais am drydedd bont dros Afon Menai;
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr Adroddiad Blynyddol yn trafod blwyddyn olaf y Cynllun Llesiant ar gyfer 2018-2023. Holwyd pa werth ychwanegol a gyflwynwyd drwy gydweithio fel Bwrdd? Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod aelodau'r Byrddau wedi mynegi eu bod o'r farn bod gweithio o fewn y Bwrdd wedi rhoi gwerth ychwanegol, gan rannu arfer da ar lefel strategol;
· Gofynnwyd i ba raddau y mae sgil effeithiau'r pandemig a'r argyfwng costau byw yn cael effaith ar allu partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni yn erbyn y targedau allweddol a pha wersi a ddysgwyd yn ystod blwyddyn olaf y Cynllun Llesiant? Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen ei bod wedi bod yn anodd i'r sefydliadau partner ymateb i waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystod y pandemig, gan fod ganddynt gyfrifoldebau strategol allweddol yn eu sefydliadau eu hunain. Bydd y Cynllun Llesiant newydd ar gyfer 2023 – 2028 yn fwy realistig o ran yr hyn y gall y sefydliadau partner ei gyflawni a pha werth ychwanegol y gallant ei sicrhau trwy weithio mewn partneriaeth. Nododd fod tri nod corfforaethol o fewn y Cynllun Llesiant newydd yn hytrach na naw fel yn y cynllun blaenorol;
· Gofynnwyd a oedd yr ymatebion i'r holiadur yn cael ei ystyried yn siomedig o ran y cynllun drafft? Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen ei bod o'r farn bod y 499 o ymatebion a dderbyniwyd yn gadarnhaol, fodd bynnag, ystyriwyd y gallai ymgysylltu wyneb yn wyneb fod wedi bod yn fwy effeithiol gyda grwpiau cymunedol. Cafwyd adborth hefyd gan oddeutu 200 o unigolion ychwanegol drwy ymgysylltu e.e. trwy weithdai a sesiynau gwybodaeth ac addaswyd y Cynllun Llesiant mewn ymateb i'r sylwadau a dderbyniwyd.
PENDERFYNWYD:-
· Derbyn yr Adroddiad Blynyddol a nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Llesiant presennol – 2018/2023;
· Nodi y bydd Cynllun Llesiant 2023/2028 yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf, 2023.
GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: