Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg - 2022/2023 : Adroddiad Cynnydd

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, yn absenoldeb Arweinydd y Cyngor, mai pwrpas yr adroddiad yw rhoi diweddariad blynyddol ar y cynnydd a wnaed o ran Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr adroddiad yn cynnwys tair adran sy'n tynnu sylw at y wybodaeth ddiweddaraf am ddata, trefniadau ar gyfer ail-gategoreiddio ysgolion Ynys Môn o ran iaith yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac anstatudol a'r datblygiad diweddaraf o fewn ysgolion a sefydliadau ar yr Ynys.  Dywedodd fod y Gymraeg yn un o chwe blaenoriaeth strategol y Cyngor ac adlewyrchir hyn o fewn y Gwasanaeth Addysg er mwyn cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.  Dywedodd ymhellach fod rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) a ddylai gynnwys gofyniad i 'osod targed sy’n amlinellu'r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y Cynllun o ran faint o addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ei ysgolion a gynhelir sy'n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg'.  Mae data CSCA yn adrodd ar sefyllfa'r Gymraeg mewn addysg ar Ynys Môn rhwng Mehefin 2022 a Mehefin 2023.  Mae'r adroddiad yn nodi sefydlogrwydd canlyniadau 1,2,3, 5 a 6 ac mae’r twf yng nghanlyniadau 4 a 7 (data CSCA Ynys Môn ar gyfer 2022/2023) wedi’i gynnwys yn yr atodiadau i'r adroddiad.    Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc at y broses Categoreiddio Ysgolion a gynhaliwyd dros y flwyddyn hon, ac mae'r Gwasanaeth Dysgu wedi mapio, cyfrannu at y broses ac wedi ymgynghori ag ysgolion i lywio proffil Categoreiddio Ysgolion.  Nododd fod y Gwasanaeth Dysgu wedi ymgynghori a thrafod Categorïau Iaith gydag ysgolion cyn dod i benderfyniad ar y categori.  Mae gan y Gwasanaeth Dysgu 3 chategori - Categori 1 - cyfrwng Saesneg; Categori 2 - Dwy Iaith; Categori 3 - cyfrwng Cymraeg.  Mae pob ysgol gynradd heblaw am un a thair o'r ysgolion uwchradd yng Nghategori 3.  Gan mai un o fwriadau'r drefn newydd o gategoreiddio yw annog ysgolion Môn i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg, mae un ysgol gynradd wedi'i gosod yng Nghategori 2 ac mae dwy ysgol uwchradd yn is-gategori T2 - trosiannol i hwyluso'r broses i ysgolion symud i Gategori 3. 

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ymhellach at raglen 'Makaton’ a ‘Thaith yr Iaith’ y blynyddoedd cynnar a amlygwyd yn yr adroddiad.  Cyfeiriodd yn benodol at y Canllaw Trosglwyddo Gwybodaeth Carfanau Iaith  Blwyddyn 6 a dywedodd fod pob ysgol wedi derbyn canllawiau, cefnogaeth a chymorth i adrodd ar garfan iaith pob disgybl.  Cyfeiriwyd hefyd at ganolfan iaith Ynys Môn sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gwaith gan ysgolion, drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac ar raglenni teledu.  Mynegodd mai'r nod yw sicrhau bod pob plentyn o fewn y system addysg yn ddwyieithog ac yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cododd y Pwyllgor y materion canlynol:-

 

·     Cyfeiriwyd at broses categoreiddio ysgolion ac i ba raddau roedd y data categoreiddio ysgolion yn gywir.  Codwyd cwestiynau ynghylch pa mor drylwyr oedd y broses o asesu ysgolion mewn perthynas â'r categoreiddio yn seiliedig ar sgiliau iaith? Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y data categoreiddio yn deillio o'r trafodaethau gyda phob ysgol unigol ynghyd â defnyddio'r wybodaeth am garfan iaith; defnyddir gwybodaeth gan Gydlynwyr Gwasanaeth Gwe hefyd i fonitro'r data yn flynyddol. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod adroddiad Estyn ar y Gwasanaeth Addysg yn pwysleisio bod gan y Gwasanaeth Addysg y data angenrheidiol a bod gan yr Awdurdod ymwybyddiaeth dda o'r ysgolion ar yr Ynys;

·     Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd plant ysgolion cynradd Blwyddyn 6 (sy'n cael eu categoreiddio o fewn Categori 3) yn gallu parhau i dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg gan fod dwy ysgol uwchradd yng Nghategori T2.  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod pob disgybl unigol yn cael ei asesu o ran eu sgiliau Cymraeg sy'n cael ei gynnwys fel rhan o’r wybodaeth am garfan iaith i'r ysgolion uwchradd ac mai cyfrifoldeb yr ysgolion uwchradd yw darparu addysg cyfrwng Cymraeg i'r disgyblion.   Holwyd ymhellach a oes gan yr ysgolion uwchradd y ddarpariaeth i allu darparu addysg cyfrwng Cymraeg ac athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod canlyniad y CSCA yn nodi faint o athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.  Nododd fod recriwtio athrawon mewn pynciau arbenigol yn her ond roedd yna welliannau bach o fewn yr ysgolion y llynedd;

·     Cyfeiriwyd at y ffaith bod defnyddio'r Gymraeg y tu allan i oriau ysgol yr un mor bwysig ag addysg disgyblion o fewn amgylchedd yr ysgol.  Gofynnwyd a yw'r Gwasanaeth Addysg yn gallu cefnogi gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol pan fydd llai o grant ar gael?  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ei bod yn bwysig bod cyfleoedd i blant a phobl ifanc allu mwynhau a chael gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chlybiau a gweithgareddau ar ôl ysgol yn cael eu darparu o fewn y cymunedau.  Nododd y dylai rhieni hefyd gael eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn amgylchedd y cartref;

·     Holwyd i ba raddau y mae'r Canolfannau Iaith yn ymateb yn llawn i anghenion trochi'r Awdurdod?  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod gan yr Awdurdod ddwy Ganolfan Iaith i newydd-ddyfodiaid dderbyn ymyrraeth drochi’n amserol.  Defnyddir grantiau trochi i gefnogi'r Canolfannau Dysgu ac eleni, mae'r defnydd o grantiau wedi golygu bod trochi’n digwydd trwy aelodau o'r ganolfan yn yr ysgolion uwchradd am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd.  Mae 36 o blant yn cael eu cefnogi yn ystod pob tymor ond mae rhestr aros ar gyfer mynediad i'r Canolfannau Dysgu.  Dywedodd fod cefnogi'r Canolfannau Dysgu yn her ariannol a byddai trydydd Canolfan Ddysgu yn cael ei chroesawu fel na fyddai angen i blant deithio mor bell. Byddai hynny'n mynd i'r afael â chostau trafnidiaeth.  Gwnaed sylw gan aelodau’r Pwyllgor fod rhestr aros ar gyfer y Canolfannau Dysgu yn ôl yr hyn a adroddwyd, a chodwyd cwestiynau ynghylch y gefnogaeth a roddwyd o fewn yr ysgolion i'r disgyblion hyn sy'n aros am fynediad i'r Canolfannau Dysgu.  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod pecynnau dysgu yn cael eu rhoi i'r ysgolion lle mae disgyblion yn aros am fynediad i'r Canolfannau Dysgu a bod staff yn cael sesiynau hyfforddi. Codwyd cwestiynau pellach ynglŷn â'r gefnogaeth i ddisgyblion sy'n mynychu'r Canolfannau Dysgu yn ystod gwyliau'r ysgol gan nad yw rhai cartrefi’n gallu siarad y Gymraeg. Mae'n her i ysgolion gynnal y Gymraeg i'r disgyblion hyn.  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ei fod yn cytuno bod gwyliau’r haf yn gyfnod hir i ddisgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg.  Nododd fod y Gwasanaeth Addysg wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Hamdden sy'n darparu cyfleoedd yn ystod gwyliau'r ysgol.  Dywedodd ymhellach y bydd rhai ysgolion yn darparu gweithgareddau i ddisgyblion yn ystod gwyliau'r ysgol;

·     Cyfeiriwyd at y ffaith ei fod yn nodi yn yr adroddiad bod 90% o staff addysgu yn gallu darparu addysg cyfrwng Cymraeg.  Holwyd a yw'r ganran hon yn gamarweiniol?  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y data yn cael ei dderbyn gan yr ysgolion yn dilyn trafodaethau gyda'r staff addysgu ynghylch canran y staff sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.  Ailadroddodd ei bod yn her recriwtio athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pynciau penodol;

·     Cyfeiriwyd at y ffaith bod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wedi cael gwahoddiad i Ynys Môn yn 2026.  Holwyd a fydd gwahodd Eisteddfod yr Urdd i Ynys Môn yn 2026 yn gwella'r parodrwydd i siarad Cymraeg ac a oes cynlluniau ar waith i baratoi ar gyfer croesawu Eisteddfod yr Urdd i'r Ynys?  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Ysgol Corn Hir i drafod trefniadau i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Ynys Môn yn 2026.  Pan wahoddir digwyddiad o'r fath i unrhyw Sir dywedodd fod brwdfrydedd o ran diwylliant a hanes yr ardal.  Nododd ymhellach fod Ynys Môn wedi cael llwyddiant yn ddiweddar yn Eisteddfod yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin, a bod ysgolion yn haen 3 wedi bod yn cystadlu yn yr Eisteddfod.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·         Derbyn diweddariad ar ddata CSCA Ynys Môn 2022-2023 a'r dull a gynigiwyd i rannu'r wybodaeth hon;

·         Cadarnhau trefniadau i ail-gategoreiddio ysgolion Ynys Môn yn unol â chanllawiau anstatudol cenedlaethol.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: