Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblgu Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol fod yr economi ymwelwyr yn sylfaenol i sefyllfa economaidd gynaliadwy Ynys Môn gyda £360m y flwyddyn yn cael ei ychwanegu i'r economi lleol. Fodd bynnag, dros y 3 blynedd diwethaf, mae nifer yr ymwelwyr â'r Ynys wedi cynyddu a gall hyn gael effaith negyddol ar gymunedau lleol, yn enwedig ar ardaloedd arfordirol yr Ynys. Nododd fod y Cynllun Rheoli Cyrchfan wedi'i gynllunio ar gyfer delio â'r cyfleoedd a'r heriau i'r Ynys. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio ymhellach at flaenoriaethau'r Cynllun ar gyfer 2023-2028, fel y nodir yn yr adroddiad, ac yn arbennig diogelu’r Gymraeg, treftadaeth ac amgylchedd yr Ynys ynghyd â'r budd economaidd i Ynys Môn. Dywedodd ymhellach fod y Cynllun Rheoli Cyrchfan drafft wedi'i gyflwyno a bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal rhwng 28 Ebrill, 2023 a 9 Mehefin, 2023. Cafwyd 48 o ymatebion sy'n cael ei ystyried yn ymateb eithaf isel i'r ddogfen. Fodd bynnag, roedd yr ymatebion yn gadarnhaol ac o ansawdd uchel. Dywedodd yr Aelod Portffolio y bydd Is-grŵp yn cael ei sefydlu gydag aelodau o wahanol sefydliadau gyda ffocws ar greu Cynllun Gweithredu sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng denu twristiaeth i'r Ynys a’r effeithiau posibl ar gymunedau lleol.
Ailadroddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd sylwadau gan yr Aelod Portffolio mai'r sector twristiaeth yw'r sector mwyaf ar yr Ynys. Gwelwyd mewnlifiad o ymwelwyr i’r Ynys yn ystod y 3 blynedd diwethaf ac mae angen lliniaru effeithiau negyddol twristiaeth. Nododd fod angen ailddiffinio'r berthynas gyda'r sector twristiaeth er mwyn sicrhau deialog adeiladol.
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chododd y materion canlynol:-
· Cyfeiriwyd at welliannau ar gyfer gweithgareddau arforol a nodwyd yn y Cynllun. Codwyd pryderon ynghylch problemau wrth i bobl ddefnyddio jet-sgis yn anystyriol ar arfordiroedd Ynys Môn. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod rheoli’r moroedd yn broblem a bod angen ymateb corfforaethol mewn perthynas ag adnoddau ar gyfer y mater hwn;
· Dywedodd y Cadeirydd ei fod o'r farn bod angen ymgorffori Strategaeth Gwella Canol Trefi Môn (a ystyriwyd yn y cyfarfod diwethaf) yn y Cynllun Rheoli Cyrchfan tra bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i adfywio'r cymunedau lleol a'r economi. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod nifer o ddogfennau drafft yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, ac mai ei gyfrifoldeb ef fel Pennaeth Gwasanaeth oedd hyn. Sicrhaodd y bydd y dogfennau’n gyson â’i gilydd;
· Cyfeiriwyd at y ffaith nad ystyrid bod 48 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Rheoli Cyrchfan drafft yn ddigonol. Holwyd a fyddai defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gwella'r ymatebion i broses ymgynghori gyhoeddus o'r fath? Mewn ymateb, dyweodd Rheolwr yr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol ei fod o'r farn bod y 48 ymateb a gafwyd yn adeiladol ac o safon uchel gan gydnabod y byddai nifer uwch o ymatebion wedi bod yn fwy ffafriol. Nododd fod y broses ymgynghori gyhoeddus bresennol yn cael ei chynnal gyda chyfleusterau ar-lein y Cyngor gan ddefnyddio'r wefan a'r datganiadau i'r wasg. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod yr Uwch Dîm Arwain yn ymchwilio i sut mae'r Cyngor yn gallu cynyddu'r ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar ddogfennau amrywiol ar hyn o bryd;
· Dywedodd y Pwyllgor fod angen twristiaeth gynaliadwy ar yr Ynys ac nad yw'n effeithio ar gymunedau lleol. Codwyd cwestiynau ynghylch y bwriad i sefydlu Is-grŵp i drafod materion yn ymwneud â thwristiaeth gynaliadwy? Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr yr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol mai pwrpas sefydlu Is-Grŵp yw hwyluso adborth a syniadau i sicrhau bod y sector twristiaeth yn fwy cynaliadwy yn ogystal â chysylltu ag atyniadau arbennig yr Ynys o ran natur, tirwedd, bywyd gwyllt a hanes Ynys Môn;
· Cyfeiriwyd at gerbydau gwersylla oedd yn parcio’n anghyfreithlon ar ardaloedd penodol ar yr Ynys. Gwnaed sylwadau bod angen cael cyfleusterau parcio digonol ar gyfer cerbydau gwersylla. Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Grŵp Rheoli Twristiaeth mewnol wedi sefydlu Is-Grŵp i drafod yn benodol y mater o gerbydau gwersylla oedd yn parcio’n anghyfreithlon a'r angen i fynd i'r afael â'r cyfleusterau sydd eu hangen ar gerbydau gwersylla;
· Cyfeiriwyd at boblogrwydd Traeth Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch gan dwristiaid sy'n achosi problemau traffig i'r gymuned leol. Mae'r gwasanaethau brys yn methu â chael mynediad i bentref Niwbwrch gan fod y ffordd yn cau. Gofynnwyd sut mae'r Cyngor yn bwriadu mynd i'r afael â'r problemau traffig parhaus sy'n wynebu trigolion Niwbwrch? Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod trafodaethau wedi'u cynnal ar hyn o bryd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i leddfu'r problemau yn Niwbwrch er mwyn sefydlu cynllun gweithredu strategol ar gyfer yr ardal. Nododd fod y Cyngor yn awyddus i fod yn rhan o'r trafodaethau er mwyn rhoi hyder i'r gymuned leol bod y materion traffig wedi cael eu hystyried.
PENDERFYNWYD:
· Argymell bod y Cynllun Rheoli Cyrchfan yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith;
· Gofyn i’r Fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Sgriwtini ystyried priodoldeb rhaglennu eitem benodol ar effaith twristiaeth ar gymunedau lleol ar gyfer cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn y dyfodol.
GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: