Eitem Rhaglen

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n cynnwys Asesiad a Chynllun Gweithredu Digonolrwydd Gofal Plant 2022 ynghyd ag adroddiad cynnydd 2023 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Gary Prichard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Thai yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant fel gofyniad statudol sy'n nodi'r amcanion allweddol a fydd yn helpu i gefnogi twf a chadw darparwyr gofal plant ar yr Ynys a thrwy hynny sicrhau sector gofal plant cynaliadwy sy'n cynnig cyfleoedd datblygu sylfaenol i blant tra cefnogir rhieni/gofalwyr i weithio. Mae Canllawiau Asesu Digonolrwydd Gofal Plant statudol 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gyflwyno'r ddogfen asesu a'r Cynllun Gweithredu i Lywodraeth Cymru. Mae'r Cynllun Digonolrwydd Gofal Plant wedi'i gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor fel mater a neilltuir i'w gymeradwyo gan y Cyngor Llawn o dan y Fframwaith Polisi.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y ddogfen Asesu wedi'i pharatoi ar y cyd â phartneriaid y Gwasanaeth sy'n ymwneud â darpariaeth gofal plant ar Ynys Môn. Mae'r asesiad yn gwerthuso darpariaeth gofal plant ar yr Ynys ac mae'r gwaith yn parhau gyda Dechrau'n Deg a phartneriaid eraill yn y sector i fynd i'r afael â bylchau a datblygu a sicrhau darpariaeth ddigonol. 

 

Croesawodd Aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr adroddiad fel gwerthusiad cynhwysfawr o'r sefyllfa a diolchodd i Reolwr y Blynyddoedd Cynnar am y wybodaeth. Gofynnwyd cwestiynau am y ddarpariaeth yng Nghaergybi a oedd yn ymddangos yn isel ar gyfer ardal boblog, sut mae'r asesiad yn cefnogi cyfleoedd ar gyfer defnyddio’r Gymraeg ac a oedd unrhyw bryderon ynghylch rhwystrau i ddarpariaeth gofal plant yn enwedig ynghylch costau o ystyried mai dyma'r rheswm a nodwyd amlaf pam nad yw rhieni/gofalwyr yn cael mynediad at gymorth gyda gofal plant.

 

Roedd Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar yn cydnabod yr angen am fwy o ddarpariaeth gofal plant yng Nghaergybi yn enwedig darpariaeth ar ôl ysgol a dywedodd fod darpariaeth gofal drwy'r dydd wedi'i chynllunio ar y safle yn Ysgol Llanfawr a gobeithio y bydd ar gael erbyn mis Medi. O ran yr iaith Gymraeg, mae'r gwasanaeth yn arwain gyda rhaglen Taith i Iaith sy'n cynnwys cefnogi darparwyr i gyrraedd safon arian a/neu aur yn y Gymraeg. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i'r ddarpariaeth yn Ysgol Llanfawr a fydd, fel ysgol sy’n derbyn grant iaith Gymraeg, yn cynnig darpariaeth Gymraeg. Mae'r ddarpariaeth Gymraeg a safon darpariaeth y blynyddoedd cynnar wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae costau gofal plant yn bryder ledled Cymru ac yn fater sydd wedi cael ei godi gyda Llywodraeth Cymru. Mae ffactorau sy'n ymwneud â chymwysterau, cynnydd a chyflog hefyd yn broblemau yn y sector.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod teithio, tueddiadau gwaith, dewis personol, y ffaith nad oes  teulu’n byw’n agos, oll yn dylanwadu ar sut a ble mae rhieni a gofalwyr yn cael mynediad at ofal plant ac yn ffactorau sy'n anodd ymateb iddynt a chynllunio ar eu cyfer. Er y gall yr Awdurdod gynllunio'r ddarpariaeth, mae mapio'r tueddiadau hyn yn fwy heriol, ond mae’n bwysig gan fod llawer o benderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud ar sail yr hyn sy'n cyd-fynd â'r diwrnod gwaith.

 

Penderfynwyd derbyn dogfen Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022, Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Gofal Plant a’r adroddiad cynnydd blynyddol atodol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn am gymeradwyaeth fel rhan o Fframwaith y Polisi (paragraff 3.2.2.1.1 y Cyfansoddiad) ac os caiff ei gymeradwyo, i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: