Eitem Rhaglen

Cyfrifon Terfynol Drafft 2022/23 a Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn cynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ar gyfer 2022/23 a'r Fantolen ddrafft ar 31 Mawrth 2023 i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth fanylach am falansau cyffredinol y Cyngor a chronfeydd a glustnodwyd gan gynnwys y defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau yn 2023/24 a'r blynyddoedd dilynol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid. Ynddo amlinellir lefel y balansau cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd sydd, ym marn broffesiynol Swyddog Adran 151 y Cyngor, yn lefel sy'n ofynnol i dalu am unrhyw risgiau ariannol sy'n wynebu'r Cyngor, i fodloni'r ymrwymiadau cyllido presennol a wneir gan ystyried unrhyw gyfyngiadau penodol ar ddefnyddio cyllid. Gall lefel y risg a wynebir gan y Cyngor newid a bydd lefel y balansau cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu hadolygu dros y misoedd nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at yr anawsterau ariannol y mae rhai cynghorau yng Nghymru yn eu hwynebu bellach a phwysleisiodd fod y Cyngor, oherwydd ei fod wedi bod yn ddarbodus yn y ffordd y mae wedi rheoli ei gyllid, mewn sefyllfa well yn ariannol. Er bod y Cyngor fel llawer o rai eraill yn dal i wynebu heriau sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf gyda'r ansicrwydd ynghylch setliad ariannol 2024/25 yn un o’r heriau hynny, bydd y cronfeydd wrth gefn a grëwyd yn rhoi sicrwydd yn erbyn yr heriau a'r risgiau y mae’n debygol o’u hwynebu.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y datganiadau ariannol drafft ar gyfer 2022/23 wedi'u llofnodi gan Swyddog Ariannol Cyfrifol y Cyngor ar 30 Mehefin 2023, a bydd y gwaith o archwilio’r cyfrifon yn dechrau ym mis Awst 2023. Y bwriad yw cwblhau’r gwaith dros yr haf a chymeradwyo’r cyfrifon archwiliedig terfynol erbyn 30 Tachwedd 2023. Mae'r datganiadau yn ddogfennau technegol a chymhleth ac maent yn cynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft (CIES yn Atodiad 2 yr adroddiad) sy'n dangos cost darparu gwasanaethau yn 2022/23 yn unol â gofynion cyfrifo statudol ac mae'n cynnwys Cronfa’r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae'r CIES yn cynnwys costau cyfrifo statudol fel dibrisiant ac addasiadau ar gyfer pensiwn, na chodir amdanynt yn erbyn y Dreth Gyngor ac, felly, maent yn cael eu canslo allan cyn penderfynu ar y sefyllfa derfynol mewn perthynas â balansau cyffredinol, cronfeydd wrth gefn clustnodedig, balans cyfrif y CRT a balansau ysgolion. Mae'r CIES yn dangos mai cost net gwasanaethau oedd £179.599m gyda diffyg o £16.237m ar ddarparu gwasanaethau. Pan wneir addasiadau ar gyfer ailbrisio asedau ac ar gyfer ail-fesur rhwymedigaethau pensiwn, y gwarged net terfynol ar gyfer y flwyddyn yw £132.79m. Yna gwneir addasiadau fel y dangosir yn Nhabl 1 yr adroddiad i benderfynu ar y symudiadau i gronfeydd wrth gefn a balansau gan nodi na ddylai'r ffigwr o £3.258m yn y tabl ymddangos mewn cromfachau gan ei fod yn cynrychioli cyfraniad o gronfeydd wrth gefn a balansau y gellir eu defnyddio yn hytrach na defnydd ohonynt. Mae Tabl 2 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r symudiadau yng nghronfeydd wrth gefn a balansau'r Cyngor ar 31 Mawrth, 2023 gan gynnwys y CRT a chronfeydd wrth gefn ysgolion ac mae'n dangos bod Cronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol y Cyngor yn £13.967m ar y dyddiad hwnnw ond gyda £3.78m o'r cyfanswm hwnnw wedi'i ymrwymo i gydbwyso cyllideb 2023/24. Roedd gan y Cyngor gyfanswm cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio o £54.742m ar 31 Mawrth, 2023.

 

Mae'r Fantolen ddrafft yn Atodiad 3 yn dangos bod gwerth asedau net y Cyngor wedi cynyddu £132.769m o £272.233m yn 2021/22 i £405.002m ar 31 Mawrth, 2023. Mae'r newid sylweddol yn deillio i raddau helaeth o ailbennu gwerth y Gronfa Bensiwn. Ym mis Mawrth, 2022 pennwyd gwerth y Gronfa Bensiwn fel rhwymedigaeth o £121.199m. Mae hyn wedi newid i ased o £19.815 miliwn, sef y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer i'r Gronfa gael ei phrisio fel ased yn hytrach na rhwymedigaeth. Nid yw hyn yn cael unrhyw effaith ar falansau Cronfa’r Cyngor gan ei fod yn addasiad cyfrifo statudol. Ar fantolen y Cyngor ni chaiff hyn ei gofnodi fel ased yn unol â’r safonau cyfrifo, nad ydynt yn caniatáu cofnodi asedau pensiwn net ar y fantolen yn achos y rhan fwyaf o gronfeydd pensiwn. Dyma ddull darbodus ac mae’n adlewyrchu’r ffaith na all y Cyngor gau’r gronfa a chrisialu gwerth amcanol yr ased pensiwn. Mae’r rhwymedigaeth pensiwn wedi’i nodi fel £0 ar y fantolen o ganlyniad i’r sefyllfa o ran yr asedau net. Mae'r fantolen hefyd yn dangos bod benthyciadau'r Cyngor wedi gostwng o £127m i £125m.

 

Diolchodd y Swyddog Adran 151 i staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith ar y cyfrifon drafft ac ategwyd hynny gan yr Aelod Portffolio Cyllid.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, yn benodol a ydynt yn cael eu hadolygu i sicrhau bod y diben y cawsant eu neilltuo ar eu cyfer yn parhau'n ddilys, cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at Atodiad 5 yr adroddiad sy'n dangos trosglwyddiadau i mewn ac allan o'r gwahanol gronfeydd wrth gefn sydd gan y Cyngor sy'n dangos bod y cronfeydd wrth gefn hynny wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru a chadarnhaodd fod hon yn broses flynyddol. Pan na fydd angen cronfeydd wrth gefn mwyach at y diben y cawsant eu creu ar eu cyfer, yna fe'u trosglwyddir yn ôl i Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol y Cyngor. Ar gyfer 2022/23, trosglwyddwyd £4.13m o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn ôl i Gronfa'r Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei bod yn bwysig nodi bod gan y Cyngor gronfeydd wrth gefn a glustnodir i fodloni gofynion y gwyddom amdanynt neu rai a gynlluniwyd yn ogystal ag ar gyfer grantiau nas defnyddiwyd a ddyrennir yn hwyr yn y flwyddyn ariannol a fydd yn cael eu cario ymlaen a'u defnyddio'r flwyddyn ganlynol, a phwysleisiodd fod y rhain yn gronfeydd y mae gan y Cyngor bwrpas a defnydd clir ar eu cyfer.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol fod cronfeydd wrth gefn y Cyngor a sut maen nhw'n cael eu defnyddio yn aml yn cael eu camddeall. Cyfeiriodd at y pwysau sylweddol ar wariant ym maes Gwasanaethau Oedolion sydd yn sicr am ddwysáu gyda'r cynnydd yn y boblogaeth dros 60 oed a'r her y mae hyn yn ei greu o ran darparu gwasanaethau. Felly, mae cynnal lefel ddigonol o gronfeydd wrth gefn yn fater o gynllunio ariannol synhwyrol gan sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gydnerth yn ariannol ac yn gallu parhau i ddarparu'r gwasanaethau hynny yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd –

 

1.    Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer 2022/23. Cyhoeddir y Datganiad Cyfrifon llawn drafft ar gyfer 2022/23 yn https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Cyngor/Cyllideb-y-Cyngor/Datganiad-or-cyfrifon.aspx

·      Nodi’r sefyllfa o ran y balansau cyffredinol, sef £13.967m, a chymeradwyo creu’r cronfeydd wrth gefn clustnodedig newydd a nodir yn Nhabl 3, a ddaw i gyfanswm o £4.320m.

·      Cymeradwyo’r balans o £19.638m fel cyfanswm y cronfeydd wrth gefn clustnodedig ar gyfer 2022/23 (£23.18m yn 2021/22). Mae hyn £3.544m yn is na 2021/22, ac mae’n cynnwys £4.320m o gronfeydd wrth gefn newydd, fel yr argymhellir uchod, a gostyngiad cyffredinol o £7.471m yn y cronfeydd wrth gefn presennol, er bod hyn yn cynnwys symiau sydd wedi cynyddu a gostwng yn y cronfeydd wrth gefn presennol.

·      Nodi’r sefyllfa o ran balansau ysgolion, sef £6.716m.

·      Nodi balans y CRT o £12.107m.

·      Cymeradwyo’r Gronfa Wrth Gefn Grantiau Cyfalaf Heb eu Cymhwyso newydd gyda balans o £0.407m fel y nodir yn y Datganiad Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn yn Atodiad 4.

·      Cymeradwyo trosglwyddo £1.365m o’r cronfeydd wrth gefn gwasanaethau yn ôl i’r gronfa wrth gefn gyffredinol er mwyn cynyddu hyblygrwydd a gwydnwch ariannol y Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: