Eitem Rhaglen

Cynllun Rheoli Cyrchfan 2023-2028

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Cynllun Rheoli Cyrchfan 2023-28 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol. Mae'r Cynllun yn amlinellu uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer rheoli cyrchfan dros y pum mlynedd nesaf ac yn ystyried strategaethau lleol a chenedlaethol. Mae'n darparu strategaeth ar gyfer rheoli pob agwedd ar Ynys Môn fel cyrchfan sy'n cyfrannu at ac yn dylanwadu ar brofiad ymwelwyr a bydd yn sicrhau bod rhinweddau arbennig yr Ynys wrth wraidd y ddarpariaeth i dwristiaid ond na fydd yn cael effaith andwyol o ganlyniad. Er bod Twristiaeth yn un o ddiwydiannau pwysicaf Ynys Môn ac yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi leol mae angen rheoli ei heffeithiau. Ystyrir bod y Cynllun yn cyflawni'r cydbwysedd hwn wrth groesawu'r ffaith bod Ynys Môn yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid gan hefyd geisio mynd i'r afael â'r effeithiau negyddol posibl sy’n gallu deillio o niferoedd uchel o ymwelwyr â'r Ynys. Bydd cyflwyno'r Cynllun yn cael ei gefnogi gan gynllun gweithredu a grŵp cyflawni (y Sefydliad Rheoli Cyrchfannau) a chroesewir cyfraniad rhanddeiliaid o gymunedau lleol yn ogystal â'r diwydiant twristiaeth a busnesau at gyflawni’r Cynllun.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd er nad yw'r Cynllun Rheoli Cyrchfan yn ddogfen statudol, ei bod yn ddogfen bwysig i'r Cyngor o ystyried gwerth y diwydiant twristiaeth i'r Ynys. Daeth y pandemig â phwysau ychwanegol ar yr Ynys fel adnodd a sylweddolwyd bod yn rhaid ei reoli'n fwy cynaliadwy wrth symud ymlaen, sy'n golygu gwneud y mwyaf o'r manteision a ddaw yn sgil twristiaeth i'r Ynys fel cyrchfan ond gan leihau'r effeithiau. Mae’r un mor bwysig sicrhau cefnogaeth cymunedau ar yr Ynys gan sicrhau eu bod yn deall gwerth y sector twristiaeth yn lleol ac fel y sector economaidd mwyaf ar Ynys Môn.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio adroddiad o gyfarfod 21 Mehefin, 2023 y Pwyllgor lle ystyriwyd y Cynllun Rheoli Cyrchfan. Codwyd cwestiynau ynghylch cadernid y broses ymgynghori a sut roedd ei allbwn wedi dylanwadu ar y cynllun diwygiedig. Roedd y Pwyllgor wedi gofyn pam fod Cynllun Rheoli Cyrchfan yn cael ei baratoi a sut mae'n cyd-fynd â Chynllun y Cyngor a dogfennau strategol eraill megis Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn. Ystyriodd yr Aelodau y risgiau a'r heriau wrth gyflawni'r cynllun yn llawn a sut y byddai'n cael ei weithredu drwy'r Sefydliad Rheoli Cyrchfan arfaethedig. Gofynnodd yr Aelodau hefyd sut oedd y Cyngor yn bwriadu gweithio'n effeithiol ar draws gwasanaethau i reoli’r effeithiau a’r cyfleoedd i’r economi ymwelwyr i'r Ynys gan gyfeirio at Niwbwrch a Thraeth Llanddwyn fel enghreifftiau. Ar ôl ystyried y materion hyn a'r ymatebion iddynt, penderfynodd y Pwyllgor argymell y Cynllun Rheoli Cyrchfan a’i fod yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo. Hefyd gofynnwyd i'r fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Sgriwtini ystyried priodoldeb rhaglennu eitem ar effaith twristiaeth ar gymunedau lleol ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i’r pwyllgor Sgriwtini am ei adborth a thynnwyd sylw at yr egwyddorion a'r blaenoriaethau arweiniol a nodir yn yr adroddiad fel sail a rhesymau dros y Cynllun Rheoli Cyrchfan. Gan gydnabod pwysigrwydd twristiaeth i Ynys Môn roedd Aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod bod cynllun fel hwn yn hanfodol er mwyn cynnal cydbwysedd rhwng annog ymwelwyr i werthfawrogi a mwynhau rhinweddau arbennig yr Ynys a sicrhau na cheir unrhyw effaith andwyol o ganlyniad i hynny.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Cynllun Rheoli Cyrchfan newydd (2023-2028).

 

Dogfennau ategol: