Eitem Rhaglen

Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc oedd yn cynnwys Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad ar y strategaeth a gynhaliwyd rhwng 31 Mawrth a 18 Mai 2023.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg a ddywedodd fod sicrhau darpariaeth addysg effeithiol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn un o amcanion strategol y Cynllun Corfforaethol. Ffrwd waith allweddol sy'n gysylltiedig â chyflawni'r amcan hwn yw mabwysiadu a chyflwyno strategaeth newydd ar gyfer moderneiddio cymunedau dysgu a datblygu'r Gymraeg.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yr adroddiad a rhoddodd grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, sef cyfanswm o tua 300. Mae'r materion a godwyd gan randdeiliaid a phartïon â diddordeb ac ymatebwyr eraill yn cael eu hamlinellu yn yr Adroddiad Ymgynghori. Ymgynghorwyd â dros 150 o blant a phobl ifanc o 28 ysgol a chynhaliwyd nifer o sesiynau briffio ar gyfer Penaethiaid, llywodraethwyr ysgolion ac aelodau etholedig. Mewn ymateb i'r adborth a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori, mae Swyddogion wedi ystyried y pwyntiau a godwyd ac wedi gwneud y newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad i'r strategaeth ddrafft. Mae'r rhain yn ymwneud â diwygio'r amserlen weithredu o ran darpariaeth Ôl-16, ychwanegu adran newydd ar ddiwedd y strategaeth i gydnabod y ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer y data o fewn y strategaeth a diweddaru'r model llywodraethu a'r adran i adlewyrchu newidiadau llywodraethu. Mae'r data a ddefnyddiwyd yn y strategaeth hefyd wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r data diweddaraf a ddaeth i'r amlwg yn ystod y broses ymgynghori.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac ymateb iddo.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol drosolwg o'r materion a drafodwyd gan y Pwyllgor pan gyflwynwyd y Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg i’r aelodau yn ei gyfarfod ar 20 Mehefin, 2023. Roedd y materion yn y crynodeb yn cynnwys cadernid y broses ymgynghori a chymharu ag ymgynghoriadau blaenorol o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid,  sut mae allbwn yr ymgynghoriad wedi dylanwadu ar y strategaeth, sut mae'r strategaeth yn helpu'r Cyngor i gyflawni amcanion strategol Cynllun y Cyngor, y ffordd y mae'r strategaeth yn ceisio mynd i'r afael â'r nod o ddarparu adeiladau addysg ac addysgol o'r safonau uchaf i ddysgwyr Ynys Môn, yr heriau a'r risgiau wrth geisio gwireddu'r strategaeth a'r modd y byddai gweithredu'r strategaeth yn cael ei fonitro. Codwyd pwynt hefyd ynghylch i ba raddau yr oedd digon o ardaloedd chwarae ar draws yr Ynys yn ffactor. Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell y Strategaeth a'r gwelliannau a gynigiwyd o ganlyniad i'r adborth o'r ymgynghoriad i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, croesawodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr adborth gan blant a phobl ifanc gan nodi aeddfedrwydd yr ymatebion hynny. Ni ellid gorbwysleisio pwysigrwydd cael barn plant ysgol yr Ynys ar y strategaeth ddrafft gan fod y strategaeth yn ymwneud â'u dyfodol o ran cynnig darpariaeth addysg a fydd yn galluogi plant a phobl ifanc yr Ynys i gyflawni eu potensial llawn beth bynnag fo'u cefndir a'u hamgylchiadau. Nodwyd arwyddocâd y strategaeth mewn perthynas â datblygu'r Gymraeg hefyd yn enwedig o ystyried y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymarfer y Gymraeg ar lafar ac o ddydd i ddydd fel un o'r ffyrdd gorau i ddatblygu sgiliau Cymraeg a hyder yn yr iaith. Cydnabuwyd y cyfeiriad yn y strategaeth at ddarpariaeth ôl-16 a chroesawyd hefyd y gydnabyddiaeth fod angen cryfhau hawl a phrofiad dysgwyr ôl-16.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y camau nesaf, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd grŵp llywio a gweithredu yn cael ei sefydlu; bydd y strategaeth yn darparu'r cyfeiriad strategol a fydd yn sail ar gyfer trafodaethau ar foderneiddio'r stoc ysgolion a'r ddarpariaeth addysgol yn barhaus.

 

Penderfynwyd cymeradwyo a mabwysiadu’r Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg.

 

Dogfennau ategol: