Eitem Rhaglen

Darpariaeth Cinio am Ddim - Ysgol Bodffordd

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cynllun i adleoli caban sydd ar hen safle Ysgol

Corn Hir i Ysgol Bodffordd i'w ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg. Byddai'r cynllun y ceisir cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar ei gyfer yn galluogi Ysgol Bodffordd i ddarparu prydau ysgol am ddim yn unol â chynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, ers cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 a 2, fod y nifer wedi cynyddu, fel y gwelir yn yr adroddiad, a rhagwelir cynnydd tebyg yn y galw wrth i'r cynllun gael ei ymestyn i gynnwys darpariaeth ar gyfer Blynyddoedd 3, 4,  5 a 6. Mae'r Awdurdod nawr yn bwriadu sicrhau bod ysgolion yn barod i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn Ynys Môn erbyn 2024. Lle bo angen, mae mwy o staff yn cael eu recriwtio ac mae gwaith addasu adeiladau yn cael ei wneud. Mae'r heriau o ran hwyluso darpariaeth hyfyw yn Ysgol Bodffordd yn fwy sylweddol ac maent yn risg i allu'r Cyngor i gyflawni'r cynllun. Nid yw'r trefniadau presennol yn yr ysgol fel y disgrifir yn yr adroddiad yn addas ar gyfer y galw presennol am brydau ysgol ac nid yw ymestyn y trefniadau i ddarparu ar gyfer mwy o

blant yn ymarferol yn y tymor hir, yn enwedig gan y rhagwelir erbyn mis Medi 2023, y bydd 74 o blant yn mynychu'r ysgol a bydd pob un yn cael cynnig prydau ysgol am ddim a fydd yn golygu cynnydd posibl o rhwng 15 a 30 o brydau ychwanegol y dydd.

 

Mae ymweliadau ar y cyd wedi’u cynnal â'r ysgol rhwng swyddogion y Gwasanaeth Dysgu ac Eiddo a Swyddogion Chartwell ac mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda staff y gegin a'r Pennaeth. Penderfynwyd mai’r unig opsiwn hyfyw o ganlyniad i gynllun yr adeilad a’r safle ehangach yw addasu un o’r dosbarthiadau wrth ymyl y gegin i fod yn gantîn, ac adleoli'r ystafell ddosbarth. Gan nad oes lle addas o fewn yr adeilad presennol bydd angen creu lle newydd, a gan fod cynllun a lefelau tir yr ysgol yn golygu y byddai datblygu estyniad yn her cynigir mai gosod caban ar safle'r ysgol sydd ar wahân i'r prif adeilad i'w ddefnyddio fel ystafell ddosbarth yw'r ateb mwyaf priodol. Mae’r ffaith bod caban mewn cyflwr da ar gael ar hen safle Ysgol Corn Hir yn golygu y gellir ei ailddefnyddio a thrwy hynny gynyddu gwerth am arian i'r eithaf. Bydd y gwaith o osod y caban, gan gynnwys sicrhau caniatâd cynllunio yn ogystal â gwneud newidiadau i'r gegin ar safle gweithredol, yn cael ei raglennu dros gyfnod o flwyddyn er mwyn rheoli risgiau a tharfu cyn lleied â phosibl yn unol â'r cynllun amlinellol a'r amserlen a nodir yn yr adroddiad. Rhagwelir y bydd yn costio hyd at £250,000. Caiff y gost ei hariannu drwy'r grant prydau ysgol am ddim.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y polisi prydau ysgol am ddim i bob disgybl yn sgil y cytundeb Cydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru sy'n sicrhau y bydd prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru erbyn 2024 yn ddieithriad. Er gwaethaf yr heriau gweithredol i'w goresgyn mewn rhai achosion, byddai'n dod â budd i'r holl blant hynny.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cynllun i adleoli caban sydd ar hen safle Ysgol Corn Hir i Ysgol Bodffordd, yn amodol ar gael caniatâd cynllunio, er mwyn sicrhau bod Ysgol Bodffordd yn gallu darparu cinio am ddim yn unol â chynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd.

 

Dogfennau ategol: