Eitem Rhaglen

Gwella Dibynadwyedd a Chydnerthedd ar draws y Fenai

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys y sylfaen dystiolaeth fanwl a phrif ganfyddiadau adroddiad a gomisiynwyd gan y Cyngor mewn perthynas â gwella dibynadwyedd a chydnerthedd ar draws y Fenai i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Paratowyd y sylfaen dystiolaeth fanwl a'r prif ganfyddiadau gan Quod, ymgynghoriaeth arbenigol ym maes economeg a chynllunio ar ran Cyngor Sir Ynys Môn i gefnogi cyflwyniad y Cyngor i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ynghylch yr angen am groesfan aml-ddull well dros y Fenai.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (CTGC) a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn cydnabod mewn Datganiad Cynnydd ym mis Ionawr 2023 fod Gogledd Cymru yn dibynnu ar gerbydau preifat a bod diffyg dewisiadau trafnidiaeth deniadol neu realistig yn cyfrannu tuag at ddibynnu ar gerbydau preifat ac yn cyfyngu ar gysylltiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Yn achos Ynys Môn mae'r sefyllfa'n waeth gyda thagfeydd a diffyg cydnerthedd o ran croesfannau’r Fenai yn cael effaith ddifrifol o ran y modd y mae’n cyfyngu ar gysylltiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol â gweddill y wlad. Yn waeth na hynny, mae’n rhwystro gallu’r ynys i ddenu’r busnesau a’r gweithgarwch economaidd y mae eu hangen arni i leihau cylch o golli swyddi, llai o gyflogaeth ar yr ynys, ynghyd â chynyddu dibyniaeth ar swyddi oddi ar yr ynys. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae gwaith atgyweirio i Bont Menai ynghyd â damweiniau ar Bont Britannia wedi achosi tarfu difrifol. Gallai rhwydwaith ffyrdd annibynadwy hefyd effeithio ar sefyllfa Ynys Môn fel y lleoliad gorau posibl ar gyfer buddsoddi yn y diwydiant niwclear yn ogystal â gallu Porthladd Caergybi, a ddynodwyd yn ddiweddar fel Porthladd Rhydd, i gystadlu. Mae perygl gwirioneddol na all y porthladd rhydd wneud y mwyaf o'i effeithiolrwydd oherwydd ansicrwydd a diffyg cydnerthedd y rhwydwaith trafnidiaeth i'r Ynys. Bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru, fel yr argymhellwyd gan y Panel Adolygu Ffyrdd i ganslo'r cynnig arfaethedig ar gyfer trydedd groesfan dros y Fenai, yn dwysáu’r heriau a wynebir

gan economi’r ynys ac yn atal camau i roi polisïau allweddol ar waith yn llwyddiannus, sy’n

ceisio ailadeiladu ei sylfaen gyflogaeth a lleihau’r angen i’w thrigolion orfod gadael yr ynys i weithio.

 

Rhyddhaodd CTGC adroddiad interim ym mis Mehefin 2023 ond mae'n croesawu tystiolaeth bellach tan 28 Gorffennaf 2023 cyn cyhoeddi ei argymhellion terfynol. Mae'n hanfodol bod y Cyngor yn cyfrannu at ganlyniad yr adroddiad, ac yn dylanwadu arno.  I'r perwyl hwnnw comisiynwyd Quod gan y Cyngor i baratoi sylfaen dystiolaeth fanwl i gefnogi ei gyflwyniad i'r CTGC am yr angen am groesfan aml-ddull gwell dros y Fenai. Mae'r sylfaen dystiolaeth a'r prif ganfyddiadau sy'n deillio ohono wedi'u cynnwys fel Atodiadau A a B i'r adroddiad yn y drefn honno ac maent yn cadarnhau'r pryderon ynghylch diffyg dibynadwyedd y rhwydwaith ffyrdd a'r pontydd a'i effaith ehangach a'r ffaith ei fod yn ymestyn y tu hwnt i arbedion effeithlonrwydd syml o ran amseroedd teithio. Mae canlyniad adroddiad interim CTGC ym mis Mehefin yn tynnu sylw at sawl opsiwn posibl ar gyfer gwella'r sefyllfa fel y rhestrir yn yr adroddiad. Mae'r Cyngor wedi ystyried yr opsiynau hyn o'r blaen ac o'r farn na fyddant yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r diffyg cydnerthedd sy'n bodoli. Y gobaith yw y bydd cyflwyno'r sylfaen dystiolaeth yn galluogi CTGC i ddeall yn well y materion parhaus o ran sut mae diffyg rhwydwaith trafnidiaeth cydnerth ac opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy yn effeithio ar Ynys Môn a'i thrigolion o safbwynt economaidd, iechyd, addysg, hamdden cymdeithasol ac etifeddiaeth o ran buddsoddi.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd at bryderon ynghylch dibynadwyedd croesfannau’r Fenai mewn perthynas ag ystod eang o weithgareddau a diddordebau. Mae'r Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd bellach yn ymwneud â gwaith sylweddol mewn cysylltiad â datblygu Rhaglen Porthladd Rhydd Ynys Môn ac mae angen nodi'r risg i lwyddiant y Porthladd Rhydd a achosir gan ddiffyg cydnerthedd y ddwy groesfan a materion cysylltiedig - tagfeydd, oedi a tharfu. Cadarnhaodd Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mai diffyg cydnerthedd yn hytrach na chynyddu capasiti yw'r prif bryder gyda damweiniau a thywydd gwael yn arwain at dagfeydd difrifol ar adegau. Yn ogystal â hyn, nid yw'r ddarpariaeth bresennol yn cynnig unrhyw gyfleoedd addas ar gyfer beicio neu gerdded.

 

Cydnabu Aelodau'r Pwyllgor Gwaith ddifrifoldeb a natur frys y sefyllfa a'r effaith a geir os na fyddant yn mynd i’r afael â materion dibynadwyedd a chydnerthedd. Roeddent yn cydnabod yr heriau mynych sy'n wynebu trigolion Môn ac ymwelwyr wrth geisio cynnal eu busnes o ddydd i ddydd pan fydd damweiniau, gwaith cynnal a chadw neu dywydd gwael yn achosi tarfu ac oedi ar groesfannau’r Fenai a chyfeiriwyd at enghreifftiau o hyn o'u profiadau eu hunain. Mynegwyd pryder arbennig am yr effaith y mae diffyg dibynadwyedd y cysylltiadau ffyrdd dros y Fenai yn ei chael ar gerbydau'r gwasanaethau brys ac ar weithwyr gofal ac iechyd sy’n gorfod gofalu am gleientiaid bregus. Roeddent yn cydnabod hefyd ei bod yn broblem i fasnach a busnesau ar yr Ynys, i ysgolion ac i fuddsoddwyr posibl yn ogystal ag ar gyfer twristiaeth fel sector sy’n cyfrannu’n sylweddol at economi Ynys Môn. Er nad oedd y Pwyllgor Gwaith yn anghytuno ag ymdrech Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau carbon mewn ymateb i bryderon amgylcheddol a newid hinsawdd ac er eu bod yn deall yr adolygiad dilynol o brosiectau adeiladu ffyrdd, pwysleisiodd Aelodau’r Pwyllgor Gwaith fod y sefyllfa ar Ynys Môn yn eithriadol o ran bod y problemau cysylltu â'r ddwy bont sy'n heneiddio yn cael effeithiau pellgyrhaeddol gan effeithio ar fywydau a bywoliaethau yn ogystal â bod yn risg i ffyniant economaidd yr Ynys yn y dyfodol. Gan hynny, mae angen ateb mwy radical na'r atebion a gynigir. Beth bynnag, mae'r tagfeydd traffig a achosir gan ddigwyddiadau ar y pontydd yn debygol o gyfrannu at niwed amgylcheddol ac at waethygu allyriadau carbon.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn anfoddhaol a bod y Cyngor yn gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried ei safbwynt polisi a pheidio ag ystyried y cysylltiad dros y Fenai yn yr un modd ag unrhyw ffordd arall yn y wlad. Mae'r Cyngor wedi bod yn ymgysylltu â chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill ar draws y rhanbarth ar y mater hwn ac mae'n bwysig nodi bod y dystiolaeth a gesglir yn adlewyrchiad o anghenion Ynys Môn fel ynys ac nid y Cyngor. Os yw'r Pwyllgor Gwaith yn bwriadu cymeradwyo'r dystiolaeth, bydd yn cael ei rhannu â'r sefydliadau hynny iddynt roi eu cefnogaeth i'r ymdrech i berswadio Llywodraeth Cymru i newid ei safbwynt.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn gefnogol i'r adroddiad a'i ganfyddiadau, a derbyniwyd yr argymhellion gan ychwanegu'r Dirprwy Brif Weithredwr at yr ail argymhelliad.

 

Penderfynwyd –

 

·      Cymeradwyo’r adroddiad a’i gasgliad na ddylai Llywodraeth Cymru ystyried mai prosiect ffordd syml yw Croesfan y Fenai, ynghyd â mabwysiadu safbwynt cadarnhaol o ran polisi sy’n cydnabod yr angen hanfodol i wella dibynadwyedd a chydnerthedd croesfannau’r Fenai.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr neu yn ei absenoldeb y Dirprwy Brif Weithredwr, i gyflwyno sylfaen dystiolaeth y Cyngor i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru cyn y dyddiad cau ar Orffennaf 28ain 2023.

 

Dogfennau ategol: