Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys crynodeb ar gynnydd a’r penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â Rhaglen Porthladd Rhydd Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Llinos Medi, Cadeirydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd a thynnwyd sylw gan y Rheolwr Datblygu Economaidd at y prif bwyntiau i'w hystyried. Mae'r adroddiad yn crynhoi'r datblygiadau hyd yma ac yn amlinellu'r broses i'w dilyn i gyflwyno Achos Busnes Amlinellol yn y cam nesaf yn Rhaglen Porthladd Rhydd Ynys Môn gan gynnwys yr awdurdod dirprwyedig y mae swyddogion yn gofyn amdano i gyfrannu at y gwaith hwn.
Mae porthladdoedd rhydd yn bartneriaeth rhwng porthladdoedd gweithredol a'u hawdurdodau lleol lletyol. Maent yn cynnwys dynodi safleoedd penodol lle bydd
busnesau’n derbyn y buddion hyn o fewn ffin allanol nad yw fwy na 45km o’r
porthladd. Yn y cam ymgeisio, mae'r adroddiad yn nodi’r safleoedd penodol a fyddai’n gallu manteisio ar wahanol reolau tollau, trethi a rheoleiddio. Partneriaeth gyhoeddus/preifat rhwng CSYM fel yr awdurdod lletyol a'r corff atebol a Stena Line, gweithredwr Porthladd Caergybi yw Porthladd Rhydd Môn. Mae’n cael ei gefnogi gan randdeiliaid eraill, gan gynnwys perchnogion tir, Prifysgol Bangor a M-Sparc, Grŵp Llandrillo Menai, Uchelgais Gogledd Cymru, yn ogystal â busnesau sector preifat amrywiol, gan gynnwys buddsoddwyr posibl.Mae’r Porthladd Rhydd yn cynnig cyfle i ddenu buddsoddiad sector preifat newydd
sylweddol ar Ynys Môn ar ôl colli cyflogwyr mawr yn ddiweddar.
Mae Rhaglen Porthladd Rhydd Ynys Môn bellach yn symud ymlaen i'r cam achos busnes gan gynnwys datblygu a chyflwyno Achos Busnes Amlinellol (ABA) yn ystod y chwech i naw mis nesaf cyn paratoi Achos Busnes Llawn (Abl) sy'n debygol o gymryd hyd at ddeuddeg mis. Nid yw Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cyhoeddi'r canllawiau penodol eto ar gyfer Rhaglen Porthladdoedd Rhydd Cymru ond maent wedi nodi y dylai Porthladd Rhydd Ynys Môn fynd rhagddo gan ddefnyddio'r hyn sydd wedi'i gyhoeddi. Pan gyhoeddir canllawiau Cymru, bydd y Cyngor yn ystyried a oes angen newid ei ffordd o weithio. Mae gofynion y broses sydd angen sylw ar unwaith yn cael eu nodi yn yr adroddiad. Er mwyn cefnogi ei gyfraniad i'r broses o ddatblygu'r ABA, mae'r Cyngor wedi penodi Cyfarwyddwr Bid Porthladd Rhydd dros dro drwy Gytundeb Fframwaith y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar gyfer materion economaidd. Mae cyllid ar gyfer y rôl hon ar gael gan Lywodraeth y DU.
Fel yr awdurdod lletyol caiff CSYM ei ystyried yn Gorff Atebol ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn ac yn y rôl honno, bydd yn gyfrifol am amrywiaeth o faterion llywodraethu ac ariannol gan gynnwys rheoli hyd at £26m o gyllid y Llywodraeth os cymeradwyir yr ABA a'r ABLl, yn ogystal â dyletswyddau eraill fel y rhestrir yn yr adroddiad. Bydd angen capasiti ychwanegol i gefnogi'r rôl hon yn bennaf o ran swyddogaethau ariannol a chyfreithiol a Datblygu Economaidd. Bydd ymrwymiad amser hefyd ar gyfer yr uwch swyddogion sydd eu hangen i gymryd rhan yn y strwythurau llywodraethu. Mae’r adroddiad hwn yn ceisio awdurdod i gymryd rhan yn y trefniadau llywodraethu ar gyfer cam nesaf y prosiect. Er mwyn datblygu’r cynigion ar gyfer y cam Achos Busnes Amlinellol, mae angen sefydlu trefniadau llywodraethu diwygiedig. Mae’r trefniadau hyn yn cael eu nodi yn y Cytundeb Cydweithio Cychwynnol a fydd yn cael ei lofnodi gan y ddau bartner – Cyngor Sir Ynys Môn a Stena Line. Ar gyfer Porthladd Rhydd Môn, CSYM a Stena Line yw'r unig awdurdod lleol a gweithredwr porthladd sy'n symleiddio ei strwythur llywodraethu o'i gymharu â'r rhan fwyaf o Borthladdoedd rhydd eraill y DU. Mae awdurdodi'r Prif Weithredwr i lofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn benderfyniad allweddol sy'n ofynnol o dan eitem 17 ar yr agenda.
Cydnabu aelodau'r Pwyllgor Gwaith y gwaith sylweddol a wnaed i baratoi a chyflwyno cais llwyddiannus Porthladd Rhydd Môn a llongyfarchwyd y tîm Datblygu Economaidd sy'n gyfrifol am gyflawni’r gwaith hwnnw. Codwyd nifer o bwyntiau yn y drafodaeth ddilynol ac ymatebodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a'r Rheolwr Datblygu Economaidd fel a ganlyn –
· Trwy gadarnhau y diogelir hawliau gweithwyr a safonau amgylcheddol, a bod y cyfraniad at gyflawni Sero Net ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn faterion craidd a fydd yn cael sylw gan yr ABA ond i ba lefel o fanylder? Mae hynny’n dibynnu ar ganllawiau Cymru pan gânt eu cyhoeddi, yn arbennig gan y bydd yn rhaid paratoi Achos Busnes Llawn manwl wedi hynny.
· Trwy egluro nad yw cyfrifoldebau'r Cyngor fel y corff statudol ar gyfer cynllunio yn cael eu heffeithio gan ddynodiad Porthladd Rhydd a bod trafodaethau gyda Stena Line i sicrhau bod y defnydd o safleoedd yn cydymffurfio yn parhau. Mae statws Porthladd Rhydd hefyd yn rhoi cyfle i'r awdurdod cynllunio lleol greu Gorchmynion Datblygu Lleol a fydd yn rhoi sicrwydd i fuddsoddwyr ynghylch y disgwyliadau.
· Trwy egluro bod y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd wrthi'n briffio gwasanaethau eraill y Cyngor ynghylch yr hyn y mae dynodiad Porthladd Rhydd yn ei olygu yn ymarferol a'r goblygiadau posibl iddynt ac y bydd y broses hon o rannu gwybodaeth yn parhau.
· Trwy gadarnhau bod trafodaeth gyda'r Gwasanaeth Dysgu a phartneriaid eraill sydd â diddordeb mewn addysg a sgiliau wedi dechrau ac y bydd yr wybodaeth a'r arbenigedd hwn yn bwydo i mewn i'r ABA i sicrhau bod dogfennau’r ABA yn gadarn a bod modd eu cyflawni.
· Trwy adrodd, o ran rheoli disgwyliadau mewn perthynas â'r hyn y gallai'r Porthladd Rhydd ei gynnig o ran cyflogaeth, fod Ynys Môn yn dechrau o lefel isel ar ôl colli 750 o swyddi yn ddiweddar yn sgil cau ffatri’r Two Sisters ac oddeutu 3,000 o swyddi dros y 10 mlynedd diwethaf. Os yw'r Porthladd Rhydd yn arwain at greu swyddi ar raddfa a amcangyfrifir rhwng 3,000 a 13,000, yna bydd llawer o'r rhain yn llenwi’r bwlch ar ôl y rhai a gollwyd ar yr Ynys. Yn ogystal â hyn, y gobaith yw y gallai'r Porthladd Rhydd gyfrannu at alluogi rhai o'r 8,000 i 10,000 o drigolion Ynys Môn sydd ar hyn o bryd yn gweithio oddi ar yr Ynys i ddod o hyd i waith yn lleol ar yr Ynys.
· Trwy gadarnhau bod yr adnoddau i gyflawni'r cam nesaf o baratoi a chwblhau'r ABA yn ddigonol. Mae Llywodraeth y DU yn darparu hyd at £300,000 ar gyfer datblygu ABA ac mae Stena Line yn talu costau rhai elfennau ac mae wedi comisiynu ei hymgynghorwyr ei hun i roi cymorth iddo yn hyn o beth.
Dywedodd y Prif Weithredwr, er bod cyllid refeniw yn cael ei ddarparu ar y cychwyn gan Lywodraeth Cymru a'r DU, bydd yn rhaid i Borthladd Rhydd Ynys Môn fod yn hunangynhaliol yn y tymor hir sy'n golygu y bydd disgwyl i'r diddordebau busnes a'r partneriaid sy'n cael buddion o'r Porthladd Rhydd o ran toriadau treth a buddsoddiad gyfrannu yn gyfnewid am hyn, i sicrhau hyfywedd parhaus y Porthladd Rhydd fel nad yw'r baich ariannol yn disgyn yn gyfan gwbl ar yr Awdurdod Lleol a Stena Line. Mae'r rhain yn faterion a fydd yn cael eu trafod yn ystod y misoedd nesaf wrth i'r trefniadau llywodraethu ddatblygu ac ehangu gan sicrhau bod gan y rhai sy'n cyfrannu at y Porthladd Rhydd fewnbwn ynghyd â'r rhai a fydd yn elwa ohono.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Llinos Medi, Cadeirydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd at bwysigrwydd gwerthfawrogi pa mor gymhleth a llafurus yw'r gwaith ar Raglen Porthladd Rhydd a bod angen deall y bydd y buddion a'r enillion yn cymryd amser cyn y byddant i’w gweld. Mae risgiau a heriau hefyd i'r Cyngor fel y Corff Atebol sy'n gyfrifol am oruchwylio materion gweinyddol ac ariannol y Porthladd Rhydd. Fodd bynnag, mae statws Porthladd Rhydd ar Ynys Môn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twf economaidd a gweithgarwch yn lleol ac o fewn y rhanbarth ac mae'n ddatblygiad cyffrous i'r Ynys. Gellir datblygu'r Porthladd Rhydd mewn ffordd sy'n unigryw i'r Ynys ac mewn ffordd sydd hefyd yn sicrhau'r buddion cymdeithasol sy’n gallu deillio o ffyniant economaidd. Cynigiodd argymhellion yr adroddiad a chytunwyd ar y rhain yn amodol ar ddileu argymhelliad (b) gan fod hyn yn berthnasol i eitem 17 ar yr agenda a chynnwys y Dirprwy Brif Weithredwr mewn argymhelliad (c).
Penderfynwyd –
· Nodi llwyddiant bid Porthladd Rhydd Ynys Môn wrth gyflawni statws Porthladd Rhydd.
· Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr neu yn ei absenoldeb y Dirprwy Brif Weithredwr (mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod perthnasol o’r Pwyllgor Gwaith) i gytuno ar unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r Cytundeb Cydweithio Cychwynnol arfaethedig.
· Bod Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn yn cael ei ddynodi fel cynrychiolydd ar Gorff Llywodraethu’r Porthladd Rhydd a bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo iddo wneud unrhyw benderfyniadau angenrheidiol ynghylch amcanion Porthladd Rhydd Ynys Môn a bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo iddo enwebu person arall i fynychu yn ei le, a bydd gan y person enwebedig hawl hefyd i wneud unrhyw benderfyniadau angenrheidiol.
· Cymeradwyo gwneud unrhyw gytundeb grant rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru / Llywodraeth y DU i dderbyn arian cyhoeddus gan y Llywodraeth (hyd at £300,00 ar gyfer yr Achos Busnes Amlinellol).
Dogfennau ategol: