Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad. Er mwyn dangos llywodraethu da mae'n rhaid i'r Cyngor ddangos ei fod yn cydymffurfio â'r egwyddorion craidd (ac ategol) sydd yn y Fframwaith ‘Framework for Delivering Good Governance in Local Government’ CIPFA / Solace. Paratowyd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft yn unol â'r egwyddorion hynny. Mae'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2022/23 wedi'i symleiddio o ran ffurf a chynnwys yn dilyn cyflwyno'r Cod Llywodraethu Lleol i'r Pwyllgor ym mis Rhagfyr, 2022. Mae'r Datganiad yn amlinellu cwmpas cyfrifoldeb a disgwyliadau'r Cyngor ynghylch sut mae'n gweithredu ei fusnes, y Fframwaith Llywodraethu a'r elfennau ynddo, sut y caiff effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethu ei werthuso ac asesu perfformiad yn erbyn yr egwyddorion craidd a sicrhawyd, ynghyd â diweddariad o ran cynnydd ar faterion a nodwyd yn Natganiad y llynedd. Er na nodwyd unrhyw faterion llywodraethu sylweddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2023, tynnodd y broses asesu sylw at nifer o faterion llywodraethu a fydd yn cael sylw yn 2023/24 ac mae’r rhain wedi eu nodi yn y Datganiad. Mae'r Datganiad yn ceisio rhoi sicrwydd ynghylch trefniadau'r Cyngor ar gyfer llywodraethu ei faterion gan gynnwys ei allu i nodi cyfleoedd i wella’r drefn lywodraethu ymhellach a rheoli risg ac adnoddau. Mae'r Datganiad wedi bod trwy broses fewnol ar ôl cael ei ystyried gan y Tîm Arweinyddiaeth a’r Pennaeth Archwilio a Risg.
Wrth ystyried y Datganiad Llywodraethu Blynyddol cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol –
· Ystyr "sylweddol" fel y mae'n berthnasol yng nghyd-destun dim materion llywodraethu sylweddol wedi'u nodi am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2023.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai mater sylweddol mewn perthynas â'r Datganiad Llywodraethu yn fater sy'n effeithio ar allu'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol ac i gyflawni'r amcanion strategol fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28. Nid oes unrhyw fater o'r fath wedi codi fel y gwelir yn yr adroddiadau diweddaru rheolaidd a'r adroddiadau adolygu rheoleiddiol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal â hyn, ni chanfu adroddiad blynyddol y Pennaeth Archwilio a Risg sy’n nodi barn archwilio ffurfiol y prif weithredwr archwilio ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2023 unrhyw feysydd o bryder corfforaethol sylweddol.
· Y ffyrdd y gellid gwella'r cerdyn sgorio corfforaethol fel adnodd rheoli perfformiad effeithiol ymhellach a ph’un ai y dylid ehangu'r broses ar gyfer adolygu'r dangosyddion i'w cynnwys ar y cerdyn sgorio i gynnwys aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er mwyn cael persbectif ychwanegol.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn y broses o gael ei adolygu i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â Chynllun y Cyngor sydd newydd ei gymeradwyo ar gyfer 2023-28. Mae fframwaith llywodraethu'r Cyngor y mae'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn elfen ohono yn cael ei adolygu a'i fireinio'n flynyddol i sicrhau ei fod yn parhau'n effeithiol ac er y byddai'n anymarferol cynnwys y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wrth adolygu'r cerdyn sgorio ar gyfer cyfarfod yng nghanol 2023/24, bydd yr awgrym yn cael ei ystyried wrth adolygu'r cerdyn sgorio ar gyfer 2024/25.
· P'un ai a fyddai monitro gweithgarwch prosiect cyfalaf y Cyngor yn elwa o sefydlu swyddfa rheoli rhaglenni pwrpasol i oruchwylio a chraffu ar gyflawni prosiectau cyfalaf y Cyngor.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r awgrym ar gyfer swyddfa rheoli rhaglenni ar gyfer prosiectau cyfalaf yn cael ei gyflwyno i'r Tîm Arweinyddiaeth ei ystyried.
Ar ôl adolygu'r ddogfen, penderfynodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft 2022/23 a fydd yn ffurfio rhan o Ddatganiad Cyfrifon 2022/23.
Dogfennau ategol: