Eitem Rhaglen

Datganiad o'r Cyfrifon Drafft 2022/23

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Datganiad drafft o'r Cyfrifon ar gyfer 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Nodwyd nad yw'r ffigurau yn yr adroddiad wedi’u harchwilio ac felly efallai y byddant yn newid.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Llofnodwyd y cyfrifon drafft gan Swyddog Ariannol Cyfrifol y Cyngor h.y. y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar 30 Mehefin, 2023 a byddai archwiliad o'r cyfrifon yn dechrau ym mis Awst 2023. Gwnaed cywiriad i Dabl 1 yn yr adroddiad gan na ddylai'r ffigwr o £3,258m, sy’n gyfraniad o gronfeydd wrth gefn a balansau y gellir eu defnyddio, ymddangos mewn cromfachau. Er bod ymdrechion wedi'u gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf i symleiddio'r cyfrifon trwy gael gwared ar nodiadau a ystyrir yn amherthnasol, mae'r Datganiad yn dal i fod yn ddogfen dechnegol a chymhleth. Mae'r cyfrifon gan gynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr yn cael eu cyflwyno yn unol â gofynion cyfrifo statudol yn hytrach nag ar sail sut mae'r Cyngor yn cael ei ariannu, ac o'r herwydd maent yn cynnwys nifer o eitemau na chodir amdanynt yn erbyn y Dreth Gyngor ac felly, maent yn cael eu canslo allan cyn penderfynu ar sefyllfa derfynol y Cyngor mewn perthynas â balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn.

 

Rhoddwyd sylw i’r elfennau canlynol o'r Datganiad Cyfrifon 

 

·         Mae'r Adroddiad Naratif sy'n rhoi trosolwg o berfformiad ariannol y Cyngor am y flwyddyn dan sylw yn ymwneud â gwariant refeniw a chyfalaf ac yn cyfeirio at weledigaeth, blaenoriaethau a strategaethau'r Cyngor a'r heriau y mae wedi'u hwynebu. Mae hefyd yn rhestru'r datganiadau ariannol craidd sydd i ddilyn. Mae'r adroddiad naratif yn rhoi sylwebaeth ar sut mae'r Cyngor wedi defnyddio ei adnoddau yn ystod y flwyddyn i gyflawni'r amcanion a nodwyd ganddo.

·         Mae'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) drafft yn dangos cost darparu gwasanaethau yn y flwyddyn yn unol â gofynion cyfrifo statudol ac mae'n cynnwys Cronfa’r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae'n cynnwys addasiadau cyfrifo fel dibrisiant ac addasiadau pensiynau nad ydynt yn cael eu hariannu gan drethdalwyr y Cyngor felly nid yw effaith y rhain wedi'u cynnwys yn y nodyn a elwir yn Addasiadau rhwng y Sail Gyfrifo a'r Sail Gyllido (Nodyn 6 yn y Datganiad Cyfrifon). Mae'r CIES yn dangos mai cost net gwasanaethau oedd £179.355m gyda diffyg o £15.993m ar ddarparu gwasanaethau. Gwneir addasiadau yn unol â Thabl 1 yr adroddiad rhagarweiniol i benderfynu ar y symudiadau i gronfeydd wrth gefn a balansau (Nodyn 6). Yna caiff y CIES a'r addasiadau yn Nodyn 6 eu dwyn ynghyd yn y Datganiad ar y Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn i ddangos beth oedd balansau'r Cyngor ar 31 Mawrth, 2023 sy'n adlewyrchiad cywir o sefyllfa ariannol y Cyngor.

·         Mae'r Datganiad ar y Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn yn dangos y newidiadau yn y flwyddyn yn y gwahanol gronfeydd wrth gefn sydd gan y Cyngor. Roedd gan y Cyngor gyfanswm o £54.742m o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio wedi'u dosbarthu rhwng y Gronfa Gyffredinol, Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd, y Cyfrif Refeniw Tai, cronfeydd wrth gefn ysgolion, Cronfeydd wrth gefn Derbyniadau Cyfalaf a Chronfa Grantiau wrth gefn Heb eu Defnyddio ar 31 Mawrth 2023. Mae hyn yn ostyngiad o'r £58m o'r flwyddyn flaenorol. Mae'r rhain yn adnoddau sydd gan y Cyngor ar gael i'w gwario. Roedd balans drafft y Gronfa Gyffredinol y Cyngor yn £13.967m sy'n cyfateb i 8.8% o'r gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 ac mae £6.067m yn uwch na'r trothwy isaf ar gyfer Balans y Gronfa Gyffredinol a osodwyd gan y Pwyllgor Gwaith, sef 5% o'r gyllideb refeniw net neu £7.9m. 

·         Nod y Dadansoddiad Gwariant a Chyllid yw dangos gwir effaith perfformiad ariannol y flwyddyn ar falansau'r Cyngor. Er ei bod yn anodd cysoni'r CIES â'r wybodaeth a gyflwynir yn y tablau yn yr adroddiad mae'r Dadansoddiad Gwariant a Chyllid yn cyflawni'r swyddogaeth hon yn rhannol. Mae'r CIES yn cynnwys llawer o addasiadau cyfrifo nad ydynt yn wir gostau sy'n effeithio ar falansau y gall y Cyngor eu defnyddio. Er mwyn sicrhau nad yw'r costau cyfrifo hyn yn effeithio ar drethdalwyr y Cyngor a chronfeydd y Cyngor, cânt eu canslo allan yn y Dadansoddiad Gwariant a Chyllid.

·         Mae'r Fantolen yn dangos gwerth asedau a rhwymedigaethau'r Cyngor ar 31 Mawrth

2023. Mae gwerth asedau net y Cyngor wedi cynyddu o o £132.769m o £272.33m yn 2021/22 i £405.002m ar 31 Mawrth 2023. Cynyddodd gwerth asedau hirdymor y Cyngor £20.918m oherwydd gwariant cyfalaf ar eiddo, peiriannau ac offer y Cyngor ac ailbrisio asedau presennol. Mae'r newid mwyaf arwyddocaol yn ymwneud ag ailbennu gwerth y Gronfa Bensiwn at ddibenion cyfrifo. Ar gyfer 2022/23 dangosir bod £19.815m o asedau net, sy'n welliant o £141.014m o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Y rheswm am hyn yw effaith y cynnydd yn y cyfraddau llog a bondiau y mae’r ffactor disgownt yn seiliedig arnynt, ac y mae’n rhaid i’r Actiwari eu defnyddio wrth ddisgowntio rhwymedigaethau’r gronfa bensiwn yn y dyfodol gyda gwerth presennol asedau’r gronfa bensiwn. Fodd bynnag, gan nad yw safonau cyfrifo’n caniatáu adrodd hyn fel ased ar y Fantolen oherwydd na all y Cyngor wireddu gwerth yr ased ar hyn o bryd, fe’i dangosir fel £0 ar y fantolen. Esbonnir canlyniadau'r prisiad cyfrifo yn y nodyn Pensiynau Llywodraeth Leol 34 i'r cyfrifon.

 

·      Mae'r Datganiad Llif Arian yn dangos y newidiadau mewn arian parod a gwerthoedd sy’n cyfateb i arian parod y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol ac mae'n dangos sut mae'r Cyngor yn cynhyrchu ac yn defnyddio arian parod a gwerthoedd sy’n cyfateb i arian parod drwy ddosbarthu llif arian yn weithgareddau gweithredu, buddsoddi a chyllido.

·      Mae'r nodiadau i'r cyfrifon yn darparu rhagor o wybodaeth a chyd-destun i'r ffigurau sydd yn y datganiadau ariannol craidd.

 

Yn y drafodaeth ddilynol ar gynnwys y Datganiad Cyfrifon, cododd y Pwyllgor y materion canlynol 

 

·      P'un a yw'r cyfrifon ar gyfer 2022/23 yn dangos unrhyw newidiadau sylweddol neu dueddiadau niweidiol o'i gymharu â chyfrifon blynyddoedd blaenorol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r pwynt ffocws yw balansau'r Cyngor sydd wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i dalu am gostau’r ymateb i bandemig Covid-19 ond sydd bellach yn dechrau gostwng. Mae gan y Cyngor ddefnydd wedi'i gynllunio ar gyfer elfennau o'i gronfeydd wrth gefn, yn enwedig y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a'r cronfeydd wrth gefn Cyfrif Refeniw Tai oherwydd bod y rheini wedi'u neilltuo at ddibenion penodol. Mae disgwyl i falansau ysgolion leihau hefyd wrth i ysgolion ddefnyddio'r cyllid dal i fyny Covid yn llawn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu disgyblion i wneud iawn am yr addysg a gollwyd yn ystod y pandemig. Mae'r tanwariant o £1.212m ar gyllideb refeniw 2022/23 wedi cyfrannu at Falansau Cyffredinol y Cyngor gan ddod â'r cyfanswm i £13.967m er bod £3.8m o'r swm hwn wedi'i ymrwymo i ariannu cyllideb 2023/24 ac mae'n debygol y bydd y cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio eto i gydbwyso cyllideb 2024/25. Bydd yn rhaid i unrhyw orwariant ar gyllideb 2023/24 gael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn hefyd.  Er nad oes unrhyw newidiadau/symudiadau yn y cyfrifon sy'n destun pryder ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd y Cyngor yn wynebu heriau yn y dyfodol yn enwedig wrth osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25, a rhagwelir tuedd ar i lawr ym malansau’r Cyngor o ganlyniad i hyn. Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu wrth benderfynu ar gyllideb 2024/25 a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

·      Diffyg cyfeiriad penodol yn y cyfrifon at ddarpariaeth ar gyfer prosiectau newid hinsawdd a lleihau carbon.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Strategaeth Gyfalaf newydd yn cael ei datblygu a fydd yn ystyried gofynion a blaenoriaethau cyfalaf y Cyngor a sut y caiff y rheini eu hariannu. Fodd bynnag, byddai mynd i'r afael â dyheadau a holl anghenion y Cyngor yn gofyn am swm sylweddol o gyllid sydd, o ran benthyca, yn afrealistig ac yn anfforddiadwy. Felly, mae'n rhaid blaenoriaethu a chydbwyso anghenion yn erbyn fforddiadwyedd fel nad yw'r Cyngor yn rhoi ei hun dan ormod o bwysau ariannol i'r un graddau â rhai cynghorau lle mae talu costau dyled yn rhoi pwysau ar adnoddau refeniw. Rhaid ystyried lefel y benthyca i gefnogi gwariant cyfalaf yn ofalus a rhaid i’r strategaeth gael ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor gan gofio hefyd y gallai trigolion Ynys Môn orfod talu mwy yn flynyddol am fuddsoddi mewn asedau ac i geisio cyrraedd targedau sero net. Er bod cyflawni statws sero net ymhlith blaenoriaethau'r Cyngor, ni wnaed unrhyw ddarpariaeth benodol ar gyfer hynny hyd yma.

 

·      Eglurhad o ffigurau'r dyledwyr, y berthynas â'r ddarpariaeth ar gyfer drwg ddyledion sy'n werth cyfanswm o £8.149m a chasglu dyledion.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod dyledion y Cyngor yn cael eu hasesu ar sail gwerth ac oed y ddyled yn ogystal â'r tebygolrwydd y bydd y Cyngor yn llwyddo i’w hadennill. Po hynaf fo’r ddyled y lleiaf tebygol y bydd yn cael ei hadennill. Gwneir darpariaeth ar gyfer drwg ddyledion bob blwyddyn a chodir tâl yn erbyn y gyllideb refeniw yn unol â hynny i ariannu'r ddarpariaeth. Mae dyledion a awdurdodwyd i gael eu dileu oherwydd eu bod yn cael eu hasesu fel rhai na ellir eu hadennill yn cael eu tynnu oddi ar y system ac yna'n cael eu codi yn erbyn y ddarpariaeth ar gyfer drwg ddyledion. Mae'n anos casglu rhai mathau o ddyledion e.e. dyledion gofal cartref/preswyl pan fo tâl yn ddyledus gan unigolion bregus ac na ellir tynnu'r gwasanaeth yn ôl neu pan fo caledi yn ffactor. Caiff y rhain eu hadlewyrchu yn yr asesiad blynyddol. Yn achos y Dreth Gyngor, nid yw'r sylfaen dreth, pan bennir hi’n flynyddol, yn cael ei gosod ar 100%, er mwyn caniatáu ar gyfer dyledion na lwyddir eu casglu (mae cyfradd casglu'r Dreth Gyngor bresennol yn 99.3% yn ôl pob tebyg). Mae'r swm o £8.149m a welir yn y cyfrifon yn adlewyrchu swm sydd, yn ôl asesiad darbodus y Cyngor yn un y gallai fod yn rhaid ei ddileu (ar ôl ystyried y mathau o ddyledion heb eu talu ac ar ôl rhoi cynnig ar bob proses o geisio eu hadennill) nad yw, yng nghyd-destun cyfanswm yr incwm a gesglir gan y Cyngor yn flynyddol, yn swm eithriadol.

 

·      Mae effaith cyfradd llog yn codi ar fenthyciadau'r Cyngor gan ystyried y ffaith, er y bydd y Cyngor yn derbyn elw uwch ar ei fuddsoddiad y bydd yn talu mwy i'r gwrthwyneb am fenthyca.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn benthyca gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) fel mater o drefn am gyfnod penodol yn amrywio o flwyddyn i hanner can mlynedd a bod y gyfradd llog yn amrywio yn ôl hyd y benthyciad gyda chyfraddau gwell ar gyfer telerau benthyg hirach. Tra bod cyfraddau llog yn isel, mae'r Cyngor wedi bod yn defnyddio ei falansau arian parod i ariannu gwariant cyfalaf gan fod yr elw o fuddsoddi’n wael. Gan fod cyfraddau llog wedi cynyddu, mae'r elw ar fuddsoddi bellach yn golygu eu bod yn uwch na chyfradd llog hirdymor PWLB ac felly’n codi'r cwestiwn a yw bellach yn amserol i'r Cyngor fod yn benthyca o ystyried bod ganddo'r gallu i wneud hynny ar ôl defnyddio benthyciadau mewnol yn y gorffennol yn hytrach yn hytrach na benthyciadau allanol ac oherwydd y byddai’n well i unrhyw arian dros ben gael ei fuddsoddi na'i ddefnyddio i ariannu gweithgarwch cyfalaf. Y risg wrth fenthyca yn y tymor hir ar hyn o bryd yw y gallai cyfraddau llog ostwng a gallai'r Cyngor gael ei hun mewn sefyllfa lle mae’n talu cyfradd uwch am gyfnod o amser pan allai fod wedi benthyca yn rhatach pe bai wedi aros. Wrth benderfynu a ddylid benthyca ai peidio, bydd y Cyngor yn ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys amseru fel rhan o'i strategaeth rheoli trysorlys. Mae benthyca rhwng awdurdodau hefyd yn opsiwn er ei fod ar raddfa lai ac yn amodol ar wiriadau diwydrwydd dyladwy.  

 

·      Y cynnydd ym mhrisiad asedau'r Cyngor a'r sail ar gyfer y cynnydd, yr hyn y mae'n ei olygu yn ymarferol os nad oes modd gwireddu gwerth yr asedau a ph’un ai a oes gan asedau ran mewn benthyca.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad yw benthyciadau'r Cyngor wedi'u gwarantu yn erbyn unrhyw un o'i asedau gan fod y cyfleuster benthyca PWLB yn cael ei weithredu gan y Llywodraeth gyda chronfeydd y Llywodraeth. Mae prisio asedau'n bodloni gofynion cyfrifo. Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn gwerthu asedau sy'n cael eu hystyried fel rhai nad oes eu hangen oherwydd nad oes ganddynt unrhyw ddefnydd gweithredol mwyach, e.e. ysgolion sydd wedi cau fel rhan o raglen foderneiddio'r ysgolion a bod y derbyniadau cyfalaf wedi cael eu defnyddio i ariannu ysgolion newydd. Mae asedau'r Cyngor yn cynnwys ei stoc dai sydd, oherwydd bod yr eiddo dan denantiaeth, yn cael eu prisio ar sail gwerth defnydd presennol Tai Cymdeithasol yn hytrach na gwerth y farchnad. O ran ariannu gweithgarwch cyfalaf, mae'r Cyngor yn ceisio gwneud y mwyaf o arian grant yn y lle cyntaf gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol a benthyca â chymorth gan Lywodraeth Cymru (lle mae costau benthyca yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru) er mwyn lleihau'r angen i fenthyca yn allanol. Bydd y Cyngor yn ystyried benthyciadau heb gymorth os bydd y buddsoddiad yn dod ag incwm i mewn, yn cynhyrchu arbedion e.e. mewn costau rhedeg neu’n cynyddu gwerth ased ond byddai'n rhaid iddo dalu am hynny o'i gyllideb refeniw ar ffurf taliadau llog a'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw sy'n dâl a godir yn erbyn y gyllideb refeniw bob blwyddyn i neilltuo swm i dalu'r benthyciad yn ôl. Mae'r rhain yn ffactorau wrth ystyried a ddylid benthyca ai peidio er mwyn sicrhau bod benthyciadau’n dal i fod yn fforddiadwy. Mae cynghorau sy'n cael trafferth talu eu dyledion wedi benthyg i fuddsoddi mewn eiddo masnachol i gael incwm sydd, oherwydd ffactorau gan gynnwys y pandemig, heb sicrhau’r refeniw a ddisgwylid.

 

·      P'un ai a yw'r cynnydd yng nghost darparu gwasanaethau o £147.569m yn 2021/22 i £179.355m yn 2022/23 fel y dangosir yn y CIES yn gynnydd gwirioneddol ac yn gynnydd o flwyddyn i flwyddyn ac os felly, a yw'n achos pryder.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cynnydd yn rhannol yn cynrychioli cynnydd gwirioneddol yng nghost darparu gwasanaethau oherwydd chwyddiant a chodiadau cyflog fel y nodwyd gan gyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer 2023/24 sydd ar sail £175m net yn gynnydd o tua £16m ar gyllideb y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae'r ffigwr ar gyfer cost gwasanaethau yn y CIES hefyd yn cynnwys eitemau fel dibrisiant a chostau gwasanaeth presennol pensiynau sydd wedi'u cynnwys at ddibenion cyfrifo yn hytrach nag fel adlewyrchiad o sut mae'r Cyngor yn cael ei ariannu. Gwneir cymhariaeth gywirach ar sail ariannol yn y Dadansoddiad Gwariant a Chyllido lle mae'r gwariant net wedi cynyddu o £123.596m yn 2021/22 i £148.068m yn 2022/23 ond gan ystyried y ffaith bod y ffigwr hwn hefyd yn cynnwys y CRT sydd ar wahân ac nad yw'n cael ei ariannu gan y Dreth Gyngor. Mae argyfwng costau byw yn cael effaith ar y Cyngor ar ffurf chwyddiant a chostau cynyddol ac mae'n her wrth symud ymlaen.

 

·      Mae prisiad y Gronfa Bensiwn sydd wedi newid o rwymedigaeth o £121.199m yn 2021/22 i ased o £19.815m yn 2022/23 oherwydd effaith cynnydd yn y cyfraddau llog a bondiau. Os bydd cyfraddau llog yn codi a bod yr effaith yn cael ei hystyried fel un tymor byr o bosibl, gofynnwyd a ddylid ailddatgan y cyfrifon ar sail y rhwymedigaeth ac a yw'n bosibl atal y camliwio yn y Fantolen sy’n gallu digwydd pan fo amrywiadau sylweddol ym mhrisiad y Gronfa Bensiwn.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod prisiad y Gronfa Bensiwn gan yr Actiwari at ddiben y cyfrifon yn un damcaniaethol a’i fod rhagweld beth fyddai rhwymedigaeth neu ased y Cyngor pe bai'r gronfa'n peidio â bodoli. Caiff ei wneud ar sail cyfrifeg ac nid yw'r canlyniadau'n effeithio ar gronfeydd gwirioneddol y Cyngor. Mae'r prisiad ariannol a gwblheir bob tair blynedd er mwyn cyfrifo'r cyfraniadau a lefel y cyllid sydd ei angen yn rhoi darlun cywirach o wir werth y Gronfa gan fod y broses hon yn ystyried yr asedau gwirioneddol y buddsoddir y gronfa ynddynt ar y dyddiad prisio ac yn asesu p’un ai yw'r enillion ar yr asedau hynny'n debygol o dalu'r holl daliadau yn y dyfodol i aelodau yn seiliedig ar yr holl fuddion a enillir hyd at y dyddiad prisio. Ar gyfer y prisiad hwn defnyddir set wahanol o dybiaethau. Os yw gwerth yr asedau a'r enillion yn y dyfodol yn is na'r rhwymedigaeth a amcangyfrifwyd yn y dyfodol, yna bydd cyfraddau cyfraniadau'r Cyngor yn cynyddu i dalu am y gwahaniaeth dros gyfnod penodol o amser. Yn y prisiad cyllid diwethaf ariannwyd y Gronfa Bensiwn 110%.

 

·      O ran cyfanswm y gwariant cyfalaf o £40.690m ar gyfer 2022/23, nodwyd er bod £26.595m wedi'i gyfalafu a'i ychwanegu at werth yr asedau ym Mantolen y Cyngor, codwyd y gweddill ar y CIES ac ni chynyddodd £11.881m werth yr asedau cyfalaf. Gofynnwyd a fyddai wedi bod modd rhagweld hyn.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod rheolau cyfrifo’n golygu bod y gwariant cyfalaf y mae'r swm yn cyfeirio ato yn cael ei drin fel refeniw yn y cyfrifon oherwydd nad yw wedi cael ei wario ar  neu wedi cynyddu gwerth ased sy'n eiddo i'r Cyngor. Dyma’r achos er enghraifft gyda gwariant Grant Cyfleusterau i'r Anabl sydd, at ddibenion cyllideb a chyllid y Cyngor, yn cael ei drin fel gwariant cyfalaf gan ei fod yn cael ei ariannu o adnoddau cyfalaf ond oherwydd ei fod yn cynnwys gwelliannau i eiddo preifat yn hytrach nag i ased o dan berchnogaeth y Cyngor, caiff ei drin fel refeniw yn y cyfrifon.

 

·      O ystyried cymhlethdod y Datganiad Cyfrifon, cwestiynwyd ei werth o safbwynt rhoi gwir gynrychiolaeth o berfformiad a safbwynt ariannol y Cyngor i'r darllenydd cyhoeddus, yn enwedig gan fod modd camddehongli'r ffigurau yn y datganiadau ariannol ac mae'n anodd eu cysylltu â ffigurau alldro gwirioneddol cyllideb y Cyngor. Awgrymwyd y gellid cyhoeddi crynodeb byr a symlach o wybodaeth am gyfrifon sy'n hawdd i'r cyhoedd ei weld ar wefan y Cyngor, efallai ochr yn ochr â Llyfr Cyllideb y Cyngor sy'n darparu gwybodaeth fanwl am gyllidebau gwasanaeth.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr adroddiadau monitro cyllideb ac alldro i'r Pwyllgor Gwaith yn darparu gwybodaeth am berfformiad gwirioneddol gwasanaethau'r Cyngor yn erbyn cyllidebau yn y flwyddyn yn ogystal â chynnydd gwariant a gweithgarwch cyfalaf a bod y rhain ar gael o dan adran y pwyllgorau a’r cyfarfodydd ar y wefan.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y byddai'n ystyried drafftio crynodeb un dudalen o brif ffigurau’r cyfrifon ar gyfer gwefan y Cyngor.

 

Ar ôl craffu ar Ddatganiad drafft y Cyfrifon ar gyfer 2022/23 penderfynodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nodi'r prif ddatganiadau ariannol heb eu harchwilio drafft ar gyfer 2022/23.

 

Gweithredu: Paratoir crynodeb i ddarparu prif ffigurau’r cyfrifon ac ynghyd â Llyfr Cyllideb y Cyngor, byddant ar gael ar wefan y Cyngor i'r cyhoedd gael mynediad hwylus atynt.

 

Dogfennau ategol: