Eitem Rhaglen

Adolygiad Blynyddol ar Reoli'r Trysorlys 2022/23

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys adolygiad o weithgarwch rheoli'r trysorlys yn 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Yn unol â rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, mae’n ofynnol i’r Cyngor lunio adolygiad blynyddol rheoli’r trysorlys o weithgareddau a’r dangosyddion darbodus a thrysorlys gwirioneddol ar gyfer 2022/23.

 

Mae'r adroddiad yn nodi'r canlyniadau ariannol canlynol ym mlwyddyn ariannol 2022/23 –

 

·                     Ffactorau allanol gan gynnwys y cyd-destun economaidd, perfformiad cyfraddau llog ac effaith Covid-19.

·                     Ffactorau mewnol gan gynnwys perfformiad gwariant cyfalaf, yr effaith ar y cronfeydd wrth gefn a'r balansau arian parod, archwaeth risg o ran buddsoddiadau, y benthyciadau a gymerwyd gan y Cyngor a'r effaith ar y Gofyniad Cyllido Cyfalaf.

·                     Y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn 2022/23 gan gynnwys rheoli dyledion, polisi Darpariaeth Refeniw Isaf (MRP) newydd, a benthyciadau a buddsoddiadau’r Cyngor yn ystod y flwyddyn.

·                     Rheoli’r Trysorlys drwy Ddangosyddion Darbodus a sut mae'r rhain yn cael eu rheoli.

·                     Cymharu’r Dangosyddion Darbodus gwirioneddol gyda'r rhagolygon ar ddechrau'r flwyddyn

·                     Rhagolygon ar gyfer 2023/24 a thu hwnt.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y tabl ym mharagraff 3.1 o'r adroddiad a oedd yn dangos gwariant cyfalaf gwirioneddol y Cyngor am y flwyddyn – un o'r dangosyddion darbodus gofynnol a sut y cafodd hyn ei ariannu. Roedd y gyllideb yn dangos tanwariant o £14m sy'n llithriad llawer llai o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol gyda'r prosiectau a restrir yn y paragraff yn gyfrifol am y tanwariant. Nodir cronfeydd wrth gefn a balansau arian parod y Cyngor ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad ac maent yn dangos cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio sy'n werth cyfanswm o £59.779m. Ni fu unrhyw fenthyciadau allanol yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23, yn hytrach, mae'r Cyngor wedi parhau i weithredu ei strategaeth fenthyca fewnol gan fod cyfraddau buddsoddi wedi bod yn is na chyfraddau benthyca hirdymor sy'n golygu y byddai ystyriaethau gwerth am arian yn dangos y gellid sicrhau’r gwerth orau drwy beidio â chymryd benthyciadau allanol newydd ond yn hytrach, defnyddio balansau arian parod i ariannu gwariant cyfalaf newydd, neu yn lle dyledion allanol sy’n aeddfedu. Mae'r tabl ym mharagraff 3.3.2 o'r adroddiad yn dangos mai sefyllfa fenthyca fewnol y Cyngor ar 31 Mawrth, 2023 oedd £20.3m. Yn ystod y flwyddyn, ni wnaeth y Cyngor ymrwymo i unrhyw fenthyciadau tymor byr eraill. Derbyniwyd benthyciad di-log o £1.123m yn y flwyddyn i ariannu gwariant cyfalaf ar brosiectau arbed ynni a bydd yn cael ei ad-dalu mewn rhandaliadau.

 

Y strategaeth fuddsoddi ddisgwyliedig oedd cadw at adneuon tymor byrrach, er y cedwid y gallu i fuddsoddi am gyfnodau hwy. Gwelwyd gwelliant mewn enillion ar fuddsoddiadau a godwyd trwy gydol 2022/23 wrth i gyfraddau llog godi. Roedd y gyllideb llog o £5k a osodwyd ar gyfer 2022/23 yn seiliedig ar y llog a dderbyniwyd y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, roedd y ffaith bod cyfraddau llog yn codi’n golygu bod mwy o gyfleoedd i fuddsoddi arian dros ben gyda balansau cyfartalog o £55.8m yn sicrhau £0.863m ar gyfradd llog gyfartalog o 1.55%. Yr anfantais i gyfraddau llog uwch yw bod benthyca wedi dod yn fwy costus. Ceir manylion yr holl fuddsoddiadau newydd yn y flwyddyn gyda'u cyfraddau llog yn y tabl ym mharagraff 3.6 yr adroddiad. Y strategaeth wrth symud ymlaen yw osgoi buddsoddi gydag awdurdodau lleol gan fod balansau ariannol y Cyngor bellach yn lleihau, mae mwy o opsiynau ar gael gyda'r banciau ac oherwydd yr ansicrwydd ariannol, mae mwy o risg yn gysylltiedig ag awdurdodau lleol wrth i nifer o gynghorau gael eu hunain mewn trafferthion ariannol.

 

Nodir egwyddorion strategaeth rheoli trysorlys y Cyngor ar gyfer 2022/23 yn adran 4 yr adroddiad ac yn adran 5 ceir crynodeb o'r dangosyddion darbodus y cytunwyd arnynt a'r hyn y maent yn ei olygu. Mae Adran 6 yr adroddiad yn dadansoddi'r gwahaniaeth rhwng Dangosyddion Darbodus gwirioneddol a ragwelwyd ar gyfer 2022/23 ac yn cadarnhau bod y Cyngor wedi cydymffurfio â'i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol. Mae'r perfformiad hwn yn dangos bod gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor yn cael eu cynnal mewn ffordd reoledig i sicrhau diogelwch ariannol y Cyngor ac nad ydynt yn peri unrhyw risg ariannol sylweddol i'r Cyngor o ran benthyca anfforddiadwy neu ormodol.

 

Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi a chael sicrwydd o sefyllfa ariannol gadarn y Cyngor a'i ddull darbodus ac ystyriol o fenthyca a buddsoddi a oedd yn golygu ei fod mewn sefyllfa fwy cadarn na llawer o gynghorau sydd bellach mewn trafferthion ariannol oherwydd bod ganddynt lefelau uchel o ddyled ar ôl cymryd benthyciadau sylweddol. Wrth drafod yr adroddiad gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau am wariant cyfalaf y Cyngor, yn benodol –

 

·                     Yr anghysondeb rhwng cyfanswm y gwariant cyfalaf amcangyfrifedig o £55m ar gyfer 2022/23 a nodwyd ym mharagraff 3 yr adroddiad a'r £35.961m a nodwyd fel cyfanswm gwariant cyfalaf gwreiddiol o dan y Dangosyddion Darbodus ym mharagraff 6.

·                     P'un a yw arian cyfalaf heb ei wario yn cael ei gymryd yn ôl gan Lywodraeth Cymru.

·                     A oes digon o adborth ar gynnydd prosiectau cyfalaf i sicrhau bod gan y Cyngor ddigon o arian i gyflawni ei ymrwymiadau ariannol pan fônt yn ddyledus.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod dull y Cyngor o reoli'r trysorlys wedi bod yn wrth-risg mewn sawl ffordd; mae'r cynghorau hynny sydd bellach mewn trafferthion ariannol wedi defnyddio eu pwerau benthyca i fuddsoddi mewn mwy o fentrau risg uchel i gynhyrchu incwm tra bod yr amodau economaidd a’r farchnad yn ddiweddar wedi golygu nad yw'r enillion disgwyliedig wedi’u sicrhau gan adael y cynghorau hynny â dyledion sylweddol. Mae'r Cyngor ym Môn wedi bod yn ofalus yn gyson wrth fuddsoddi ac wedi targedu gwariant cyfalaf i feysydd blaenoriaeth lle mae'r angen mwyaf. Mae hefyd wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn yn ddarbodus gan gydnabod yr angen ar adegau i gydbwyso cyllidebau heb droi at gronfeydd wrth gefn a gwario ar eitemau y mae am wario arnynt. Mae hyn wedi cynnal lefel iach o falans cronfeydd wrth gefn. Cronfeydd wrth gefn a balansau'r Cyngor yw ei gronfeydd ar gyfer "cyfnodau anodd" i'w helpu i ddelio ag argyfyngau a chostau annisgwyl.

 

O ran gwariant cyfalaf, y ffigwr o £35.961m yw'r gyllideb gyfalaf wreiddiol a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2022. Ychwanegwyd at hynny'r llithriad o'r flwyddyn flaenorol sydd wedi'i gario drosodd gyda chymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith yn ogystal â grantiau cyfalaf a ddyfernir yn ystod y flwyddyn. Mae'r gyllideb gyfalaf ar y cychwyn fel y’i cymeradwyir gan y Cyngor yn newid dros amser ac mae'r newidiadau hynny’n cael eu hawdurdodi gan y Pwyllgor Gwaith, weithiau'n ôl-weithredol yn achos grantiau sydd eisoes wedi'u derbyn. Mae'r Cyngor wedi llwyddo i sicrhau bod yr holl gyllid grant yn cael ei wario a dim ond ar achlysuron prin y dychwelwyd arian grant nas defnyddiwyd i Lywodraeth Cymru. Pe bai prosiect a ariennir gan grant yn cael ei gwblhau o dan y gyllideb, yna byddai'r hawliad grant terfynol yn adlewyrchu hynny; mewn achos o lithriad mae'r Cyngor yn sicrhau bod yr ariannwr grant yn cymeradwyo’r amserlen ddiwygiedig fel nad oes unrhyw arian yn cael ei golli am beidio â chadw at amodau'r cynnig grant. Mae gwariant cyfalaf y Cyngor yn cael ei fonitro'n chwarterol gyda lefel uwch o wariant cyfalaf yn yr 2il a'r 3ydd chwarter pan fo'r tywydd yn fwy ffafriol. O ran rheoli arian parod mae'r Cyngor yn cadw oddeutu £10m mewn arian parod sy'n ddigon i gyflawni ei ymrwymiadau ariannol parhaus ar unwaith, telir llog ar yr arian sydd gan y Cyngor yn y cyfrifon sydd ar gael iddo, er ei fod ar gyfradd is na'r cronfeydd hynny a fuddsoddwyd am gyfnod penodol.

 

Gwnaeth y Pwyllgor bwynt cyffredinol ynghylch cymhlethdod y gofynion adrodd ariannol a oedd yn ei gwneud yn anodd i'r Cyngor gyfleu ei sefyllfa ariannol a sut mae'n gwario ei arian mewn ffordd sy'n dryloyw ac yn ddealladwy i'r cyhoedd yn gyffredinol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 fod adroddiadau ariannol awdurdodau lleol, yn enwedig o ran ei ddatganiadau ariannol, yn amodol ar nifer o godau ymarfer a rheoliadau sy'n pennu beth a sut y caiff gwybodaeth ei hadrodd. Y gobaith yw drwy broses ddemocrataidd y Cyngor, yn benodol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Llawn, y gall aelodau etholedig roi sicrwydd i drethdalwyr cyngor Ynys Môn fod y Cyngor yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

 

Penderfynwyd –

 

·                Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn parhau i fod yn rhai dros dro nes bod yr archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2022/23 wedi’i gwblhau a’i lofnodi; adroddir fel sy’n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol sy’n deillio o’r ffigyrau a gynhwysir yn yr adroddiad hwn.

·                Nodi’r dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro ar gyfer 2022/23 yn yr adroddiad hwn.

·                Ystyried yr adroddiad rheoli trysorlys blynyddol ar gyfer 2022/23 a’i gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwaith gydag unrhyw sylwadau.

 

Dogfennau ategol: