Eitem Rhaglen

Cofnodion

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 13 Mawrth, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2013 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

 

Materion yn codi -

 

           Cyfeiriodd y Swyddog Addysg at y tair ysgol gynradd nad oedd eu dogfennau hunanarfarnu Addysg Grefyddol wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf, a dywedodd wrth yr aelodau fod hunanarfarniad Ysgol Penysarn (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) bellach wedi cyrraedd.  Eglurodd yn gryno mai trwy archwilio adroddiadau hunanarfarnu AG y gofynnir i ysgolion yr ynys eu darparu y mae’r CYSAG yn cyflawni ei swyddogaeth ymgynghorol mewn perthynas â safonau Addysg Grefyddol ac ansawdd addoli ar y cyd.  Fodd bynnag, nid yw adroddiadau hunanarfarnu Ysgol y Fali ac Ysgol Pentraeth wedi dod i law.  Ychwanegodd y Swyddog fod adroddiadau hunanarfarnu Ysgol Gynradd Llanbedrgoch ac Ysgol Tywyn a arolygwyd yn nhymor yr Hydref 2012 bellach wedi dod i law ac fe’u cyflwynwyd fel rhan o’r materion yn codi.  Yn unol â’r patrwm a welwyd eisoes, mae peth amrywiaeth o ran ansawdd a chynnwys y wybodaeth a gyflwynir gan yr ysgolion yn eu hunanarfarniadau a dim ond un o’r ysgolion sydd wedi mabwysiadu model Ysgol Corn Hir.

 

Pwysleisiodd yr Is-Gadeirydd ei bod yn hanfodol bod y CYSAG yn cael y wybodaeth hon oherwydd mai dyma’r unig ffordd sydd gan y CYSAG ar hyn o bryd i gyflawni ei gyfrifoldebau monitro.  Dywedodd y Swyddog Addysg y byddai’n parhau i fynd ar drywydd y mater hwn gyda’r ddwy ysgol nad ydynt wedi cyflwyno eu hunanarfarniadau, ond roedd yn credu bod amgylchiadau lliniarol o ran pam nad oedd yr adroddiadau wedi eu cyflwyno i’r CYSAG ac esboniodd yr amgylchiadau hynny i’r Aelodau.

 

Nodwyd y wybodaeth gan Aelodau’r CYSAG ynghyd â’r sefyllfa mewn perthynas â’r ddwy ysgol nad oedd eu hunanarfarniadau wedi dod i law hyd yma.

 

Cam Gweithredu yn codi:  Y Swyddog Addysg i barhau i wneud ymholiadau ynghylch yr adroddiadau hunanarfarnu nad ydynt wedi eu cyflwyno i’r CYSAG hyd yma.

 

           Dygodd y Swyddog Addysg sylw’r Aelodau at ymateb Prif Arolygydd Estyn i ohebiaeth a anfonwyd ati yn dilyn cyfarfod diwethaf CYSAG i ddwyn sylw at gamgymeriadau yn adroddiad yr Arolygydd ynghylch Ysgol Tywyn mewn perthynas â’r defnydd o derminoleg yr oedd y CYSAG wedi nodi.  Yn ei hymateb mae’r Prif Arolygydd yn cyfeirio at ganllawiau atodol Estyn ar gyfer Arolygwyr mewn perthynas ag addoli ar y cyd a’r ffaith bod y canllawiau’n gwahaniaethu rhwng addoli ar y cyd a gwasanaethau boreol a’r ffaith y gall gwasanaethau boreol ymgorffori gweithred o addoli ar y cyd. Mae’r canllawiau hefyd yn dwyn sylw at y berthynas rhwng addoli ar y cyd a datblygiad moesol, ysbrydol, cymdeithasol a diwylliannol.  Nid oes rhaid i Arolygwyr gyfeirio at addoli ar y cyd mewn adroddiadau arolygu ac eithrio lle nad yw’r ysgol dan sylw yn cydymffurfio gyda’r gofynion statudol yn y cyswllt hwn neu os yw’r gwasanaethau boreol neu’r gweithredoedd addoli ar y cyd yn cyfrannu’n sylweddol at les y disgyblion.  Os rhoddir barn mewn adroddiad arolygu mae’n bwysig defnyddio’r termau cywir.  Mae’r Prif Arolygydd  yn gwahodd y CYSAG i gyflwyno i sylw’r corff arolygu unrhyw adroddiadau eraill y mae’n credu, ar sail y canllawiau, eu bod yn cynnwys anghysonderau a dywedodd y bydd y canllawiau atodol mewn perthynas ag arolygu addoli ar y cyd yn cael eu newid i gynnwys cwestiwn cyffredinol ar y mater.

 

Nododd Aelodau’r CYSAG ymateb y Prif Arolygydd a’r sylwadau a wnaed.

 

Cam Gweithredu yn codi:  Bod y CYSAG yn parhau i fonitro adroddiadau arolygu ar gyfer cysondeb yn y defnydd o derminoleg.

 

           Cyflwynodd y Swyddog Addysg ohebiaeth ddyddiedig 14 Mehefin 2013 gan Ysgol Coleg y Drindod Dewi Sant er gwybodaeth.  Roedd yr ohebiaeth yn rhoi cyhoeddusrwydd i lansio’r wefan Addysg Grefyddol ar gyfer Cymru fel adnodd dwyieithog ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.  Fel yr adroddwyd i’r cyfarfod o’r CYSAG ar 13 Mawrth mae’r wefan yn disodli’r Newyddlen Addysg Grefyddol.  Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud bod y llythyr yn rhoi gwybodaeth i’r Awdurdod am fynediad i’r wefan fel tanysgrifiwr ac yn gofyn iddo rannu gwybodaeth am y wefan gyda’r holl bartïon sy’n ymwneud ag Addysg Grefyddol gan gynnwys ysgolion, ymgynghorwyr ac Aelodau’r CYSAG.

 

Dywedodd Miss Bethan James y byddai’n annog athrawon i gyfrannu erthyglau a gwybodaeth am brosiectau ac arferion da i’r wefan fel bod modd eu rhannu gydag ymarferwyr AG eraill sy’n defnyddio’r wefan.  Dywedodd bod sgôp arbennig i’r wefan adlewyrchu’r cwricwlwm Cymraeg a’r diwylliant Cymreig.

 

Cam Gweithredu yn codi:  Bod y Swyddog Addysg yn rhannu gwybodaeth ynghylch gwefan AG Cymru gydag ysgolion yr Ynys a staff perthnasol.

 

           Dygodd y Swyddog Addysg sylw’r Aelodau at wybodaeth a gafwyd gan Gydgysylltydd Addysg Cymru yn y sefydliad Cymorth Cristnogol ynghylch gwasanaethau mis Gorffennaf y sefydliad a’r gweithgareddau cysylltiedig, ynghyd ag adroddiad y Grŵp Cristnogion yn y Senedd o’r enw Ffydd yn y Gymuned.

 

Nodwyd y wybodaeth gan y CYSAG.

Dogfennau ategol: