Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 FPL/2022/186 – Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch

FPL/2022/186

 

12.2 FPL/2023/177 - Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

FPL/2023/177

 

12.3 FPL/2022/296 – The Lodge, Ffordd yr Ysgol, Llanddaniel

FPL/2022/296

 

12.4 FPL/2023/143 – Ysgol Gymuned Y Fali, Lon Spencer, Valley

FPL/2023/143

 

12.5 FPL/2023/155 – Llwyn Onn, Llanfairpwll

FPL/2023/155

 

12.6 VAR/2023/36 – Stad y Felin, Llanfaelog

VAR/2023/36

 

Cofnodion:

12.1 FPL/2022/186 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i faes carafan teithiol, newid defnydd yr adeilad allanol presennol i ddefnydd ategol i'r maes carafan ynghyd a gosod system trin carthffosiaeth yn Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch.

Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aeloda Lleol oherwydd pryderon lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Non Dafydd, Aelod Lleol, i aelodau’r Pwyllgor fynychu ymweliad safle ffisegol oherwydd pryderon lleol ynghylch materion priffyrdd. Cefnogwyd y cais gan y Cynghorydd Paul Ellis, cyd Aelod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans fod ymweliad safle’n cael ei gynnal yn unol â dymuniad yr Aelod Lleol, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle ffisegol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.2 FPL/2023/177 – Cais llawn ar gyfer amnewid y llifoleuadau presennol ar y cae synthetig yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn ceisio caniatâd er mwyn disodli’r hen golofnau a’r hen system llifoleuo metel yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, a gosod lampau LED modern sy’n effeithlon o ran ynni sy’n bodloni safonau perfformiad chwaraeon cydnabyddedig. Bydd y cyfleuster sydd wedi’i llifoleuo’n cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer gweithgareddau pêl-droed yn y Ganolfan Hamdden. Mae’r cynlluniau arfaethedig yn dangos 8 o oleuadau newydd ar y safle yn yr un dimensiwn â’r colofnau presennol sydd o fewn y cae petryal. Ni fydd y system newydd yn ymgorffori colofnau sy’n fwy o ran maint neu nifer na’r rheiny sydd ynghlwm â’r drefn oleuo bresennol. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig, ac nid yw Adran Iechyd yr Amgylchedd wedi codi unrhyw bryderon yn dilyn ei asesiad o’r wybodaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â lefelau goleuo sy’n cyd-fynd â’r cais. Yr argymhelliad yw bod y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE a ddylai ddatgan diddordeb gan y bydd y cais ar gyfer goleuadau newydd yn cael eu defnyddio at ddibenion pêl-droed yn bennaf, ac o ystyried ei gyfraniad personol i weithgareddau pêl-droed. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Cyfreithiol mai diddordeb personol yw hwn, ac y gallai’r aelod gymryd rhan lawn yn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 FPL/2022/296 – Cais llawn am godi paneli solar arae yn cynnwys dwy res o 20 panel solar yn The Lodge, Ffordd yr Ysgol, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch yr effaith ar fwynderau eiddo cyfagos.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Cyfeiriodd Mr David Tudor y Pwyllgor fel gwrthwynebydd i’r cais, gan ofyn i’r Pwyllgor ystyried a yw’n briodol gosod fferm solar mewn gardd mewn ardal breswyl benodol a hwythau, fel arfer, yn cael eu lleoli ar gaeau brown neu ar dir âr. Y rheswm dros hyn yw am eu bod yn annymunol ac yn tynnu sylw oddi ar apêl gweledol y gymdogaeth. Mae’r Swyddfa Gymreig wedi gosod cyfyngiad ar gyfer datblygiadau a ganiateir o ardal 9 medr sgwâr ar gyfer paneli pwrpasol mewn ardal breswyl. Mae’r cais hwn ar gyfer 68 medr sgwâr, sydd seithwaith yn fwy na’r cyfyngiadau ar gyfer datblygiad a ganiateir.

 

O ran lleoliad, tynnodd Mr Tudor sylw at y ffaith fod yr ymgeisydd wedi dewis lleoli’r fferm solar cyn belled â phosib oddi wrth ei dŷ ei hun fel nad yw’n effeithio ar ei fwynder gweledol personol, ond ei fod yn agos iawn i’w eiddo ef. Gwneir hyn er bod ganddynt ardd sydd ¾ acer, neu 1 acer, os yw tir y cymydog yn cael ei gynnwys yn y cais. Cyfeiriodd at y cynnig gwreiddiol, a oedd yn gosod y paneli gyferbyn y wal gerrig isel, sef y ffin rhwng y ddau eiddo, a fyddai wedi arwain at effaith Mur Berlin a fyddai bron yn 7.6 troedfedd mewn uchder a 40 llathen o hyd o flaen ei eiddo. Yn dilyn ei wrthwynebiad, symudwyd y wal oddeutu 8 troedfedd neu 2.4m oddi wrth y ffin. Mae Swyddfa Gymreig bellach wedi nodi y dylai paneli sydd yn fwy na 2m o uchder fod o leiaf 5m i ffwrdd oddi wrth y ffin ar gyfer datblygiadau a ganiateir. Mae’r rheol yn berthnasol i arae paneli solar 9 medr sgwâr, ond eto ymddengys ei fod yn dderbyniol ar gyfer 68 medr sgwâr o beli fydd yn cael eu gosod dim ond 2.4m i ffwrdd o’r ffin.

 

Eglurodd Mr Tudor pam bod y coed yn bwysig iddo, sy’n ffurfio rhan o’i ardd sydd hefyd yn cynnwys gardd lysiau, sied a thŷ gwydr, ac ar y safle sydd agosaf at eiddo’r ymgeisydd, mae pwll bywyd gwyllt, libart i’r ieir, storfa goed a bwrdd picnic. Ceir llwybrau cerdded, blodau gwyllt a threulir nifer o oriau yn y coed yn ddyddiol. I gymharu â hyn, yr unig adeg mae’r ymgeisydd yn mentro i’r rhan hon o’r ardd yw i dorri’r glaswellt. Felly, bydd gosod paneli solar fel Mur Berlin gyferbyn â’u ffin yn cael effaith andwyol ar ei fwynder gweledol. O ran gwelededd, er bod yr ymgeisydd yn honni fod y safle wedi’i sgrinio’n dda, mae hyn yn cynnwys coed sydd yn colli eu dail, felly ni fydd unrhyw sgrin ar gael am 6 mis o’r flwyddyn, a bydd y datblygiad yn weledol iawn.

 

Bu i Mr Rhys Davies, Cadnant Plannig, siarad i gefnogi’r cais, a dywedodd, mewn perthynas â’r cyfeiriadau a wnaed gan y gwrthwynebydd i Fur Berlin, y gallai’r ymgeisydd godi ffens 2 medr o uchder ar hyd y ffin heb ganiatâd cynllunio. Nid cais ar gyfer fferm solar yw hwn, ond dwy res o 20 panel solar er mwyn ddarparu ynni ar gyfer eiddo’r ymgeisydd at ddibenion domestig i bweru offer domestig. Mae cymdogion wedi codi pryderon na fyddai’r paneli solar yn unol â datblygiadau a ganiateir o fewn cwrtil eiddo. Ni ddylai hyn fod yn reswm i wrthod y cais. Mae datblygiadau a ganiateir yn caniatáu paneli solar i eistedd uchafswm o 2m mewn uchder, a byddai’r paneli solar arfaethedig yn uchafswm o 2.2.m o uchder sydd dim ond 0.2m yn uwch na’r hynny a ganiateir. Byddai’r paneli 2.4m oddi wrth y ffin a byddant wedi’u lleoli yn y rhan hon o’r ardd, gan mai dyma’r ardal orau er mwyn dal golau’r haul. Mae’r cais yn cael ei gefnogi gan Polisi PS7 y Cynllun Datblygu leol, sy’n ceisio cefnogi technoleg ynni adnewyddadwy penodol er mwyn cynhyrchu ynni, gan gynnwys solar. Un o’r deilliannau ar gyfer canllawiau cynllunio cenedlaethol Cymru’r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 yw bod Cymru’n datgarboneiddio ac gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, a bydd hybu ynni adnewyddadwy yn helpu i gyflawni hyn. Felly, mae’r cynnig yn cydymffurfio gyda chanllawiau cynllunio lleol o ran effaith ar gymdogion a chymeriad yr ardal, a dylid ei gymeradwyo yn enwedig gan fod y Cyngor ei hun wedi datgan argyfwng hinsawdd yn 2020, ac wedi cymryd agwedd uchelgeisiol ar ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. O ystyried bod y Cyngor yn gwneud cynnydd da o ran cyflawni’r targed hwn, pam bod angen atal trigolion yr Ynys rhag parhau â’u hymdrechion eu hunain?

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod safle’r cais oddeutu 320m y tu allan i ffin ddatblygu Llanddaniel Fab o fewn y cefn gwlad agored, fel y nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Bydd y paneli solar arfaethedig wedi’i lleoli yng nghornel ogleddol yr ardd breswyl, oddi wrth y briffordd gyhoeddus ac wedi’i amgylchynu gan goed aeddfed. Mae’r safle’n fawr, yn cynnwys dros 2.5 hectar o dir ac mae’r tir lle bydd y paneli solar yn cael eu lleoli yn 0.017 hectar, sy’n meddiannu cornel fach o’r safle cyfan. Bydd y paneli 2.4m oddi wrth y wal gerrig 1.5m o uchder ar y ffin, ac o ran graddfa, byddan yn 20m mewn hyd, 2.6m mewn lled a 2.2.m mewn uchder, gydag arwynebedd o 68.4m sgwâr. Byddant yn cael eu gosod mewn dwy res o 20 panel, gydag un ar ben y llall, wedi’u cefnogi gan strwythur haearn, a bydd bob panel yn mesur 1.7m mewn uchder a 1.0m mewn hyd, gan gynhyrchu 9.92kw o drydan, sy’n gyfartalog ar gyfer defnydd domestig. Nid yw hawliau datblygu a ganiateir yn berthnasol i’r cais hwn – mae hawliau o’r fath yn gosod trothwy ar gyfer yr hyn a ellir ei ddatblygu heb ganiatâd. Mae’r cais angen caniatâd ac mae wedi cael ei asesu ar ei sail ei hun yn seiliedig ar bolisi. Ni ystyrir bod y cynnig yn fferm solar oherwydd ei faint, a’r ffaith na fydd unrhyw drydan yn cael ei allforio. Mae coed a llystyfiant ar y ffin orllewinol yn sgrinio’r panel solar arfaethedig oddi wrth y ffordd gyhoeddus, ac mae coed/llystyfiant ychwanegol i gyfeiriad y gogledd hefyd wedi’u cynnwys fel rhan o’r cais, gan gynnig sgrin ychwanegol oddi wrth y bobl sy’n defnyddio llwybr mynediad preifat. Mae’r safle wedi’i amgylchynu gan goed gwahanol, ac nid yw’n weledol o’r briffordd nag unrhyw eiddo arall. Carreg Boeth yw’r annedd agosaf i’r paneli solar, ac mae 40m i ffwrdd gyda choed, gardd breifat a wal ffiniol rhwng yr annedd a safle’r cais. Mae Sgubor Hen oddeutu 45m oddi wrth y paneli solar, ac mae hefyd wedi’i wahanu oddi wrth safle’r cais gan goed, gardd breifat a wal ffiniol. Er yr ystyrir y paneli solar arfaethedig yn fawr o ran graddfa, gyda phaneli o’r fath yn cael eu gosod yn draddodiadol ar anheddau preswyl, mae’r ardd yn ddigon mawr i gadw’r paneli, ac o ystyried y sgrinio a ddarperir gan goed a llystyfiant presennol ac arfaethedig a’r pellter oddi wrth eiddo cyfagos, ni chredir y bydd y cynnig yn cael unrhyw effaith andwyol ar eu mwynderau. Gan fod polisïau cenedlaethol a lleol yn cefnogi ynni adnewyddadwy a ffynhonellau cynaliadwy megis paneli solar, cytunir bod y gwaith arfaethedig yn dderbyniol a’r argymhelliad yw i gymeradwyo’r cais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, fel Aelod Lleol, pam na allai’r ymgeisydd osod y paneli solar arfaethedig 5m i ffwrdd o’r ffin mewn gardd o’r maint hwn, er mwyn cydymffurfio â’r pellter a osodir o fewn hawliau datblygu a ganiateir. Nid yw gwelededd y paneli o’r briffordd gyhoeddus yn peri’r un broblem a’u gwelededd o’r eiddo cyfagos, gyda’r preswylydd yn gwneud defnydd helaeth o’i ardd. Ni fyddai symud y paneli 2.6m ychwanegol o’r ffin, ac yn nes at gartref yr ymgeisydd, yn effeithio ar y cynnig gan na fyddai angen ailgyfeirio’r paneli. Dywedodd y Cynghorydd Roberts pe byddai’r cynnig wedi gosod y paneli 5m i ffwrdd o’r ffin ni fyddai wedi ei alw i’r pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad yw hawliau datblygu a ganiateir yn berthnasol yn yr achos hwn, ond pe byddai rhywun eisiau adeiladu paneli solar dan yr hawliau hyn byddai’n rhaid iddynt fod 5m oddi wrth y ffin ac yn 9m sgwâr. Gan nad yw hynny’n berthnasol yn yr achos hwn, gellir lleolir paneli yn unrhyw le o fewn cwrtil eiddo’r ymgeisydd. Gan ystyried uchder y paneli, y pellter o’r ffin, y wal ffiniol sy’n 1.5m o uchder a’r pellter o 40m rhwng safle’r cynnig a’r eiddo cyfagos, nid oedd yn credu y byddai’n effeithio ar ddefnydd y cymydog o’r ardd. Byddai’r paneli solar yr un mor weledol pe byddant wedi’u gosod 2.6m oddi wrth y ffin gan y byddant yr un maint. Mae’r cynnig yn y lleoliad gorau er mwyn dal golau’r haul, ac ni ystyrir y bydd yn cael unrhyw effaith andwyol ar fwynderau eiddo cyfagos. Mewn ymateb i ymholiad pellach, cadarnhaodd y Swyddog nad dyma’r tro cyntaf i gais o’r fath ar gyfer codi paneli solar mewn gardd ardal breswyl at ddibenion personol gael ei gyflwyno, er ei fod yn anghyffredin ar y cyfan.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jackie Lewis fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhellion y Swyddog, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Geraint Bebb. Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y cais yn cael ei wrthod yn groes i argymhelliad y Swyddog. Ni chafodd y cynnig hwn ei eilio.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.4 FPL/2023/143 – Cais llawn ar gyfer adeilad modiwlaidd newydd ar gyfer gofal plant yn Ysgol Gymuned Y Fali, Lôn Spencer, Y Fali

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cynnwys safle sy’n eiddo i’r Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai’r uned gofal plant arfaethedig wedi’i lleoli ar ardal o brysgwydd oddeutu 20m i‘r gogledd o’r ysgol ger y maes parcio presennol. Uned un llawr fydd hwn, gyda tho fflat ar osgo o 3.1m i 2.7m mewn uchder a bydd yn mesur 21.4m mewn hyd a 12m mewn lled, a bydd wedi’i integreiddio rhwng y maes parcio a maes chwarae’r ysgol. Gan ei fod wedi’i leoli ar safle’r ysgol, a bo modd ei weld yng nghyd-destun adeiladau presennol yr ysgol, ystyrir na fydd y cynllun arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ei gymdogion mewn cydymffurfiaeth â Pholisi PCYFF 2. Mae’r eiddo agosaf i’r uned arfaethedig oddeutu 35m i’r gogledd ddwyrain, gyda rhai anheddau eraill wedi’u lleoli oddeutu 40m i’r gogledd a’r dwyrain. Mae’r pellteroedd hyn yn cael eu hystyried yn ddigonol er mwyn osgoi creu unrhyw oredrych. Bydd yr uned gofal plant yn defnyddio’r maes parcio presennol i ogledd yr ysgol, sydd ag oddeutu 20 man parcio. Nid yw’r Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad, ac fe ystyrir bod y trefniadau parcio yn addas gan na fydd y cynnig yn effeithio ar ddiogelwch y priffordd. Er mwyn osgoi colli meysydd chwarae, bydd yr adeilad arfaethedig wedi’i leoli ar ardal o gynefin prysgwydd presennol a bydd angen tynnu llystyfiant a cherrig. Mae cynllun tirlunio arfaethedig yn cynnwys pedair ardal o gynefin prysgwydd newydd fydd yn cymryd lle’r cynefin a gollir, ynghyd â llystyfiant newydd, gaeafwisg, a phlannu deg o goed newydd. Bydd hyn yn gwella bioamrywiaeth cyffredinol y cais yn unol â pholisi a gofynion deddfwriaethol.

 

Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol. Bydd yn darparu cyfleuster hanfodol ar gyfer cymuned y Fali, bydd o ddyluniad a graddfa addas ac ni fydd yn cael effaith ychwanegol ar ei gymdogion o gymharu â’r ysgol bresennol. Ystyrir bod ei effaith ar yr AHNE ac ar fioamrywiaeth yn ddibwys oherwydd y gwelliannau sydd wedi’u cynnig. Yr argymhelliad felly yw bod y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Roedd y Cynghorydd Ken Taylor, fel Aelod Lleol, yn croesawu’r datblygiad arfaethedig gan y byddai’n creu mwy o le angenrheidiol yn yr ysgol, lle darperir gofal plant ar hyn o bryd. Dywedodd fod y cynnig yn deillio o gyllid grant Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â Strategaeth Cymraeg 2050 sy’n ceisio cyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd yr uned gofal plant yn ased bwysig i’r ysgol, y gymuned â’r ardal yn gyffredinol, ac mae Cyngor Cymuned y Fali yn unfrydol o ran ei gefnogi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb, fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John I. Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5 FPL/2023/155 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i uned gwyliau ynghyd a gwaith cysylltiedig yn Llwyn Onn, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw i mewn am ystyriaeth gan Aelod Lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, gan siarad fel Aelod Lleol, am ymweliad safle ffisegol gan fod pryderon lleol wedi’u codi ynghylch gor-ddatblygu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod ymweliad safle yn cael ei gynnal yn unol â dymuniad yr Aelod Lleol, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John I. Jones.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle ffisegol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.6 VAR/2023/36 – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (05)(Gosodiad y ffordd a goleuadau stryd) o caniatâd cynllunio rhif FPL/2020/149 (codi 8 annedd fforddiadwy ynghyd a creu mynedfa cerbydau newydd ac datblygiadau cysylltiedig) er mwyn newid yr amod cyn dechrau ar y gwaith i amod cyn i rywun ddechrau byw yn yr annedd ar dir yn Stad y Felin, Llanfaelog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais Adran 73 er mwyn diwygio caniatâd a roddwyd gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod amod (05) y caniatâd cynllunio, cyfeirnod FPL/2020/149, yn gofyn i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth am gynllun y ffordd arfaethedig a manylion y gwaith adeiladu yn seiliedig ar wybodaeth o archwiliad o’r safle yn ogystal â lleoliad a math o gyfarpar goleuo stryd cyn dechrau unrhyw ddatblygiad. Bwriad yr amrywiad yw ceisio addasu geiriad yr amod fel y gellir darparu’r manylion gofynnol cyn bod rhywun yn byw yn yr annedd yn hytrach na chyn i’r gwaith ddechrau. Gofynnir am yr amrywiad fel y gellir dechrau gwaith ar y safle. Gan mai’r Awdurdod Priffyrdd a wnaed y cais gwreiddiol ar gyfer yr amod, ymgynghorwyd â’r Awdurdod ynghylch yr amrywiad arfaethedig i eiriad yr amod (05) a chadarnhawyd nad oes ganddo unrhyw wrthwynebiad. Oherwydd hyn, mae’r Adran Gynllunio’n fodlon i gymeradwyo cais S73. Ni ystyrir bod unrhyw anfantais materol yn gysylltiedig â’r geiriad newydd, ac na fyddai’n cael effaith ar ofynion yr amod. Argymhellir fod y cais yn cael ei gymeradwyo ar yr amod bod yr ymgeisydd yn llofnodi cytundeb Adran 106 newydd, gan fod cytundeb Adran 106 yn gysylltiedig â’r cais gwreiddiol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod fod yr ymgeisydd yn llofnodi cytundeb Adran 106 newydd.

 

Dogfennau ategol: