13.1 Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
13.2 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Cemaes
13.3 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Rhostrehwfa
Cofnodion:
13.1 Land and Lakes, Parc Arfordir Penrhos, Caergybi
Cafodd y mater ei gyflwyno unwaith eto i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei ystyried yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin, 2023 yng ngoleuni llythyr a dderbyniwyd gan Richard Buxton Solicitors ar gyfer preswylydd lleol sy’n honni bod y Pwyllgor wedi cael ei gamgyfeirio mewn perthynas â sawl mater.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod llythyr gan Richard Buxton Solicitors wedi’i dderbyn yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer ceisiadau Land and Lakes ar 7 Mehefin 2023. Mae’r llythyr yn honni fod y Pwyllgor wedi cael ei gamgyfeirio mewn perthynas â sawl mater. Er bod Swyddogion yn hyderus bod y mater wedi’i adrodd yn briodol i’r Pwyllgor, a bod Aelodau’n ymwybodol o’r materion a gyflwynwyd iddynt i’w hystyried, manteisir ar y cyfle i gyfeirio at rai o’r materion hynny ac i gadarnhau’r penderfyniad a wnaed a sylfaen y penderfyniad hwnnw. Mae’n amlwg y bydd y gwrthwynebwyr yn herio’r penderfyniad, mae’r adroddiad yn gyfle I ddelio â rhai o’r materion a godir yn y llythyr. Gofynnir i aelodau adolygu’r adroddiad fel adlewyrchiad o’r penderfyniad maent wedi’i wneud.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll. Jones bod cyn weithiwr o Anglesey Aluminium wedi anfon llythyr ato, a’i fod yn dymuno ei ddarllen yn y Pwyllgor. Roedd wedi hysbysu’r Rheolwr Rheoli Datblygu o’r llythyr ac roedd yn disgwyl am ei ymateb.
Bu i’r Cadeirydd wrthod y cais i ddarllen y llythyr, gan nodi bod ceisiadau Land and Lakes wedi cael eu trafod yn helaeth yn ystod mwy nag un cyfarfod, a bod penderfyniad wedi’i wneud. Nid yw cynnwys y llythyr yn berthnasol i’r mater sy’n cael ei ystyried heddiw, sef bod aelodau’r Pwyllgor yn cadarnhau eu bod wedi deall yr hyn roeddynt yn pleidleisio yn ei gylch yn y cyfarfod ar 7 Mehefin 2023.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad oedd yn credu ei bod hi’n gywir na theg nad oedd y Cynghorydd Robert. Llywelyn Jones yn cael darllen y llythyr yr oedd wedi cyfeirio ato. Roedd hefyd o’r farn fod y diffyg hyder a achosir drwy atal pobl penodol rhag siarad yn cyfrannu at ymestyn y mater, ac er ei fod o’r farn y dylid rhoi cyfle i ddarllen y llythyr, byddai’n dilyn safbwynt y Cadeirydd. Cyfeiriodd at y cais Land and Lakes, a beth oedd ynghlwm ag o o ran amser, trafodaethau a chyfreithlondebau a safbwyntiau gwahanol, a dywedodd ei fod yn credu fod y wybodaeth a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn wedi’i deall, er nad oedd pawb yn cytuno â hi, a dywedodd ei bod wedi’i chyflwyno’n deg. O ystyried y gwahaniaeth sylweddol ym marn y rheiny a oedd yn cefnogi ac yn gwrthwynebu cais Land and Lakes, roedd o’r farn mai’r llysoedd fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol. Fodd bynnag, hoffai weld y ddwy ochr yn cytuno ar gamau cadarnhaol wrth symud ymlaen, a gorau po gyntaf y gellir cyflwyno’r mater ar gyfer dyfarniad cyfreithiol annibynnol.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y llythyr a anfonwyd ato gan y Cynghorydd R. Llewelyn Jones yn ymwneud â llygredd hanesyddol yng Nghae Glas a safleoedd eraill. Eglurodd nad oedd wedi cynnig ymateb i’r aelod hyn yma, gan ei fod yn y broses o adolygu’r mater. Fodd bynnag, nid oes gan bwnc y llythyr unrhyw berthnasedd â cheisiadau Land and Lakes sydd eisoes wedi cael eu hystyried gan y Pwyllgor, a dyna pam y credir nad yw’n berthnasol i’r drafodaeth.
Dywedodd y Cadeirydd fod y dyfarniadau a wneir fel Cadeirydd yn seiliedig ar gyngor proffesiynol y Swyddog.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod yr adroddiad yn cael ei gefnogi yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jackie Lewis. Mynegodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ei fod yn erbyn yr adroddiad, ond ni chafodd ei safbwynt ei gefnogi.
Penderfynwyd cefnogi’r safbwynt fel y manylwyd yn adroddiad y Swyddog.
(Bu i’r Cynghorydd R. Llewelyn Jones ildio’i bleidlais)
13.2 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Cemaes
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, a oedd yn nodi’r gwrthwynebiadau a sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysu sawl Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar gyfer lleoliadau gwahanol mewn perthynas â ffyrdd i’w eithrio rhag dod yn rhan o’r ardaloedd fydd dan gyfyngiad cyflymdra o 20mya gorfodol ledled Ynys Môn, i’r Pwyllgor am ystyriaeth a phenderfyniad.
Dywedodd Peiriannydd y Grŵp Priffyrdd (Rheoli Datblygiad a Rheolaeth Traffig) fod y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn cael eu cynnig fel rhan o’r gwaith o gyflwyno’r cyfyngiadau cyflymdra 20mya gorfodol newydd ledled Ynys Môn, fydd yn dod i rym ar 17 Medi 2023. Yn unol â rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau cyflymdra mewn ardaloedd preswyl, bydd pob ffordd sydd â statws ffordd cyfyngedig a bennir gan system o oleuadau stryd sydd a chyfyngiad o 30mya yn newid i 20mya oni bai eu bod nhw’n cael eu heithrio. Mae’r Awdurdod, ar y cyd â Llywodraeth Cymru/ Trafnidiaeth Cymru, wedi adnabod 13 lleoliad lle credir na ddylid gweithredu’r cyfyngiad cyflymdra o 20mya yn seiliedig ar y canllawiau a’r meini prawf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru fel y nodwyd yn yr adroddiad. Bu i’r ymgynghoriad gwreiddiol ar y cynigion, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r gwasanaethau brys, cludiant ar y ffyrdd a chludiant llwythi, aelodau etholedig a chynghorau tref a chymuned gyflwyno dau sylw. Mae’r sylwadau hyn, ac ymateb yr Awdurdod Priffyrdd iddynt, wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Yn ystod y cyfnod hysbysebu cyhoeddus ffurfiol, derbyniwyd 13 sylw, ond dim ond un a’i ystyriwyd yn wrthwynebiad dilys a pherthnasol gan ei fod yn cyfeirio’n uniongyrchol at leoliad a oedd wedi’i gynnwys yn y gorchmynion arfaethedig, tra bo’r sylwadau eraill a wnaed yn cyfeirio’n gyffredinol at gyflwyno ardaloedd 20mya newydd, neu at leoliadau nad oeddynt wedi’u cynnwys yn y gorchmynion arfaethedig.
Derbyniwyd gwrthwynebiad i eithrio rhan o’r A5025 yng Nghemaes, rhwng Ystâd Gwelfor a’r gylchfan. Bu i’r gwrthwynebydd nodi materion ynghylch cydymffurfiaeth gyda’r cyfyngiad presennol o 30mya ar hyd y rhan hon o’r A5025, a oedd yn eu barn nhw yn atal cerddwyr rhag defnyddio’r palmant. Roedd y gwrthwynebydd yn dymuno cynnwys y rhan hon o’r ffordd yn y cynnig arfaethedig o 20mya yng Nghemaes. Bu i’r Awdurdod Priffyrdd ystyried y gwrthwynebiad yng ngoleuni canllawiau a meini prawf Llywodraeth Cymru, a daethpwyd i’r penderfyniad na fyddai’n realistig disgwyl i yrwyr yrru ar gyflymder o 20mya am y hyd a nodwyd. Oherwydd hyn, argymhellir cymeradwyo’r cynigion yn unol â’r Gorchmynion a’r Cynlluniau a hysbysebwyd, a bod y cyflymdra ar y ffordd rhwng Ystâd Gwelfor a’r gylchfan ar yr A5025 yn aros yn 30mya.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, dywedodd y Swyddog -
· Mae mesurau ar waith er mwyn newid yr holl arwyddion 30mya, a lle bo’n briodol, bydd arwyddion 20mya yn cael eu gosod yn eu lle. Unwaith mae gyrrwr mewn parth 20mya, ni welir unrhyw arwyddion ychwanegol, a dylai pawb fod yn ymwybodol eu bod mewn ardal 20mya hyd nes eu bod yn gweld arwydd sy’n nodi bod y cyfyngiad wedi dod i ben. Bydd y ffyrdd sydd wedi’u heithrio ac sy’n parhau â’r cyfyngiad o 30mya wedi’u harwyddo gydag arwyddion yn ailymddangos, tebyg i barthau 40mya.
· Mae Stryd Fawr Cemaes, a rhan helaeth o Gemaes yn 20mya. Mae’r eithriad arfaethedig sy’n cael ei ystyried yn gysylltiedig â ffordd rhwng Ystâd Gwelfor a chylchfan yr A5025.
· Ei fod yn deall, ond na allai gadarnhau y bydd cerbydau’r gwasanaethau brys yn cael eu heithrio o’r cyfyngiadau, ond byddant yn destun eu beirniadaeth broffesiynol eu hunain o ran y cyflymder priodol i deithio mewn ardal yn dibynnu ar yr argyfwng a’r golau a’r seiren y byddant yn eu defnyddio.
Cynigiodd y Cynghorydd Liz Wood fod y cynnig yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Neville Evans.
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r cynigion yn unol â’r gorchmynion a chynlluniau a gyflwynwyd a
· Cytuno bod hyd y ffordd rhwng ystâd Gwelfor a chylchfan yr A5025 yn cadw’r cyfyngiad o 30mya fel y nodwyd yn y Gorchymyn drafft, ac i gadarnhau’r gorchymyn drafft hwn a’r gorchmynion drafft eraill yn yr adroddiad.
(Ni bleidleisiodd y Cynghorydd Jeff Evans ar y mater gan nad oedd yn hyderus o’r buddion o symud i 20mya ar gyfer Ynys Môn ar gymuned ehangach. Pe byddai’n arbed bywydau, byddai’n cael ei groesawu, ond roedd o’r farn y byddai’n codi problemau ac anawsterau gyda chwestiynau ynghylch gorfodi a’r tebygolrwydd y byddai llawer o bobl yn derbyn cosbau).
13.3 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig - Rhostrehwfa
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, a oedd yn nodi’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar gyfer Bryngwran a Rhostrehwfa, i’r Pwyllgor am ystyriaeth a phenderfyniad.
Dywedodd Peiriannydd y Grŵp Priffyrdd (Rheoli Datblygiad a Rheolaeth Traffig) y byddai’r gorchmynion arfaethedig yn diwygio a chreu cyfyngiadau parcio ychwanegol mewn sawl lleoliad ym Mryngwran a Rhostrehwfa. Er nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi’i dderbyn i’r cynnig ar gyfer pentref Bryngwran, cafwyd gwrthwynebiad i gyflwyno llinellau melyn dwbl ar hyd rhan o’r B4422 ger Tafarn y Rhos yn Rhostrehwfa. Cyflwynwyd y Gorchymyn Rheoli Traffig mewn ymateb i gwynion a dderbyniodd yr Awdurdod Priffyrdd ynghylch parcio rhwystrol, tagfeydd a phroblemau gyda diogelwch ffyrdd yn Rhostrehwfa, gyda cherbydau wedi parcio ar hyd y B4422 ac i mewn i ystâd Tŷ Gwyn yn achosi problemau gwelededd o natur rwystrol ar gyfer pobl eraill a oedd yn defnyddio’r ffordd. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori dechreuol, ond derbyniwyd dau wrthwynebiad yn dilyn cyfnod hysbysebu ffurfiol, gydag un gan berchnogion y cwmni bragdy yn Nhafarn y Rhos a’r llall gan y tenant, gyda’r prif bryder yn bodoli ynghylch argaeledd parcio oddi ar y stryd yn ystod cyfnodau prysur ar gyfer cwsmeriaid y dafarn, ac effaith y cyfyngiadau ar y busnes. Ar ôl adolygu’r cynigion ar gyfer y B4422 ac ystâd Tŷ Gwyn, mae’r Awdurdod Priffyrdd o’r farn mai prif swyddogaeth a diben priffordd gyhoeddus yw darparu llwybr diogel a chyfleus ar gyfer pawb sy’n ei defnyddio, ac nid yw ei defnyddio fel ardal barcio sy’n gysylltiedig â’r busnes yn cyd-fynd â’r diben hwn, ac nid yw’n sail dilys ar gyfer gwrthod. Yr argymhelliad felly yw i gymeradwyo’r cynnig.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cynnig yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Neville Evans.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig yn unol a’r Gorchmynion a’r cynlluniau a gyflwynwyd, ac i’r Awdurdod barhau i gymeradwyo’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a chynlluniau.
Dogfennau ategol: