Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn amlinellu gwaith y Pwyllgor Sgriwtini Cyllid ar gyfer y cyfnod Mehefin i Fedi 2023 i’r Pwyllgor ei ystyried.

Cyflwynodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, drosolwg o’r materion a ystyriwyd gan y Panel yn y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023 a 7 Medi 2023. Yn y cyfarfod ym mis Mehefin, bu i’r Panel graffu ar adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw ar gyfer Chwarter 4 2022/23, ac yn benodol y galw am Wasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Tai a’r pwysau ar gyllidebau’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Cynhaliwyd sesiwn ddatblygu ar reoli dyledion a thrafodwyd rhaglen waith y Panel ar gyfer y chwe mis nesaf. Yn y cyfarfod ym mis Medi, derbyniodd y Panel adroddiad monitro yn gysylltiedig â holl gyllidebau’r Cyngor ar gyfer Chwarter 1 2023/24 a thrafodwyd y meysydd hynny lle mae risgiau’n dechrau dod i’r amlwg. Mewn eitem ar wahân, cafodd y Gwasanaeth Digartrefedd ei ystyried yn fanwl a chadarnhawyd Rhaglen Waith y Panel ar gyfer y cyfnod rhwng Medi ac Ebrill 2024. Ni chyfeiriwyd unrhyw faterion er sylw’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Panel wedi cael ei sefydlu i graffu’n fwy manwl ar berfformiad ariannol nag yr oedd yn bosib i’r rhiant Bwyllgor ei wneud oherwydd ei raglen waith a’i ymrwymiadau, a’r pwrpas oedd rhoi sicrwydd ynglŷn â rheolaeth ariannol y Cyngor a chaniatáu i aelodau’r Panel ddeall cyllidebau gwasanaeth yn well. Mae trafodaethau’r Panel yn canolbwyntio ar feysydd a phynciau penodol a bydd y Panel yn rhan o’r broses o ddatblygu cyllideb 2024/25 yn ystod y misoedd nesaf.

Wrth ystyried yr adborth gan y Panel Sgriwtini Cyllid, codwyd y materion canlynol gan y Pwyllgor –

·                     Sut y gellir cryfhau gwaith y Panel ymhellach.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Geraint Bebb y byddai’r Panel yn parhau i graffu ar berfformiad y gyllideb ac y byddai’n derbyn data Chwarter 2 yng nghyfarfod nesaf y Panel. Mae’n bwysig fod y Panel yn sicrhau ei fod yn gofyn y cwestiynau iawn ar yr amser iawn er mwyn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arno ac i amlygu unrhyw faterion a/neu risgiau sy’n dod i’r amlwg.

·      O ran cyfeiriad gwaith y Panel, a ddylai’r gwaith a gyflawnir gan y Panel fod yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini fod y Cyngor wedi sefydlu strwythur o gyfarfodydd cyhoeddus a bod y tri phanel sgriwtini’n cyfarfod yn breifat yn fwriadol er mwyn caniatáu i aelodau’r paneli hynny edrych yn fanwl ar faterion sy’n ymwneud â gwybodaeth gyfrinachol nad yw ar gael i’r cyhoedd, a hynny er mwyn caniatáu i’r paneli ddarparu’r lefel o sicrwydd sy’n ofynnol i’r ddau riant Bwyllgor. Gellir cyfeirio unrhyw faterion y mae’r panelau sgriwtini’n eu nodi fel materion o bryder i sylw’r rhiant bwyllgor sgriwtini ac mae’r pwyllgor hwnnw hefyd yn derbyn adroddiadau cynnydd rheolaidd ar waith y panelau. Ystyrir felly fod y Cyngor yn dryloyw yn y modd y mae’n rhannu gwaith a deilliannau’r panelau sgriwtini trwy’r trefniadau adrodd chwarterol.

·      A ddylai’r Panel graffu ar unrhyw feysydd eraill, yn ogystal â’r meysydd sydd ar ei raglen waith.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Geraint Bebb y byddai’r Panel yn canolbwyntio ar y meysydd sy’n wynebu’r heriau ariannol mwyaf, a’r meysydd pennaf yn y cyswllt hwnnw yw’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion. Bydd meysydd eraill yn cael eu craffu wrth i unrhyw faterion/risgiau gael eu hadnabod.

Penderfynwyd nodi –

·           Y cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod diwethaf o ran gwaith y Panel Sgriwtini Cyllid, a

·           Y cynnydd sylweddol a wnaed o ran datblygu strategaeth hunanarfarnu a chwestiynu fel sail i waith y Panel Sgriwtini Cyllid.

 

Dogfennau ategol: