Eitem Rhaglen

Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 1, 2023/24

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.               

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn a Thrawsnewid oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a oedd yn portreadu sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion llesiant ar ddiwedd Chwarter 1 2023/24.  Roedd yn galonogol nodi bod 89% o'r dangosyddion perfformiad yn perfformio uwchlaw neu o fewn 5% o oddefgarwch i'w targedau ar gyfer y chwarter. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o straeon cadarnhaol mewn perthynas â dangosyddion NERS, nifer y cartrefi gwag sy'n cael eu defnyddio unwaith eto, Gwasanaethau Oedolion, rheoli gwastraff, digartrefedd, addasiadau drwy’r grant cyfleusterau i'r anabl a chynllunio, yn benodol dangosyddion 35 a 37 (canran y ceisiadau cynllunio a benderfynir ar amser a chanran yr achosion gorfodi yr ymchwiliwyd iddynt o fewn 84 diwrnod yn y drefn honno). Mae'r dangosyddion Perfformiad Iechyd Corfforaethol a'r dangosyddion gwasanaeth cwsmeriaid hefyd yn perfformio'n dda, ac ar ddiwedd y chwarter cyntaf mae'r Cyngor yn Wyrdd ac ar y targed o ran rheoli presenoldeb gyda 2.1 diwrnod wedi eu colli i absenoldeb fesul FTE yn y cyfnod. Mae nifer fach o ddangosyddion yn tangyflawni sy’n cynnwys Dangosydd 09 (canran y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yr ymatebwyd iddynt ar amser) lle mae'r perfformiad yn erbyn y targed yn 84%. Er bod hyn yn welliant ar y perfformiad ar gyfer yr un chwarter y llynedd, mae'r targed wedi cael ei godi o 80% i 90% ac felly'r sgôr yw Ambr ar gyfer chwarter cyntaf 2023/24. Bydd y perfformiad ar gyfer hyn a dangosyddion 29 a 30 mewn perthynas â Gwasanaethau Tai (newid unedau gosod a rhent a gollwyd oherwydd bod eiddo’n wag) a dangosydd 36 mewn perthynas â'r Gwasanaeth Cynllunio (nifer yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd) sy’n is na'r targed yn parhau i gael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol. Mae adran rheoli ariannol y cerdyn sgorio yn rhagweld gorwariant o ran y gyllideb am y flwyddyn wrth i rai cyllidebau ddod dan bwysau cynyddol oherwydd effeithiau'r argyfwng costau byw. Bydd y sefyllfa ariannol yn cael ei hadolygu'n fanwl.  Y gobaith yw bod y data a gyflwynir yn rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor Gwaith am aeddfedrwydd y trafodaethau ynghylch perfformiad o ran cydnabod meysydd sy’n perfformio’n dda a nodi a lliniaru meysydd sydd heb berfformio cystal. Mae'r ffocws yn parhau i fod ar gynnal perfformiad wrth symud ymlaen a sicrhau y gwneir cynnydd a gwelliannau yn y meysydd a nodwyd.

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth o gyfarfod 19 Medi, 2023 y Pwyllgor lle craffwyd ar adroddiad cerdyn sgorio Chwarter 1 2023/24. Roedd aelodau'r Pwyllgor wedi croesawu'r perfformiad cadarnhaol yn gyffredinol ond gofynnwyd am sicrwydd y byddai'r dangosyddion lle nodwyd tanberfformiad yn gwella. Gan nodi y rhagwelir gorwariant o ran y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, gofynnodd y Pwyllgor sut mae pwysau cyllidebol yn cael eu lliniaru a'u monitro. Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau hefyd am y newidiadau i'r cerdyn sgorio er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â Chynllun newydd y Cyngor a'r amserlen ar gyfer eu gweithredu. Lle’r oedd perfformiad wedi gwella, gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am yr hyn a oedd wedi cyfrannu at y perfformiad cadarnhaol ac a oedd unrhyw wersi i'w dysgu a'u rhannu â gwasanaethau eraill. Cadarnhaodd y Cynghorydd Fowlie, yn dilyn ei drafodaethau, fod y Pwyllgor wedi cytuno i argymell adroddiad cerdyn sgorio Chwarter 1 2023/24 a'r mesurau lliniaru hynny i'r Pwyllgor Gwaith.

O ran y dangosyddion oedd heb berfformio’n unol â’r targed, rhoddodd yr Aelodau Portffolio/Pwyllgor Gwaith perthnasol eglurhad o'r mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â materion ac i sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud ar gyfer y chwarter nesaf. Rhoddwyd sicrwydd y byddai cyswllt a thrafod rheolaidd gyda Phenaethiaid Gwasanaeth ynghylch meysydd sy’n tanberfformio a chamau unioni. Gwnaed pwynt ynglŷn â chynnal persbectif o ran meysydd a nodwyd yn Goch a phwysleisiwyd pwysigrwydd ystyried y cyd-destun gyda pherfformiad dangosydd 36 – gan ddyfynnu canran yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd fel esiampl. Er bod y perfformiad ar gyfer dangosydd 36 yn cael ei ddangos fel 0% yn erbyn targed o 65%, mae'r dangosydd yn ymdrin â nifer fach iawn o achosion; dylai'r ddwy apêl ar gyfer y chwarter hwn – na chafodd yr un ohonynt eu gwrthod - gael eu hystyried yng nghyd-destun y tua 300 o geisiadau cynllunio y deliwyd â nhw yn yr un cyfnod. 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2023/24 gan nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn edrych arnynt ac yn ymchwilio iddynt er mwyn rheoli a sicrhau gwelliannau pellach ar gyfer y dyfodol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

Dogfennau ategol: