Eitem Rhaglen

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 - Chwarter 1

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1, 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan ddweud bod y Cyngor, ar 9 Mawrth 2023, wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2023/24 gyda gwariant gwasanaeth net o £174.569m i'w ariannu o incwm y Dreth Gyngor, NDR a grantiau cyffredinol yn ogystal â £3.780m o gronfeydd wrth gefn cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys cyfanswm ar gyfer argyfyngau cyffredinol ac eraill sy'n dod i gyfanswm o £3.109m. Cafodd y gyllideb ar gyfer y Premiwm Treth Cyngor ei chynyddu £0.943m, i £2.893m. Gosodwyd cyllideb gytbwys gyda chynnydd y cytunwyd ar y Dreth Gyngor o 5%. O ran y flwyddyn flaenorol, nid yw'r gyllideb ar gyfer 2023/24 yn cynnwys unrhyw ofynion ar wasanaethau i wneud arbedion. Yn seiliedig ar ddata diwedd Chwarter 1, rhagwelir mai'r sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2023/24 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor fydd gorwariant o £0.744m sy'n cynrychioli 0.43% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2023/24. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Cyllid at nifer o heriau sy'n wynebu'r Cyngor ar hyn o bryd nad ydynt yn amlwg ar unwaith o'r ffigur pennawd, mae'r rhain yn cynnwys pwysau cyllidebol yng Ngwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol Oedolion, ansicrwydd ynghylch y cynnig cyflog ar gyfer 2023/24 nad yw wedi'i setlo eto a'r argyfwng costau byw parhaus sy'n debygol o arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau'r Cyngor. Fodd bynnag, mae'n anodd rhagweld ffigurau terfynol diwedd y flwyddyn yn gywir yn seiliedig ar ffigurau un chwarter yn unig, ac wrth i weddill y flwyddyn ariannol fynd rhagddi, bydd effaith yr uchod yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau monitro yn y dyfodol wrth i bethau ddod yn gliriach.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y gall llawer ddigwydd yn y naw mis hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol a fydd yn effeithio ar y gyllideb. Dywedodd ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn lleihau'r gorwariant ac yn ceisio aros o fewn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn diogelu'r lefel bresennol o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a'r balansau cyffredinol. Bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i'r Cyngor pan ddaw’n amser pennu cyllideb 2024/25. Ar ôl cael trafodaethau ar lefel uchel ynghylch a oes angen unrhyw gamau unioni i leihau gwariant ac a ddylid rhoi unrhyw gyfarwyddyd i wasanaethau i'r perwyl hwnnw, y casgliad yw nad yw hynny'n angenrheidiol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae trafodaethau'n parhau gyda Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion ynglŷn â rheoli gwariant yn y gwasanaethau hynny gan mai nhw yw’r gwasanaethau sydd dan bwysau mwyaf ac sy'n achosi'r gorwariant cyffredinol. Mae'r opsiynau ar gyfer lleihau costau yn gyfyngedig oherwydd bod y rhan fwyaf o gostau'r Cyngor yn gysylltiedig â chontractau a rhwymedigaethau y disgwylir i'r Cyngor eu hanrhydeddu ac a fyddai'n anodd eu newid yn ystod y flwyddyn. Bydd y rheolwyr yn parhau i adolygu'r sefyllfa ariannol yn fanwl yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol a bydd y Gwasanaeth Cyllid yn adrodd yn fisol i Reolwyr Gwasanaeth o hyn ymlaen.

 

Cydnabu aelodau'r Pwyllgor Gwaith fod y sefyllfa ariannol yn heriol ar hyn o bryd a bod disgwyl heriau pellach wrth bennu cyllideb 2024/25.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol –

 

·      Y sefyllfa a nodir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ddisgwylir am 2023/24;

·      Crynodeb o'r cyllidebau wrth gefn am 2023/24, y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

·      Monitro costau asiantaethau ac ymgynghoriadau am 2023/24 yn Atodiadau CH a D.

 

Dogfennau ategol: