Eitem Rhaglen

Monitro Cyllideb Gyfalaf 2023/24 - Chwarter 1

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol cyllideb gyfalaf y Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1, 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan gadarnhau mai cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 oedd £58.141m sy'n cynnwys y CRT, llithriad o 2022/23, cynlluniau ychwanegol a ariannwyd gan grantiau a ychwanegwyd at y rhaglen a rhai newidiadau cyllido. Er mai'r gwariant a broffiliwyd hyd at 30 Mehefin 2023 oedd £7.177m, y gwariant gwirioneddol yw £6.255m neu £7.016m pan fydd gwariant a ymrwymwyd gwerth £761k yn cael ei ystyried. Y rheswm am hyn yw bod nifer o gynlluniau cyfalaf yn gwario tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mewn achosion lle mae llithriad yn digwydd, bydd y cyllid hefyd yn llithro i'r flwyddyn ariannol nesaf ac ni fydd unrhyw gyllid yn cael ei golli.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nifer y cynlluniau cyfalaf sydd bellach yn cael eu hariannu gan grantiau fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad. Gan fod cyllid cyfalaf craidd wedi lleihau mewn termau real, sy’n golygu ei bod yn fwy o her fyth buddsoddi yn asedau presennol y Cyngor, mae'r Cyngor yn dibynnu fwyfwy ar grantiau i ariannu ei weithgareddau cyfalaf.

 

Tra bod aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod gwerth grantiau i gefnogi prosiectau cyfalaf y Cyngor, roeddent hefyd yn cydnabod y gall grantiau hefyd greu eu heriau eu hunain o ran amseru, a bod amodau ynghlwm wrthynt sy'n clymu gwariant i feysydd nad ydynt efallai'n flaenoriaeth i'r Cyngor ac yn aml yn cael eu dyrannu yn gystadleuol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg at faterion diweddar gyda choncrit Raac mewn ysgolion sy'n destun pryder o ran gwariant cyfalaf. Gofynnodd a fyddai unrhyw gyllid ychwanegol ar gael i helpu gyda'r gwaith adfer.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr nad oes cadarnhad swyddogol o gyllid ychwanegol wedi'i dderbyn ond bod trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn parhau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gwaith i ddelio â mater concrit Racc wedi codi'n annisgwyl ac felly nad oedd wedi’i gynnwys yn y rhaglen sy’n golygu ei fod yn defnyddio staff a fyddai fel arall yn gweithio ar gynlluniau  a raglennwyd gan y Cyngor. Mae capasiti mewnol i gyflawni'r rhaglen gyfalaf yn ffactor o ran llithriant, yn enwedig pan fydd materion annisgwyl yn codi a bod angen delio â nhw gan arwain at ohirio’r broses o fwrw ymlaen â phrosiectau cyfalaf a gymeradwywyd.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Robin Williams ar y cyfle i ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r ymateb i'r mater concrit Raac mewn dwy o ysgolion yr Ynys ac am addasu i sicrhau bod addysg yn dal i gael ei ddarparu mewn amgylchiadau anodd.

 

Penderfynwyd –

·      Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2023/24 yn ystod chwarter 1.

·       Cymeradwyo'r cynlluniau ychwanegol sy'n dod i gyfanswm o £5.442m i'r rhaglen gyfalaf a diwygiadau i gyllid yn unol ag Atodiad C yr adroddiad, a fydd yn arwain at gyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £58.141m ar gyfer 2023/24.

 

 

Dogfennau ategol: