Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn a Thrawsnewid oedd yn cynnwys yr Adroddiad Perfformiad / Lles Blynyddol ar gyfer 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer yr adroddiad sy'n dadansoddi perfformiad dros y flwyddyn ariannol flaenorol yn erbyn y gwelliannau a'r blaenoriaethau a amlinellwyd gan y Cyngor. Mae'r adroddiad yn dangos bod 54% o'r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Trosiannol, sef y cynllun gwaith manwl ar gyfer 2022/23 wedi'u cwblhau, mae 29% yn parhau i gael eu cwblhau yn 2023/24, mae 13% ar ei hôl hi, ond gyda mesurau lliniaru byddant yn debygol o ddal i fyny ac mae 4% wedi'u canslo. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu'r camau a gefnogwyd gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn fel rhan o'i ymateb i’r argyfwng costau byw. At ei gilydd, mae'r Cyngor wedi dangos cynnydd da ac ymrwymiad mewn gwahanol feysydd dros y flwyddyn ddiwethaf fel yr adlewyrchir gan yr adroddiad a chofnodir nifer o lwyddiannau arbennig. Dangosodd canlyniadau'r Cerdyn Sgorio am y flwyddyn berfformiad da hefyd gyda 71% o'r dangosyddion yn wyrdd yn erbyn targedau ac 20% o ddangosyddion eraill o fewn 5% i’w targedau. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r nifer fach o ddangosyddion sy’n Ambr neu’n Goch yn ogystal â'r rhai sy'n dangos dirywiad o ran perfformiad o flwyddyn i flwyddyn. Mae'r Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn nodi'r gwaith y bydd y Cyngor yn ei wneud yn ystod 2023/24 i gyflawni dyheadau Cynllun y Cyngor 2023-2028. Rhaid llongyfarch staff y Cyngor nid yn unig am eu gwaith caled ar hyd y flwyddyn ond hefyd am eu hymrwymiad i gyflawni prosiectau a ffrydiau gwaith sy'n ychwanegol at eu dyletswyddau o ddydd i ddydd..
Amlinellodd y Cynghorydd Douglas Fowlie y pwyntiau trafod gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wrth iddo ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn ei gyfarfod ar 19 Medi 2023. Roeddent yn cynnwys y trefniadau ar gyfer codi ymwybyddiaeth o lwyddiannau'r Cyngor; y mesurau a roddwyd ar waith a gafodd yr effaith gadarnhaol hon ar berfformiad a ph’un ai y gellid dysgu unrhyw wersi o'r broses honno i'w rhannu ar draws y sefydliad; effaith yr argyfwng costau byw ar allu'r Cyngor i wasanaethu pobl Ynys Môn, a'r meysydd perfformiad y mae angen eu blaenoriaethu yn seiliedig ar risg yn ystod 2023/24. Ar ôl ystyried y materion hyn a'r sicrwydd a ddarparwyd gan Swyddogion ac Aelodau Portffolio, penderfynodd y Pwyllgor argymell yr Adroddiad Perfformiad a Lles Blynyddol ar gyfer 2022/23 i'r Pwyllgor Gwaith fel adlewyrchiad teg a chyflawn o waith yr Awdurdod dros y cyfnod.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod llawer o resymau dros fod yn falch o'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2022/23 a bod yr adroddiad hefyd yn dangos ymrwymiad cryf y Cyngor i weithredu’n unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth ystyried lles trigolion yr Ynys yn awr ac yn y dyfodol wrth wneud penderfyniadau neu gymryd camau gweithredu. Mae llwyddiannau'r Cyngor, fel y'u cofnodwyd yn yr adroddiad, yn fwy arbennig fyth gan iddynt gael eu cyflawni mewn blwyddyn oedd yn llawn heriau nad oedd yn adlewyrchu blwyddyn arferol gyda’r argyfwng costau byw’n datblygu ac ansicrwydd ynghylch cyfraddau llog cynyddol yn effeithio ar bobl a busnesau. Mae cyd-destun y llwyddiannau’n aml yr un mor arwyddocaol â'r llwyddiannau eu hunain. Y nod fydd parhau â'r gwaith da yn 2023/24 gyda chefnogaeth staff y Cyngor, aelodau etholedig, partneriaid, a'r gymuned.
Cytunodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith nad oedd 2022/23 yn flwyddyn arferol i’r Cyngor a bod hynny wedi bod yn wir dros y blynyddoedd diwethaf gyda'r pandemig, y pwysau ariannol a’r argyfwng costau byw parhaus oll yn golygu bod heriau sylweddol i'r Cyngor ar ben ei waith o ddydd i ddydd. Wrth gyfeirio at un llwyddiant penodol a oedd wedi golygu bod 80 o gartrefi gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd yn erbyn targed o 50, pwysleisiodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai fod y llwyddiant hwn yn fwy arbennig fyth gan fod yr eiddo hynny wedi dod yn gartrefi i bobl leol a'u teuluoedd.
Penderfynwyd cytuno ar gynnwys yr Adroddiad Perfformiad 2022/23 fel adlewyrchiad teg a chyflawn o waith yr Awdurdod dros y cyfnod hynny ac argymell i’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod Hydref 26ain, 2023 y dylid ei fabwysiadu.
Dogfennau ategol: