· Adroddiad Blynyddol ar Ynys Môn gan GwE : 2022/2023
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
· Adroddiad Cynnydd Panel Sgriwtini Addysg
Cyflwyno adorddiad gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg.
· Siarter Craffu Addysg
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar Cyfarwyddwr Stategol (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Cofnodion:
· Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer Ynys Môn : 2022/2023
Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Gymraeg ei fod yn croesawu’r adroddiad a bod y cydweithio gyda GwE yn golygu fod y rhan fwyaf o ysgolion ar Ynys Môn yn perfformio’n dda.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr Awdurdod Lleol yn gweithio mewn partneriaeth agos ac effeithiol gyda GwE. GwE yw’r consortiwm addysg rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Dysgu Ynys Môn er mwyn gwella ysgolion, rhannu arfer dda, gwybodaeth a sgiliau, cynyddu cryfderau lleol ac adeiladu capasiti. Nododd fod yr adroddiad yn cynnwys atodiadau ar Gynnydd ac Effaith mewn Ysgolion Uwchradd ac Ysgolion Arbennig; Cynnydd ac Effaith mewn Clystyrau Cynradd a Data ar Hyfforddiant a Chefnogaeth a ddarparwyd i Ynys Môn. Nodwyd blaenoriaethau i’w datblygu ymhellach yng nghynlluniau gwella ysgolion uwchradd, fel y nodir yn yr adroddiad.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif bwyntiau canlynol:-
PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer Ynys Môn : 2022/23.
· Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Addysg
Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg.
Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, y Cynghorydd Gwilym O Jones, mai dyma drydydd adroddiad cynnydd y Panel ar gyfer y cyfnod Chwefror – Medi 2023. Nododd fod y Panel wedi cyfarfod ar saith achlysur yn ystod y cyfnod hwn, gan ystyried y materion canlynol:-
· Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru;
· Addysg Ddewisol yn y Cartref;
· Hunan-arfarnu – effaith gwaith y Panel Sgriwtini Addysg;
· Cynllun Strategol y Gymraeg : 2022-2032;
· Ysgolion a roddwyd mewn categori, ac a oedd angen dilyn i fyny gan Estyn neu gefnogaeth ychwanegol;
· Datblygu Cydweithio Effeithiol – edrych yn fanwl ar sut mae’r Gwasanaeth Dysgu’n creu’r amodau ar gyfer gwaith partneriaeth effeithiol;
· Model ar gyfer Sgriwtini Addysg – Siarter Sgriwtini Addysg;
· Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer Ynys Môn : 2022/2023;
· Rhaglen waith y Panel Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Mai 2023 – Ebrill 2024
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ei fod yn gwerthfawrogi gwaith y Panel Sgriwtini Addysg a’i gefnogaeth i’r Gwasanaeth Addysg.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif bwyntiau canlynol:-
· Gofynnwyd pa feysydd eraill y dylai’r Panel graffu arnynt? Mewn ymateb, dywedodd Cadeirydd y Panel fod Rhaglen Waith wedi’i datblygu ac mae’r adroddiad yn cyfeirio at hynny. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini y bydd y Panel yn canolbwyntio ar Iechyd Meddwl, Llesiant, Diogelu, Model Cydweithio Integredig, Cwricwlwm i Gymru, Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant a Llais y Dysgwr.
· Cyfeiriwyd at Adroddiad Blynyddol GwE ac yn benodol at bresenoldeb ac absenoldebau mewn ysgolion, yn enwedig yn dilyn y pandemig. Gofynnwyd a ddylai’r Panel Sgriwtini Addysg ystyried absenoldebau mewn ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod Swyddogion Llesiant a Swyddogion Cynhwysiant yn mynychu cyfarfodydd y Panel Sgriwtini Addysg ac mae eitem wedi’i chynnwys ar raglen waith y panel ym mis Ionawr 2024 i drafod presenoldeb ac absenoldebau mewn ysgolion.
· Nodwyd fod mwy o rieni’n dewis addysgu eu plant yn y cartref. Gofynnwyd a fyddai modd i’r Panel edrych ar y ddarpariaeth addysg yn y cartref. Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod y Panel wedi ystyried addysg ddewisol yn y cartref ac y bydd yn parhau i fonitro’r mater.
· Gofynnwyd i ba raddau mae’r Pwyllgor Sgriwtini yn fodlon â chyfeiriad gwaith y Panel? Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini fod gwaith y Panel Sgriwtini addysg wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol fel esiampl o arfer dda. Nododd fod y gwerth sy’n cael ei ychwanegu gan y broses sgriwtini yn y Panel Sgriwtini i’w weld yn yr adroddiadau cynnydd a gyflwynwyd i’r rhiant Bwyllgor.
· Gofynnwyd i ba raddau y mae’r Panel yn ymwybodol o’r safonau mewn ysgolion unigol a pha drefniadau monitro sydd ar waith? Mewn ymateb, dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod Swyddogion yn y Gwasanaeth Dysgu yn cyflwyno adroddiadau cynnydd i’r Panel Sgriwtini yn rheolaidd. Cynhelir trafodaethau manwl yn y Panel ac mae Swyddogion yn adrodd yn fanwl ar wahanol bynciau.
· Dywedodd Cadeirydd y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) fod y Panel Sgriwtini Addysg yn craffu ar addysg grefyddol a moeseg. Gofynnodd a ddylai’r Siarter Addysg gyfeirio at y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol pan fydd y Panel Sgriwtini yn trafod addysg grefyddol mewn ysgolion a gofynnodd a yw hyn yn cael ei wneud mewn ardaloedd eraill. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y CYSAG yn bwysig i’r Gwasanaeth Dysgu. Dywedodd y byddai’n fuddiol trafod y CYSAG yn y Panel Sgriwtini Addysg.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod diwethaf o ran gwaith y Panel Sgriwtini Addysg;
· Fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran datblygu model sgriwtini ar gyfer materion addysg fel sail ar gyfer gwaith y Panel Sgriwtini Addysg a’r ddau bwyllgor rhiant.
· Siarter Sgriwtini Addysg
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a’r Chyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Gymraeg ei fod yn croesawu’r Siarter Sgriwtini Addysg sy’n amlinellu’r broses sgriwtini.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-
· Gofynnwyd beth yw’r prif gymhelliant dros gynhyrchu Siarter Sgriwtini ar gyfer materion Addysg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mai’r prif gymhelliant dros lunio Siarter Sgriwtini ar gyfer Addysg yw creu proses sgriwtini effeithiol sy’n golygu bod y Panel Sgriwtini Addysg yn gallu herio a chefnogi’r Gwasanaeth Dysgu. Mae’r Siarter Sgriwtini Addysg hefyd yn ymateb i ofynion Estyn yn yr adroddiad ar yr arolwg diweddar o’r Gwasanaeth Dysgu.
· Gofynnwyd i ba raddau y mae goblygiadau ariannol yn effeithio ar weithredu’r Siarter? Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Sgriwtini nad oes unrhyw oblygiadau ariannol ynghlwm â gweithredu’r Siarter. Mae’r Siarter yn sylfaen i’r egwyddorion sgriwtini ar gyfer y Cyngor cyfan.
· Nodwyd fod cyflwyno Siarter fel sail i waith sgriwtini y Cyngor yn elfen ychwanegol yn y prosesau sy’n bodoli’n barod a gofynnwyd pa drefniadau sydd ar waith mewn awdurdodau lleol eraill? Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini fod datblygiadau eraill o ran cyflwyno Siarter Sgriwtini mewn awdurdodau eraill ond, serch hynny, byddant yn canolbwyntio ar wahanol flaenoriaethau yn eu hawdurdodau lleol.
· Nodwyd nad oes cyfeiriad at y Pwyllgor CYSAG yn y Siarter Sgriwtini Addysg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd y CYSAG yn cael ei gynnwys yn y Siarter Sgriwtini Addysg.
PENDERFYNWYD:-
· Cymeradwyo’r Siarter Sgriwtini Addysg fel sail ar gyfer craffu ar faterion addysg;
· Nodi’r nod o ddatblygu’r ddogfen maes o law fel Siarter Sgriwtini gyffredinol ar gyfer pob agwedd o’r gwaith sgriwtini a gyflawnir gan y Cyngor.
Dogfennau ategol: