Eitem Rhaglen

Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 2, 2023/24

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer yr adroddiad gan dynnu sylw at y ffaith bod 91% o'r dangosyddion perfformiad yn perfformio uwchlaw neu o fewn 5% o oddefgarwch i'w targedau, sy'n galonogol ar ddiwedd Chwarter 2. Mae rhai o'r straeon cadarnhaol yn cynnwys dangosyddion y Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERS), nifer y tai gwag sy'n cael eu defnyddio unwaith eto, dangosyddion Gwasanaethau Oedolion a Theuluoedd, dangosyddion Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, dangosyddion digartrefedd, rheoli gwastraff a dangosyddion priffyrdd. Er nad oedd dadansoddiad llawn o'r dangosyddion perfformiad iechyd corfforaethol ar gyfer y chwarter wedi bod yn bosibl, mae mwyafrif (67%) y dangosyddion lle mae data ar gael yn erbyn targedau sy'n cael eu monitro yn yr adran hon yn perfformio'n dda ac maent yn Wyrdd neu’n Felyn. Ar ddiwedd Chwarter 2 mae'r perfformiad yn erbyn y targed yn Goch mewn perthynas â dyddiau a gollwyd i absenoldeb am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn (FTE) ond dylid nodi bod salwch tymor hir yn ffactor dylanwadol ac yn cyfateb i 62% o'r cyfraddau absenoldeb ar gyfer y cyfnod.  Mae'r meysydd sy'n cael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol yn cynnwys y diwrnodau cyfartalog a gymerir i ddarparu grant Cyfleusterau i'r Anabl a’r amser a gymerir i ddarparu unedau llety y gellir eu gosod yn y Gwasanaethau Tai, canran yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd a nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yr ymatebwyd iddynt o fewn yr amserlen oherwydd y diffyg data sydd ar gael ar gyfer yr ail chwarter ar gyfer y gweithgaredd hwn. Er bod y rhagolygon ar gyfer sefyllfa ariannol y Cyngor wedi gwella o'r hyn a adroddwyd ar ddiwedd Chwarter 1, rhagwelir y bydd gorwariant o hyd ar ddiwedd y flwyddyn gyda chyllidebau rhai gwasanaethau o dan bwysau. Craffir ar wariant er mwyn cyfyngu ar y gorwariant.

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad o gyfarfod 21 Tachwedd 2023 y Pwyllgor lle craffwyd ar adroddiad Cerdyn Sgorio Chwarter 2. Cadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi bod yn falch o nodi bod 91% o'r dangosyddion yn perfformio'n dda a'u bod wedi gofyn am sicrwydd y byddai'r tri dangosydd sy'n tanberfformio yn gwella. Nodwyd y gorwariant a ragwelir a gofynnwyd sut mae pwysau cyllidebol yn cael eu rheoli a'u lliniaru. Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau hefyd am y camau sy'n cael eu dilyn mewn ymateb i'r cynnydd yn y dyddiau cyfartalog a gollwyd i absenoldeb am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn. Nodwyd nifer yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd a chodwyd cwestiynau ynghylch effaith y mesurau lliniaru a gyflwynwyd. Trafodwyd y ddau ddangosydd sy’n tanberfformio yn adran gwasanaethau tai sy'n ymwneud â'r dyddiau cyfartalog a gymerwyd i ddarparu grant Cyfleusterau i'r Anabl a’r amser a gymerir i ddarparu unedau llety y gellir eu gosod (Dangosyddion 28 a 29 yn y drefn honno) a gofynnwyd am waith pellach ar y meysydd hyn. Gofynnwyd cwestiynau hefyd am ddangosyddion lleol i fesur perfformiad mewn cysylltiad â tharged sero net y Cyngor. Yn dilyn ei drafodaethau, cytunodd y Pwyllgor i argymell adroddiad cerdyn sgorio Chwarter 2 2023/24 a'r mesurau lliniaru a oedd ynddo i'r Pwyllgor Gwaith a hefyd penderfynodd sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen Sgriwtini i archwilio perfformiad yn erbyn Dangosydd 29 yn y Gwasanaethau Tai gyda chais i grŵp swyddogion ddadansoddi'r perfformiad yn erbyn Dangosydd 28 gyda'r bwriad o wella perfformiad y gweithgareddau hyn sy’n gysylltiedig â thai.

Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn braf gweld perfformiad yn dal ei dir ar ddiwedd Chwarter 2. Tynnodd sylw at absenoldeb salwch fel maes pwysig i'w fonitro wrth symud i'r trydydd chwarter gan fod iddo oblygiadau ehangach ar gyfer perfformiad y tîm a’r gwasanaeth. Croesawodd y ffaith y byddai Sgriwtini yn trafod i geisio ymchwilio'n ddyfnach i'r data y tu ôl i'r ddau darged a fethwyd yn y Gwasanaethau Tai gan fod y dystiolaeth yn awgrymu y gallai hynny fod o gymorth i ddeall y ffactorau sy'n dylanwadu ar berfformiad y dangosyddion hynny.

Cydnabu aelodau'r Pwyllgor Gwaith y perfformiad cadarnhaol yn gyffredinol a'r ymdrechion a wnaed i gynnal lefel y perfformiad ar adeg anodd. Nodwyd y meysydd amlwg a rhoddwyd sicrwydd y byddai gwaith monitro’n cael ei wneud a sylw’n cael ei roi i'r meysydd hynny lle methwyd y targed. Pwysleisiodd Aelodau’r Pwyllgor Gwaith ei bod yn bwysig  egluro’r cyd-destun ar gyfer y dangosyddion sy'n tanberfformio; cyfeiriodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai at achosion cymhleth sy’n gallu effeithio'n sylweddol ar yr amserlen o ran darparu grant Cyfleusterau i'r Anabl (Dangosydd 28); cyfeiriwyd hefyd at ddiffyg contractwyr/gweithwyr sy’n gallu effeithio ar yr amser a gymerir i wneud eiddo y mae angen ei adnewyddu yn barod i’w hail-osod fel ffactor ym mherfformiad Dangosydd 29. Diolchodd y Cynghorydd Pritchard i’r pwyllgor Sgriwtini am y drafodaeth a'r adborth mewn perthynas â'r dangosyddion hyn ar gyfer gweithgareddau Tai ac roedd yn awyddus i gyfrannu at y gwaith pellach y bwriedir ei wneud. Canmolodd y perfformiad o ran dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd - roedd wedi rhagori ar y targed - ynghyd â Dangosyddion Perfformiad Gwasanaethau Plant a oedd i gyd yn Wyrdd ar wahân i un a oedd yn Felyn ac o fewn 5% i'r targed a oedd yn arbennig o dda yng ngoleuni'r cynnydd mewn atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac effaith yr argyfwng costau byw. Yn yr un modd, tynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts sylw at y ffaith bod dau o'r tri dangosydd cynllunio yn Wyrdd a bod yr unig ddangosydd sy'n tanberfformio mewn perthynas â nifer yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd sy'n cynnwys nifer fach iawn o achosion o gymharu â nifer y ceisiadau cynllunio yr ymdrinniwyd â nhw yn y cyfnod.

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 2 2023/24 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau yn  y dyfodol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: