Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2023/24

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan ddweud, yn seiliedig ar y data hyd at ddiwedd Chwarter 2, bod y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2023/24 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor yn dangos gorwariant o £0.364m sy'n cynrychioli 0.21% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2023/24. Er bod y sefyllfa hon yn well na'r hyn a adroddwyd ar ddiwedd Chwarter 1 ac yn berfformiad cadarn o ystyried yr heriau, mae rhai gwasanaethau, yn benodol Gofal Cymdeithasol - Oedolion a Phlant yn parhau dan bwysau sylweddol fel yr adlewyrchir gan Dabl 1 yn yr adroddiad ac mae’r gorwario gan y gwasanaethau hynny’n cael ei wrthbwyso gan danwariant mewn gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor. Cyfeiriodd Aelod Portffolio Cyllid at Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf. Nid oedd yn sôn am gyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol naill ai yng Nghymru na Lloegr. Roedd hyn yn peri pryder yn enwedig o ystyried cyflwr enbydus rhai cynghorau o safbwynt cyllid. Mae’n annhebygol y bydd swm ychwanegol o £305m i Gymru (sy'n golygu cynnydd mewn gwariant yn Lloegr) hyd yn oed yn talu’r cynnydd yng nghostau cyflogau yng Nghymru cyn i'r pwysau sy'n deillio o gostau pensiwn Athrawon uwch hefyd gael eu hystyried. Mae sefyllfa ariannol awdurdodau lleol Cymru felly yn peri pryder. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, er bod y ffigurau, sy’n seiliedig ar chwe mis o wariant gwirioneddol yn gadarnach, gall cyfnod y gaeaf sydd o’n blaenau fod yn heriol yn enwedig ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phriffyrdd. Nid yw'r argyfwng costau byw wedi dod i ben ac mae'n debygol o arwain at gynnydd yn y galw am nifer o wasanaethau'r Cyngor. Er bod y dyfarniad cyflog ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu ar gyfer 2023/24 wedi'i setlo a'r costau’n cael eu talu o'r ddarpariaeth bresennol, mae'r setliad yr un fath â'r swm a gynigiwyd gan y Cyflogwyr yn ôl ym mis Mawrth 2023, ac nid oes unrhyw arwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant ychwanegol i dalu cost y codiad cyflog i Athrawon o fis Medi 2023, fel y gwnaeth yn 2022. Mae'r prif amrywiadau yn y gyllideb yn yr adroddiad yn ymwneud â gwasanaethau Oedolion a Phlant. Mae sefyllfa gwasanaethau Oedolion wedi gwella tra bod gwasanaethau Plant wedi dirywio, yn bennaf oherwydd costau ychwanegol o ganlyniad i newidiadau i'r lleoliadau presennol. Mae incwm Y Dreth Gyngor yn agos at y gyllideb ac mae cyfraddau casglu’r Dreth Gyngor wedi dychwelyd i'r lefelau cyn Covid. Mae ad-daliad o £1.2m ar y cyfraddau sy'n daladwy ar Oriel Ynys Môn wedi'i sicrhau yn dilyn apêl a bydd yn cael ei ychwanegu at falansau'r Cyngor.

 

Ystyriodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr adroddiad ac ymysg y materion a godwyd oedd y posibilrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod cosb am beidio â chyflawni targedau ailgylchu ar gyfer 2021/22 a 2022/23 a allai effeithio ar sefyllfa alldro y Gwasanaeth Rheoli Gwastraff er y nodwyd hefyd fod cyfraddau ailgylchu ar i fyny eto gyda chymorth mewnbwn gan WRAP Cymru. Cydnabu'r Aelodau fod llawer o heriau o'n blaenau yn enwedig o ran cyllideb 2024/25 a bod rhai gwasanaethau'n dod dan bwysau cynyddol, yn enwedig gofal cymdeithasol ar ôl blynyddoedd lawer o danfuddsoddi yn genedlaethol. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig parhau i fonitro perfformiad y gyllideb fel y gellir nodi a pharatoi pwyntiau gwasgu wrth baratoi cyllideb 2024/25. Trafodwyd yr amserlen o ran trafodaethau ynglŷn â setliadau cyflog 2024/25 a'r goblygiadau ar gyfer pennu'r gyllideb, gyda'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynghori y bydd setliadau cyflog ar gyfer 2024/25 yn parhau i fod yn heriol oherwydd y cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a fydd yn effeithio ar y sector gofal yn benodol a thrwy hynny ar y Cyngor fel comisiynydd gwasanaethau gofal a hefyd oherwydd y gyfradd chwyddiant bresennol. Bydd yn rhaid gwneud darpariaeth ar gyfer codiadau cyflog yn y gyllideb ddrafft hyd nes y cadarnheir cais yr Undeb a chynnig y Cyflogwr ar gyfer 2024/25 ar ôl y Flwyddyn Newydd.

 

Penderfynwyd –

·           Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2023/24;

·           Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2023/24, y manylir arnynt yn Atodiad C;

·           Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2023/24 yn Atodiadau CH a D.

 

 

Dogfennau ategol: