Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.
Cofnodion:
(Gan fod Cadeirydd y Pwyllgor wedi datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, roedd yr Is-gadeirydd yn y Gadair ar gyfer yr eitem). Etholwyd y Cynghorydd Ken Taylor yn Is-gadeirydd ar gyfer yr eitem hon yn unig).
Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Is-gadeirydd yn y Gadair fod Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rhoi cyflwyniad i Aelodau mewn Sesiwn Friffio ym mis Gorffennaf. Nododd fod y Prif Swyddog Tân wedi tynnu sylw at y cynigion a’r opsiynau yn y ddogfen ymgynghori mewn perthynas ag Adolygiad o Ddarpariaeth Brys. Nodwyd fod y Prif Swyddog Tân wedi darparu sylwadau ychwanegol yn dilyn cyhoeddi Rhaglen y cyfarfod hwn a bydd cyfle i’r Pwyllgor ymateb i’r sylwadau hynny.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr ymgynghoriad yn cyfeirio at Adolygiad o Ddarpariaeth Brys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a chyflwynwyd 3 Opsiwn i’w trafod ac ymgynghori arnynt, ynghyd â’r oblygiadau ariannol. Mae ymateb drafft ar ran y Cyngor ynghlwm i’r adroddiad. Dywedodd ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor Sgriwtini gael cyfle i wneud sylwadau ar yr ymateb drafft. Ychwanegodd fod y mwyafrif o gyllid Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n cael ei dderbyn ar ffurf ardoll gan y chwe Awdurdod unedol yn yr ardal. Mae’r Cyngor yn cyfrannu at y gronfa gyfun hon, gyda’r cyfraniad yn seiliedig ar faint y boblogaeth. Byddai unrhyw newid yng nghyllideb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n cael effaith ar yr ardoll a byddai’n creu pwysau ychwanegol ar gyllideb y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Gweithredol (Tîm Arweinyddiaeth) fod y cyfnod ymgynghori ar gyfer ymateb i’r Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dod i ben ddiwedd mis Medi. Nododd mai bwriad yr ymateb drafft i’r ymgynghoriad yw crynhoi’r prif bryderon y dymuna’r Cyngor eu hamlygu.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai Opsiwn 3 yn y ddogfen ymgynghori’n cael effaith ar yr Ynys ond ni fyddai’r ddau opsiwn arall yn cael effaith ar y gwasanaeth a ddarperir gan yr Awdurdod Tân ac Achub, ond byddai’n cael effaith ariannol ar yr awdurdodau lleol.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif materion canlynol:-
· Gofynnwyd a yw’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi ystyried adolygu ei gostau gweinyddu canolog er mwyn achub gwasanaethau rheng flaen. Dywedodd y Prif Weithredwr fod cwestiynau tebyg am dorri costau gweinyddol i achub gwasanaethau rheng flaen wedi’u gofyn y llynedd wrth osod yr ardoll. Nododd fod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi lleihau costau gweinyddol canolog dros y blynyddoedd, yn debyg iawn i’r Awdurdod hwn. Ychwanegodd fod yr Awdurdod Tân ac Achub wedi gweld yr ymateb drafft, yn dilyn cyhoeddi’r Rhaglen ar gyfer y Pwyllgor hwn, ac maent wedi darparu manylion i ddangos sut y bu iddynt dorri hyd at 10% oddi ar eu costau yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae’n dangos hefyd fod costau canolog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn is na chostau canolog unrhyw Awdurdod Tân arall yng Nghymru. Serch hynny, roedd y Prif Weithredwr o’r farn fod angen i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru edrych eto ar ei gostau gweinyddol canolog o ganlyniad i’r pwysau ariannol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 fod cwestiynau tebyg ynghylch costau canolog wedi cael eu codi yn ystod cyfarfodydd rhwng Swyddogion Adran 151 chwe awdurdod lleol gogledd Cymru a Swyddogion Cyllid y Gwasanaeth Tân ac Achub. Nododd fod angen cynnal trafodaethau pellach gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub i ganfod a yw’r gymhariaeth o ran costau canolog gyda’r ddau Wasanaeth Tân ac Achub arall yng Nghymru yn un teg.
· Holwyd a yw ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad yn adlewyrchiad teg o safbwyntiau’r Cyngor. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod yr ymateb drafft yn ymateb gan swyddog i ddogfennau ymgynghori’r Awdurdod Tân ac Achub ac fe’i rannwyd yn anffurfiol gydag aelodau’r Pwyllgor Gwaith. Cadarnhaodd y Pwyllgor Gwaith y byddai’n briodol i’r ymateb drafft gael ei ystyried drwy’r broses Sgriwtini er mwyn atgyfnerthu a chryfhau’r ymateb drafft cychwynnol.
· Gofynnwyd a yw’r ymateb drafft i’r ymgynghoriad yn cynnwys unrhyw fylchau. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd angen i’r Cyngor adolygu a diweddaru’r ymateb i’r ymgynghoriad yn sgil derbyn gwybodaeth ychwanegol gan y Prif Swyddog Tân ac yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod hwn, yn ogystal â’r drafodaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 26 Medi. Dywedodd y gallai’r Awdurdod Tân ac Achub sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i adolygu ei gostau craidd, gyda’r Swyddogion Adran 151 yn bresennol.
· Gofynnwyd pam nad yw’r Ardoll Treth Gyngor ar gyfer yr Awdurdod Tân ac Achub yn cael ei ddangos ar filiau Treth Gyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y ddeddfwriaeth yn datgan nad yw Ardoll yr Awdurdod Tân ac Achub yn cael ei ddangos ar filiau Treth Gyngor. Awgrymodd y gellid anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ailystyried y ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y ddeddfwriaeth yn pennu pwy sydd â’r hawl i godi praesept ar y Dreth Gyngor h.y. Awdurdod yr Heddlu a Chynghorau Tref a Chymuned; caniateir i’r Awdurdod Tân ac Achub godi ardoll ond nid yw deddfwriaeth Llywodraeth Cymru’n caniatáu i awdurdodau lleol ddangos yr ardoll ar filiau Treth Gyngor; mae’r ardoll yn cael ei dangos ar wefan y Cyngor ac ar y daflen sy’n cael ei chynnwys gyda’r biliau Treth Gyngor i ddangos sut mae’r Awdurdod yn gwario ei arian.
· Cyfeiriwyd at ymateb y Prif Swyddog Tân i’r ymateb drafft a baratowyd gan y Cyngor. Holwyd a fyddai’r dogfennau gerbron y Pwyllgor yn arwain at newid sylweddol yn ymateb y Cyngor ac a fyddai angen craffu ymhellach ar y dogfennau. Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Tîm Arweinyddiaeth wedi trafod yr ymateb i’r ymgynghoriad ar yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys, a hynny oherwydd bod yr ymgynghoriad dan gyfyngiad amser, a phenderfynwyd ei bod yn bwysig rhoi cyfle i’r Pwyllgor Sgriwtini wneud argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith ynghylch yr ymateb drafft a baratowyd ar ran y Cyngor.
· Cyfeiriwyd at Opsiwn 3 yn y dogfennau, a’r opsiwn posib o gau’r Orsaf Dân ym Miwmares. Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol ar gyfer Ward Seiriol, y credir y byddai’r opsiwn o gau’r Orsaf Dân ym Miwmares yn peryglu bywydau oherwydd gwytnwch y ddwy bont sy’n cael eu heffeithio gan amodau’r tywydd, ac oherwydd y cymunedau gwledig yn ne ddwyrain yr Ynys. Nododd fod llifogydd parhaus yn effeithio ar y rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal. Ychwanegodd fod dau gartref gofal yn yr ardal. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r materion a godwyd yn cael eu nodi yn yr ymateb drafft.
PENDERFYNWYD :-
· Derbyn ymateb drafft cychwynnol y Cyngor fel y’i cyflwynwyd gyda’r adroddiad, yn amodol ar y canlynol:-
· Y dylai’r Tîm Arweinyddiaeth ystyried y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd gan y Prif Swyddog Tân;
· Cynnig y sylwadau a ganlyn i’r Tîm Arweinyddiaeth eu hystyried fel rhan o’r broses adolygu cyn cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 26 Medi 2023:-
· Gofyn i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gynnal adolygiad o’u costau gweinyddol a chanolog fel sail ar gyfer gosod yr ardoll, gan ymgorffori mewnbwn Swyddogion Adran 151 yng ngogledd Cymru;
· Gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y dylid dangos yr ardoll a godir gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ar filiau Treth Gyngor ar gyfer preswylwyr lleol;
· Bod angen ystyried ffactorau o fewn Opsiwn 3 yn yr adroddiad, o ran gwytnwch y ddwy bont yn sgil amodau tywydd a chymunedau gwledig yn ne ddwyrain yr Ynys;
· Nodi fod oblygiadau ychwanegol o ran costau wedi’u cynnwys yn y tri Opsiwn a gyflwynwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Dogfennau ategol: