Eitem Rhaglen

Aelodaeth Pwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn

 

I ystyried aelodaeth Pwyllgorau’r Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fel a ganlyn :-

 

 

·        Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau

 

·        Pwyllgor Grantiau Cyffredinol

 

·        Pwyllgor Adfywio

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan yr Ysgrifennydd ar sefydlu’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn dilyn y gymynrodd a gafwyd gan Shell UK er budd pobl Ynys Môn.  Dywedodd fod yr Ymddiriedolaeth yn werth o gwmpas £15m ynghyd â’r tir yn Rhosgoch sydd dros 190 o erwau.  Y Cyngor Sir yw Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Elusennol, gan weithredu trwy’r aelodau.

 

Dywedodd fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi trafod y gwrthdaro diddordeb posib rhwng rôl swyddogion y Cyngor Sir a’r Ymddiriedolaeth Elusennol, ynghyd â rôl yr Aelodau Etholedig fel Aelodau o’r Cyngor Sir a’r Ymddiriedolaeth.  Mae’r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi penderfynu gofyn am gyngor proffesiynol ynghylch gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth i’r dyfodol, ynghyd â chyngor mewn perthynas â gwerthu’r tir yn Rhosgoch.  Wrth i gyfraith elusennau ddod yn fwyfwy cymhleth, a gan bod raid cydymffurfio gyda chanllawiau’r Comisiwn Elusennau, byddai gwahanu gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth oddi wrth y Cyngor yn sicrhau y byddai cyngor a chymorth arbenigol addas ar gael i’r Ymddiriedolaeth i’r dyfodol. 

 

Nododd yr Ysgrifennydd ymhellach y bydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn gweithredu gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd a thri phwyllgor:  y Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau, y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a’r Pwyllgor Adfywio.  Fodd bynnag, ychydig o weithgareddau fu o fewn y Pwyllgor Adfywio yn y blynyddoedd diwethaf ac yn anaml iawn y mae’n cyfarfod. Yn y gorffennol mae’r Aelodau wedi ceisio osgoi cyflwyno agweddau gwleidyddol yng ngweithgareddau’r Ymddiriedolaeth ac roedd disgwyl i bob aelod wasanaethu ar un o’r tri phwyllgor.

 

Yn unol â’r Weithred sy’n llywodraethu’r Ymddiriedolaeth, mae’r aelodau yn arwyddo sieciau ar gyfrif yr Ymddiriedolaeth.  Mae angen tri aelod ar y mandad, gydag unrhyw ddau ohonynt yn arwyddo bob tro.  Y Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd ac un arall sydd yn arwyddo - yr arferiad yw mai’r cyn-Gadeirydd yw’r trydydd llofnodydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Awdurdodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol a Chadeirydd y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol (pan fydd wedi ei benodi/phenodi) i arwyddo sieciau ar ran yr Ymddiriedolaeth;

·         Cadarnhau sefydlu tri phwyllgor i weithredu ar ran yr Ymddiriedolaeth lawn ac, yn unfrydol, hepgor yr angen am gydbwysedd gwleidyddol.  Bydd yr aelodaeth fel a ganlyn:

Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau:

 

Ann Griffith, Kenneth P. Hughes, Trefor Ll. Hughes, A.M. Jones, G.O. Jones,  H. Eifion Jones, R.Ll. Jones, Alun Mummery, Ms. Nicola Roberts, Dafydd R. Thomas.

 

Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fel aelodau ex-officio.

 

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol:

 

Lewis Davies, Richard A. Dew, Jeff M. Evans, Jim Evans, Vaughan Hughes, Victor Hughes, Llinos M. Huws, Richard O. Jones, Dylan Rees, Peter S. Rogers.

 

Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fel aelodau ex-officio.

 

 

 

 

 

Pwyllgor Adfywio :

 

John Griffith, Derlwyn R. Hughes, W.T. Hughes, Carwyn Jones, Raymond Jones, R. Meirion Jones, Bob Parry OBE, J. Arwel Roberts, Alwyn Rowlands, Ieuan Williams.

 

Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fel aelodau ex-officio.

 

·         Awdurdodi’r Pwyllgorau i benodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd fel bod modd iddynt weithredu’n effeithiol.

 

·         Derbyn y gall bod angen ailystyried yr uchod yn dilyn yr adolygiad cyfredol o Gyfansoddiad yr Ymddiriedolaeth a’i dulliau gweithredu pan fydd y Cyfreithwyr allanol a gomisiynwyd i gwblhau gwaith yn adrodd yn ôl ar fath faterion.

 

·         Bod aelodaeth y Pwyllgorau hyn yn parhau am oes y Cyngor Sir presennol neu hyd nes y gwneir unrhyw newidiadau i’r Cyfansoddiad yn dilyn yr adolygiad.

 

 

Dogfennau ategol: