Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 204/25 i 2025/26 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams yr adroddiad oedd yn nodi’r adnoddau tebygol y bydd eu hangen ar y Cyngor ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf ynghyd â manylion am sut mae'r Cyngor yn bwriadu cydbwyso'r adnoddau hynny â'r cyllid sydd ar gael.
Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 sylw at wybodaeth yn yr adroddiad. Roedd yn cynnwys sefyllfa ariannol gyfredol y Cyngor o ran y gyllideb a osodwyd ym mis Mawrth 2023 a sut y cafodd ei hariannu, cymhariaeth â blynyddoedd blaenorol yn dyddio'n ôl i 2018/19 o ran yr amrywiad yn y bwlch cyllido dros y cyfnod o chwe blynedd, y cyd-destun ehangach mewn perthynas â'r rhagolygon economaidd cenedlaethol a'r gyllideb a'r newidiadau yng nghyllid Llywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf. Nodwyd bod pwysau ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn golygu bod y posibilrwydd i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol yn ystod y ddwy flynedd nesaf yn gyfyngedig ac ar gyfer pob gostyngiad o 1% yng nghyllid Llywodraeth Cymru byddai’n rhaid i'r Dreth Gyngor gynyddu 3 i 4% i wneud iawn am y gwahaniaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi setliad cyllid dangosol o 3% ar gyfer llywodraeth leol Cymru gyfan ar gyfer 2024/25 ond nid oes unrhyw wybodaeth ar gyfer 2025/26. Mae hyn yn seiliedig ar adolygiad gwariant Llywodraeth y DU yn 2021 nad oedd yn cynnwys y cynnydd sylweddol mewn chwyddiant a welwyd yn 2022 a 2023.
Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/23 nododd y Cyngor danwariant net o £1.212m (2.37%) gyda'r holl wasanaethau ac eithrio Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion a Thai a nododd danwariant yn erbyn eu cyllideb. Arweiniodd hyn at gynnydd ym malansau cyffredinol y Cyngor i £13.966m. Gan fod £3.789m o'r cronfeydd wrth gefn hyn wedi'u neilltuo fel cyllid ar gyfer cyllideb 2023/24, lefel y cronfeydd wrth gefn wrth symud ymlaen yw £10.186m sy'n cyfateb i 5.83% o'r gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24. Mae hyn yn cymharu â'r ffigur targed o £8.7m (5%) a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith.
Aeth y Swyddog Adran 151 drwy adran 5 o'r adroddiad gydag Aelodau’r Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adran yn nodi'n fanwl y meysydd a ystyrir fel y prif bwysau cyllidebol sy'n wynebu'r Cyngor yn ystod cyfnod y Cynllun a'u heffaith bosibl ar gyllideb y Cyngor wrth symud ymlaen. Mae'r rhain yn cynnwys codiadau cyflog, costau ynni, y galw ar wasanaethau Plant ac Oedolion, cynnydd mewn digartrefedd a chwyddiant cyffredinol yn ogystal â nifer o benawdau eraill lle mae pwysau ar ffurf costau cynyddol, ymrwymiadau a/neu angen am wasanaethau. Gan ystyried yr holl faterion a ddisgrifir yn adran 5 a sefyllfa incwm y Cyngor y cyfeirir ati yn adran 6 gan ddefnyddio'r rhagdybiaethau a nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad, amcangyfrifir y bydd cyllideb gwariant refeniw net y Cyngor yn cynyddu £13.072m yn 2024/25 (i £187.641m) a £5.368m yn 2025/26 (i £193.082m), Cynnydd o 10.6% dros y cyfnod o ddwy flynedd.
Mae Tabl 3 yr adroddiad yn dangos yr incwm ychwanegol y byddai newidiadau amrywiol mewn Cyllid Allanol Cyfun (AEF) gan Lywodraeth Cymru a chynnydd yn y Dreth Gyngor yn eu cael ar gyllid y Cyngor gan gymryd nad oes unrhyw newid yn sylfaen y Dreth Gyngor ac y byddai unrhyw gyllid ychwanegol yn sgil cynnydd ym mhremiwm y Dreth Gyngor yn cael ei ddefnyddio i gynyddu cyllidebau ar brosiectau i helpu i ddarparu tai fforddiadwy. Er mwyn cyllido’r gofyniad cyllidebol ychwanegol - £13.07m yn ôl yr amcangyfrif - ynghyd â gwneud yn iawn am y £3.78m o gronfeydd wrth gefn a ddefnyddir i gydbwyso'r gyllideb yn 2023/24 gyda chyllid parhaol, byddai angen i'r AEF godi 7% ac i’r Dreth Gyngor gynyddu dros 20% i gynhyrchu digon o gyllid. Os bydd yr AEF ond yn codi 3% fel mae'r arwyddion yn awgrymu, bydd yn ei gwneud yn ofynnol i Dreth y Cyngor godi tua 30% er mwyn cynhyrchu digon o gyllid parhaol i fodloni gofyniad cyllideb net o £187.64m. Pe bai'r AEF yn codi 3% a'r Dreth Gyngor 5%, y cyllid ychwanegol sy'n cael ei gynhyrchu yw £6.11m ar ôl addasu ar gyfer y cynnydd mewn CTRS gan adael bwlch o £6.96m. Fodd bynnag, rhaid ystyried y defnydd o gronfeydd wrth gefn yn 2023/24 ac, os na ddefnyddir cronfeydd wrth gefn yn 2024/25 yna mae'r diffyg cyllid yn cynyddu £3.78m i £10.74m.
Mae Adran 10 yr adroddiad yn trafod ffyrdd posibl o bontio'r bwlch cyllido. Er bod gan y Cyngor rywfaint o allu i ddefnyddio balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn i leihau'r bwlch, mae risgiau ynghlwm â'r opsiwn hwn gan nad yw'r arian a gedwir wrth gefn yn ffynhonnell incwm gylchol ac nid yw defnyddio cronfeydd wrth gefn yn mynd i'r afael â'r angen i gau'r bwlch cyllido yn y tymor hir. Mae defnyddio cronfeydd wrth gefn hefyd yn dileu'r cronfeydd wrth gefn a gedwir gan y Cyngor ac yn gwanhau ei sefyllfa ariannol a'i wytnwch i ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl. O ystyried ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys os nad yw lefel y cyllid (gan Lywodraeth Cymru, y Dreth Gyngor a chronfeydd wrth gefn a balansau) yn ddigonol i dalu cost darparu gwasanaethau yn y flwyddyn, yna, yr unig opsiwn yw lleihau'r gyllideb gwariant net i lefel y cyllid sydd ar gael. Gan gymryd bod y bwlch cyllido yn £10m, yna mae hynny'n cyfateb i arbedion refeniw o 5.7% o gyllideb gwariant net 2023/24.
Mae paragraff 10.9 o'r adroddiad yn edrych ymlaen at 2025/26 lle amcangyfrifir bod diffyg o £11.51m yn y gyllideb. Mae £9.93m o’r ffigwr hwn yn ymwneud â diffyg yn y gyllideb a ddygwyd ymlaen o 2024/25, gan adael diffyg o £1.58m yn ychwanegol yng nghyllideb 2025/26.
Mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod y Cyngor yn wynebu ei sefyllfa ariannol fwyaf heriol ac ansicr ar hyn o bryd. Bydd yn rhaid iddo wneud penderfyniadau anodd er mwyn gosod cyllideb gytbwys yn 2024/25 a /26.
Wrth nodi'r sefyllfa fel y’i hadroddwyd roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod yr heriau gwirioneddol sydd o'n blaenau, gan gydnabod bod rhai dewisiadau a phenderfyniadau anodd i’w gwneud. Mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn wynebu heriau tebyg, neu hyd yn oed rai mwy. Y gobaith yw y bydd setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 yn well na'r disgwyl.
Penderfynwyd nodi cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2024/25 – 2025/26 a chymeradwyo’r rhagdybiaethau a wnaed.
Dogfennau ategol: