Eitem Rhaglen

Ymateb Cyngor Sir Ynys Môn i'r Adolygiad Darpariaeth Brys - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr oedd yn cynnwys ymateb y Cyngor i Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru – Adolygiad o Ddarpariaeth Frys i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Cafodd dogfennau a gyhoeddwyd fel rhan o'r ymgynghoriad eu cynnwys yn Atodiad B i'r adroddiad ynghyd ag adborth y Cyngor i'r opsiynau a gyflwynwyd o dan Atodiad A.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a chyfeiriodd at bwysigrwydd yr ymgynghoriad o ystyried y gallai ei ganlyniad ddylanwadu ar natur y gwasanaeth ar yr Ynys, yn benodol amseroedd ymateb brys. Mae'r rhan fwyaf o gyllid Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn deillio o ardoll sy'n cael ei osod yn flynyddol ac sydd wedyn yn cael ei rannu rhwng chwe awdurdod Gogledd Cymru ar sail poblogaeth. Daw cyfraniad y Cyngor i'r ardoll o'i gyllideb refeniw net ond nid yw manylion yr ardoll wedi'u cynnwys ar ddatganiad y Dreth Gyngor. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y pwysau ariannol y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu oddi tanynt ar hyn o bryd ac y gallai'r ymgynghoriad fod yn arwydd o bethau i ddod o ran y wasgfa ar gyllideb y Gwasanaeth Tân a’r posibilrwydd o ad-drefnu’r ddarpariaeth a allai olygu bod rhai ardaloedd yn talu mwy am lai. Safbwynt y Cyngor yw ei fod yn dymuno derbyn y gwasanaeth gorau posibl heb unrhyw gynnydd mewn costau os yw’n bosibl, ac mae’n gwrthwynebu unrhyw ostyngiad yn lefel y gwasanaeth ar yr Ynys. Mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i weld bod gwasanaethau rheng flaen yn cael eu diogelu a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i nodi arbedion effeithlonrwydd mewn meysydd eraill o fewn strwythur gweithredu ac arferion gwaith Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru e.e. costau canolog a hyfforddiant.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol (Tîm Arweinyddiaeth) fod y ddogfen ymateb ddrafft yn Atodiad A yn crynhoi safbwynt y Cyngor a'r prif bryderon a godwyd. Mae'r Prif Swyddog Tân wedi darparu ymateb i sawl cwestiwn ac mae'r ddogfen wedi'i diwygio'n unol â hynny.

 

Dywedodd y Cynghorwyr, Carwyn Jones a Gary Pritchard, eu bod yn cefnogi gwrthwynebiad y Cyngor i Opsiwn 3 a fyddai'n golygu cau un Orsaf Ar Alw ar yr Ynys, sef yr un ym Miwmares. Mynegwyd eu pryderon am yr effaith ar ardal dde-ddwyrain yr Ynys y byddai gweithredu'r opsiwn hwn yn ei chael o ran amseroedd ymateb ynghyd â diogelwch cymunedau’r ardal yn sgil hynny. Byddai’r ddarpariaeth agosaf o bosibl yn gorfod dod o’r ochr draw i’r Fenai a oedd yn golygu cymhlethdod ychwanegol pe bai tagfeydd ar y pontydd dros y Fenai.  Mae hyn yn cynrychioli lefel is o wasanaeth sy'n cynyddu'r bygythiad i fywyd. Gwnaed pwyntiau pellach am yr angen am fwy o dryloywder wrth adrodd am gostau'r Gwasanaeth Tân ac Achub gan gynnwys costau canolog a bod gwybodaeth am ardoll y Gwasanaeth yn cael ei chynnwys ar filiau'r Dreth Gyngor er gwybodaeth y cyhoedd a'r trethdalwr. Gwnaed awgrym y byddai adolygiad lleol o'r gwasanaeth yn ddefnyddiol i weld p’un ai a yw'r Cyngor yn cael gwerth am arian am ei gyfraniad. Cadarnhaodd y Cadeirydd ac Aelod Portffolio Cyllid ei fod yn fwy na £4m y flwyddyn. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr hefyd at y ddarpariaeth yn Llu Awyr Brenhinol y Fali a allai fod yn ffynhonnell gefnogaeth pe bai angen, er mai darpariaeth ar gyfer safle Llu Awyr Brenhinol y Fali oedd honno. Cytunwyd bod y sylwadau hynny'n cael eu hychwanegu yn yr ymateb.

 

Adroddodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio am ymateb y Pwyllgor Sgriwtini i'r ymgynghoriad a'r ymateb drafft. Cadarnhaodd fod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 19 Medi 2023, wedi derbyn yr ymateb drafft a'i fod wedi argymell yr ymateb i'r Pwyllgor Gwaith fel sail ar gyfer ymateb terfynol yn amodol ar dynnu sylw'r Tîm Arweinyddiaeth at y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Prif Swyddog Tân; yr angen i adolygu costau canolog a gweinyddol y Gwasanaeth a chynnwys mewnbwn gan Swyddogion Adran 151 fel sail ar gyfer gosod yr ardoll yn y dyfodol; gwahodd Llywodraeth Cymru i ystyried priodoldeb cynnwys manylion yr ardoll ar ddatganiadau’r Dreth Gyngor; y costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r tri opsiwn arfaethedig a goblygiadau Opsiwn 3 yng nghyd-destun effeithiau'r tywydd, gwytnwch y pontydd a phoblogaeth ynysig.

Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo’r ymateb drafft Cyngor Sir Ynys Môn i’r Adolygiad Darpariaeth Brys – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn Atodiad A yr adroddiad gan gynnwys sylwadau ychwanegol mewn perthynas â’r ddarpariaeth yn Llu Awyr Brenhinol Y Fali a'r angen am adolygiad lleol o’r gwasanaeth a ddarperir..

 

Dogfennau ategol: