Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 – FPL/2023/155 – Llwyn Onn, Llanfairpwll

FPL/2023/155

 

7.2 – FPL/2022/186 – Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch

FPL/2022/186

 

Cofnodion:

7.1  FPL/2023/155 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i uned gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Llwyn Onn, Llanfairpwlll

 

      Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi, 2023 penderfynwyd ymweld â'r safle.  Yn dilyn hynny, cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 20 Medi, 2023.

 

      Siaradwyr Cyhoeddus

 

      Anerchodd Mr Elfed Roberts y Pwyllgor fel gwrthwynebydd i'r cais a dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi bod y Pwyllgor wedi ymweld â'r safle ac i weld pa mor beryglus yw'r mynediad i briffordd yr A4080.  Dywedodd y byddai'n cyfeirio at dri phrif reswm pam y dylid gwrthod y cais.  Nododd yn gyntaf y dylid ystyried materion diogelwch a dywedodd y dylai'r Adran Priffyrdd fod wedi cadw at eu penderfyniad blaenorol yn 2016, sef bod angen cynnwys amod y dylai'r A4080 gydymffurfio â safonau cenedlaethol o ran llain welededd. O ganlyniad mae'r gyffordd yn beryglus gan nad yw'n bosibl gweld yn glir am 70 metr wrth yrru ar y briffordd; mae damwain yn siŵr o ddigwydd yn y lleoliad hwn.  Byddai cynyddu'r traffig i'r safle arfaethedig yn rhoi mwy o fywydau mewn perygl.   Yn ail, cyfeiriodd at or-ddatblygu datblygiad twristiaid sydd eisoes wedi cael effaith negyddol mewn cymunedau fel Rhosneigr a Moelfre.  Ystyriodd nad oes cyfiawnhad dros fwy o lety gwyliau yn y maes hwn fel y mynegwyd yn y Cyngor Cymuned a oedd wedi gwrthwynebu'r cais hwn.  Dywedodd ymhellach ei fod yn ystyried bod digon o lety gwyliau yn yr ardal fel Plas Coch, Parc Eurach, Bythynnod Plas Newydd a nifer o lety gwyliau eraill; byddai cymeradwyo'r cais hwn yn effeithio ar gydbwysedd yr ardal.  Yng nghyffiniau Llwyn Onn, ceir 11 o anheddau preswyl parhaol gyda nifer o'r rhai sy’n byw ynddynt yn dysgu'r Gymraeg.  Dywedodd ei bod yn hanfodol datblygu'r Gymraeg a bod y cais hwn yn groes i’r polisïau o ran annog pobl i ddysgu'r Gymraeg.  Bydd nifer y cartrefi y mae pobl yn byw ynddynt yn llawn amser o'i gymharu â'r 24 gwely o fewn y llety gwyliau yn Llwyn Onn yn golygu y bydd cymeriad a llonyddwch yr ardal yn cael eu heffeithio gan ymwelwyr yn ystod cyfnod y gwyliau.  Yn drydydd, cyfeiriodd at gryfder y gwrthwynebiad i'r datblygiad gan drigolion y gymuned gan eu bod o'r farn y bydd y cais yn gor-ddatblygu'r safle ac y bydd yn effeithio ar natur bywyd gwyllt yng nghyffiniau'r safle. Pwrpas y datblygiad yn bennaf yw creu incwm i'r ymgeisydd sy'n byw yn Swydd Derby.

 

      Anerchodd Mr Rhys Davies y Pwyllgor fel Asiant yr ymgeisydd i gefnogi'r cais gan ddweud ei fod yn dymuno ymateb i'r sylw gan y gwrthwynebydd o ran yr ymgeisydd sy'n byw yn Swydd Derby. Nododd fod y datblygwr, Amos Group Ltd., yn gwmni cofrestredig ar Ynys Môn sy'n cyflogi 70 o bobl leol yn llawn amser ac yn rhan amser ar brosiectau datblygu amrywiol ar draws yr Ynys.  Yn ystod yr ymweliad safle, roedd yn amlwg bod gwaith y cwmni o safon uchel a’i fod wedi buddsoddi miliynau yn yr economi lleol ac wedi cefnogi cwmnïau lleol sy’n cyflenwi deunyddiau adeiladu ers sawl blwyddyn.  Mae'r ymgeisydd yn cefnogi argymhelliad y Swyddog yn llawn o ran y cais.  At hyn, dywedodd, fel y gwelwyd yn ystod yr ymweliad safle, fod y cais hwn ar gyfer addasu ysgubor wag draddodiadol a arferai fod yn rhan o ystâd fferm Llwyn Onn. Mae'n bwysig bod adeiladau fferm yn cael eu defnyddio ar gyfer y dyfodol a llety gwyliau yw'r opsiwn y mae polisïau cynllunio yn ei ganiatáu ar hyn o bryd.  Pwysleisiodd na fydd y cais yn arwain at golli llety preswyl presennol gan fod angen ailddefnyddio’r adeilad mewn modd cynaliadwy.  Nid yw'r cais yn gwrthdaro â mesurau Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd y llynedd sy'n ceisio diogelu’r stoc tai presennol a ddefnyddir fel llety gwyliau.  Dywedodd mai cais yw hwn i greu llety gwyliau nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd sy'n rhoi llai o bwysau ar y stoc tai o gymharu ag addasu cartrefi yn llety gwyliau.  Dywedodd Mr Davies ei fod yn cydnabod bod llety gwyliau yn Llwyn Onn ar hyn o bryd, fodd bynnag, datblygwyd y safle hwn fel anheddau marchnad agored ac nid oes unrhyw gyfyngiadau nac amodau ar y safleoedd hyn fel llety gwyliau yn unig.  Dywedodd ei fod yn dymuno cywiro'r cyfeiriad at y coetir hynafol a nodwyd yn adroddiad y Swyddog gan y dylid cyfeirio atynt fel coed a blannwyd ar goetir hynafol gan fod gwahaniaethau sylweddol rhwng y ddau ddynodiad.  Bydd plannu 200 o goed a gwrychoedd yn adfer bioamrywiaeth y coetir dan sylw. Dywedodd Mr Davies ymhellach fod yr ymgeisydd o'r farn bod y cais yn cyd-fynd â'r Cynllun Datblygu ac y bydd yn sicrhau budd ecolegol sylweddol o ran gwella tirwedd y coetir.

     

      Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y safle yng nghefn gwlad agored ardal Llanfairpwll wedi’i osod yn ôl o briffordd yr A4080 gerllaw safle Llwyn Onn.  Darperir mynediad i’r safle trwy fynediad i gerbydau sy'n bodoli eisoes ar gyfer safle Llwyn Onn.  Roedd gwaith wedi'i wneud i'r adeilad allanol, fodd bynnag, yn dilyn ymchwiliad gorfodi gellir ystyried y gwaith fel gwaith cynnal a chadw ac nid oedd angen caniatâd cynllunio.  Nododd y Swyddog Achos fod coed wedi eu torri yn dilyn yr ymweliad safle ond gan nad ydynt wedi'u diogelu gan y Gorchymyn Diogelu Coed (TPO) ac am nad ydynt wedi'u lleoli mewn ardal gadwraeth, nid oedd angen caniatâd cynllunio.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol o'r mater hwn ac ar hyn o bryd yn ymchwilio i'r mater o ran materion amgylcheddol nad ydynt yn ymwneud â'r broses gynllunio.  Dywedodd fod yr adeilad yn adeilad allanol unllawr ar ymyl coetir, sydd wedi’i ddynodi'n Goetir Hynafol.  Ar hyd cefn y safle mae tir amaethyddol agored.  Ar y cyfan, mae golygfeydd o'r safle wedi'u cuddio o olwg y cyhoedd, ac eithrio'r rhwydwaith llwybrau troed lleol sy'n pasio'n agos at y safle.  Mae'r adeilad ei hun yn unllawr gyda waliau cerrig, gyda tho ar oleddf ar un ochr yn unig gyda llechi naturiol.  Cais yw hwn i addasu'r adeilad allanol yn uned llety gwyliau ynghyd â chreu man parcio.  Ni fwriedir gwneud unrhyw estyniadau na gwaith allanol ychwanegol i'r adeilad fel rhan o'r cynllun.  Bydd yr ardal barcio ar ochr arall y coetir, gyda llwybr naddion pren tua 100m yn cysylltu'r maes parcio a'r llety.  At hyn, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod 15 llythyr yn gwrthwynebu’r cais wedi dod i law, a nodwyd yn adroddiad y Swyddog ynghyd â'r ymateb i'r gwrthwynebiadau.  Nododd fod egwyddor datblygiad o'r fath yn cael ei asesu yn erbyn polisi TWR 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Er mwyn dangos addasrwydd yr adeilad, darparwyd arolwg strwythurol gan yr ymgeisydd.  Daeth yr arolwg i'r casgliad bod yr adeilad yn strwythurol gadarn a'i fod yn addas ar gyfer y cynllun arfaethedig heb fod angen unrhyw waith ailadeiladu neu strwythurol mawr.  Wrth fynd i'r afael â'r pryderon ynghylch gor-ddatblygu'r safle, darparwyd Achos Busnes sy'n dangos bod y cynllun yn hyfyw ac yn benodol ei natur ac felly mae'r Awdurdod Cynllunio yn fodlon na fyddai'r cynllun yn arwain at ormod o lety o'r fath.  Mae ffigyrau diweddaraf y Dreth Gyngor o ran llety gwyliau ac ail gartrefi yn dangos bod y ganran yn Llanddaniel Fab yn 2.38%, sy'n sylweddol is na'r trothwy o 15% a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol. 

 

      Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach nad yw'r Awdurdod Priffyrdd wedi codi pryderon ynghylch mynediad nac effaith ar y rhwydwaith priffyrdd lleol gan y bydd y safle'n defnyddio'r mynediad presennol i safle Llwyn Onn.  Mae'r Swyddog Ecoleg a Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon â'r Adroddiad Ecolegol.  Mae'r ymgeisydd wedi rhoi Cynllun Strategaeth Tirwedd sydd wedi'i gynnwys yn Amod (03) o unrhyw gymeradwyaeth i'r cais a phlannir dros 200 o goed a 100 metr o wrychoedd a fydd yn gwella bioamrywiaeth y safle ynghyd â gosod blychau adar ac ystlumod.  Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.

 

      Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Lleol, fod Llanedwen yn cael ei nodi fel Ardal Tirwedd Arbennig a'i bod mewn cefn gwlad agored.  Mae sawl hen adeilad amaethyddol sydd eisoes wedi eu haddasu'n llety gwyliau yn yr ardal.  Nododd fod angen eiddo preswyl yn yr ardal a bod polisïau cynllunio yn gyfyngedig gan eu bod ond yn caniatáu ar gyfer addasu'r cais hwn yn llety gwyliau na fydd efallai'n hyfyw mewn 5 mlynedd oherwydd bod gormodedd o lety gwyliau ar hyn o bryd.  

 

      Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ei fod yn cydnabod bod safle'r cais o fewn cefn gwlad agored ac nad yw annedd breswyl yn dderbyniol o fewn y safle oherwydd polisïau cyfredol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  Mae'r cais yn cydymffurfio â pholisi cynllunio TWR 2 ac mae'r safle'n gynaliadwy gan fod llwybr troed ger y safle i Lanfairpwll a safle bws ger y safle. 

 

      Dywedodd y Cynghorydd John I Jones ei fod o'r farn bod gor-ddatblygu llety gwyliau o'r fath yn yr ardal. Cwestiynodd a yw'n groes i bolisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gan fod gorddarpariaeth o unedau gwyliau o'r fath.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, fel yr adroddwyd o'r blaen mai 2.8% yw canran y ddarpariaeth Dreth Gyngor ar gyfer cartrefi gwyliau a llety gwyliau yn yr ardal a'r trothwy a nodwyd o fewn y Canllawiau Cynllunio Atodol yw 15%.   Nododd nad yw'r unedau gwyliau penodol a adeiladwyd ym Mhlas Coch ac eraill yn yr ardal wedi'u cynnwys o fewn y diffiniad o ail gartref neu lety gwyliau.

 

      Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, pan gafodd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol ei baratoi, efallai bod y trothwy o 15% ar gyfer tai gwyliau a llety gwyliau wedi bod yn rhy uchel ac y bydd angen ail-werthuso'r ganran o fewn y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn y dyfodol.  Dywedodd ei fod yn cydymdeimlo â'r rhai a oedd yn gwrthwynebu'r cais hwn, ond roedd yn ymwybodol y gallai gwrthod y cais arwain at gostau i'r Cyngor pe bai'r ymgeisydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad.  Cynigiodd y Cynghorydd Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig hwn.

 

      Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid gwrthod y cais oherwydd gor-ddatblygu tai gwyliau a llety gwyliau yn yr ardal.  Eiliodd y Cynghorydd John I Jones y cynnig i wrthod y cais.

 

  Pleidleisiodd 5 o blaid y cais a 3 yn ei erbyn, felly:-

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  FPL/2022/186 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol yn faes carafanau teithiol, newid defnydd yr adeilad allanol presennol i ddefnydd ategol i'r maes carafanau ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth yn Esgobaeth Brân, Llanbedrgoch

 

      Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi, 2023 penderfynwyd ymweld â'r safle.  Yn dilyn hynny, cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 20 Medi, 2023.

 

      Siaradwyr Cyhoeddus

 

      Anerchodd Ms Catrin Owen y Pwyllgor fel gwrthwynebydd i'r cais a dywedodd ei bod yn cynrychioli'r 123 o bobl sy'n gwrthwynebu'r cais hwn.  Mewn sefyllfa ddelfrydol, dywedodd y byddai'r gymuned yn cefnogi menter o'r fath gan deulu lleol ond yn anffodus mae rhesymau dilys sydd wedi cael eu hanwybyddu yn ystod y broses ymgynghori y dylid mynd i'r afael â nhw.  Codwyd cwestiynau ynghylch a yw'n ddatblygiad hanfodol.  Y prif bryderon yw cyffordd yr A5025 i'r datblygiad a thaith o ddwy filltir ar hyd ffordd wledig a chul.  Mae'r rheoliadau cynllunio yn nodi'n glir y dylai datblygiad o'r fath fod yn hygyrch, a chwestiynodd a yw dwy filltir ar ffordd wledig yn dderbyniol.  Mae'r cais yn groes i bolisi cynllunio TWR 5 fel y nodwyd yn yr adroddiad ym mhwynt 5 (Tudalen 108) y dylai'r datblygiad fod yn hygyrch o brif rwydwaith priffyrdd heb niweidio nodweddion tirwedd o bwys; felly, pam fod dwy filltir ar hyd ffordd wledig yn dderbyniol yn y cais hwn pan wrthodwyd datblygiad tebyg yng Ngwalchmai.  Mae TAN 13, pwynt 11 ar dudalen 2 hefyd yn nodi bod yn rhaid i'r Awdurdod Lleol werthuso effaith y datblygiad ar ffyrdd cyfagos.  Ystyrir nad oes asesiad manwl wedi'i ystyried ynghylch pryderon y preswylwyr ynghylch y datblygiad.  Mae cwestiynau wedi eu codi ynglŷn â beth fydd yn digwydd pan fydd dau gar gyda charafanau yn dod tuag at ei gilydd a ble fyddan nhw'n gallu pasio ei gilydd.  Holodd a fyddai ceir yn gorfod teithio ar hyd troadau dall am dros 300 metr.  Dywedodd Ms Owen fod y ddau Gyngor Cymuned lleol wedi cynnig rhesymau dilys pam eu bod yn pryderu ynglŷn â’r ffordd wledig, ac ystyrir nad yw’r rhain wedi eu cydnabod o fewn adroddiad y Swyddog.  TAN 18 – Cludiant (tudalen 24) y dylai defnyddwyr lleol y ffordd gael sylw digonol.  Mae trigolion lleol yn defnyddio Lôn Gwenfro yn ddyddiol; fodd bynnag, mae'n lôn unffordd beryglus gyda throadau dall a dim llefydd pasio; does dim llwybr troed na ffyrdd ymyl.  Dywedodd Ms Owen ei bod yn anodd hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy ar Lôn Gwenfro gan fod yn rhaid i drigolion ddefnyddio eu cerbydau yn yr ardal yma.  Mae'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn nodi bod yn rhaid i ddatblygiad fod yn 800 metr o'r Cynllun Trafnidiaeth i fod yn dderbyniol.  Mae'r safle bws agosaf dros filltir o'r safle ac yn mynd i dref Llangefni ddwywaith y dydd.   Roedd Ms Owen yn annog y Pwyllgor i ystyried y pryderon lleol o ddifrif nad yw Lôn Gwenfro yn addas ar gyfer datblygiad o'r fath.  Cyfeiriodd at gais a ystyriwyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dros dair blynedd ynghynt, sef bod ceir sy'n tynnu carafán/trelar yn mynd i gael effaith niweidiol ar y rhwydwaith ffyrdd. Cwestiynodd pam fod y cais hwn, lle bydd cerbydau’n tynnu carafanau ar ffordd mor gul, yn dderbyniol.

 

Anerchodd Mr Berwyn Owen y Pwyllgor fel Asiant yr ymgeisydd i gefnogi'r cais gan ddweud mai mân gais yw hwn am faes carafanau bach gyda 14 safle; mae hwn yn gyfle i deulu lleol fanteisio ar y diwydiant twristiaeth sy'n bodoli ar Ynys Môn.  Cyflwynwyd y cais i'r Awdurdod Lleol ym mis Gorffennaf 2022, ynghyd â Chynllun Rheoli Traffig a oedd yn cynnwys cofnod o gyflymder ceir a nifer y ceir sy'n defnyddio Lôn Gwenfro.  Cyflwynwyd gwybodaeth ychwanegol amrywiol wedi hynny yn dilyn trafodaethau gyda'r Swyddogion Cynllunio a Phriffyrdd. Ym mis Awst 2022, dywedodd yr Awdurdod Priffyrdd, yn dilyn ymgynghoriad nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i'r cais gan fod yr ymgeisydd wedi rhoi digon o dystiolaeth na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y rhwydwaith priffyrdd.  Fodd bynnag, ar ôl 5 mis, dywedodd yr Awdurdod Priffyrdd fod angen creu 4 lle pasio er eu bod wedi dweud yn gynharach bod ganddynt ddigon o dystiolaeth i gefnogi'r cais.  Yn dilyn cyfarfod ar y safle rhwng Swyddogion Priffyrdd yr Awdurdod Lleol, yr ymgeisydd, yr Ymgynghorydd Priffyrdd, a’r Swyddog Cynllunio, cytunwyd y byddai 4 lle pasio yn cael eu creu ac unwaith eto cadarnhaodd yr Awdurdod Priffyrdd fod hyn yn dderbyniol.  At hyn, dywedodd mai'r prif resymau dros yr oedi wrth ystyried y cais oedd y materion ecolegol a charthffosiaeth.  Cyfeiriodd Mr Owen at sylw’r gwrthwynebydd fod cais yng Ngwalchmai wedi ei wrthod gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ddiweddar; mae'r datblygwr wedi apelio yn erbyn y penderfyniad ac mae costau posibl yn deillio o unrhyw gymeradwyaeth i'r broses apelio. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi ei hysbysebu drwy bostio llythyrau i eiddo cyfagos ac ar adeg ysgrifennu'r adroddiad derbyniwyd 56 o sylwadau ar-lein a 67 llythyr ffurfiol.  Derbyniwyd deiseb sy’n cynnwys 34 o enwau ynghyd â fideo yn dangos yr anhawster a gaiff car sy’n tynnu carafán wrth ddod tuag at gerbydau eraill fel ceir a thractor a threlar a derbyniwyd ffotograffau o'r ffordd.  Mae 19 o negeseuon e-bost pellach gan 6 pherson gwahanol ynghyd â 7 sylw ar y we wedi'u derbyn yn dilyn cyhoeddi'r agenda ar gyfer y cyfarfod.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod damwain wedi digwydd ar Lôn Gwenfro neithiwr.  Amlygir y pryderon ynghylch y datblygiad yn adroddiad y Swyddog Achosion ynghyd â'r ymatebion. 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai'n cyfeirio at brif ystyriaethau cynllunio'r cais mewn perthynas ag ystyriaethau polisi cynllunio, priffyrdd a chynaliadwyedd, materion tirwedd ac ecoleg, draenio, yr effaith ar amwynderau gerllaw a defnyddio tir amaethyddol.  Tynnwyd sylw at y prif ystyriaethau cynllunio hyn yn adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor.  Dywedodd fod y cais yn cydymffurfio â gofynion Polisi TWR 5, mae gan y safle ddewis o ddulliau teithio fel hawliau tramwy cyhoeddus a safle bws o fewn pellter cerdded i'r safle.  Mae'r Adran Priffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r mynediad, y traffig ychwanegol a fydd yn defnyddio'r ffordd a'r llefydd pasio a nodwyd fel rhan o'r cais cynllunio.  Ni ystyrir y byddai'r cais yn cael effaith negyddol ar y dirwedd, nac unrhyw safleoedd gwarchodedig a restrir yn yr adroddiad gan na ddarperir llawr caled ar y safle a bydd y tir amaethyddol yn dal i gael ei bori unwaith y daw'r tymor gwyliau i ben.   Mae'r cais yn rhoi hwb i fioamrywiaeth yn unol â Deddf Amgylchedd Cymru 2016.  Nid oes unrhyw eiddo preswyl cyfagos y byddai'r datblygiad yn effeithio arnynt oherwydd y pellteroedd rhwng y safle a'r gwahanol ddefnydd rhyngddynt fel y ffordd, y coed a’r gwrychoedd a thopograffeg y tir.  Ystyrir bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol a'r argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, er nad yw safle'r cais o fewn ei ward etholiadol, bod y ffordd tuag at y safle o fewn ei ward.  Dywedodd nad oedd hi'n gallu deall pam fod yr Awdurdod Priffyrdd o'r farn bod Lôn Gwenfro yn addas i dynnu carafanau hyd-ddi gan ei bod yn gwbl annigonol. Dywedodd fod adroddiad y Swyddog yn cyfeirio at y ffaith nad oes damweiniau wedi eu cofnodi ar Lôn Gwenfro ond mae hi'n ymwybodol bod nifer o ddamweiniau wedi digwydd ar y ffordd yma, ond nad ydyn nhw wedi’u cofnodi gan eu bod yn ddamweiniau 'cnoc am gnoc'.  Mae'r ffordd sy'n arwain at sgwâr pentref Llanbedrgoch yn gul ac nid yw'r ffordd hon yn addas ar gyfer mwy o draffig.  Byddai troi i Lôn Gwenfro yn her i gerbydau sy'n tynnu carafanau oherwydd eu maint ac yn her i rai â phrofiad cyfyngedig o dynnu carafanau.  At hyn, dywedodd y Cynghorydd Roberts ei bod yn amlwg ar sail y llythyrau gwrthwynebu a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Cynllunio fod pryderon mawr gan drigolion sy'n gorfod defnyddio Lôn Gwenfro yn ddyddiol gan fod prinder sylweddol o lefydd pasio ar y ffordd hon. 

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ei fod yn gwerthfawrogi pryderon y trigolion o ran y rhwydwaith priffyrdd tuag at safle’r datblygiad.  Fodd bynnag, rhaid i'r Awdurdod Cynllunio ymdrin â’r cais yn unol â pholisïau cynllunio.  Mae'r ymgeisydd wedi rhoi Arolwg Trafnidiaeth ac Arolwg Cyflymder sydd wedi darparu tystiolaeth fod defnydd cyfyngedig o'r ffordd, fel unrhyw ffordd wledig yng Nghymru.  Mae'r Datganiad Trafnidiaeth yn cadarnhau na chofnodwyd unrhyw ddamweiniau na damweiniau fu bron digwydd ar hyd y ffordd sengl sy’n arwain at safle'r cais yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.  Bydd yr ymgeisydd yn darparu 4 lle pasio fel rhan o'r cais ac yn y Cynllun Teithio Gweithredol a gyflwynwyd gyda'r cais cyfeirir at y ffaith y bydd y carafanau teithio yn cyrraedd ac yn gadael ar amseroedd gwahanol i’w gilydd fel bod llai o bosibilrwydd y bydd dwy garafán deithio yn dod tuag at ei gilydd ar hyd y lôn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Ellis, Aelod Lleol ei fod wedi derbyn nifer o sylwadau oedd yn mynegi pryder gan drigolion, yn bennaf ynglŷn â’r ffordd wledig sy'n arwain at safle'r cais.   Dywedodd mai'r unig ffordd o gyrraedd Esgobaeth Bran yw ar hyd ffyrdd culion o bentref Talwrn a thrwy Lanbedrgoch; mae'r ffyrdd yn anaddas ar gyfer tynnu carafanau gan nad oes palmentydd ac mae rhai rhannau ohoni’n dueddol o ddioddef o lifogydd.  Bydd y maes carafanau arfaethedig yn denu traffig ychwanegol i'r ardal; mae'r safle bws agosaf dros filltir i ffwrdd ac mae'r brif ffordd agosaf dros ddwy filltir i ffwrdd.  Gan nad oes siopau na bwytai ger y safle bydd pobl yn gorfod teithio ar hyd y lonydd cul o'r safle.  Dywedodd ymhellach, wrth ymweld â’r safle, fod y bws mini wedi gorfod bagio sawl gwaith pan oedd ceir yn gorfod pasio ei gilydd; mae hyn yn dystiolaeth nad yw’r ffordd yn addas ar gyfer carafanau a cherbydau mawr.  Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi nodi'r angen am 4 lle pasio’n unig i safle'r cais.  Nododd fod Cynghorau Cymuned Llanddyfnan a Llanfair-Mathafarn-Eithaf wedi gwrthwynebu'r cais. 

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Non Dafydd, Aelod Lleol, bryderon trigolion ynglŷn â'r ffordd tuag at Esgobaeth Bran a dywedodd mai'r trigolion sy'n gyfarwydd â pha mor gul yw’r ffordd a pha ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef o lifogydd; mae rhai o'r waliau wedi disgyn i'r afon ger un o'r llefydd pasio dynodedig.  Dywedodd fod y Caravan Club wedi agor maes carafanau yn ddiweddar ar hyd Lôn Gwenfro.  Cyfeiriodd at y cyfeiriad a wnaed y bydd amseroedd cyrraedd a gadael gwahanol yn lleihau’r posibilrwydd y bydd dwy garafán deithiol yn dod tuag at ei gilydd ar y lôn.  Fodd bynnag, roedd hi'n ansicr a yw'r datganiad hwn yn gywir gan ei bod yn amhosibl dweud na fydd dwy garafán yn dod tuag at ei gilydd ar y lôn.  At hyn, dywedodd y Cynghorydd Non Dafydd y bydd y diffyg llefydd pasio a throadau siarp ar y lôn yn ei gwneud hi'n anodd i gerbydau sy’n tynnu carafanau gael mynediad i'r safle.  Dywedodd fod angen i'r Pwyllgor wrando ar bryderon y trigolion ac ystyried anaddasrwydd y lôn gul tuag at y safle.

 

Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i sylwadau'r Aelodau Lleol a chyfeiriodd yn gyntaf at y ffaith nad oes angen caniatâd cynllunio ar y Caravan Club ar gyfer safle carafanau i hyd at 5 carafán. At hyn, dywedodd fod y cais wedi ei gyflwyno ers mis Gorffennaf 2022 a bod trafodaeth fanwl wedi'i chynnal rhwng yr Awdurdod Priffyrdd a’r Adran Gynllunio.  Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi nodi'r angen am 4 lle pasio ychwanegol ac roedd yr ymgeisydd wedi nodi 15 lle parcio anffurfiol i ddechrau yn ystod trafodaethau gyda'r Awdurdod Priffyrdd.   Nododd y cydnabuwyd bod dros 100 o wrthwynebiadau wedi'u derbyn o ran y cais hwn ond nid yw'r holl wrthwynebiadau gan drigolion lleol. 

 

Holodd y Cynghorydd Jeff Evans ynghylch y pellter gyrru/bagio rhwng y pedwar lle pasio.  Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd fod angen gofyn am unrhyw fanylion penodol cyn dechrau'r cyfarfod fel bod Swyddogion yn gallu paratoi a darparu'r wybodaeth ofynnol i'r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod y bws mini wedi gorfod bagio sawl gwaith yn ystod yr ymweliad safle, a’i bod yn amlwg nad yw'r ffordd wledig gul sy'n arwain at y safle yn addas ar gyfer cerbydau sy’n tynnu carafanau.  Cynigiodd y Cynghorydd Williams y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan nad yw'r ffordd yn addas ar gyfer datblygiad o'r fath.   Eiliodd y Cynghorydd Liz Wood y cais hwn.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog i’w gymeradwyo oherwydd ystyrid nad oedd y rhwydwaith priffyrdd i’r safle yn dderbyniol.

 

(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais).

 

Dogfennau ategol: