Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – FPL/2023/141 - Egwlys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy.

FPL/2023/141

 

12.2 – FPL/2022/250 - Parc Carafannau Rynys Caravan Park, Penrhoslligwy, Dulas.

FPL/2022/250

 

12.3 – FPL/2023/159 - Canolfan Hamdden Biwmares, Biwmares

FPL/2023/159

 

12.4 – FPL/2023/178 – Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern

FPL/2023/178

 

12.5 – FPL/2023/204 – Ysgol Gynradd Bodffordd, Bodffordd

FPL/2023/204

 

12.6 – HHP/2023/154 – Glan Traeth, Rhosneigr

HHP/2023/154

 

Cofnodion:

12.1  FPL/2023/141 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd Eglwys i fod yn un eiddo preswyl (Defnydd Dosbarth C3) ac un eiddo llety gwyliau tymor byr (Defnydd Dosbarth C6) ynghyd â chodi adeilad sied/garej, creu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu balconi newydd, gwaith tirweddu meddal a chaled, addasiadau i’r adeilad ynghyd â gwaith cysylltiedig Eglwys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Anerchodd Ms Liz Moyle y Pwyllgor fel gwrthwynebydd i'r cais a dywedodd fod y cais hwn yn dod gerbron y Pwyllgor ar adeg ddiddorol yn natblygiad deddfwriaeth yng Nghymru. Cafodd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin a dylid ei weithredu erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, gan ddarparu Cod Cyfraith Cymru ar yr Amgylchedd Hanesyddol. Yn ogystal â symleiddio'r gyfraith mae gwerth yr Amgylchedd Hanesyddol, i'r genedl yn cael ei ailddatgan yn bendant yn y Memorandwm Esboniadol.  Rhoddodd ddyfyniad byr: "Mae pobl Cymru wedi etifeddu amgylchedd hanesyddol unigryw, wedi'i lunio gan genedlaethau'r gorffennol, mae'n parhau i wella ansawdd ein bywyd a'n lles heddiw. Mae'r lleoedd hanesyddol sydd o'n cwmpas, yn rhoi ymdeimlad o le i ni ac yn helpu i'n diffinio fel cenedl. Mae'r amgylchedd hanesyddol yn adnodd gwerthfawr, mae hefyd yn un bregus. Rhaid ei ddiogelu fel y gall cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol barhau i gael eu hysbrydoli ganddo, dysgu ohono a mwynhau ei fanteision niferus." Cafodd y datblygwr, yr adeiladwyr a nifer o ddefnyddwyr yr Eglwys Bresbyteraidd eu hysbrydoli gan yr hyn a gyflawnwyd ganddynt a sut y diwallwyd anghenion y cyfnod, ond symudwn ymlaen.  Ydi’r cynlluniau a gyflwynwyd ar gyfer newid bellach yn diogelu, yn gwella neu'n wir, yn ysbrydoli? Ydi darparu llety gwyliau, lle parcio ychwanegol a thraffig yn gwella neu'n lleihau'r dreftadaeth fregus honno?  A ellir cyfiawnhau gwaith newydd, fel yr ystafell haul, ac ydi hi o ansawdd a dyluniad digonol i ychwanegu gwerth i'r safle.  Ydi tynnu rhan o'r wal sy'n wynebu'r ffordd yn lleihau’r gwerth yn hytrach na’i gynyddu?  Mae'r traffig ychwanegol yn debygol o achosi problemau ychwanegol ar ffordd sydd eisoes yn brysur.  Gan ystyried pob newid o ran cynllunio, yn arbennig ar gyfer adeiladau rhestredig ac o fewn yr Ardal Gadwraeth, p’un ai y rhoddir caniatâd i bob cartref a llety gwyliau ai peidio, dylem ddangos ymrwymiad i gynnal yr ymdeimlad hwnnw o le ac yn wir y ffynhonnell ysbrydoliaeth honno i bawb. Dylai'r hyn a adeiladwyd fwy na chan mlynedd yn ôl i wasanaethu'r gymuned, barhau i wneud hynny mewn ffordd syml iawn, gan ddefnyddio’r cais hwn fel enghraifft ar gyfer y dyfodol, er lles y gymuned, ond yn gartrefi i bobl ac nid cartrefi gwyliau.

 

Wth i Mr Craig Allison annerch y Pwyllgor i gefnogi ei gais dywedodd fod y cyfle i addasu'r eglwys hon yn gartref yn fraint.  Mae'r dogfennau ar y cais yn amlinellu sut rydym yn bwriadu defnyddio'r gofod i greu llety gwyliau i’w osod a fydd yn cyfrannu at ad-dalu’r gost am addasu’r adeilad yn ogystal â chynnal a chadw'r adeilad yn barhaus. Mae caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer y prosiect eisoes wedi'i roi sy'n nodi bod ein cyngor lleol a CADW yn credu bod yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i'r adeilad er budd yr adeilad ac yn cael ei wneud yn chwaethus gan sicrhau bod gwerth enfawr yr adeilad o ran treftadaeth yn cael ei ystyried. Gobeithio y bydd hyn yn lleddfu unrhyw bryderon posibl o ran cadwraeth a allai fod gan aelodau ynglŷn â'n cais. Rhag unrhyw amheuaeth, ac fel y trafodwyd gyda'r Swyddog Achos, roedd un aelod o'r cyhoedd eisiau gwybodaeth am gyllid. Credwn ei bod yn bwysig pwysleisio heddiw fod hon yn fenter breifat o tua hanner miliwn o bunnoedd yr ydym yn bwriadu ei wario ar ddiogelu'r adeilad am genedlaethau i ddod. Roedd nifer o lythyrau eraill gan eiddo cyfagos yn mynegi pryder yn dilyn y cais cychwynnol. Yn y rhain ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau o bwys, yn hytrach roeddent yn gofyn am eglurhad neu fanylion o fewn y cynlluniau.  Rydym yn cymryd camau i sicrhau nad yw’r cais yn effeithio ar breifatrwydd ac amwynder yr eiddo cyfagos, trwy gynnwys ffensys a gosod gwydr preifatrwydd ar y balconi newydd. Hefyd ymdrinnir â phryderon yr un cymydog ynghylch parcio drwy dynnu sylw at y ddarpariaeth barcio ddigonol ar y safle, a bydd y mannau parcio presennol ar y stryd yn cael eu cadw. Mae Priffyrdd hefyd wedi cymeradwyo ein cynlluniau; bydd pob cerbyd yn gallu mynd i mewn ac allan yn ddiogel, heb orfod bagio; beth bynnag, mae'r traffig arf raddfa fach iawn o'i gymharu â'r eglwys oedd â chapasiti i dri chant ac sydd bellach wedi cau.  Codwyd amheuon eraill yn ymwneud â choed, a gallwn gadarnhau na fydd unrhyw goed heblaw'r goeden gelyn yn y tu blaen yn cael eu torri, a darparwyd manylion ychwanegol ar adeiladu ffensys ar hyd y ffiniau i sicrhau nad oes unrhyw goed eraill yn cael eu difrodi. Rydym yn tynnu sylw at y camau ecolegol ychwanegol y byddwn yn eu cymryd, gan gynnwys darparu blychau ystlumod, blychau adar a phlannu degau o fetrau o wrychoedd brodorol ychwanegol. Yn amlwg, wrth gynllunio ein cais, buom yn edrych ar ddefnyddiau posibl eraill ar gyfer yr adeilad gwag, ond y cais ar gyfer un cartref a llety gwyliau sengl oedd y dewis mwyaf addas. Mae mannau ymgynnull agored mawr ar gael mewn mannau eraill yn y dref ac maent yn darparu parcio addas ar y safle. Byddai cyfyngiadau o ran rheoliadau tân hefyd yn cyfyngu ar nifer y bobl a fyddai’n gallu defnyddio'r adeilad ar yr un pryd, ac ychydig iawn o refeniw fyddai'n cael ei gynhyrchu ar gyfer cynnal a chadw'r adeiladau, sef y broblem sydd wedi arwain at gau’r Eglwys. Fel cartref teuluol, y gobaith ar ôl treulio amser hir yn cynllunio, yw ein bod wedi dod o hyd i ateb i ddiogelu'r adeilad ar gyfer y gymuned a bydd rhywun yno drwy'r amser i fonitro bod arian i dalu amdano. 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr Eglwys Bresbyteraidd Saesneg wedi'i lleoli ar Ffordd Telford ger Gwesty Victoria, Porthaethwy.  Mae'r Eglwys wedi bod yn wag ers dros 2 flynedd ac ers hynny mae'r gynulleidfa wedi symud i Gapel llai gerllaw.  Derbyniwyd 10 llythyr o wrthwynebiad ac 1 llythyr o gefnogaeth pan hysbysebwyd y cais.  Mae'n adeilad Rhestredig Gradd II* ac o fewn yr Ardal Gadwraeth ddynodedig.  Mae cais cyfatebol ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig wedi'i gymeradwyo o dan gyfeirnod cais LBC/2023/13 ac mae wedi'i gymeradwyo gan CADW.  Cyfeiriodd at gydymffurfio â'r polisi cynllunio o ran newid defnydd yr adeilad yn ddefnydd preswyl; yr uned wyliau ar y safle a cholli ased cymunedol a amlygwyd yn adroddiad y Swyddog Achos i'r Pwyllgor.  At hyn, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle'r cais wedi'i leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Gwasanaethau Lleol Porthaethwy ac felly'n cyd-fynd â pholisi cynllunio PCYFF 1.  Dywedodd fod polisi cynllunio TWR 2 yn ymwneud â llety gwyliau a nodir y caniateir cynigion ar yr amod eu bod o ansawdd uchel o ran dyluniad, cynllun ac edrychiad a’u bod yn cydymffurfio â meini prawf polisi perthnasol a nodir yn yr adroddiad.  Mae'r cais felly'n cydymffurfio â pholisi cynllunio TWR 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.   Mae'r cais yn cynnwys colli cyfleuster cymunedol (eglwys).  Mae Adran 2 o Bolisi ISA 2 yn darparu canllawiau pellach mewn perthynas â cholli cyfleusterau cymunedol i ddefnyddiau amgen.  Ystyrir bod y cais yn cydymffurfio ag ISA Polisi Cynllunio 2 oherwydd natur y cyfleuster cymunedol gan ei bod yn annhebygol y byddai'r defnydd blaenorol yn cael ei ailsefydlu.  Ni ystyrir y bydd y cais yn cael effaith negyddol ar ddefnyddiau cyfagos neu eiddo preswyl nad yw'n fwy na'r defnydd D1 presennol.  Er bod y cais yn brin o 1 lle parcio, ystyrir bod y cais yn dderbyniol oherwydd y defnydd D1 presennol a'i leoliad cynaliadwy yn agos at ganol y dref lle mae meysydd parcio mawr, mynediad at wasanaethau, cyfleusterau a thrafnidiaeth gyhoeddus sy'n gyson ag egwyddorion datblygu cynaliadwy.  Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.

 

Holodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE sut mae'r ymgeisydd yn bwriadu rheoli'r busnes llety gwyliau.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer elfen breswyl ynghyd â llety gwyliau yn gysylltiedig â'r cais.  Gosodir amod cynllunio i gyfyngu ar y llety gwyliau i 30 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn galendr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Lleol, fod nifer o bryderon yn lleol ynglŷn â'r cais hwn a’i fod wedi galw’r cais gerbron y Pwyllgor er mwyn rhoi cyfle i'r trigolion leisio eu pryderon i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.  Dywedodd ei fod yn bryderus ynglŷn â'r cais am lety gwyliau arall ym Mhorthaethwy gan fod sawl llety gwyliau o'r fath yn yr ardal. Fodd bynnag, mae'n gwerthfawrogi bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno Achos Busnes i ddiogelu adeilad yr Eglwys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans fod hwn yn gynnig busnes i ddod ag eiddo lled-adfeiliedig yn ôl i ddefnydd.  Cynigiodd y Cynghorydd Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Eiliodd y Cynghorydd Liz Wood y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  FPL/2022/250 – Cais llawn ar gyfer ail-osod 144 o garafanau gwyliau statig, ynghyd â gwelliannau amgylcheddol ym Mharc Carafanau Rynys, Penrhoslligwy, Dulas,

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon amgylcheddol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Anerchodd Mr David Middleton fod y Pwyllgor wedi annerch y Pwyllgor fel Asiant yr ymgeisydd i gefnogi'r cais gan ddweud bod y cais yn gofyn am ganiatâd ar gyfer ail-leoli’r 144 o garafanau gwyliau statig ynghyd â gwelliannau amgylcheddol ym Mharc Carafanau Rynys. Yng nghyd-destun y cais cynllunio hwn, mae'n bwysig nodi nad yw’r cais yn gofyn am ganiatâd i leoli mwy o garafanau gwyliau ym Mharc Carafanau Rynys at y 144 a ganiatawyd eisoes. Yn hytrach, mae'r cynllun diwygiedig am ddarparu carafanau o ansawdd uwch i fodloni gofynion defnyddwyr a symudir y carafanau a ganiatawyd o'r rhostir yn y canol, sy'n sensitif yn ecolegol, er mwyn eu hail-leoli i'r gogledd ac i’r ardaloedd coetir o fewn ffiniau'r parc.  Yn yr ystyr hwn, mae'r cynllun diwygiedig wedi'i ddylunio'n ofalus yn dilyn trafodaethau a chytundeb gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Swyddog Ecoleg yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Bydd y datblygiad yn darparu budd amgylcheddol a bioamrywiaeth sylweddol ar draws y safle drwy adfer y rhostir yn y canol a thrwy blannu coed ychwanegol drwy’r safle. Mae'r ymgeisydd hefyd wedi darparu Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecolegol a fydd yn cael ei sicrhau trwy amod cynllunio a fydd yn fodd i wella a rheoli cynaliadwyedd amgylcheddol y safle ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  Nid oes gwrthwynebiad i'r datblygiad gan unrhyw ymgynghoreion statudol gan gynnwys Priffyrdd a Chludiant, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ecoleg Cyngor Sir Ynys Môn. Mae pob un ohonynt yn cefnogi'r datblygiad ac yn cydnabod y manteision. Bydd y datblygiad yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Parc Carafanau Rynys fel busnes twristiaeth a chyflogwr lleol a bydd yn arwain at fwy o wariant gan ymwelwyr mewn busnesau lleol ar Ynys Môn; yn ystod y gwaith ddatblygu a hefyd tra bydd y safle’n gweithredu. Mae'r gwelliannau diweddar i brif adeilad y safle yn dangos pwysigrwydd y farchnad swyddi leol. Wrth ystyried y cais cynllunio hwn, mae'r Swyddog Cynllunio wedi argymell yn gadarn y dylid ei gymeradwyo gan gydnabod y budd o ran cynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd a fydd yn deillio o'r datblygiad. Yn yr ystyr hwn, mae'r cais yn cydymffurfio'n llawn â pholisïau Polisi Cynllunio Cymru a Chynllun Lleol fel PS 14 "Yr Economi Ymwelwyr" a Pholisi TWR 3 sy'n ymwneud â "Safleoedd Carafanau a Chalet Statig a Llety Gwersylla Amgen Parhaol" gan nad yw'r datblygiad yn cynyddu nifer y carafanau yn uwch na’r 144 a ganiatawyd, yn hytrach ail-gynllunnir y safleoedd carafanau gan sicrhau budd i’r amgylchedd a gwneir gwaith tirweddu sylweddol drwy’r safle. Rydym felly yn gobeithio y gellir dod i benderfyniad cadarnhaol yn unol ag argymhelliad y swyddog i gymeradwyo'r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod Parc Carafanau Rynys yn barc carafanau gwyliau sydd wedi’i hen sefydlu ac wedi'i leoli tua 3km o Ddulas.  Ni fydd mwy o garafanau statig a’r nifer a ganiatawyd ar y safle ar hyn o bryd.  Mae Parc Carafanau Rynys yn dyddio o'r 1950au.  Y prif ganiatâd ar y safle yw TWR/9c a T/39e.  Mae'r parc gwyliau a gymeradwywyd yn ymestyn i oddeutu 6.05 hectar lle caniateir i'r 144 o garafanau a ganiatawyd weithredu ar sail tymor gwyliau o 12 mis, ar hyd y flwyddyn.  Ar hyn o bryd, mae 85 o garafanau ar y safle yn ystod y cyfnod datblygu ar y safle.  Mae'r cais yn cynnwys ail-leoli'r 144 o garafanau statig a ganiatawyd i greu cynllun dwysedd is, o ansawdd uchel, ar ardal estynedig o oddeutu 9.4 hectar.  Mae ardal y safle diwygiedig yn cynnwys y coetir helaeth ar ran orllewinol y safle a fydd yn cael ei neilltuo ar gyfer ei reoli. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai'n cyfeirio at brif ystyriaethau cynllunio'r cais mewn perthynas ag ystyriaethau polisi cynllunio TWR 3, yr effaith ar yr AHNE, Coetiroedd Hynafol, SoDdGA, Ecoleg, Llifogydd, Priffyrdd, Archaeoleg a Materion Tirweddu. Tynnwyd sylw at y prif ystyriaethau cynllunio hyn yn adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor.  Bydd angen tynnu tua 100 o goed ar draws y safle, mae'r coed yma wedi’u heintio'n ddifrifol neu wedi dirywio.  Ystyrir bod y cais yn cydymffurfio â'r holl bolisïau a restrir yn yr adroddiad.  Ni fydd cynnydd yn nifer y carafanau statig ar y safle ac mae'r cais yn cynnwys estyniad i ffin y maes carafanau fel y gellir gosod y 144 o garafanau statig a ganiatawyd gyda digon o le rhyngddynt a darparu safle carafanau o ansawdd uwch gydag unedau o ansawdd uchel.  Y cais yw adfer y rhostir sy’n dirywio yn ogystal â phlannu nifer sylweddol o goed, gwrychoedd a dolydd blodau gwyllt.  Bydd hyn yn gwella bioamrywiaeth.  Mae'r carafanau o fewn y safle estynedig y tu allan i barth llifogydd C2 ac mae'r safle mewn lleoliad cynaliadwy.  Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Lleol fod ei gyd-Aelod Lleol, y Cynghorydd Margaret M Roberts wedi cyfeirio'r cais at y Pwyllgor oherwydd pryderon Cyngor Cymuned Moelfre ynglŷn ag effaith amgylcheddol y datblygiad.  Dywedodd y bydd 26 o garafanau statig ychwanegol ar y safle yn sgil y cais hwn.  Er bod caniatâd i leoli 144 o garafanau statig ar y safle, ar hyn o bryd mae cannoedd o garafanau ar safleoedd tebyg yn y cyffiniau ac mae'n ystyried bod gor-ddatblygiad o safleoedd carafanau o'r fath.  At hyn, dywedodd fod dyluniad y safle sydd ynghlwm wrth y cais yn gamarweiniol gan nad yw lleoliadau rhai carafanau newydd wedi'u dangos.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Williams at y ffaith y bydd rhan enfawr o'r coetir yn cael ei thorri.  Cyfeiriodd ymhellach at bolisïau cynllunio ac yn benodol at bolisi cynllunio PS 5 - paragraff 5 - Datblygu Cynaliadwy - diogelu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.  Dywedodd fod y safle wedi cael ei ail-enwi’n Woodlands Falls a gofynnodd i'r datblygwyr gyfeirio at yr enw Cymraeg hanesyddol gwreiddiol y safle carafanau, sef Rynys.  Cyfeiriodd ymhellach at bolisi cynllunio PS 5 - paragraff 6 - bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol.  Bydd coetir a man gwyrdd ar y safle’n cael eu colli yn sgil 26 carafán ychwanegol ar y safle gyda cherbydau ychwanegol yn teithio o dros y ffin i'r safle.  Roedd y Cynghorydd Williams o'r farn y dylid gwrthod y cais oherwydd gor-ddatblygu. 

 

Ailadroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod caniatâd cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer 144 o garafanau statig ar y safle gydag 85 ar y safle ar hyn o bryd.  Gallai'r 26 carafán ychwanegol a grybwyllir gan yr Aelod Lleol fod yn rhan o'r datblygiad ar y safle.  Er y cydnabyddir y bydd 100 o goed sydd wedi'u difrodi/eu heintio yn cael eu torri bydd cannoedd o goed yn cael eu plannu yn eu lle.  Bydd ail-gynllunio’r safle yn gwella amgylchedd a bioamrywiaeth y safle.  Dywedodd fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Swyddog Ecoleg yr Awdurdod Lleol yn fodlon â'r wybodaeth a ddarparwyd fel rhan o'r cais a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei bod yn annerbyniol bod enw'r safle wedi ei newid o Rynys i Woodlands Falls.  Dywedodd y dylid parchu enwau Cymraeg hanesyddol ac mae ailenwi safleoedd er mwyn iddynt apelio mwy i’r rhai sy’n ymweld â'r Ynys yn annerbyniol.   Holodd a oes modd gosod amod ar unrhyw gymeradwyaeth i'r cais bod enw safle carafanau Rynys yn cael ei adfer.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod polisi cynllunio PS1 yn nodi ' disgwylir bod datblygiadau tai ac enwau strydoedd yn enwau Cymraeg ond y gair 'disgwyl' yw'r broblem ac nid yw'r Awdurdod Cynllunio yn gallu gwneud enwau Cymraeg yn orfodol ar ddatblygiadau. 

Holodd y Cynghorydd Robin Williams asiant yr ymgeisydd a fyddent yn ystyried adfer enw'r safle i Safle Carafanau Rynys.  Mewn ymateb, dywedodd asiant yr ymgeiswyr nad oedd yn ymwybodol bod enw'r safle wedi ei newid i Woodlands Falls.  Dywedodd y byddai'n awgrymu i'r ymgeisydd fod enw Cymraeg traddodiadol y safle yn cael ei adfer. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Geraint Bebb at y dogfennau ychwanegol sydd ynghlwm â'r cais sy'n nodi, 'nad yw'r system cyflenwi dŵr yn ddigonol a bydd hefyd yn achosi niwed i gyflenwad dŵr cwsmeriaid presennol'.  Felly, roedd o'r farn bod y cais yn groes i bolisi cynllunio PCYFF 2 a chynigiodd fod y cais yn cael ei wrthod yn groes i argymhelliad y Swyddog.  

 

Dywedodd y Cynghorydd John I Jones fod y Map Cyngor Datblygu yn dangos bod y safle ym Mharth A ac yn rhannol o fewn parthau llifogydd C2, ond ni fydd y carafanau ym Mharth C2.  Holodd a yw'r Map Cyngor yn fap parth llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.   Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi asesu'r cais ac wedi cadarnhau, er bod rhan o'r safle o fewn parth llifogydd C2, y bydd lleoliad newydd y carafanau statig y tu allan i'r parth C2 a bydd mesurau lliniaru yn cael eu cynnwys o fewn amod fel rhan o unrhyw gymeradwyaeth i'r cais. Dywedodd y Cynghorydd John I Jones ymhellach, er ei fod yn gwerthfawrogi bod angen torri coed ar y safle oherwydd clefyd neu ddifrod, ond bydd yr ardal bywyd gwyllt yn cael ei heffeithio.  Roedd o'r farn nad ailgynllunio'r safle a symud carafanau ar y safle yw'r defnydd gorau o'r tir gan y byddai'n llawer gwell cael pyllau ac ardal bywyd gwyllt ar y safle.    Eiliodd y Cynghorydd John I Jones y cynnig i wrthod y cais.

 

Caniataodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod lleol, annerch y Pwyllgor mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd John I Jones o ran yr ardal sydd wedi bod mewn parth llifogydd.  Dywedodd fod maes carafanau teithiol Creigiau gyferbyn â safle Rynys wedi dioddef o lifogydd difrifol dros bedair blynedd yn ôl.  Yn sgil torri coed ar safle carafanau Rynys bydd mwy o ddŵr wyneb yn llifo i'r afon ac yn arwain at gynnydd mewn perygl llifogydd ar safle carafanau Creigiau. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod o'r farn bod gan y safle ganiatâd cynllunio ar gyfer 144 o garafanau statig ac ar hyn o bryd mae 85 o garafanau sefydlog wedi eu lleoli ar y safle.  Mae'r ymgeisydd yn bwriadu plannu cannoedd o goed 100 yn lle’r coed y mae angen eu torri gan wella bioamrywiaeth y safle.  Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig i gymeradwyo'r cais.

 

Yn dilyn pleidlais, roedd 5 o blaid y cais a 3 yn erbyn:-

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  FPL/2023/159 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu'r ganolfan hamdden bresennol, sy'n cynnwys ystafell ddigwyddiadau, campfa, caffi, man chwarae meddal, derbynfa, llyfrgell, swyddfa a storfeydd yng Nghanolfan Hamdden Biwmares, Biwmares

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor sy'n berchen ar y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cais yn cael ei wneud ar gyfer addasiadau ac estyniadau i'r ganolfan hamdden bresennol, sy'n cynnwys ystafell ddigwyddiadau, campfa, caffi, man chwarae meddal, derbynfa, llyfrgell, swyddfa a lle storio yng Nghanolfan Hamdden Biwmares, Biwmares.  Mae safle’r cais wedi'i leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Gwasanaethau Lleol Biwmares a thrwy hynny mae'n cydymffurfio â darparu polisi cynllunio PCYFF 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  Mae Polisi ISA 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn ymwneud â Chyfleusterau Cymunedol ac yn nodi y bydd y cynllun yn helpu i gynnal a gwella cyfleusterau cymunedol drwy ddatblygu cyfleusterau cymunedol newydd fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog. Dywedodd ymhellach fod y cais yn dderbyniol o ran dyluniad yn unol â pholisi PCYFF 3 ac ystyrir hefyd ei fod yn unol â pholisi PCYFF 2: Meini Prawf Datblygu ac ni ystyrir y bydd y defnydd arfaethedig yn arwain at effeithiau annerbyniol ar amwynderau eiddo cyfagos neu gymeriad ac edrychiad yr AHNE a'r Ardal Gadwraeth ddynodedig neu ar leoliad arbennig Castell Biwmares Safle Treftadaeth y Byd, yn unol â pholisïau AMG, PS1 ac AT1. Mae'r cais hefyd yn gyson ag amcanion Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 16 mewn perthynas â darparu, amddiffyn a gwella cyfleusterau chwaraeon a hamdden presennol a'r buddion iechyd a lles cysylltiedig yn sgil cyfleusterau o'r fath. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Lleol ei fod ef a'r gymuned leol yn cefnogi'r cais hwn a'i fod yn dymuno diolch i gynrychiolwyr Canolfan Hamdden Biwmares am y gwaith a wnaed mewn perthynas â'r cais hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans y dylid cymeradwyo'r cais.  Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2023/178 – Cais llawn ar gyfer gosod 10 colofn golau 9m o uchder yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r ymgeisydd yw'r Awdurdod Lleol a'r Cyngor sy'n berchen ar y tir.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai'r prif ystyriaethau cynllunio yw a yw'r cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio ac a fydd y goleuadau LED yn cael effaith negyddol ar yr anheddau cyfagos neu'r ardal gyfagos.  Bydd y colofnau 9m arfaethedig gyda goleuadau LED yn cael eu lleoli o amgylch dau gwrt chwaraeon awyr agored presennol.  Bydd pedair o'r colofnau yn cael eu lleoli o amgylch y cwrt chwaraeon i'r gorllewin a chwe cholofn o amgylch y cwrt chwaraeon i'r dwyrain.  Mae'r cwrt chwaraeon dwyreiniol wedi'i leoli agosaf at ffin yr ysgol ac mae gerddi cefn ger tir yr ysgol fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog.  At hyn, dywedodd y bydd y colofnau golau'n cael eu rhaglennu fel mai dim ond rhwng 9.00am a 9.30pm y bydd y goleuadau’n cael eu defnyddio o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9.00am tan 6.00 pm ar benwythnosau.  Pwrpas hyn yw sicrhau nad yw'r colofnau golau ymlaen yn ystod oriau afresymol o'r nos a byddent hefyd yn atal sŵn o weithgareddau chwaraeon rhag tarfu ar eiddo cyfagos. Ystyrir bod y colofnau arfaethedig o ran lleoliad, maint, dyluniad ac edrychiad yn dderbyniol gan na fyddent yn cael effaith negyddol ar y safle presennol, ar eiddo cyfagos na'r ardal gyfagos a bydd modd eu rhaglennu i leihau unrhyw effeithiau negyddol er mwyn cydymffurfio â'r polisïau cynllunio PCYFF 2, PCYFF 3 ac ISA2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Eiliodd y Cynghorydd Geraint Bebb y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  FPL/2023/204 – Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad ystafell ddosbarth dwbl modiwlaidd ar faes chwarae'r ysgol yn Ysgol Gynradd Bodffordd, Minffordd, Bodffordd

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r ymgeisydd yw'r Awdurdod Lleol a'r Cyngor sy'n berchen ar y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle'r cais ar hyn o bryd yn rhan o iard Ysgol Gynradd Bodffordd.  Mae ganddo lawr caled wedi’i orchuddio â tharmac a waliau cerrig ar hyd terfyn y tir. Cais yw hwn osod caban i’w

ddefnyddio gan yr ysgol fel ystafell ddosbarth ychwanegol yn achlysurol am gyfnod o 5 mlynedd.  Trwy leoli’r caban ar dir yr ysgol bydd oddeutu 190m2 o ardal chwarae llawr caled, sy’n mesur 1046m2, yn cael ei golli.  Ymgynghorwyd â Chyngor Chwaraeon Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gan fod ardal chwarae llawr caled yn cael ei cholli.  Mynegodd y ddau bryder ynglŷn â cholli’r ardal chwarae tu allan, ac fe ofynnodd Chwaraeon Cymru am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y gellir gwneud iawn am hyn yn ystod tywydd gwlyb pan nad yw’n bosibl defnyddio’r cae chwarae. Mae’r Cyngor yn cydnabod y pryderon ynglŷn â cholli’r ardal chwarae, fodd bynnag pwysleisiwyd bod y caban yn gwbl hanfodol er mwyn darparu ystafell ddosbarth ychwanegol ac y bydd 856m2 o lawr caled ar ôl i’w ddefnyddio yn ystod tywydd gwlyb.  Yn ogystal â hyn, mae gan yr ysgol gae chwarae mawr ac felly mater tymhorol fydd colli’r ardal chwarae tu allan.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John I Jones y dylid cymeradwyo'r cais.  Eiliodd y Cynghorydd Geraint Bebb y cynnig i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6  FPL/2023/154 - Cais llawn ar gyfer dymchwel estyniad cefn presennol, ynghyd ag addasu ac ehangu yng Nglan Traeth, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod hwn yn gais ar gyfer dymchwel rhan o’r annedd bresennol, codi estyniad dau lawr gyda theras ar y llawr

cyntaf yn ei le, cael gwared ar y ffenestr dormer bresennol a gosod ffenestr dormer gyda balconi yn ei lle ar ddrychiad blaen yr eiddo.  Mae graddfa’r estyniad arfaethedig yn y cefn yn mesur 6.1m mewn lled (yr un fath a’r annedd bresennol), 7.7m mewn hyd (0.5m yn fwy na’r annedd bresennol), 6.6m mewn uchder hyd at grib y to (1.8m yn fwy na chrib presennol y to) a 4.8m hyd at fondo’r to (2m yn fwy na bondo presennol y to). Mae’r estyniad dau lawr arfaethedig yn ymestyn 2.3m o’r drychiad cefn presennol, a bydd yr estyniad un llawr gyda’r teras yn y to yn ymestyn 5.4m ychwanegol.  Derbyniwyd llythyr o wrthwynebiad mewn perthynas â phryderon ynglŷn â cholli golau a phreifatrwydd a fyddai’n cael effaith negyddol ar yr eiddo cyfagos.  Mae'r ymgeisydd wedi diwygio'r cais er mwyn dileu pob posibilrwydd o edrych dros yr eiddo cyfagos a cholli preifatrwydd. 

 

Dywedodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorwyr Neville Evans a Douglas Fowlie eu bod yn fodlon gyda'r gwelliannau i'r cais fel yr adroddwyd yn adroddiad y Swyddog. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid cymeradwyo'r cais.  Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: