Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd 2023 – 2028 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a dywedodd fod rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru, yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, lunio Strategaeth Cyfranogi sy’n nodi sut y caiff pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhroses gwneud penderfyniadau’r Cyngor. Nod y strategaeth yw annog pobl i gymryd rhan ym musnes y Cyngor ac adeiladu ar y llwyddiant y mae’r Cyngor wedi’i gael wrth ymgysylltu â thrigolion, fel sy’n cael ei gydnabod gan Archwilio Cymru. Mae enghreifftiau o gyfranogi wedi’u cynnwys yn y Strategaeth a’r adroddiad. Cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu gyda swyddogion y Cyngor dros gyfnod o bedair wythnos. Roedd cyfran uchel o’r swyddogion a ymatebodd yn cytuno â chynnwys y Strategaeth a dengys hyn fod cefnogaeth i’r Strategaeth ac mae’n fwriad adolygu’r Strategaeth yn rheolaidd. Mae’r angen i wella lefelau cyfranogiad ymysg plant a phobl ifanc ym mhenderfyniadau’r Cyngor yn cael ei gydnabod, yn ogystal ag edrych ar ddulliau newydd o gasglu a chyflwyno adborth yn ddigidol ac ystyried ffyrdd o adrodd ar lwyddiant/diffyg llwyddiant o ran cyfranogi. Yn dilyn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Gwaith, nododd y byddai’r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Llawn ei chymeradwyo ar 26 Hydref 2023.
Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid y bu gwaith yn mynd rhagddo ers nifer o flynyddoedd mewn perthyna â chyfranogiad y cyhoedd ac annog preswylwyr i ymateb i brosesau ymgynghori o fewn y Cyngor. Nododd y bydd y Strategaeth yn darparu llwyfan a sylfaen gref i’r Awdurdod wella cyfranogiad y cyhoedd. Ategodd y Rheolwr Rhaglen fod y Strategaeth yn ffurfioli llawer o’r gwaith sy’n digwydd yn barod a bod y Strategaeth yn sylfaen gref y gellir adeiladu arni i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd yn y dyfodol.
Cafwyd adborth gan y Cynghorydd Gwilym O Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor ar 17 Hydref 2023 pan graffwyd ar yr adroddiad ar y Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd 2023-2028. Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor hwnnw gwestiynau ynghylch sut a pham y mae angen i’r Cyngor lunio strategaeth gyfranogi a sut fydd y Strategaeth yn cynorthwyo’r Cyngor i wireddu Cynllun y Cyngor. Gofynnwyd cwestiynau pellach am y prosesau a’r trefniadau a roddir ar waith i sicrhau fod yr Awdurdod yn cydymffurfio’n llawn â gofynion y Strategaeth, yn ogystal ag unrhyw oblygiadau ariannol. Cyfeiriwyd hefyd at gyfraniad cymunedau lleol a Chynghorau Tref a Chymuned wrth hyrwyddo ymgysylltu. Cadarnhaodd y Cynghorydd Gwilym O Jones fod y Pwyllgor, ar ôl trafod y mater, wedi cytuno i nodi’r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd ac argymell i'r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn y dylid mabwysiadu’r Strategaeth. Roedd y Pwyllgor hefyd yn argymell i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn y dylid awdurdodi’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio – Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, i baratoi’r ddogfen derfynol yn unol â’r diwyg corfforaethol cyn cyhoeddi’r ddogfen ar wefan y Cyngor. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylid mabwysiadu gweithred yn nodi y dylai’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned drafod rôl, pwrpas a chyfranogiad Cynghorau Tref a Chymuned wrth hyrwyddo ymgysylltu a chyfranogiad y cyhoedd pan fydd y Cyngor yn ymgynghori ar wahanol faterion.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod templed yn cael ei baratoi ar gyfer y Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a rhaid i’r fersiwn Gymraeg a Saesneg fod yn gyson. Nododd fod y ddeddfwriaeth newydd yn golygu bod rhaid sefydlu rhaglen waith newydd, a thechnoleg ddigidol yw’r llwyfan a ffefrir i roi cyfle i bobl ymgysylltu, ymgynghori a chael mwy o breswylwyr lleol i ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus. Serch hynny, dylid rhoi cyfle hefyd i bobl nad ydynt yn dymuno defnyddio’r llwyfan digidol.
Dywedodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith ei bod yn hanfodol ymgysylltu â phreswylwyr wrth ymgynghori ar wahanol faterion. Nodwyd fod ymgynghori a derbyn ymatebion gan bobl ifanc yn bwysig.
Dywedodd yr Arweinydd fod enghreifftiau lle gwelwyd cynnydd yn nifer yr ymatebion i ymgynghoriadau, yn enwedig pan ymgynghorwyd ar Gynllun y Cyngor. Nododd fod y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth am waith y Cyngor. Cyfeiriodd at wirfoddolwyr mewn cymunedau lleol sy’n hyrwyddo ac yn rhoi cyfle i breswylwyr a chyfeiriodd hefyd at yr ymgysylltu â Fforymau Ysgolion a dywedodd fod llais pobl ifanc yn holl bwysig mewn unrhyw fath o ymgynghoriad cyhoeddus. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned hefyd gan ddweud fod trafodaethau’n cael eu cynnal yn y cyfarfodydd chwarterol.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd;
· Argymell i’r Cyngor llawn y dylid mabwysiadu’r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, a’i bod yn ddogfen fyw a fydd yn cael ei hadolygu a’i diweddaru’n rheolaidd a bydd yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau hyd yma;
· Awdurdodi’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio – Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer i baratoi’r ddogfen derfynol ar y fformat corfforaethol cyn cyhoeddi’r ddogfen ar wefan y Cyngor.
Dogfennau ategol: