Eitem Rhaglen

Sylfaen y Dreth Gyngor 2024/25

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i bwrpas gosod sylfaen dreth y Cyngor ar gyfer 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan ddweud bod gofyn i'r Cyngor, fel yr awdurdod bilio, gyfrifo Sylfaen y  Dreth Gyngor ar gyfer ei ardal, a gwahanol rannau o'i ardal, a bod yn rhaid rhoi gwybod beth yw’r symiau hyn i'r cyrff sy’n codi praeseptau ac ardollau erbyn 31 Rhagfyr 2023. Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am y wybodaeth i bwrpas gosod y Grant Cynnal Refeniw erbyn 14 Tachwedd 2023, ac i bwrpas pennu’r dreth (wedi cadarnhad gan y Pwyllgor Gwaith) erbyn 5 Ionawr 2024. Y ffigwr a gyfrifwyd ar gyfer sylfaen y Dreth Gyngor i'w ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i osod y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y Cyngor ar gyfer 2024/25 yw 31, 241.64, gostyngiad o 0.10% ar y flwyddyn flaenorol. Nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau a’r disgowntiau a roddir gan rhai awdurdodau ar

gyfer eiddo Dosbarthiadau A, B a C (nid yw hyn yn effeithio ar Ynys Môn gan na roddir disgowntiau o’r fath). Y ffigwr ar gyfer y Sylfaen Dreth i bwrpas gosod trethi sy'n cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau yw 33,170.03, cynnydd o 1.07% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y broses o gyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor er mwyn i Lywodraeth Cymru bennu lefel y Grant Cynnal Refeniw a hefyd er mwyn pennu trethi lleol a'r ffactorau dan sylw, gan gynnwys yn achos yr olaf y cynnydd yn y premiwm ail gartrefi o 75% i 100% y disgwylir iddo gael ei gadarnhau gan y Cyngor Llawn wrth osod y gyllideb ym mis Mawrth, 2024 ac sy'n cyfrif am y cynnydd yn y sylfaen dreth.  Cyfeiriodd at newidiadau yn y sylfaen dreth o gymharu â’r flwyddyn flaenorol ar gyfer y Dreth Gyngor safonol, tai gwag, ac ail gartrefi gan nodi, er bod nifer yr eiddo sy'n destun y premiwm ail gartrefi wedi gostwng, mae'r cynnydd arfaethedig yn y gyfradd premiwm o 75% i 100% wedi cael effaith sylweddol ar yr elfen hon o'r sylfaen dreth. Bydd y newidiadau yn y sylfaen dreth yn effeithio ar fan cychwyn y Cyngor ar gyfer y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/25.

 

Penderfynwyd –

·      Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2024/25, sef 31,241.64 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad)

·      Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2024/25 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad)

·      Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561), fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y rhain yw'r cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2024/25 sef 33,170.03, ac am y rhannau hynny o'r ardal fel sydd wedi eu rhestru yn y tabl o dan argymhelliad 3 yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: