Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol - Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol : 2022/2023

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Wasanaethau Oedolion mai nod Bwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru oedd gweithio ar y cyd ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i helpu i gefnogi cymunedau gwydn a sicrhau gwasanaeth di-dor i unigolion yr oedd angen gofal a chymorth arnynt. Nododd mai dyma Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru am 2022/23, fel oedd yn ofynnol yn Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yr oedd pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ei baratoi, ei gyhoeddi ac yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad wedi'i osod yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cwblhau'r Adroddiad Blynyddol.  Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn amlygu'r gwaith oedd wedi ei gyflawni’n rhanbarthol ac yn isranbarthol gyda'r Cynllun Ardal, a nodai'r Cynllun Awtistiaeth, y Cynllun Gofalwyr, y Cynllun Gofalwyr Ifanc, y Cynllun Plant a Phobl Ifanc a'r Strategaeth Anawsterau Dysgu. Nododd, hefyd, y canolbwyntiwyd ar anghenion plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y broses ariannu cyfalaf.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-

 

  • Codwyd cwestiynau ynghylch rôl a phwrpas y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gan ddweud fod y broses lywodraethu’n gymhleth yn y Bwrdd Partneriaeth. Nododd y gellid egluro rôl a phwrpas y Bwrdd Partneriaeth mewn Sesiwn Briffio i Aelodau Etholedig.

 

  • Codwyd cwestiynau ynghylch y berthynas rhwng Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddweud y câi'r ddau adroddiad eu hymgorffori yn ei gilydd gan fod y cyllid cyfalaf i ariannu llawer o brosiectau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei ariannu'n rhanbarthol.

 

  • Codwyd cwestiynau ynglŷn â rôl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wrth hwyluso sefyllfa nifer uchel o gleifion oedd yn methu cael eu rhyddhau o Ysbyty Gwynedd i fynd adref i’w preswylfa barhaol oherwydd nad oedd darpariaeth Gofal ar eu cyfer. Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gan ddweud bod rhaid i'r Awdurdod Lleol drafod anghenion claf, y mae angen pecyn gofal arno, gyda'r darparwyr Gofal yn dilyn asesu’r claf hwnnw. Nododd bod perthynas waith agos rhwng y Bwrdd Iechyd ac Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol ym Môn i ddarparu gofal mewn Cartrefi Preswyl cyn i glaf allu dychwelyd i’w brif breswylfa. Roeddynt, hefyd, yn trafod gyda theulu’r claf i ganfod a allent gynorthwyo i ofalu amdano cyn rhoi pecyn gofal yn ei le. Dywedodd fod yna broblem recriwtio genedlaethol yn y sector gofal gan nad oedd y tâl yn ddeniadol i bobl ymgeisio am swyddi yn y sector hwnnw. Dywedodd mai parhau fyddai problemau parhaus cleifion na allant gael eu rhyddhau o ysbytai, oni byddai Llywodraeth Cymru’n mynd i'r afael â'r mater hwn.

 

  • Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau yr oedd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cyflawni ei flaenoriaethau allweddol yn ystod 2022/2023 a beth oedd blaenoriaethau allweddol y Bwrdd am 2023/2024. Ymatebodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol gan ddweud ei bod yn hyderus bod y Bwrdd Partneriaeth wedi cyflawni ei flaenoriaethau allweddol yn ystod 2022/2023 ac amlygodd i'r Pwyllgor y prosesau llywodraethu o ran y cyllid cyfalaf a dderbyniwyd tuag at y prosiectau yn y Bwrdd. Dywedodd ei bod o’r farn nad oedd y Bwrdd wedi rhoi’r flaenoriaeth ddyladwy i’r gwasanaethau plant yn y blynyddoedd blaenorol. Ychwanegodd fod yr Awdurdod hwn wedi gwneud gwaith sylweddol yn y gwasanaethau plant i godi proffil a phwysigrwydd y darpariaethau i blant ar draws Gogledd Cymru. Roedd y Bwrdd wedi rhoi dros £7 miliwn tuag at wasanaethau plant ar draws Gogledd Cymru ac roedd enghreifftiau o’r gwaith i’w gweld yn yr adroddiad. Roedd, hefyd, wedi cyhoeddi Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad a Chynllun Ardal Rhanbarthol i lunio'r gwaith ar draws Gogledd Cymru. Holodd yr Is-Gadeirydd a fu gwendid ym mhroses bresennol y Bwrdd o ran rôl craffu'r gwahanol Awdurdodau Lleol. Nododd fod yr Awdurdod hwn wedi sefydlu Panel Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol. Ymatebodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol gan ddweud mai Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru oedd y mwyaf o’r Byrddau Partneriaeth yng Nghymru, gyda chwe Awdurdod Lleol, a'r Bwrdd Iechyd mwyaf yng Nghymru, ond roedd yn derbyn fod lle i wella o ran y rôl Craffu. Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at y Gwasanaethau Oedolion a dywedodd fod yr Awdurdod hwn wedi sefydlu Tîm Adnoddau Cymunedol. Gofynnodd a oedd gan Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru brosiect tebyg yn eu hawdurdodau. Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol trwy ddweud fod gan yr Awdurdodau Lleol eraill, hefyd, brosiectau tebyg yn eu hawdurdodau ac y câi arferion da eu rhannu rhwng y chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru.

 

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·       Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi deall y gwaith y mae angen i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei wneud a’i gadw mewn cof.

·       Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith a’r cynnydd yn 2022/23 ar y meysydd gwaith sy’n symud ymlaen drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

GWEITHRED: Trefnu Sesiwn Briffio i Aelodau Etholedig ar amlinellu rôl a   phwrpas y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

Dogfennau ategol: