Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr i’r
Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor ddyletswyddau
cynllunio ac ymateb brys o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.
Mae'r Cyngor yn brif ymatebwr ac yn cyflawni ei rwymedigaethau trwy
gydweithio ag Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru trwy Wasanaeth
Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru.
Dywedodd, yn dilyn ymgynghoriad a chadarnhad trwy'r broses
wleidyddol ym mhob Awdurdod Lleol, bod swyddogaethau Cynllunio at
Argyfwng pob un o'r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wedi'u
cyfuno'n un gwasanaeth o dan gytundeb rhwng awdurdodau ers 2014.
Ychwanegodd, yn ynys gyda dwy bont dros y Fenai, ei bod yn bwysig
bod y Cyngor hwn yn gwbl ymroddedig yn y Gwasanaeth Cynllunio at
Argyfwng Rhanbarthol fel ei fod yn mynd i’r afael ag unrhyw
argyfwng a allai ddigwydd ar yr Ynys a bod y gwasanaethau brys yn
bresennol mewn unrhyw ddigwyddiad. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at
yr Adroddiad Blynyddol a nododd ei fod yn rhoi sicrwydd bod y
Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol yn wasanaeth gwydn a
bod y Cyngor hwn yn cydweithio’n llawn â'r
gwasanaeth.
Wrth
ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a
ganlyn:-
- Codwyd cwestiynau ynghylch y risgiau allweddol sy'n wynebu'r
ynys a pharodrwydd y Cyngor o ran argyfyngau yn y dyfodol.
Ymatebodd y Rheolwr Gweithredol (Tîm Arweinyddiaeth) gan
ddweud y câi risgiau eu nodi a'u rheoli'n effeithiol yn ystod
trafodaethau mewn Fforwm Gwydnwch a gynrychiolir gan yr Awdurdod.
Nododd fod yna Gofrestr Risg Genedlaethol a bod y Gwasanaeth
Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol a'r Cyngor yn cyfrannu at adnabod
unrhyw risgiau posibl. Ychwanegodd mai toriadau mewn pŵer,
stormydd, seibr-ddiogelwch, ac
effeithiau ar wydnwch pont Menai a phont Britannia oedd y prif risg
allweddol. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod o’r farn bod yr
Awdurdod yn barod ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, gan fod y lefelau
llywodraethu a chyfranogiad yn eu lle; fodd bynnag, roedd yn
dibynnu ar gefnogaeth sefydliadau brys eraill. Mynegodd mai
cadernid y ddwy bont a’r posibilrwydd y gallai'r ddwy bont
gael eu cau’r un pryd oedd y prif bryderon, gan y gallent
beri problemau mawr pe ceid argyfwng ar yr Ynys. Dywedodd ei bod yn
bwysig parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gydnabod bod rhaid
i’r ddwy bont fod yn wydn ac y gellid dibynnu
arnynt.
- Cyfeiriwyd at y risg o danau gwyllt yng Nghoedwig Niwbwrch
oherwydd y tywydd sych, gan mai dim ond un briffordd sydd trwy
bentref Niwbwrch ac allan ohono a dim ond un maes parcio yn y
cyffiniau. Codwyd cwestiynau ynghylch pa drefniadau oedd ar waith i
gefnogi’r trefniadau cynllunio at argyfwng i fynd i’r
afael â thanau gwyllt posibl yn yr ardal ac i ba raddau yr
ymgynghorwyd â phartneriaid allanol. Ymatebodd y Prif
Weithredwr drwy ddweud mai Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yr awdurdod
cyfrifol ar gyfer Coedwig Niwbwrch a bod ganddynt gynllun ymateb
brys ar waith. Nododd nad oedd y Cyngor wedi bod yn rhan o unrhyw
ymarfer brys gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd yr Aelod Lleol
dros Niwbwrch fod ganddo bryderon nad oedd yr Awdurdod Lleol yn
rhan o unrhyw broses ymarfer brys gyda Chyfoeth Naturiol Cymru mewn
perthynas â Choedwig Niwbwrch. Dywedodd y Cadeirydd y dylai'r
Gwasanaeth Tân ac Achub, hefyd, fod yn ymwybodol o danau
gwyllt posibl. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r mater yn cael
ei gyfeirio i'w drafod gyda Chyfoeth Naturiol Cymru maes o
law.
- Cyfeiriwyd at y canllawiau i Aelodau Etholedig oedd
ynghlwm wrth yr adroddiad. Codwyd cwestiynau ynghylch y cynlluniau
oedd ar waith i wneud yn siŵr bod yr Aelodau'n ymwybodol o'u
rôl. Ymatebodd y Rheolwr Gweithredol (Tîm
Arweinyddiaeth) drwy ddweud fod cwrs e-ddysgu ar gael drwy'r pwll
dysgu i Aelodau Etholedig ei weld. Nododd y gellid trefnu Sesiwn
Briffio gydag Aelodau Etholedig, os oedd angen. Dywedodd yr
Is-gadeirydd y cyfeirir yn Llawlyfr yr Aelodau Etholedig at rif
ffôn pencadlys y Cyngor pan fo aelod o’r cyhoedd yn
dymuno ffonio mewn argyfwng. Dywedodd fod trigolion wedi bod yn
cwyno nad oeddynt yn gallu cael ateb wrth ffonio rhif ffôn
pencadlys y Cyngor. Ymatebodd y Prif Weithredwr ei fod yn derbyn y
rhwystredigaeth pan nad yw pobl yn gallu cael ateb wrth ffonio'r
Cyngor. Pwysleisiodd bwysigrwydd bod aelodau etholedig yn cyfeirio
unrhyw gŵyn o'r fath ynglŷn â'r system ffôn
yn syth at swyddogion perthnasol, yn unol â'r canllawiau a
gyflwynwyd yn flaenorol. Dywedodd fod y Cyngor, ar hyn o bryd, yn y
broses o gael system ffôn newydd a'r gobaith oedd y
byddai’n gwella gwaith rheoli a monitro galwadau. Cydnabu fod
yna gyfnodau prysur yn y galw am rai gwasanaethau yn y Cyngor h.y.
Budd-daliadau Tai a Gwasanaethau Tai. Ychwanegodd mai’r
Gwasanaethau Argyfwng, fwyaf tebyg, fyddai’n arwain ar unrhyw
argyfwng pe ceid un ac y byddai'r Awdurdod yn rhan o'r broses
ymateb trwy'r Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng. Ni fyddai’r
system ffôn bresennol yn cael unrhyw effaith ar allu'r Cyngor
i ymateb i unrhyw argyfwng
- Cyfeiriwyd at y trafodaethau diweddar ynghylch symud lleoliad
Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru. Codwyd cwestiynau ynghylch a oedd
Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn rhan o Wasanaeth Cynllunio at
Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn enwedig pan fu trafodaeth yn
y cyfarfod hwn ynghylch gwydnwch y pontydd. Ymatebodd Rheolwr
Rhanbarthol Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau
Gogledd Cymru bod Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth
arweiniol iechyd a’u bod yn trafod sut maent yn ymateb i
unrhyw argyfwng lle bod angen Ambiwlans Awyr. Dywedodd yr Aelod
Portffolio dros Wasanaethau Oedolion y câi Gwasanaeth
Ambiwlans Awyr Cymru ei drafod mewn cyfarfodydd gyda’r Bwrdd
Iechyd ond oherwydd y tywydd garw rhaid ystyried nad yw’r
Ambiwlans Awyr yn gallu fforddio eu gwasanaethau. Holwyd a fyddai
Ysbytai Penrhos Stanley a Chefni yn cael eu cynnwys mewn unrhyw
broses frys pe ceid digwyddiad mawr a’r ddwy bont ar gau a
dim Gwasanaeth Ambiwlans Awyr ar gael. Cyfeiriwyd, hefyd, at y
ffaith fod nifer y Llongau Mordeithio
oedd yn ymweld â'r Ynys wedi cynyddu ac y rhagwelid y byddai
92 o Longau Mordeithio’n ymweld
yr haf nesaf. Nododd y Prif Weithredwr y byddai Awdurdod Porthladd
Caergybi yn arwain ar unrhyw argyfwng yn y Porthladd, fel rhan o'u
cynlluniau argyfwng. Ymatebodd Rheolwr Rhanbarthol Gwasanaethau
Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru gan
ddweud fod prosesau yn eu lle i hyfforddi partneriaid amlasiantaethol ac ymarfer gyda nhw mewn perthynas
ag unrhyw argyfwng ar yr Ynys. Dywedodd y Prif Weithredwr
mai’r Gwasanaeth Ambiwlans, y Bwrdd Iechyd a Gwasanaeth
Ambiwlans Awyr Cymru a benderfynai pryd roedd angen Ambiwlans Awyr
ar gyfer unrhyw argyfwng. Holwyd a gysylltwyd ag Awyrlu Brenhinol y
Fali i ofyn eu cymorth pe ceid argyfwng ar yr Ynys. Ymatebodd y
Rheolwr Rhanbarthol y ceid trafodaeth yn y Gwasanaethau Cynllunio
at Argyfwng Rhanbarthol ynghylch canolfannau’r Awyrlu
Brenhinol, ond nid oedd yn ymwybodol y byddai gan Awyrlu Brenhinol
y Fali unrhyw ddarpariaeth i gynorthwyo pe ceid argyfwng. Dywedodd
y Prif Weithredwr y byddai angen cymorth a chaniatâd
Llywodraeth Cymru/Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r Lluoedd
Arfog/ yr Awyrlu Brenhinol (gyda phroses benodol i’w
dilyn).
- Cyfeiriwyd at y ffaith bod angen cynnwys gwybodaeth leol
ychwanegol yn yr Adroddiad Blynyddol gan fod yr adroddiadau'n
canolbwyntio ar bersbectif rhanbarthol. Roedd angen cynnwys
materion penodol yn ymwneud ag Ynys Môn a bod y Pwyllgor hwn
yn gallu gweld sut roedd yr Awdurdod yn ymateb i unrhyw argyfwng a
gyfyd. Ymatebodd Rheolwr Rhanbarthol Gwasanaeth Rhanbarthol
Cynllunio at Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru gan ddweud y gellid
cynnwys gwybodaeth am ymateb brys yr Awdurdod mewn
adroddiadau’r dyfodol fel bod modd i’r Pwyllgor hwn
allu cymharu â gweddill y Rhanbarth.
PENDERFYNWYD nodi cynnydd gwaith Gwasanaeth Cynllunio at
Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru 2022/23.
CAMAU GWEITHREDU:
·
Trefnu Sesiwn Briffio i Aelodau Etholedig ynghylch eu
rôl o fewn y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng.