Eitem Rhaglen

Porthladd Rhydd Ynys Môn – Diweddariad ar baratoi’r Achos Busnes Amlinellol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn nodi'r cynnydd o ran paratoi'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Rhoddodd y Cadeirydd rywfaint o wybodaeth gefndirol am y cais llwyddiannus am statws Porthladd Rhydd a chymeradwyo'r Cytundeb Cydweithio Cychwynnol ym mis Gorffennaf 2023 gyda gweithredwr y porthladd Stena Line. Trwy'r Cytundeb Cydweithio Cychwynnol, sefydlwyd Corff Llywodraethu dros dro ac mae'r Cyngor ar fin cwblhau cytundeb grant gyda Llywodraeth Cymru a ddefnyddiwyd i gefnogi’r broses o ddatblygu Achos Busnes Amlinellol (OBC). Mae'r OBC yn cael ei ddatblygu yn unol â'r cyfarwyddyd drafft ar gyfer Porthladdoedd Rhydd Cymru gan na chyhoeddwyd y canllawiau terfynol tan fis Hydref 2023 ond does dim newid o'r fersiwn drafft. Mae'r adroddiad yn amlinellu'r gofynion wrth gwblhau'r OBC a'r materion dan sylw.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod yr amserlen ar gyfer paratoi a chyflwyno'r OBC wedi bod yn heriol, felly hefyd y dasg o gyflawni agweddau mwy technegol gofynion y canllawiau. Mae cryn dipyn o waith wedi'i gyflawni ac mae'r Cyngor mewn sefyllfa dda o ran y wybodaeth y mae wedi'i rhoi at ei gilydd ac o ran cyflawni’r targed ar gyfer dyddiad cyflwyno’r OBC. Mae sawl ffrwd waith yn parhau yn y cefndir gan gynnwys mewn perthynas â sero net, yr iaith Gymraeg, arloesi, cadwyni cyflenwi lleol a Gwaith Teg i sicrhau bod y cynnig yn un sy'n gweithio i Ynys Môn a rhanbarth ehangach y gogledd-orllewin. Bydd yr Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi'r flwyddyn nesaf a disgwylir penderfyniad terfynol gan Lywodraethau'r DU a Chymru ym mis Medi 2024. Yn ogystal â hyn, trefnwyd digwyddiad cymunedol yn Neuadd y Farchnad, Caergybi ar gyfer 1 Rhagfyr 2023 i roi cyhoeddusrwydd i bobl a helpu pobl i ddeall rhaglen Porthladd Rhydd Ynys Môn yn well a'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y cynnig.

 

Diolchodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith i'r tîm Datblygu Economaidd am ei ymdrechion hyd yma gan gydnabod bod llawer iawn o waith wedi'i gwblhau o fewn amserlen dynn yn ogystal â phwysigrwydd y wybodaeth a'r ddealltwriaeth leol y mae'r tîm wedi'u cyfrannu at y gwaith hwnnw. Er ei fod yn cydnabod y manteision y mae statws Porthladd Rhydd wedi'u cynllunio i'w creu o ran adfywio, creu swyddi, buddsoddi ac arloesi, pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith bwysigrwydd rheoli disgwyliadau gan dynnu sylw at y ffaith na fydd Porthladd Rhydd Ynys Môn yn weithredol tan ar ôl i'r Achos Busnes Terfynol gael ei gymeradwyo tua diwedd y flwyddyn nesaf. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyflawni’r dyddiad targed ar gyfer cyflwyno’r OBC, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd er bod yr amserlen yn heriol a bod gwaith i'w wneud eto, fod y Cyngor mewn sefyllfa dda i gyflwyno'r OBC i'r safonau disgwyliedig yn unol â dyddiad cyflwyno’r OBC ym mis Tachwedd.

 

Penderfynwyd –

·      Awdurdodi swyddogion i gwblhau’r Achos Busnes Amlinellol drafft.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, i gymeradwyo a chyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i’w gymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

·      Cytuno i eithrio’r penderfyniad rhag cael ei alw i mewn (gyda chytundeb Cadeirydd y Cyngor) gan y gallai hynny danseilio’r gwaith o gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i’r naill Lywodraeth.

 

Dogfennau ategol: