Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd y Prif Weithredwr mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad partner mwyaf y mae’r Awdurdod yn gweithio ag o er mwyn helpu pobl fregus a darparu’r gwasanaethau a’r gofal gorau ar gyfer trigolion yr Ynys. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi wynebu cyfnod heriol yn ystod y chwe mis diwethaf yn sgil cael ei roi o dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny’n cael ei gydnabod. Er hynny, cydnabyddir hefyd fod gwelliannau wedi cael eu gwneud o fewn y Bwrdd Iechyd a’r gobaith yw y bydd y cynnydd yn parhau. Ychwanegodd fod y Cyngor yn ffodus fod ganddo ddau unigolyn sy’n aelodau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sef y Cynghorydd Dyfed W Jones, sydd yn Aelod Annibynnol o’r Bwrdd, a Mr Fôn Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd yn Aelod Cysylltiol.
Dywedodd Mr Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod gosod y Bwrdd Iechyd cyfan o dan fesurau arbennig, fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023, yn beth anghyffredin a digwyddodd hynny am fod nifer o bryderon am y ddarpariaeth, perfformiad sefydliadol a llywodraethiant. Cyfeiriodd at aelodaeth a strwythur y bwrdd a’r gobaith yw penodi rhagor o gynrychiolwyr i’r Bwrdd maes o law. Ychwanegodd Mr Edwards fod y Bwrdd Iechyd wedi wynebu cyfnod heriol yn ystod y ddegawd ddiwethaf a gwelwyd nifer o Brif Weithredwyr yn cael eu penodi ac yna’n gadael eu swyddi. Dywedodd fod profiadau pobl sy’n derbyn gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd yn cael ei fonitro a derbyniwyd sylwadau a oedd yn canmol y gwasanaeth iechyd ar ôl i gleifion gael eu gweld ac wedi iddynt dderbyn triniaeth, ond mae heriau’n bodoli o hyd o ran derbyn apwyntiadau a gwasanaethau yn y lle cyntaf.
Dywedodd Mr Edwards mai ei nod fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, a nod y Prif Weithredwr, yw gwella’r gwasanaethau a ddarperir a rhoi’r gefnogaeth iechyd a llesiant orau i’r bobl sy’n cael eu gwasanaethu gan y Bwrdd Iechyd. Dywedodd fod angen i’r Bwrdd Iechyd ymgysylltu mwy gyda chymunedau lleol a bod angen iddo ddarparu’r gwasanaethau hyn yn y cymunedau yma a bydd nifer o gyfarfodydd ymgynghori’n cael eu cynnal i ganfod beth yw barn pobl am y Bwrdd Iechyd. Ychwanegodd fod ymgysylltu a rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau lleol yn holl bwysig er mwyn cynnig y gwasanaethau gorau posib i’r bobl sy’n cael eu gwasanaethu gan y Bwrdd Iechyd.
Ychwanegodd Mr Edwards fod y Bwrdd Iechyd yn gyflogwr mawr a’i fod yn cyflogi bron i 20,000 o weithwyr ledled y rhanbarth ac mae effaith economaidd-gymdeithasol y Bwrdd yn bellgyrhaeddol.
Dywedodd Mrs Ffion Johnson, Cyfarwyddwr Ardal (Gorllewin) – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod perthynas waith dda’n parhau i fodoli rhwng yr Awdurdod hwn a’r Bwrdd Iechyd.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol:-
· Nodwyd fod taith wella’r Bwrdd Iechyd yn cynnwys y 5 amcan allweddol a nodir yn yr adroddiad. Gofynnwyd pa heriau neu risgiau sy’n effeithio ar allu’r Bwrdd Iechyd i wireddu ei daith wella? Dywedodd Mr Dyfed Edwards fod yr adroddiad yn cynnwys 5 canlyniad allweddol a chyfeiriodd yn benodol at ddiwylliant y Bwrdd Iechyd o ran ei allu i ddarparu’r gwasanaethau a’r gofal iechyd gorau i gleifion. Fodd bynnag, dywedodd fod diwylliant y Bwrdd Iechyd yn hynod o fregus gan fod staff yn teimlo dan bwysau oherwydd bod yr oriau gwaith yn hir a bod arweinyddiaeth y Bwrdd Iechyd yn newid yn barhaus; roedd o’r farn bod angen i bobl fod yn fwy ystyriol o’i gilydd ac i fod yn fodlon gwrando ar anghenion cleifion. Dywedodd Mr Edwards hefyd fod creu sefydliad sy’n cyrraedd y safonau yn holl bwysig. Cyfeiriodd Mrs Ffion Johnson at yr heriau a wynebir o ran penodi staff meddygol ac roedd yn credu y byddai’r Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi cyfle i bobl ifanc astudio ac, o bosib, gweithio fel staff meddygol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y dyfodol. Nododd fod Cynorthwywyr Gofal Iechyd sy’n gweithio i’r Bwrdd Iechyd yn cael cyfle i fynychu cyrsiau ym Mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth er mwyn dod yn nyrsys cofrestredig. Gofynnwyd a fyddai’r ‘cylchoedd gwella 90 diwrnod’ yn gysylltiedig â’r 5 amcan allweddol y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn rhoi pwysau ar y Bwrdd Iechyd? Mewn ymateb, dywedodd Mr Dyfed Edwards fod y Bwrdd Iechyd ar y ‘cam sefydlogi’ ar hyn o bryd ac mae’r Bwrdd wedi pwysleisio wrth Lywodraeth Cymru bod angen hyblygrwydd gan y bydd angen mwy o amser i wella rhai agweddau yn y Bwrdd Iechyd. Dywedodd, er enghraifft, fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adroddiadau ar feysydd penodol yn y Bwrdd Iechyd ac, fel rhan o’r rhaglen mesurau arbennig, mae angen i’r Bwrdd Iechyd ddangos ei fod yn gweithredu ar y meysydd penodol hyn.
· Gofynnwyd i ba raddau mae’r Bwrdd Iechyd yn rhannu ac yn dysgu o enghreifftiau o arfer dda mewn ardaloedd eraill er mwyn gwella gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig tebyg i Ynys Môn? Dywedodd Mrs Ffion Johnson fod enghreifftiau o arfer dda yn cael eu rhannu mewn ardaloedd gwledig a chydag ardaloedd yng Ngheredigion. Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn edrych ar fodel gofal brys ac argyfwng a’r gobaith yw y gellir dysgu arferion da o’r model hwn.
· Nodwyd nad yw’r Bwrdd Iechyd yn ymateb i geisiadau cynllunio fel ymgynghorai statudol. Nodwyd y gallai datblygiad mewn cymunedau lleol gael effaith negyddol ar wasanaethau meddygon teulu yn y cymunedau hyn. Dywedodd Mr Dyfed Edwards y bydd angen rhoi trefniadau ar waith i’r Bwrdd Iechyd ymateb i geisiadau cynllunio sy’n cael effaith andwyol ar y ddarpariaeth iechyd mewn cymunedau lleol. Nododd y dylai’r Bwrdd Iechyd hefyd gael eu cynnwys mewn trafodaethau wrth lunio’r Cynllun Datblygu Lleol. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd y Bwrdd Iechyd yn bartner statudol yn y broses o greu’r Cynllun Datblygu Lleol. Nododd y gall datblygu datblygiadau tai mewn ardal wledig gael effaith sylweddol ar wasanaethau yn y gymuned honno, a’r ddarpariaeth gofal iechyd yn arbennig.
· Gofynnwyd beth yw’r bwriadau o ran datblygu’r cydweithio rhwng y Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn ymhellach? Dywedodd Mrs Ffion Johnson fod nifer o brosiectau ar y cyd wedi cael eu sefydlu gydag adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn. Cyfeiriodd at enghreifftiau o gydweithio megis y tri Thîm Adnoddau Cymunedol, Timau Amlddisgyblaethol, Pecynnau Gofal a’r defnydd posib o Gartref Preswyl Garreglwyd yng Nghaergybi. Nododd fod cynllun peilot Hwb Cymunedol a sefydlwyd yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi yn canolbwyntio ar leihau nifer y cleifion risg uchel sy’n gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod perthynas waith dda’n bodoli rhwng gweithlu’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Bwrdd Iechyd a chynhelir trafodaethau rheolaidd i benderfynu sut i wella’r gwasanaethau a ddarperir i drigolion Ynys Môn.
· Cyfeiriwyd at y cynllun Cymunedau Oed Gyfeillgar sy’n cynnal cyfarfodydd mewn nifer o bentrefi ar Ynys Môn. Yn ystod y cyfarfodydd hyn mynegwyd pryderon am gyfleusterau cludiant i ysbytai a nodwyd bod pobl yn gorfod disgwyl am amser hir i gael cludiant gartref yn dilyn apwyntiadau ysbyty, a chyfeiriwyd hefyd at y gofyn am gyfleusterau gofal cynradd ychwanegol mewn cymunedau lleol. Ymatebodd Mrs Ffion Johnson i’r materion a godwyd a nododd fod gofal acíwt arbenigol yn cael ei ddarparu yn y prif ysbytai ar hyn o bryd ac y dylid ystyried ail-leoli Nyrsys Arbenigol i’r gymuned. Nododd y byddai’n codi’r materion a godwyd gyda Dr Dyfrig ap Dafydd, sef Arweinydd y Clwstwr ar Ynys Môn.
· Nodwyd fod heriau’n bodoli o ran recriwtio gweithwyr ym maes Orthodonteg yn y Gorllewin. Gofynnwyd sut mae’r Bwrdd Iechyd yn mynd i’r afael â’r heriau recriwtio ym maes Orthodonteg? Dywedodd Mrs Ffion Johnson fod yr Orthodeintydd ym Mangor wedi ymddeol a’i bod yn anodd llenwi’r swydd. Dywedodd fod trafodaethau ynglŷn â’r ddarpariaeth Orthodonteg yn mynd rhagddynt ledled Gogledd Cymru. Nododd fod trafodaethau wedi digwydd gyda’r Academi Ddeintyddol ym Mangor a chysylltwyd â’r gwasanaeth Orthodonteg yn ardaloedd canol a dwyrain Gogledd Cymru i ganfod a fyddent yn fodlon cynnal y clinig ym Mangor neu a fyddai cleifion yn fodlon teithio i ardaloedd eraill. Nododd y Pwyllgor hefyd fod meddygfeydd deintyddol yn cau ar yr Ynys a dim ond 7 sydd ar ôl bellach. Dywedodd Mrs Ffion Johnson fod yna ddiffyg meddygfeydd deintyddol ledled Gogledd Cymru. Mae’r Academi Ddeintyddol yng Ngogledd Cymru’n darparu rhaglenni addysgu deintyddol ar gyfer myfyrwyr. Nododd fod trafodaethau wedi digwydd gyda Deintyddion y GIG ar yr Ynys i weld a fyddai modd addasu contractau’r GIG o gwbl, ond mater i Lywodraeth Cymru yw p’un a ellir addasu eu contractau.
· Gofynnwyd pa ffrydiau gwaith sydd ar waith i gryfhau llais pobl leol ac i sicrhau fod y Bwrdd Iechyd yn cael ei ddal i gyfrif gan bobl a chymunedau’r Ynys a Gogledd Cymru? Mewn ymateb, dywedodd Mr Dyfed Edwards fod aelodau annibynnol ar y Bwrdd Iechyd sy’n cynrychioli gwahanol ddiddordebau cymunedol. Mae gan ‘Llais’, sef yr hen Gyngor Iechyd Cymunedol, gynrychiolydd ar y Bwrdd. Dywedodd Mr Edwards ei fod ef, fel Cadeirydd y Bwrdd, yn awyddus i ddenu cynrychiolwyr cymunedau lleol ac aelodau etholedig i’r Bwrdd Iechyd. Nododd fod cyfres o gyfarfodydd wedi eu trefnu mewn cymunedau lleol ar hyd a lled Gogledd Cymru a bydd cyfle i bobl fynegi eu barn am wasanaethau’r gwasanaeth iechyd a chyfle i awdurdodau lleol a chynrychiolwyr o’r trydydd sector gyfarfod â’r Bwrdd Iechyd i leisio eu pryderon. Gofynnwyd rhagor o gwestiynau am sut mae’r Bwrdd Iechyd yn ymgysylltu â phreswylwyr. Dywedodd Mr Edwards y byddai ef, fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, yn rhoi mwy o ystyriaeth i sut mae’r Bwrdd Iechyd yn ymgysylltu â phreswylwyr ac y byddai’n fanteisiol edrych ar sut mae’r Cyngor hwn yn ymgysylltu â phreswylwyr.
· Gofynnwyd a yw’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar y Bwrdd Iechyd. Mewn ymateb, dywedodd Mr Edwards fod cyfuniad o faterion wedi effeithio ar iechyd ac ar iechyd meddwl pobl yn sgil yr argyfwng costau byw, newid hinsawdd a’r cyfnod yn dilyn covid. Nododd fod ansawdd bywyd pobl yn effeithio ar eu hiechyd. Mae enghreifftiau mewn cymunedau lleol o geisio dod â phobl ynghyd i gymdeithasu a chael pryd poeth. Ceir ‘lleoedd cynnes’ ar hyd a lled Gogledd Cymru sy’n cael eu darparu gan y trydydd sector a grwpiau cymunedol. Serch hynny, mae adnoddau a’r angen am wirfoddolwyr yn risg o ran cynnal darpariaeth o’r fath.
· Nodwyd fod pobl yn cysylltu ag Aelodau Etholedig i fynegi eu pryderon am faterion iechyd e.e. methu â chael apwyntiad gyda meddyg teulu, diffyg deintyddion neu orfod disgwyl am apwyntiadau ysbyty. Gofynnwyd sut all Aelod Lleol gysylltu â’r Bwrdd Iechyd i godi’r pryderon hyn. Dywedodd Mr Dyfed Edwards ei fod ef, fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, yn fodlon rhoi sylw i unrhyw bryderon yn y lle cyntaf. Dywedodd y byddai’n rhaid ystyried sefydlu cyswllt penodol o fewn y Bwrdd Iechyd er mwyn i Aelodau Lleol fedru mynegi pryderon eu hetholwyr.
· Mae’r adroddiad yn cyfeirio at gofnodion meddygol a data allweddol cleifion. Gofynnwyd pa drefniadau sydd ar waith i ymateb i sylwadau diweddar gan y Crwner mewn perthynas â chofnodion atgyfeirio claf a oedd wedi mynd ar goll. Dywedodd Mr Dyfed Edwards nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i achosion o’r fath yn dderbyniol a’i fod yntau, fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, a’r Prif Weithredwr Dros Dro wedi cytuno bod angen iddynt fynd i’r afael ag achosion o’r fath ac mae’n rhaid gosod safonau a cheisio adfer ymddiriedaeth pobl yn y Bwrdd Iechyd.
Roedd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yn dymuno diolch i Mr Dyfed Edwards a Mrs Ffion Johnson am ddod i’r cyfarfod a nododd fod gwaith partneriaeth rhwng y Bwrdd Iechyd ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn holl bwysig i gefnogi iechyd a gofal trigolion yr Ynys.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi adroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;
· Gwahodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno diweddariad pellach ynglŷn â chynnydd i’r Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio ymhen 12 mis.
GWEITHREDOEDD :-
· Gwella trefniadau i Aelodau Etholedig gyflwyno pryderon eu hetholwyr i’r Bwrdd Iechyd;
Mae angen person cyswllt yn y Bwrdd Iechyd i ymateb i’r broses ymgynghori statudol mewn perthynas â cheisiadau cynllunio pan fydd cynigion am ddatblygiadau tai mawr yn effeithio ar y ddarpariaeth iechyd mewn cymunedau gwledig.
Dogfennau ategol: