12.1 – DIS/2023/17 – Cyn Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi
12.2 – VAR/2022/71 - Cyn Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi
12.3 – FPL/2023/61 – Taldrwst, Lon Fain, Dwyran
12.4 – FPL/2023/42 – Treiddon, Ffordd y Traeth, Porthaethwy
12.5 – FPL/2023/235 – Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni
12.6 – VAR/2023/59 – Safle Carafannaau Teithio Bryn Goleu, Bryngwran
12.7 – VAR/2023/41 - A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes
12.8 – VAR/2023/40 – Stad y Bryn, Llanfaethlu
12.9 – FPL/2021/124 – Bodwina Bellaf, Gwalchmai
Cofnodion:
12.1 DIS/2023/17 – Cais i ryddhau amod (16) (asesiad risg) o gais cynllunio FPL/2021/337 (cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai cais ydyw i ryddhau amod a osodwyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wrth benderfynu ar gais cynllunio rhif FPL/2021/337- Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffin Mewndirol (IBF) yn yr hen safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod amod (16) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno asesiad risg gan gynnwys mesurau lliniaru pe na fyddai’r safle’n gallu cynnal y gwiriadau gofynnol neu pe na fyddai’r safle’n gallu gweithredu oherwydd bod rhaid cau’r safle’n annisgwyl. Mae'r manylion a gyflwynwyd wedi cael eu hanfon ymlaen i'r Adran Briffyrdd ac i Adran yr Economi a Seilwaith Llywodraeth Cymru ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad. Felly, ystyrir bod y wybodaeth a dderbyniwyd yn ddigonol i ryddhau amod (16) (asesiad risg/mesurau lliniaru).
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Geraint Bebb.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gan felly ryddhau amod (16).
12.2 VAR/2022/71 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (15) (arolwg cyflwr ar gyfer graddau'r ffyrdd ymuno/ymadael) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/337 (Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) er mwyn caniatáu cyflwyno a chymeradwyo manylion yn dilyn cychwyn gwaith datblygu yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud o dan Adran 73 i amrywio cais FPL/2021/337 – Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffin Mewndirol (IBF) yn yr hen safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi a benderfynwyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2022.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod amod (15) yn ei gwneud yn ofynnol i'r datblygwr o fewn 6 mis i ddyddiad y caniatâd fod wedi cyflwyno arolwg amod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer y ffyrdd ymadael yng Nghyffordd 2 yr A55 i sicrhau nad oedd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar y rhwydwaith priffyrdd ehangach. Gosodwyd yr amod hwn gan Adran Priffyrdd Llywodraeth Cymru ac er nad oedd y wybodaeth yn yr arolygon a ddarparwyd gan y datblygwr yn bodloni Priffyrdd Llywodraeth Cymru i ddechrau, yn dilyn trafodaethau pellach, codwyd y cyfarwyddyd atal a gyhoeddwyd gan Adran Priffyrdd Llywodraeth Cymru ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad i ryddhau’r amod (15). Felly, mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn fodlon y gellir amrywio'r amod yn unol â hynny a'r argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.3 FPL/2023/61 – Cais llawn ar gyfer newydd defnydd tir amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd newydd ar y safle, addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir yn Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod ef a'r Rheolwr Rheoli Datblygu wedi derbyn cais gan y Cynghorydd John I. Jones fel Aelod Lleol bod y Pwyllgor yn ymweld â safle'r cais oherwydd pryderon lleol ynghylch y cynnig, yn enwedig mewn perthynas â phroblemau llifogydd.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid ymweld â safle'r cais yn unol â chais yr Aelod Lleol, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Geraint Bebb.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
12.4 FPL/2023/42 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi dau annedd newydd yn Treiddon, Ffordd y Traeth, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Gan siarad fel Aelod Lleol, gofynnodd y Cynghorydd Robin Williams i'r Pwyllgor ymweld â safle'r cais a bod aelodau'r Pwyllgor hefyd yn cael cyfle i weld y safle o'r tir mawr gyferbyn er mwyn gwerthfawrogi’n well yr effaith bosibl y gallai’r cynnig ei chael ar y dirwedd a'r ardal yn ogystal ag ar y golygfeydd ehangach.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid ymweld â safle'r cais yn unol â chais yr Aelod Lleol, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Neville Evans.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
12.5 FPL/2023/235 – Cais llawn ar gyfer adeiladu ystafell offer i gadw dau bwmp gwres ffynhonnell dŵr, gosod dau bwmp gwres ffynhonnell aer, codi ffens ddur, codi rhwystr dur ynghyd â gwaith cysylltiedig yng Nghyngor Sir Ynys Môn, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai tir sy'n eiddo i'r Cyngor yw safle'r cais.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod caniatâd cynllunio wedi'i roi yn flaenorol ym mis Hydref 2022 ar gyfer datblygiad tebyg ar dir yng nghefn Swyddfeydd y Cyngor o dan gais rhif FPL/2022/198. Oherwydd pryderon dilynol ynghylch yr ardal a gynigiwyd yn flaenorol a'r llifogydd, pwrpas y cais hwn yw ceisio darparu lleoliad arall sy’n uwch yn yr ardal parcio ceir bresennol a fydd yn gwrthweithio effaith neu botensial y perygl o lifogydd. Cynigir ei leoli ar ran o faes parcio presennol y Cyngor gan arwain at golli 6 lle parcio. Fodd bynnag, mae Cynllun Teithio i’r Gweithle (WTP) a gyflwynwyd fel rhan o'r cais wedi asesu effaith y datblygiad ar gapasiti a’r galw am y maes parcio ac yn cadarnhau mai 482 o lefydd parcio sydd ar gael ar hyn o bryd gyda thua 45% o staff ar y safle ar unrhyw un adeg sy'n golygu mai dim ond 60% o'r llefydd parcio ceir sy'n cael eu defnyddio ar unrhyw un adeg. Felly ni fyddai colli 6 lle yn cael effaith andwyol ar y galw am lefydd parcio. O ystyried lleoliad y datblygiad arfaethedig ar dir y Cyngor ac nad oes unrhyw gymdogion na defnyddiau eraill gerllaw, ni ystyrir y bydd y cynnig yn cael unrhyw effeithiau ar edrychiad, cymeriad neu amwynderau'r ardal gerllaw ac felly ystyrir ei fod yn dderbyniol. Yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jeff Evans.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.6 VAR/2023/59 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (04)(Defnydd tymhorol) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/30 (Cais llawn ar gyfer newid defnydd presennol safle Cartio Môn i fod yn safle carafanau teithiol â 20 llain ar gyfer carafanau teithiol ynghyd ag adeiladu ffordd breifat) er mwyn caniatáu defnydd drwy'r flwyddyn o'r safle fel maes carafanau teithiol yn Safle Carafanau Teithiol Bryn Goleu, Bryngwran
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Mr Martin Williams, yr ymgeisydd, o blaid y cais i amrywio amod (04) i ganiatáu i safle carafanau Bryn Goleu agor ar hyd y flwyddyn. Tynnodd sylw at y ffaith bod amod (04) wedi ei lacio yn ystod pandemig Covid er mwyn i fusnesau allu manteisio ar y "cynnydd mewn gwyliau gartref" yn y DU yn ystod y cyfnod hwnnw a bod y safle wedi’i ddefnyddio pan ganiatawyd iddo agor yn ystod y cyfnod hwnnw gan Mark Drakeford yng Nghaerdydd. Yn dilyn y pandemig mae llawer o bobl wedi buddsoddi mewn carafanau, cerbydau gwyliau a cherbydau gwersylla ac maent am eu defnyddio'n gyfreithlon yn ystod misoedd y gaeaf. Mae cilfannau'r A4 a'r A55 ger Bryn Goleu yn cael eu defnyddio gan wersyllwyr gwyllt sy'n parcio dros nos ac yn gadael eu sbwriel ar y ffordd a thros y gwrych sy'n annerbyniol. Gellir mynd i'r afael â rhan o'r sefyllfa hon heb gost i'r Cyngor drwy ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael ym Mryn Goleu. Efallai y bydd angen rhywfaint o berswâd ar y gwersyllwyr gwyllt ond byddai’r ffaith bod darpariaeth ar gael yn gwanhau eu dadl. Mae Polisi TWR 5 yn cyfeirio at ddarpariaeth o ansawdd uchel, sef yr hyn sydd ar gael ym Mryn Goleu. Mae'r argyfwng costau byw yn golygu bod angen cwsmeriaid ar fusnesau lleol, fel tafarndai, ar hyd y flwyddyn i greu swyddi parhaol yn hytrach na rhai tymhorol. Dywedodd Mr Williams ei fod wedi bwriadu cyflwyno'r cais y llynedd ond roedd problemau iechyd personol wedi golygu nad oedd yn gallu gwneud hynny. Fel trydedd genhedlaeth o’r teulu i fyw ym Mryn Goleu roedden nhw am aros yno’n barhaol gan fuddsoddi yn y fenter, a’i datblygu, yn dilyn dyddiau tywyll iawn y pandemig ac roedd yn gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor. Roedd cais FPL/2021/349 wedi cael caniatâd ar hyd y flwyddyn felly beth yw'r gwahaniaeth? Mae pwynt 3 CDLl ar y Cyd PS-14 yn cyfeirio at ddefnydd ar hyd y flwyddyn ond nid felly TWR 5.
Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at Bolisi TWR 5 fel y polisi perthnasol yn yr achos hwn a dywedodd, er nad yw'r polisi yn nodi'n benodol bod holl garafanau teithiol ar hyd y flwyddyn wedi'u gwahardd, mae'n amlwg o deitl y polisi a'r meini prawf perthnasol nad yw wedi'i gynllunio i gefnogi datblygiadau parhaol ar hyd y flwyddyn. Yn ôl meini prawf 3 a 7 mae disgwyl y caiff unedau eu symud o safleoedd y tu allan i’r tymor neu pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae Cyfreithiwr y Cyngor o'r un farn â'r Uned Bolisi, hynny yw ei bod yn amlwg o eiriad y polisi mai cefnogi datblygiad tymhorol yn unig yw ei fwriad. Fel y crybwyllwyd gan y Siaradwr Cyhoeddus mae'r Pwyllgor wedi cymeradwyo cais tebyg yn flaenorol yng Nghaerau, Llanfairynghornwy ond mae gwahaniaethau sylweddol rhwng y ddau, a thra bod y cais presennol yn ymwneud â charafanau teithiol, roedd y cais yng Nghaerau’n ymwneud â phebyll. Mae effaith y rheini mewn tirwedd pan nad oes dail ar y coed yn hollol wahanol i effaith carafanau gwyn amlwg ar hyd y flwyddyn. Yn sgil topograffi a sgrinio sylweddol nid yw safle'r cais yng Nghaerau i'w weld ac roedd honno’n ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar y cais. Mae'n annhebygol y bydd galw mawr am wersylla yn ystod y gaeaf ond mae'r safle ar gael os bydd angen a bydd pebyll yn cael eu symud oddi yno ar ôl iddynt gael eu defnyddio tra bod caniatáu carafanau ar hyd y flwyddyn yn golygu y byddant ar y safle ar hyd y flwyddyn ac ni fyddant yn cael eu symud y tu allan i’r tymor fel sy'n ofynnol yn ôl y meini prawf ym Mholisi TWR 5. Ystyrir felly bod y cynnig yn groes i Bolisi TWR 5 ac nad oes unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill sy’n golygu y dylid ymatal rhag gwrthod y cais. Yr argymhelliad felly yw gwrthod.
Siaradodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones, Aelod Lleol i gefnogi'r cais a phwysleisiodd eu bod yn deulu lleol, cymeradwy ym Mryn Goleu, sy'n faes carafanau agos at yr A5 heb unrhyw broblemau o ran y briffordd na gwelededd. Cyfeiriodd at y problemau a gododd gyda gwersyllwyr gwyllt sydd, ers iddynt gael eu hatal rhag aros ar Draeth Cymyran, wedi dechrau parcio yn y gilfan ger Bryn Goleu a gadael eu sbwriel ar eu holau. Mae Bryn Goleu yn addas fel safle ar gyfer y gwersyllwyr hyn ar hyd y flwyddyn ac yn ogystal â datrys y broblem hon, byddai’r ffaith ei fod ar gael ar hyd y flwyddyn yn helpu busnesau lleol a'r economi leol yn ystod misoedd tawelach y gaeaf. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn bresennol pan drafododd Cyngor Cymuned Bodedern y cais yn helaeth gan roi eu cefnogaeth iddo. Er ei fod yn cydnabod bod yn rhaid i Swyddogion roi sylw i bolisi wrth lunio eu hadroddiadau, pwysleisiodd bwysigrwydd y safbwynt lleol a hyblygrwydd wrth ystyried cais fel hyn a gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried cymeradwyo'r cais.
Wrth ymateb i sylwadau'r Aelod Lleol, ailadroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynnig yn groes i Bolisi TWR 5 a bod dyletswydd ar y Swyddogion a'r Pwyllgor i asesu ceisiadau yn erbyn y polisi presennol sy'n nodi'n glir bod yn rhaid symud carafanau teithiol o safleoedd y tu allan i’r tymor. Gallai cymeradwyo'r cais agor y drws i lawer mwy o geisiadau fel hyn. Hefyd does dim sicrwydd y byddai gwersyllwyr gwyllt yn defnyddio'r safle - fel mae'r enw'n ei awgrymu mae gwersyllwyr gwyllt yn mynd ble bynnag maen nhw eisiau ac felly dydi hynny ddim yn gyfiawnhad cadarn dros gefnogi'r cais. Ar ben hynny nid yw bod yn deulu lleol yn ystyriaeth gynllunio berthnasol. Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Dafydd Roberts bod amod yn cael ei osod ar y caniatâd i gyfyngu ar unrhyw arhosiad i ddim mwy na phythefnos heb ddychwelyd o fewn mis, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu na fyddai'n bosibl monitro trefniant o'r fath, beth bynnag, mae safleoedd eraill ar agor am ddeuddeg mis a does dim i awgrymu y byddai gwersyllwyr gwyllt yn dewis defnyddio safle’r cais ymgeisio yn hytrach na’r rheini.
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans iddo gael ei dynnu'r naill ffordd a’r llall gan y cais a'i fod yn cytuno gyda llawer o sylwadau'r Aelod Lleol. Roedd yn gwybod am hanes y teulu a’r safle ac roedd yn ymwybodol bod pandemig Covid wedi effeithio ar gyn fusnes Cartio Môn gan olygu bod y teulu wedi gorfod arallgyfeirio'r busnes. Fel Aelod Portffolio Twristiaeth roedd yn gyfarwydd â'r problemau gyda gwersylla gwyllt ac roedd yn cefnogi safleoedd fel Bryn Goleu gan fod angen atal y math hwnnw o wersylla. Fel un o drigolion y pentref, roedd yn gwybod bod defnyddwyr safle Bryn Goleu hefyd yn prynu ac yn gwario yn y pentref ac felly, yn cefnogi busnesau lleol. Credai bod y ffaith nad yw Polisi TWR 5 yn gwahardd carafanau teithiol ar hyd y flwyddyn yn benodol yn golygu y gellir eu caniatáu a bod amwysedd y geiriad yn golygu y gellir darparu ar gyfer ffactorau lleol sy'n arbennig o berthnasol yn yr achos hwn. Mae Bryn Goleu yn safle taclus a hygyrch ac wedi’i sgrinio o'r golwg. O ystyried yr holl bethau hyn roedd yn cefnogi'r cais. Felly, cynigiodd y dylid cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.
Pwysleisiodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod meini prawf 3 a 7 Polisi TWR 5 yn nodi’n glir bod yn rhaid symud unedau o safle y tu allan i'r tymor neu pan nad ydynt yn cael eu defnyddio sy'n bwysig o ran effeithiau gweledol yn ystod y cyfnod hwnnw o'r flwyddyn. Dywedodd fod y defnydd o'r term carafanau teithiol hefyd yn bwysig yn y cyd-destun hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad yw Polisi TWR 5 yn datgan yn benodol bod carafanau teithiol yn cael eu gwahardd ar hyd y flwyddyn a rhaid bod Mark Drakeford wedi cytuno gyda'r dehongliad hwn gan fod yr amod wedi cael ei lacio yn ystod y pandemig. Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod yn gwybod bod hwn yn safle proffesiynol a oedd yn cael ei redeg yn dda a'i fod yn hyderus y byddai'n parhau felly pe bai'n weithredol drwy'r flwyddyn. Mae problemau gyda'r defnydd o gilfannau oherwydd costau ac am nad oes opsiynau eraill ar gael. Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod yn cefnogi'r cais am nad oedd yn credu ei fod yn groes i Bolisi TWR 5 ac oherwydd bod angen y ddarpariaeth a hefyd oherwydd yr hoffai weld busnesau lleol yn elwa yn sgil ymwelwyr i'r Ynys. Eiliodd y cynnig i’w gymeradwyo.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod llacio'r amod yn ystod y pandemig yn fesur dros dro i hybu'r economi yn ystod cyfnod anodd sydd bellach wedi dod i ben ac ni allai weld bod honno'n parhau i fod yn ddadl ddilys dros gymeradwyo'r cais. Nid yw'r ffaith nad yw Polisi TWR 5 yn datgan bod carafanau teithiol yn cael eu gwahardd ar hyd y flwyddyn yn golygu y gellir eu cynnwys ac mae geiriad y meini prawf perthnasol yn nodi’n glir y cefnogir datblygiad tymhorol.
Roedd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE hefyd yn gefnogol i'r cais ond awgrymodd y dylid sgrinio’n ychwanegol i liniaru unrhyw effeithiau gweledol. Er ei fod yn gefnogol i'r cais, roedd y Cynghorydd Robin Williams yn pryderu y byddai carafanau'n aros ar y safle'n barhaol pe bai'r safle ar agor drwy'r flwyddyn a chynigiodd welliant y dylid ymestyn y cyfnod gweithredu o 7 mis i 10 mis o'r flwyddyn rhwng 1 Chwefror a 30 Tachwedd. Ni chafodd y gwelliant ei eilio.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, os yw'r Pwyllgor yn bwriadu dehongli Polisi TWR 5 fel un nad yw'n cyfyngu carafanau teithiol i ddefnydd tymhorol, yna mae gan hynny oblygiadau ehangach ac y gallai perchnogion safleoedd eraill fel hwn sydd â chyfyngiadau tymhorol gyflwyno ceisiadau ar gyfer defnydd trwy gydol y flwyddyn yn seiliedig ar y ffaith eu bod yn safleoedd proffesiynol sy'n cael eu rhedeg yn dda. Rhaid i'r Pwyllgor fod yn ymwybodol o'r hyn a allai ddeillio o newid y polisi i wneud cyfiawnder ag un unigolyn yn yr achos penodol hwn. Mewn ymateb i gwestiwn am osod cynsail, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y gallai hynny fod yn wir os dehonglir y polisi yn wahanol i'r hyn a nodwyd gan y Swyddog, sef bod carafanau teithiol yn gweithredu yn dymhorol yn unig, mae’r Pwyllgor i bob pwrpas yn nodi nad oes gan Bolisi TWR 5 unrhyw gyfyngiadau o ran defnydd. Yn yr achos hwnnw, byddai’n anodd i'r Pwyllgor benderfynu pa geisiadau y byddai’n eu cefnogi a pha rai y byddai’n eu gwrthod oherwydd yn yr achos penodol hwn mae rhesymau personol sy'n dylanwadu ar aelodau i gefnogi'r cais. Er efallai na fydd rhesymau personol o'r fath gyda cheisiadau eraill, efallai y bydd rhesymau cynllunio'r un mor berthnasol o ran eu bod yn safleoedd proffesiynol sy’n cael eu rhedeg yn dda. Mae dehongli Polisi TWR 5 fel un lle nad oes cyfyngiadau tymhorol ar garafanau teithiol yn gyfystyr â newid y polisi ac mae'n debygol y bydd goblygiadau ehangach.
Roedd y Cynghorydd Jeff Evans eisiau gwybod beth oedd y ffactorau niweidiol a oedd yn deillio o gymeradwyo'r cais yn yr achos hwn ac ar draws y bwrdd gan ddweud y byddai unrhyw geisiadau eraill yn cael eu hystyried fel yr oeddent yn cael eu cyflwyno. Ni allai weld y gwahaniaeth pam y gallai rhai safleoedd agor am rai misoedd ond nid eraill a chredai y byddai manteision i'r economi leol a busnesau yn sgil safleoedd sy'n gallu agor y tu allan i'r tymor yn ogystal â rhoi cyfle i bobl sydd am deithio y tu allan i'r tymor i wneud hynny. Pwysleisiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod safle'r cais wedi bod ar agor ar hyd y flwyddyn yn ystod y pandemig heb i unrhyw broblemau gael eu hadrodd ac y gallai fod yn ddadl dros gymeradwyo'r cais ar wahân i resymau personol.
Ail-bwysleisiodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai effaith carafanau mawr gwyn ar y dirwedd ar hyd y flwyddyn yn enwedig mewn rhai safleoedd ar yr Ynys yn destun pryder, yn arbennig y tu allan i’r tymor pan fydd llai o sgrinio gan goed.
Yn y bleidlais a ddilynodd, penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod y Pwyllgor o’r farn bod y cynnig yn cydymffurfio â Pholisi TWR 5 gan nad ydi’r polisi’n nodi’n benodol y bydd safleoedd carafanau teithiol ar hyd y flwyddyn yn cael eu gwahardd.
(Yn unol â’r gofyniad yng nghyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais)
12.7 VAR/2023/41 – Cais Adran 73 i amrywio amod (01) (Terfyn Amser) o gais VAR/2020/24 (Cais llawn i wella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bŵer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwyneb mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll arafu a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli cilfan ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ar hyd y ffordd) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am dair blynedd arall ar hyd yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bŵer yng Nghemaes.
Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cynnwys tir sy’n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod caniatâd cynllunio 27C106E/FR/ECON yn rhoi caniatâd i gynnal gwelliannau i tua 16.19km o briffordd y A5025 rhwng yr A5 i’r Dwyrain o Gyffordd y Fali a Chyffordd arfaethedig Ffordd Fynediad yr Orsaf Bŵer mewn wyth lleoliad gwahanol. Roedd y rhain yn rhan o strategaeth drafnidiaeth prosiect niwclear newydd Horizon Wylfa Newydd ac roeddent yn fodd o liniaru effeithiau disgwyliedig y cynnydd yn y llif traffig sy'n gysylltiedig ag adeiladu a gweithredu prosiect niwclear Wylfa Newydd yn enwedig y gweithgareddau adeiladu cynnar a chyn bod mesurau lliniaru pellach ar gael. Roedd amod (01) caniatâd cynllunio 27C106E/FR/ECON yn ei gwneud yn ofynnol i'r datblygiad gael ei weithredu o fewn tair blynedd i'r dyddiad y rhoddwyd caniatâd h.y. cyn 13 Gorffennaf, 2020. Cymeradwywyd amrywiad i’r amod, o dan adran 73 (a gofrestrwyd dan gais rhif VAR/2020/24) gan y Pwyllgor ym mis Awst 2020 a oedd yn ymestyn cyfnod gweithredu'r datblygiad a ganiatawyd o dan 27C106E / FR/ECON am dair blynedd arall tan 13 Gorffennaf, 2023. Mae'r cais adran 73 presennol yn gofyn am ganiatâd i amrywio amod (01) cais cynllunio VAR/2020/24 i ymestyn y cyfnod gweithredu o dair blynedd arall tan 13 Gorffennaf 2026.
Sefydlwyd Great British Nuclear gan Lywodraeth y DU i sefydlu rhaglen ddatblygu niwclear newydd i ddarparu 20 24GW o bŵer niwclear yn y DU erbyn 2050. Mae safle Wylfa yn parhau i fod yn safle sydd wedi’i neilltuo ar gyfer datblygiad niwclear newydd ac fe'i dewiswyd fel y safle gorau a mwyaf addas ar gyfer datblygiad o'r fath. Wrth asesu safbwynt polisi cenedlaethol mewn perthynas â'r cais, ystyrir y dylid rhoi ystyriaeth sylweddol i Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol EN-1 ac EN-6. Mae'r olaf yn nodi Wylfa fel un o 8 safle addas yn y DU ar gyfer datblygu niwclear sy'n golygu bod cyfiawnhad polisi cryf dros y cais. Fel perchennog y safle, mae Horizon wedi cadarnhau ei ymrwymiad i hyrwyddo'r safle ar gyfer datblygu niwclear yn y dyfodol ac fel rhan o ymrwymiad Horizon i adael etifeddiaeth gadarnhaol i'r safle ystyrir bod cadw'r caniatâd cynllunio ar gyfer gwelliannau i briffordd yr A5025 yn rhan annatod o hwyluso unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol yn ogystal â mynd i'r afael â chyfyngiadau'r ffordd bresennol sy'n arwain at y safle.
Eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y caniatâd gwreiddiol yn cynnwys cyfres o amodau ac fe gadarnhaodd y bydd y rhain yn parhau i fod ynghlwm wrth y caniatâd pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo. Roedd yr amodau'n cynnwys gofyniad i gynnal nifer o arolygon ac astudiaethau i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael am y sefyllfa a hefyd i gytuno ar ddull o ymgymryd â'r gwaith sy'n lleihau'r effeithiau ar y gymuned leol, y trigolion a'r amgylchedd. Byddai unrhyw ganiatâd hefyd yn cynnwys amodau i sicrhau bod y datblygwr yn ymgysylltu â'r Cyngor a'r cymunedau perthnasol cyn gynted â phosibl cyn dechrau'r gwaith i wneud yn siŵr bod manteision lleol yn cael eu sicrhau, gan gynnwys y defnydd gorau o lafur, sgiliau a chadwyni cyflenwi lleol.
O ystyried na fu unrhyw newid mewn polisi cenedlaethol na lleol ers cymeradwyo'r cais diwethaf i ymestyn y cyfnod gweithredu, nac unrhyw newid i'r cynnig na'r amodau a gynigiwyd fel rhan o'r cais, ystyrir bod ymestyn y cyfnod gweithredu ymhellach yn dderbyniol ac felly argymhellir cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliodd y Cynghorydd Neville Evans y cynnlg.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.8 VAR/2023/40 – Cais o dan Adran 73 i ddileu amod (04) (Lefelau'r Ddaear), (07) (Tirweddu), (14) (Priffyrdd) a diwygio amod (02) (cynlluniau wedi eu cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2020/247 (codi 9 annedd) er mwyn diwygio'r cynlluniau i godi 9 annedd fforddiadwy yn Ystâd Bryn, Llanfaethlu
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar gyfer amrywio amod a osodwyd gan y Pwyllgor wrth benderfynu ar gais cynllunio rhif FPL/2020/247 – Cais llawn ar gyfer codi 9 annedd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Ystâd Y Bryn, Llanfaethlu.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn golygu cael gwared ar amodau (04) (Lefelau Daear), (07) (Tirweddu), a (14) (Priffyrdd) ac ar gyfer amrywio amod (02) (Cynlluniau Cymeradwy) caniatâd cynllunio rhif FPL/2020/247 (Codi 9 annedd) er mwyn diwygio'r cynlluniau i godi 9 annedd fforddiadwy yn lle 7 o dai marchnad agored a 2 uned fforddiadwy a gymeradwywyd yn flaenorol ar y safle. Mae rhagor o fanylion am lefelau llawr presennol a'r rhai gorffenedig, tirweddu a lluniadau priffyrdd manwl wedi'u cyflwyno i gefnogi'r cais. Ar ôl ymgynghori â'r arbenigwyr perthnasol, ystyrir bod yr wybodaeth a gyflwynir yn dderbyniol ac yn ddigonol i ryddhau amodau (04), (07), a (14).
Roedd y cynllun blaenorol yn golygu codi 7 o dai marchnad agored ar wahân a dwy uned fforddiadwy ar wahân. Mae'r cynllun presennol ar gyfer codi tri phâr o unedau pâr ar wahân ynghyd â theras o 3 uned. Bydd plotiau 1 i 5 yn dai 2 ystafell wely a bydd plotiau 6 i 9 yn dai 3 ystafell wely. Ystyrir bod maint yr anheddau a'r cymysgedd o ran nifer yr ystafelloedd gwely yn dderbyniol gan y Gwasanaeth Tai ac yn cydymffurfio â gofynion Polisi TAI 8 (Cymysgedd Tai Priodol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd). Er mai bwriad y datblygwr yw gwneud y datblygiad 100% yn fforddiadwy, ni ellir sicrhau hyn yn gyfreithiol gan fod y datblygiad o fewn y ffin datblygu, ac felly mae'r elfen ychwanegol o 80% o dai fforddiadwy yn ôl disgresiwn y datblygwr. Bydd cytundeb Adran 106 yn nodi, os caiff y safle ei ddatblygu ar gyfer datblygwr preifat, y bydd angen darparu 20% o dai fforddiadwy gyda'r unedau fforddiadwy i'w nodi cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle. Ni ystyrir y bydd y cynllun diwygiedig yn cael dim mwy o effaith ar yr eiddo preswyl gerllaw na’r ardal leol na’r hyn a gymeradwywyd yn flaenorol ar y safle ac felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.9 FPL/2021/124 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr unedau moch presennol, newid defnydd y tir i fod yn safle bythynnod gwyliau, lleoli 25 chalet gwyliau, addasu’r mynedfeydd presennol i gerbydau, adeiladu ffyrdd preifat, adeiladu meysydd parcio, gosod cyfleuster trin carthffosiaeth, tirweddu meddal a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ym Modwina Bellaf, Gwalchmai
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais cyn-Gynghorydd ac Aelod Lleol presennol.
Siaradwyr Cyhoeddus
Siaradodd Mr Maldwyn Owen, gwrthwynebydd i'r cais ar ran Mr a Mrs Williams, Tŷ'n Rhos a mwyafrif y cymdogion yn yr ardal a oedd yn gwrthwynebu'r cais. Cyfeiriodd at nifer y llythyrau gwrthwynebu a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Cynllunio ond tynnodd sylw at ddiffyg unrhyw gydnabyddiaeth yn adroddiad y Swyddog Cynllunio o'r llythyr o wrthwynebiad unfrydol a anfonwyd gan Gyngor Cymuned Trewalchmai. Dywedodd fod y cais wedi ei ddiwygio sawl gwaith a bod rhaid craffu ar yr holl ddogfennau yn ofalus gan eu bod yn cynnwys rhai gwallau. Wrth nodi bod yr Adran Briffyrdd wedi gwrthwynebu'r cais tynnodd sylw at y canlynol -
· Roedd bwriad yr ymgeisydd yn wallus gan nad oedd yn berchen ar y tir oedd ei angen i greu'r pumed man pasio.
· Mae'r Arolwg Traffig yn dweud y byddai bron i 1,000 o symudiadau wythnosol ychwanegol ar ffordd wledig fach sy'n arwain at y safle. Byddai'n rhaid i ymwelwyr deithio o'r safle oherwydd diffyg unrhyw gyfleusterau hamdden. Nid yw'r adroddiad yn adlewyrchu'n gywir faint o geir sydd eisoes yn defnyddio'r ffordd gan mai dim ond tair blynedd yn ôl y cafodd ei gwblhau ar drothwy'r cyfnod clo.
· Mae'r diffyg llwybr troed a goleuadau ar y ffordd yn golygu nad yw'r cynllun yn cefnogi teithio diogel a chynaliadwy.
· Mae'r ardal yn rhy fach ar gyfer 25 o chalets gwyliau a fyddai'n gyfystyr â chreu pentref mewn ardal wledig yng Nghymru gyda nifer yr ymwelwyr yn uwch na nifer y bobl leol. Byddai tua 136 o bobl ar y safle o'i gymharu â thua 26 o drigolion yn yr ardal leol. Dyma sut mae cymunedau Cymru'n dirywio.
· Mae'r tir wedi'i amgáu ac nid yw'r cais yn ystyried y sefyllfa gyfreithiol yn llawn o ran draenio dŵr wyneb.
· Nid oes adroddiad Strategaeth Ddraenio, ac o ran y profion mandylledd a gynhaliwyd gan yr ymgeisydd ei hun, dim ond hyd at 12 modfedd i lawr i'r ddaear y maen nhw’n mynd.
· Nid oes adroddiad Ecoleg wedi'i ddiweddaru ar gyfer y safle cyfan, byddai'r datblygiad yn creu llygredd golau mewn ardal naturiol dywyll.
· Hyd nes iddo dderbyn adroddiad gan gwmni arbenigol, nid oedd gan yr ymgeisydd unrhyw gofrestr na chofnod o bresenoldeb lefelau llygredd asbestos ac asbestos ar y safle. Mae'r adroddiad yn cofnodi lefel uchel o lygredd asbestos ar y tir a'r safle.
· Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi nodi bod angen Strategaeth Traffig Adeiladu a awdurdodir gan yr Adran Gynllunio cyn dechrau'r datblygiad. Nid yw'r cais yn mynd i'r afael yn ddigonol â gofynion y Weinyddiaeth.
Siaradodd Sioned Edwards, Cadnant Planning i gefnogi’r cais gan ddweud bod yr argymhelliad i wrthod y cais yn seiliedig ar fater priffyrdd yn unig gydag Adran y Priffyrdd yn codi pryderon am un o'r mannau pasio, sef yr agosaf at yr A5 er y cytunwyd ar leoliad, nifer a dyluniad y mannau pasio gyda'r Swyddog Priffyrdd tua 18 mis yn ôl. Yn ôl yr Adran Priffyrdd mae angen lled o 5.5m ac mae'n mynnu nad yw'r lled sydd ar gael, sef 4.7m, yn ddigon o 0.8m, i greu man pasio diogel. Er y byddai 5.5m yn ddymunol, nid oes angen lled o 5.5m i ddau gerbyd allu pasio ei gilydd. Mae ffyrdd â thraffig dwy ffordd yn aml yn 5m o led neu lai ac mae llawer o fannau pasio ar ffyrdd ar draws yr Ynys sy'n gulach na 5.5m. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw diogelwch unrhyw fan pasio. Mae'r ffordd tua 3.5m o led ac mae'n ymddangos ei bod yn gallu ymdopi â llif y traffig heb unrhyw broblemau. Nid oes cofnod o unrhyw ddamwain ar y ffordd hon dros y 23 mlynedd diwethaf yn ôl data Crashmap. Mae'n amlwg nad oes pryderon am ddiogelwch ar y ffordd hon, fel arall ni fyddai'r Cyngor yn ailgyfeirio traffig ar hyd y ffordd yn ystod Sioe Môn.
Mae lefelau llif traffig presennol ar y ffordd yn isel ac mae'r asesiad llif Traffig a gyflwynwyd yn dangos na fyddai'r datblygiad yn arwain at unrhyw gynnydd sylweddol mewn traffig. P’ un bynnag, mae'r cais yn cynnig gwella 5 man parcio ar hyd y ffordd. Nid oes problem ddiogelwch ar y ffordd ar hyn o bryd a fyddai'n cael ei gwneud yn waeth gan y datblygiad. Ni fyddai'r cais yn arwain at unrhyw gynnydd sylweddol yn lefel y traffig ac felly mae'n annhebygol o arwain at unrhyw broblem newydd o ran diogelwch. Bydd y cais yn gwella'r sefyllfa bresennol gan y byddai'r ffordd yn gweithredu'n well ac yn fwy diogel nag y mae ar hyn o bryd.
Yn ôl adroddiad y Swyddog mae egwyddor y datblygiad yn dderbyniol a byddai'r cais yn gwella edrychiad y safle yn fawr gan ddarparu unedau gwyliau o ansawdd uchel a fydd yn denu ymwelwyr a thrwy hynny, yn lleihau'r pwysau ar ardaloedd arfordirol yr Ynys ac yn sicrhau bod canol Ynys Môn hefyd yn elwa o fuddsoddiad a datblygiad economaidd a gwariant pellach yn yr economi leol. Lled un man pasio yw'r rheswm dros wrthod, mae pob ystyriaeth arall yn dderbyniol. Wrth asesu’r cais yn llawn ystyrir bod y gwelliannau i’r sefyllfa bresennol yn ystyriaeth sy’n nodi y dylid cefnogi'r cais yn hytrach na'i wrthod oherwydd bod un man pasio yn gulach na'r lleill ond mae'r ffordd yn dal i fod yn ddigon llydan i allu ei defnyddio.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle'r cais wedi'i leoli ar hyd lôn wledig lled sengl sy'n cysylltu Gwalchmai â Thynlôn. Ceir mynediad i'r lôn o'r A5 gyda'r rhan gychwynnol yn lled ddwbl sydd wedyn yn culhau i led sengl gan ei gwneud yn ofynnol i’r cynllun ddarparu mannau pasio i hwyluso llif traffig a diogelwch y briffordd. Mae'r cynllun yn cynnig 5 man pasio, rhai ohonynt yn fannau pasio anffurfiol presennol a fydd yn cael eu ffurfioli. Codwyd pryder gan breswylydd lleol y byddai'n rhaid tynnu wal/gwrych nad oedd ym mherchnogaeth y datblygwr er mwyn creu'r pumed man pasio. Ar ôl ymweld â'r safle a mesur y ffordd gerbydau nid oedd yr Adran Briffyrdd yn fodlon y gellid sicrhau digon o led ar gyfer y pumed man pasio trwy ddefnyddio tir y briffordd yn unig ac er bod arolwg topograffig a ddarparwyd i gefnogi'r cais yn dangos ei bod yn bosibl lledu’r ffordd gerbydau o 3.6m i 4.7m, mae safonau'r Adran Priffyrdd yn nodi bod angen lled o 5.5m. Oherwydd nad yw’r 5ed man pasio yn ddigon llydan a gan ei fod ar gornel gyda gwelededd gwael, nid yw'r Adran Priffyrdd yn gallu cefnogi'r cais ac mae’n argymell ei wrthod. O ganlyniad, ystyrir bod y cynllun yn groes i bolisi TRA 4 y CDLl a'r argymhelliad yw gwrthod y cais.
Dywedodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Aelod Lleol ar gyfer ward Crigyll, yn seiliedig ar adroddiad y Swyddog a’r polisi cynllunio, na allai weld bod unrhyw ddewis ond gwrthod y cais, a chyfeiriodd at y ffaith bod Cyngor Cymuned Trewalchmai wedi mynegi ei bryderon ynghylch y cynnig ond nid oedd adroddiad y Swyddog yn ymdrin â'r rhain.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Non Dafydd, Aelod Lleol dros ward y Canolbarth (mae’r cais yn pontio dwy ward etholiadol) at yr argymhelliad i’w wrthod, sef y canlyniad y mae Aelodau Lleol, y cyngor cymuned a hyd at 200 o lofnodwyr deiseb sy’n gwrthwynebu'r cais yn ei ddymuno. Cyfeiriodd hefyd at y llythyrau gwrthwynebu niferus a gyflwynwyd iddi a darllenodd rannau ohonynt gan holi pam felly bod y Pwyllgor yn ystyried y cais. Ar ôl cael ei alw i mewn gan gyn gynghorydd sir yn 2021 oherwydd pryderon lleol, roedd yn ymddangos na ellid ei dynnu'n ôl er i'r Swyddog argymell ei wrthod gan nad yw'r aelod a'i galwodd i mewn bellach yn gynghorydd. Mae'n broses gymhleth a all arwain at golli cwsg, straen a gwariant ac yn yr achos hwn, am sawl blwyddyn. Mewn amgylchiadau arferol, byddai'r cais eisoes wedi cael ei wrthod ond mae gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu ac ni allai weld unrhyw reswm digonol dros ei gefnogi.
Eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, mewn ymateb i sylwadau'r Siaradwyr Cyhoeddus ac aelodau lleol, fod y Gwasanaeth Cynllunio Lleol wedi ymgynghori â Chyngor Cymuned Bodffordd ar y pryd, gan nad oedd y cynnig yn dod o fewn ffin Cyngor Cymuned Trewalchmai. Ers hynny, mae sylwadau gan Gyngor Cymuned Trewalchmai wedi dod i law ar 8 Medi 2021 ac er nad yw'n ymgynghorai statudol, mae pryderon y Cyngor wedi cael sylw yn adroddiad y Swyddog. Mae'r sefyllfa ynglŷn â'r cais yn anarferol ac wedi cael ei hesbonio i'r Aelodau Lleol mewn e-bost gan nad yw'r cyn-gynghorydd a alwodd y cais i mewn sefyllfa i'w dynnu'n ôl, mae'n rhaid ei gyfeirio at y Pwyllgor. O ran materion draenio, nid oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw bryderon ar y sail hon a byddai'r cais beth bynnag yn destun proses gymeradwyo SuDS.
Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog am y rheswm a nodwyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: