Eitem Rhaglen

Lleoliadau Crefyddol ac Ysbrydol Ynys Môn

  Defnyddio arbenigedd aelodau

  Tasg

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi gofyn am farn yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant (GwE) a’r Uwch Reolwr Cynradd ynghylch creu hwb i ganiatáu i athrawon a disgyblion gael mynediad at wybodaeth am leoliadau crefyddol ac ysbrydol ar Ynys Môn. Gofynnodd y Cadeirydd hefyd am farn aelodau’r CYSAG ynglŷn â chreu hwb.

 

Awgrymodd yr Uwch Reolwr Cynradd fod y CYSAG yn edrych ar wahanol adeiladau a lleoliadau sy’n gysylltiedig â chrefydd, neu leoliadau ysbrydol, y gellid eu cynnwys er mwyn eu trafod yng nghyfarfodydd y CYSAG. Dywedodd y byddai’n hapus i arwain ar y pwnc hwn a chyflwyno gwybodaeth ar ffurf ddigidol ar y safle micro er mwyn ei rannu gydag ysgolion.

 

Nodwyd fod Prosiect Pererin yr Eglwys yng Nghymru wedi penodi aelod newydd o staff a bydd yn creu adnoddau ar gyfer ysgolion Môn, a byddant ar gael i’r CYSAG maes o law.

 

Croesawodd y CYSAG y cynnig i blant ymweld â lleoliadau crefyddol er mwyn gwella eu hymwybyddiaeth ynglŷn ag ymweld â lleoedd sanctaidd. Roedd y CYSAG yn pryderu am y dirywiad mewn ysgolion o ran dathlu diolchgarwch ac roedd yn teimlo bod angen pwysleisio pwysigrwydd diolchgarwch mewn ysgolion.

 

Dywedodd yr athrawes gynradd y byddai angen cynllunio’n ofalus i hwyluso ymweliadau â lleoliadau crefyddol a byddai angen cynnwys pobl sydd â gwybodaeth leol. Dywedodd y byddai rhestr o bersonau cyswllt ar gyfer lleoliadau crefyddol yn ddefnyddiol hefyd, er mwyn i ysgolion wybod gyda phwy i gysylltu cyn ymweld. Nodwyd y gallai ymweliad ag eglwys neu gapel bontio’r sbectrwm ar ffurf ddigidol, e.e., hanes, celf ac ati, y gall pobl leol, sydd â mynediad at wybodaeth ynglŷn â lleoliadau crefyddol ar-lein, ei rannu.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar sut y gellir casglu adnoddau o wahanol ardaloedd ar yr Ynys er mwyn eu rhannu gydag ysgolion. Codwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

  A fyddai modd i’r CYSAG ddarparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer lleoliadau crefyddol ym mhob ardal benodol ar Ynys Môn a gynrychiolir ganddynt?

  Awgrymwyd y dylai’r Uwch Reolwr Cynradd gysylltu â’r Adain Archifau yn Llangefni i ganfod ym mha ffordd y gallant gynorthwyo’r CYSAG trwy ddarparu gwybodaeth ac adnoddau ynglŷn ag adeiladau crefyddol ar Ynys Môn.

  Cynigiodd aelod Eglwys o’r CYSAG gynnal ymweliadau yn ei chapel yng Nghaergybi. Dywedodd y gallai ddarparu rhestr i aelodau o gysylltiadau ar gyfer capeli/eglwysi enwadau crefyddol eraill yn yr ardal.

  Awgrymwyd fod y CYSAG yn gwahodd aelod o’r Prosiect Pererin i gyfarfod nesaf y CYSAG i roi trosolwg o’i gwaith.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Uwch Reolwr Cynradd yn:-

 

  Casglu gwybodaeth a dderbyniwyd ar leoliadau crefyddol gan aelodau ac unigolion perthnasol eraill.

  Gwahodd aelod o’r Prosiect Pererin i ddarparu diweddariad ar ei gwaith wrth baratoi adnoddau ar gyfer ysgolion.

  Cysylltu â’r Gwasanaeth Archifau a Llyfrgelloedd i drafod pa adnoddau sydd ar gael i ysgolion am leoliadau crefyddol.